Agenda item

Aelod Cabinet: Cynghorydd Dafydd Meurig

         

Derbyn diweddariad ar waith yr ymchwiliad

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Gadeirydd gweithgor yr ymchwiliad yn gofyn i’r Pwyllgor Craffu argymell bod y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd yn ystyried argymhellion a sylwadau pellach y gweithgor ynghyd ag ymatebion y Panel Polisi Cynllunio ar y Cyd, cyn bwrw ymlaen gydag Ymgynghoriad Cyhoeddus ar y Canllaw Cynllunio Atodol (CCA).

 

Wrth gyflwyno’r adroddiad, rhoddwyd datganiad ar y darlun ieithyddol yng Ngwynedd. Atgoffwyd yr Aelodau o eiriau Arweinydd y Cyngor, wrth gyflwyno Cynllun y Cyngor 8.3.18, yn amlinellu'r angen i flaenoriaethu’r Iaith Gymraeg drwy barhau i roi arweiniad a hyrwyddo’r defnydd ar bob achlysur. Ategwyd yr angen i weithredu’n arloesol ac awgrymodd nad oedd y CCA, yn ei ffurf bresennol, yn cyfarch hyn mewn modd a fyddai’n cyfrannu at newid y patrwm o leihad mewn siaradwyr Cymraeg yng Ngwynedd. Nododd hefyd bod y gweithgor yn ystyried nad oedd y CCA wedi ei baratoi’n ddigonol ar           gyfer cynnal Ymgynghoriad Cyhoeddus.

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

·         Bod gofynion rhai o’r argymhellion yn syml ac mai siomedig iawn oedd derbyn bod y Panel wedi gwrthod yr argymhellion er bod tystiolaeth gadarn i’r casgliadau.

·         Posibilrwydd bod rhai argymhellion yn groes i bolisi PS1, ond angen bod yn fwy ymatebol i’r sefyllfa

·         Bod angen ymgynghori gyda Mudiadau Iaith a Swyddogion Iaith Prifysgol Bangor ac nid swyddogion y Cyngor yn unig.

·         Bod yr argymhellion yn rhoi ‘cig ar yr asgwrni gryfhau'r canllaw yn unol â gofynion yr Aelod Cabinet

·         Bod agwedd y swyddogion i ddatganiadnad oedd angen ymestyn yr amserlenyn anodd ei ddeall

 

Trafodwyd pob argymhelliad drwy ystyried ymateb y Panel a sylwadau / cwestiynau pellach oedd gan y gweithgor i’r ymatebion hynny.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd y Swyddogion y sylwadau isod:

·         Bod sylwadau'r gweithgor wedi eu cyfarch drwy roi mwy o wybodaeth ar rai elfennau o’r Canllaw

·         Bod y Canllaw yn fwy eglur o ganlyniad i rai sylwadau

·         Bod mwy o bwyslais ar yr ymgeisydd i ymgymryd â’r gwaith asesu

·         Bod disgwyl i’r ymgeisydd gyflawni’r gofynion perthnasol - byddai diffyg gwneud hyn yn gallu effeithio ar y penderfyniad. Pwysau ar yr ymgeisydd i weithredu’n briodol

·         I ystyried dau o’r argymhellion (1a ac 1b) byddai rhaid addasu polisi PS1.Nid yw hyn yn bosib nag yn briodol i waith y Panel.

·         Nad oedd yr argymhellion wedi eu hanwybyddurhai addasiadau wedi eu gweithredu

·         Bod y gwaith paratoi ieithyddol wedi cael ei baratoi gyda chefnogaeth swyddogion iaith a bod y Canllaw yn adnabod sefyllfa'r Gymraeg yng Nghymru

·         Yng nghyd-destun ymchwil a dadansoddeg nodwyd bod y Canllaw yn cynnwys gwybodaeth gynhwysfawr sydd gan yr Uned Polisi i rannu gyda’r ymgeisydd wrth gwblhau asesiadau.

·         Yng nghyd-destun ymgysylltu ac ymgynghori, amlygwyd bod yr egwyddorion ymgysylltu wedi eu hystyried a bod y gwaith ymgysylltu yn cael ei gyfarch a’r trefniadau yn cydymffurfio a’r angen. Amlygwyd bod cynllun ymgysylltu wedi ei ystyried gan Swyddogion Ymgysylltu'r Cyngor ac y byddai yn atodiad i adroddiad fyddai yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Polisi ar y Cyd (26.4.18).

·         Yng nghyd-destun ymestyn yr amserlen i sicrhau bod gwaith o’r safon uchaf posib yn cael ei gyflawni, nodwyd mai penderfyniad y Panel oedd nad oedd angen mwy o amser.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â sut y gellid addasu gwendidau mewn polisïau, nodwyd bod bwriad monitro'r polisïau yn flynyddol. Gyda’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd wedi ei fabwysiadu ers Gorffennaf 2017, ategwyd nad oedd tystiolaeth i gyfiawnhau nad oedd y polisïau yn gweithio hyd yma.

 

Mewn ymateb i awgrym mai dymuniad Gwynedd yw addasu'r Canllaw i flaenoriaethu’r Iaith Gymraeg ac y gallai weithredu ar ben ei hun, nodwyd bod hyn yn gyfreithiol bosib, ond yn ymarferol, buasai risgiau sylweddol i’r Cyngor. Ategwyd bod y trefniant wedi sicrhau arbedion ariannol a byddai gwahanu yn tanseilio perthynas waith da rhwng y ddau Gyngor sydd wedi arloesi yn y maes. Ategodd y Cadeirydd nad oedd tystiolaeth o wahaniaeth barn rhwng Gwynedd a Môn.

 

Mewn ymateb i’r drafodaeth, nododd Pennaeth Gwasanaeth yr Amgylchedd y byddai disgwyliad i’r Pwyllgor Polisi ar y Cyd gael cyfle i ystyried y sylwadau a’r cwestiynau pellach a gyflwynwyd gan y Gweithgor ynghyd a sylwadau'r Pwyllgor Craffu.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd cyflwyno sylwadau ychwanegol y gweithgor a’r Pwyllgor Craffu i’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd eu hystyried

 

            Cynigiwyd ac eiliwyd i dderbyn yr argymhellion

 

            PENDERFYNWYD:

·         Cyflwyno sylwadau ychwanegol y Gweithgor a’r Pwyllgor Craffu i’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd eu hystyried

·         Derbyn yr argymhellion a’u cyflwyno i’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd.

·         Gwneud cais i’r swyddogion polisi am ymateb llawn y panel i’r egwyddorion ymgysylltu

 

Dogfennau ategol: