Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Mike Stevens, Owain
Williams a Dafydd Meurig (Aelod Cabinet Amgylchedd) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganodd y Cynghorydd Berwyn Parry
Jones fuddiant personol, yn eitem 5 ar y rhaglen, oherwydd ei fod yn aelod o’r Pwyllgor
Polisi Cynllunio ar y Cyd. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid
llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd 22.2.18 fel rhai cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 22.2 2018 fel
cofnod cywir o’r cyfarfod. |
|
DIWEDDARAID YMCHWILIAD CRAFFU CYNLLUNIO A'R IAITH GYMRAEG PDF 473 KB Aelod Cabinet: Cynghorydd Dafydd Meurig Derbyn diweddariad ar waith yr ymchwiliad Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan Gadeirydd gweithgor
yr ymchwiliad yn gofyn i’r
Pwyllgor Craffu argymell bod y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd yn
ystyried argymhellion a sylwadau pellach y gweithgor ynghyd ag ymatebion y Panel Polisi Cynllunio ar y Cyd, cyn bwrw
ymlaen gydag Ymgynghoriad Cyhoeddus ar y Canllaw Cynllunio
Atodol (CCA). Wrth gyflwyno’r adroddiad, rhoddwyd datganiad ar y darlun ieithyddol yng Ngwynedd. Atgoffwyd
yr Aelodau o eiriau Arweinydd y Cyngor, wrth gyflwyno Cynllun
y Cyngor 8.3.18, yn amlinellu'r angen i flaenoriaethu’r Iaith Gymraeg drwy
barhau i roi arweiniad a hyrwyddo’r defnydd ar bob achlysur. Ategwyd yr angen
i weithredu’n arloesol ac awgrymodd nad oedd y CCA, yn ei ffurf
bresennol, yn cyfarch hyn mewn
modd a fyddai’n cyfrannu at newid y patrwm o leihad mewn siaradwyr Cymraeg yng Ngwynedd.
Nododd hefyd bod y gweithgor yn ystyried
nad oedd y CCA wedi ei baratoi’n
ddigonol ar gyfer cynnal Ymgynghoriad Cyhoeddus. Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau
unigol: ·
Bod gofynion rhai o’r argymhellion
yn syml ac mai siomedig iawn
oedd derbyn bod y Panel wedi gwrthod yr
argymhellion er bod tystiolaeth gadarn i’r casgliadau. ·
Posibilrwydd bod rhai argymhellion yn groes i
bolisi PS1, ond angen bod yn fwy
ymatebol i’r sefyllfa ·
Bod angen ymgynghori gyda Mudiadau Iaith a Swyddogion Iaith Prifysgol Bangor ac nid swyddogion y Cyngor yn unig. ·
Bod yr argymhellion yn rhoi ‘cig ar yr
asgwrn’ i gryfhau'r canllaw yn unol â gofynion
yr Aelod Cabinet ·
Bod agwedd y swyddogion i ddatganiad
‘nad oedd angen ymestyn yr
amserlen’ yn anodd ei ddeall Trafodwyd pob argymhelliad drwy ystyried ymateb y Panel a sylwadau / cwestiynau pellach oedd gan
y gweithgor i’r ymatebion hynny. Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd
y Swyddogion y sylwadau isod: ·
Bod sylwadau'r gweithgor wedi eu cyfarch drwy
roi mwy o wybodaeth ar rai elfennau o’r Canllaw ·
Bod y Canllaw yn fwy eglur
o ganlyniad i rai sylwadau ·
Bod mwy o bwyslais ar yr
ymgeisydd i ymgymryd â’r gwaith
asesu ·
Bod disgwyl i’r ymgeisydd gyflawni’r
gofynion perthnasol - byddai diffyg gwneud
hyn yn gallu
effeithio ar y penderfyniad. Pwysau ar yr ymgeisydd
i weithredu’n briodol ·
I ystyried dau o’r argymhellion
(1a ac 1b) byddai rhaid addasu polisi PS1.Nid yw hyn yn
bosib nag yn briodol i waith
y Panel. ·
