skip to main content

Agenda item

Cyflwyno adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yn cyflwyno Cynllun Rheoli’r AHNE diwygiedig drafft i sylw’r Cyd-Bwyllgor yn unol â’r penderfyniad a wnaed yn y cyfarfod diwethaf i’w drafod cyn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Eglurwyd bod penodau Rhan 1 a 2 o’r cynllun wedi bod gerbron y Cyd-Bwyllgor am sylwadau dros nifer o gyfarfodydd. ’Roedd y cynllun diwygiedig cyflawn gerbron yn cynnwys y Rhaglen Weithredu sef y gweithredoedd a’r prosiectau manwl y bwriedir eu cyflawni yn ystod y blynyddoedd nesaf.

 

Gofynnwyd i’r Cyd-Bwyllgor ystyried y Cynllun Rheoli diwygiedig drafft, awgrymu newidiadau neu welliannau a derbyn y cynllun diwygiedig drafft fel sail ar gyfer ymgynghori cyhoeddus.

 

Nodwyd yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus bwriedir dychwelyd i’r Cyd-Bwyllgor gyda manylion o’r ymatebion a dderbyniwyd ac argymhellion i newid y Cynllun.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau roi sylwadau, nodwyd y prif bwyntiau canlynol gan aelodau unigol:

·         Yr angen i ddiweddaru gwybodaeth yn y Cynllun;

·         Holodd aelod o ran oes y Cynllun, gan y nodir ei fod yn gynllun am y cyfnod 2015 i 2020 ond ni fabwysiedir tan 2017;

·         Y byddai cynnwys lluniau a graffiau yn y Cynllun yn ei fywiogi a’i wneud yn haws i’w ddarllen;

·         O ran ffigyrau twristiaeth, roedd ffigyrau 2011 STEAM wedi eu cynnwys ond bod ffigyrau 2015 ar gael. Tynnwyd sylw yn y cyfarfod diwethaf bod y ffigyrau yn gamarweiniol gan na ellir cael dadansoddiad mor fanwl;

·         Y dylid ystyried cyfeirio mwy at Lwybr yr Arfordir, roedd yn denu mwy o bobl i’r ardal ac fe fyddai cyfeirio at y llwybr yn rhoi pwysau ar yr angen i fuddsoddi mewn llwybrau eraill, er enghraifft, llwybrau cylchol;

·         Y dylid cynyddu’r cyfeiriadau yn y Cynllun at y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLL) gan gyfeirio at Bolisi AMG1 sy’n cyfeirio at Gynllun Rheoli’r AHNE;

·         Fe gyfeirir at nifer o astudiaethau yn y Cynllun, a fyddai’n bosib cynnwys llyfryddiaeth?

·         Nid oedd Botwnnog wedi ei gynnwys ar y map o’r AHNE;

·         Y dylid nodi lle trafodir tyrbinau gwynt bod y CDLL yn rhoi cyfyngder uchder o 15 medr a chynnwys crynhoad o faint o dyrbinau gwynt a dderbyniodd caniatâd cynllunio;

·         O ran planhigion ymledol, a adnabuwyd Jac y Neidiwr?

·         Pryder o ran effaith gronnol dymchwel ac adeiladu tŷ newydd gyda cheisiadau o’r fath o flaen cynllunio yn aml. Fyddai’n bosib i’r Cynllun gyfeirio at yr angen i arbed tai rhag cael eu dymchwel mewn llefydd fel Abersoch?

·         Pryder o ran effaith gronnol datblygiadau a’r angen i drafod efo perchnogion meysydd carafanau o ran y ffordd ymlaen yng nghyswllt sgrinio a chydweddu i’r ardal cyn difetha beth sy’n denu ymwelwyr i’r ardal;

·         Y dylid edrych i mewn i ‘Rollback Rights’ fel sydd yn Lloegr, yng nghyswllt llwybrau arfordir yn disgyn i’r môr gan fod y broses bresennol yng Nghymru yn hirwyntog ac fe gollir adnodd holl bwysig. Angen pwyso ar Lywodraeth Cymru;