Nad oedd yr argymhellion wedi eu hanwybyddu
– rhai addasiadau wedi eu gweithredu ·
Bod y gwaith paratoi ieithyddol wedi cael ei
baratoi gyda chefnogaeth swyddogion iaith a bod y Canllaw yn adnabod sefyllfa'r
Gymraeg yng Nghymru ·
Yng nghyd-destun ymchwil a dadansoddeg nodwyd bod y Canllaw yn cynnwys gwybodaeth
gynhwysfawr sydd gan yr Uned
Polisi i rannu gyda’r ymgeisydd
wrth gwblhau asesiadau. · Yng nghyd-destun ymgysylltu ac ymgynghori, amlygwyd bod yr egwyddorion ymgysylltu wedi eu hystyried a bod y gwaith ymgysylltu yn cael ei gyfarch a’r trefniadau yn cydymffurfio a’r angen. Amlygwyd bod cynllun ymgysylltu wedi ei ystyried gan Swyddogion Ymgysylltu'r Cyngor ac y byddai yn atodiad ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
TORRI GWAIR - TIROEDD AGORED Y CYNGOR PDF 247 KB Aelod Cabinet: Cynghorydd Gareth Griffith Ystyried adroddiad Pennaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad
gan yr Aelod
Cabinet yn ceisio barn y Pwyllgor Craffu ar yr angen
i wneud arbediad
pellach o fewn y gwasanaeth. Amlygwyd bod toriadau Her Gwynedd wedi eu cyflawni, ond
bod £50k o arbedion effeithlonrwydd
heb eu cwblhau
(2017/2018). Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried camau fel, lleihau
amlder torri gwair o 3 toriad i 2 yn flynyddol
ar gyrion pentrefi a threfi a darparu llai o lecynnau blodau. Teimlai'r Aelod Cabinet bod
yr Adran wedi mynd mor
bell ag y gallent a mynegodd
y byddai torri pellach yn
debygol o greu mwy o broblemau. Gofynnodd i’r Pwyllgor
am eu harweiniad i geisio adnabod
toriadau ariannol pellach fydd yn
debygol o gael effaith ar edrychiad
pentrefi a threfi'r Sir. Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau
unigol: ·
Bod angen ystyried a pharatoi cynlluniau cytbwys ·
Cyfle i fod yn arloesol a chreu partneriaethau
cymunedol i gynnal llecynnau blodau a mynwentydd ·
Ystyried noddi cwmnïau i fabwysiadu cylchfannau a
llecynnau blodau ·
Ystyried cynlluniau amgen – ceisio cael grwpiau
cymunedol i fabwysiadau tiroedd ·
Cynnal cystadleuaeth rhwng pentrefi / trefi /
cymunedau ·
Ystyried cydweithio gyda Bwrdd Iechyd gan annog prosiectau
llesiant ·
Ystyried defnyddio gorchmynion Gwasanaethau
Cymunedol (os yn gyfreithiol bosib) ·
Ystyried goblygiadau peidio
torri gwair a gwrychoedd yng nghyd-destun iechyd a diogelwch. A fydd cynnydd yn
nifer hawliadau yswiriant o bosib, yn cael effaith sylweddol ar yr arbediad? ·
Rhaid i amserlen torri gwair fod yn gywir ·
Awgrym y gall Cynghorau Cymuned gynorthwyo gyda’r
gwaith. ·
Bod posib ystyried
myfyrwyr cyrsiau garddwriaeth
Coleg Menai ·
Ystyried defnyddio gwair artiffisial ar ymylon
ffyrdd o fewn parthau 30 mya Cynigiwyd ac eiliwyd newid amlder torri meysydd chwarae a mynwentydd o 6
i 5 Mewn ymateb, nododd Pennaeth Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol
bod lleihau amlder torri gwair mynwentydd o 8 i 6 wedi derbyn nifer fawr o
gwynion ac felly bod angen ystyried yn ofalus goblygiadau'r cynnig o dorri
ymhellach. Cynigiwyd ac eiliwyd i dderbyn sylw'r Pennaeth
Adran bod peryg gwneud arbedion torri gwair
pellach ac edrych ar wireddu arbediad £29k drwy wario llai ar welyau blodau. Awgrymwyd
i’r Adran ymchwilio ymhellach i syniadau amgen. Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant i’r cynnig i edrych
ar wireddu arbediad £29k drwy wario llai ar welyau blodau. Awgrymwyd i’r Adran
ymchwilio ymhellach i syniadau amgen ac yn y tymor hir sefydlu partneriaethau
ac ystyried cynllun noddi. PENDERFYNWYD: ·
Gwireddu
arbediad £29k drwy wario llai ar welyau blodau. ·
Awgrymwyd i’r
Adran ymchwilio ymhellach i syniadau amgen ac yn y tymor hir sefydlu
partneriaethau a chyflwyno cynllun noddi. |
|
TREIAL GORFODAETH STRYD PDF 335 KB Aelod Cabinet: Cynghorydd Gareth Griffith Ystyried adroddiad Pennaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet yn gofyn i’r
Pwyllgor Craffu argymell ffordd ymlaen er mwyn
ceisio gwella’r ddarpariaeth i wella glendid ac edrychiad strydoedd y Sir. Yn unol ag argymhelliad gan y Pwyllgor Craffu Cymunedau 22.9.16 i’r Cyngor edrych ar
allanoli elfennau o waith y tîm gorfodi
i ategu gwaith
y tîm mewnol, comisiynwyd cwmni allanol i gynnal
treial am flwyddyn. Dechreuodd y treial ym mis Chwefror
eleni ond wedi ychydig ddyddiau
cytunwyd ar gais y cwmni i’r
cytundeb ddod i ben. Yn dilyn aflwyddiant
y treial, cyfeiriwyd at restr posib o opsiynau
oedd angen i’r Pwyllgor eu
hystyried i sicrhau mynd i’r
afael â gorfodaeth stryd. Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau
unigol: ·
Awgrym i ddefnyddio ac ehangu
cyfrifoldebau a hawliau swyddogion morwrol, cymhorthyddion
traethau a harbwr ynghyd â swyddogion gorfodaeth traffig ·
Cyfle i gadw gwaith o fewn y Cyngor a defnyddio’r
ddarpariaeth bresennol ·
Cynnig i adolygu dirwyon ·
Angen ystyried pwysau gwaith ychwanegol Awgrymwyd ehangu cydweithio
rhyngadrannol (opsiwn 4) Awgrymwyd ystyried y
ddarpariaeth bresennol (opsiwn 3) Awgrymwyd cydweithio
gyda Siroedd eraill (opsiwn 2) Mewn ymateb
i gwestiwn ynglŷn â’r rhesymau pam daeth y cytundeb gyda’r cwmni allanol i
ben, nodwyd bod problemau wedi codi wrth
recriwtio a chadw staff dwyieithog oedd yn unol â pholisïau'r
Cyngor. Ategwyd bod y treial wedi bod yn llawer rhy
fyr i fesur
yr effaith. Mewn ymateb
i gwestiwn ynglŷn â chyfansymiau dirwyon, nodwyd bod dirwy yn £100 ac os telir o fewn
10 diwrnod bydd yn gostwng i
£75. Ategwyd bod nifer y dirwyon yn cael
eu hadrodd i Lywodraeth Cymru,
ond bod gwahaniaeth sylweddol yn y cyfansymiau rhwng Awdurdodau sydd gydag neu heb,
gwmnïau preifat. Mewn ymateb i
gwestiwn dilynol ynglŷn ag adolygu cyfansymiau'r dirwyon drwy ystyried pob
sefyllfa yn ei dro, mynegodd
yr Aelod Cabinet ei fwriad i’r
Swyddogion Gorfodaeth gael rôl o gynghori
yn hytrach na gosod dirwyon
yn unig. Ategodd Pennaeth y Gwasanaeth bod y dirwyon yn cael eu
hadolygu yn flynyddol. Cynigiwyd ac
eiliwyd i gyfuno 3 opsiwn posib i geisio datrysiadau. PENDERFYNWYD (i)
Cydweithio gyda Siroedd
eraill cyfagos i wella ar
y ddarpariaeth. (ii)
Ail ystyried
y lefelau staffio presennol yn yr
Uned Gorfodaeth Stryd. (iii)
Ehangu’r cydweithio rhyngadrannol
lle mae staff o adrannau eraill y Cyngor yn derbyn
yr hawl dirprwyedig
i orfodi ar y stryd. |