·         Bod rhaid bod yn ofalus o ran ymestyn hawliau Llywodraeth Cymru o ran gorfodaeth ar dir arfordirol oherwydd yr effaith ar dirfeddianwyr gan gynnwys oblygiadau cyfrifoldebau atebolrwydd ac effaith cŵn yn ymyrryd ar stoc;

·         Yng nghyswllt polisi CP 6 “Hyrwyddo darpariaeth o dai fforddiadwy lle profir bod gwir angen lleol a sicrhau fod cynlluniau, dyluniadau a deunyddiau yn gweddu i amgylchedd yr AHNE.”, y dylai’r Cyngor sicrhau bod yr incwm a dderbynnir o ganlyniad i’r premiwm treth ar ail gartrefi yn yr ardal i aros ym Mhen Llŷn ar gyfer tai fforddiadwy a chymorth i bobl ifanc i brynu tŷ yn yr ardal.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion:

·         Diweddarir y cynnwys cyn y rhyddheir y cynllun drafft ar gyfer ymgynghori cyhoeddus;

·         Bod Llywodraeth Cymru yn awyddus i gynlluniau AHNEau gyd-redeg ond fe wneir ymholiadau o ran cyfnod y cynllun;

·         Fe ychwanegir lluniau i’r Cynllun er mwyn ei ysgafnhau ac efallai y byddai cyfle i lunio dogfen gryno haws i’w ddarllen;

·         Yn dilyn derbyn sylwadau yn y cyfarfod diwethaf y gwnaed ychydig o newidiadau o ran ffigyrau twristiaeth. Nodir y rhybudd o ran y ffigyrau ac fe ddiweddarir y wybodaeth efo ffigyrau 2015;

·         Y byddai llyfryddiaeth yn cael ei gynnwys;

·         Bod prosiectau posib wedi eu cynnwys yn y cynllun gweithredu o dan BP 6 “Trin rhywogaethau ymledol cynhenid ac estron a chodi ymwybyddiaeth amdanynt a’r ffordd o’u trin a’u gwaredu”. Roedd cyfrifoldeb ar dir feddianwyr i atal rhag ymledu, nid oedd Jac y Neidiwr wedi ei gynnwys yn y Weeds Act 1959;

·         Bod y bennod ‘Yr Amgylchedd Hanesyddol’ yn delio efo’r angen i gynnal a gwarchod adeiladau hanesyddol yn ogystal â gwarchod dyluniad a’r defnydd o ddeunyddiau addas. Mater i'r Gwasanaeth Cynllunio oedd ceisiadau cynllunio;

·         Y gellir cynnwys yn y cynllun gweithredu yr angen i wneud ymchwil o ran effaith cronnol datblygiadau;

·         Gellir nodi gweithred yn y cynllun gweithredu i edrych i mewn i ‘Rollback Rights’ a chysylltu â Llywodraeth Cymru. Roedd Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn cynnal ymgynghoriad lle cyfeirir at yr arfordir ac ymestyn tir agored i’r arfordir. Fel rhan o ymateb y Cyngor i’r ymgynghoriad fe nodir y dylid edrych ar brofiad Lloegr yn y maes;

·         Nodir fel gweithred bod y Cyd-Bwyllgor yn gofyn i’r Cyngor ystyried bod yr incwm a dderbynnir o ganlyniad i’r premiwm treth ar ail-gartrefi yn yr ardal i aros ym Mhen Llŷn ar gyfer tai fforddiadwy a chymorth i bobl ifanc i brynu tŷ yn yr ardal.

 

Nododd Cynrychiolydd Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig bod ganddo sylwadau pellach ar y Cynllun Rheoli ac fe fyddai’n eu hanfon ymlaen i Reolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn. Mewn ymateb, nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn y byddai’n gwerthfawrogi derbyn sylwadau pellach a diolchodd i Gynrychiolydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol am y sylwadau a dderbyniodd eisoes.

 

PENDERFYNWYD:

(i)     bod Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yn ymgorffori sylwadau'r aelodau a sylwadau pellach Cynrychiolydd Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig yn y Cynllun Rheoli diwygiedig drafft;

(ii)    derbyn y Cynllun diwygiedig drafft fel sail ar gyfer ymgynghori cyhoeddus.

Dogfennau ategol: