Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru  01286 678 878

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd am  2016/17

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Caerwyn Roberts yn Gadeirydd y Pwyllgor Craffu hwn am 2016/17.

2.

IS-GADEIRYDD

I ethol Is Gadeirydd am 2016/17

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Dilwyn Morgan yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu hwn am 2016/17.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr, Stephen Churchman, Tudor Owen, Mike Stevens a Glyn Thomas

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganodd yr  aelodau canlynol fuddiant personol mewn perthynas â’r eitem a nodir isod:

 

           Y Cynghorydd Angela Russell, yn eitem 9 ar y rhaglen oherwydd natur ei gwaith.

           Y Cynghorydd Linda Morgan, yn eitem 12 ar y rhaglen oherwydd ei bod yn gweithio yng Ngholeg Meirion Dwyfor

 

Ymneilltuwyd y ddwy o’r ystafell yn ystod y drafodaeth dan sylw

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

6.

COFNODION pdf eicon PDF 480 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 12.01.16 fel rhai cywir   . 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 12 Ionawr 2016 fel cofnod cywir o’r cyfarfod

7.

TOILEDAU CYHOEDDUS pdf eicon PDF 242 KB

Aelod Cabinet: Cynghorydd John Wynn Jones

 

Ystyried yr adroddiad, a gwneud argymhelliad ar Gynllun i geisio cadw toiledau cyhoeddus, sydd dan fygythiad o gau oherwydd y toriadau, yn agored a gweithredol i’r dyfodol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)            Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod Cabinet Amgylchedd yn argymell cynllun i geisio cadw'r toiledau cyhoeddus hynny sydd o dan fygythiad o gau, yn agored a gweithredol i’r dyfodol. Cyfeiriwyd at ymarferiad Her Gwynedd lle bu i’r Cyngor, yn ei gyfarfod ar y 3ydd o Fawrth 2016, argymell gwneud toriadau oedd yn cynnwys ‘cau 50 allan o 73 o doiledau cyhoeddus y Sir’ gan dorri £244,000 o’r gyllideb ar gyfer y gwasanaeth. Eglurwyd mai bwriad y cynllun amgen yma oedd cwrdd â’r toriad drwy geisio cynnal y ddarpariaeth bresennol o doiledau cyhoeddus yn y Sir.

 

Gwnaed cais gan yr Aelod Cabinet i’r Pwyllgor ystyried y cynllun  a chyfeirio eu hargymhelliad i’r Cabinet. Eglurwyd bod y Cynllun yn ddibynnol ar ennyn diddordeb Cynghorau Cymuned a Thref i Bartneriaethau er mwyn sicrhau parhad ar y ddarpariaeth, drwy gyfrannu yn ariannol at y cynllun. Tynnwyd sylw at y ddau opsiwn:

·         Opsiwn 1 - lefel cyfraniad o £4000 i bob toiled yn agored drwy’r flwyddyn a chyfraniad o £2000 i bob toiled sydd yn agored yn dymhorol

·         Opsiwn 2 – cyfraniad cyfwerth a thraean (33.3%) cost blynyddol ar gyfartaledd o weithredu’r toiled

 

Nodwyd bod y cynllun yn fodd o gynnal y ddarpariaeth, ac os na fydd sêl bendith i’r cynllun, byddai rhaid asesu'r angen yn lleol.

 

b)            Yn ystod y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol yn erbyn yr argymhelliad:

·         Nad oedd y cynllun wedi ei graffu yn ddigonol

·         Papur Gwyn gan y Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol (GIG) yn nodi bod rhaid gwella profiad y claf drwy 'wrando a dysgu’ ac i sefydliadau ddatblygu strategaethau clir i gyfarch hyn - cau toiledau cyhoeddus yn groes i hyn.

·         Nad oedd digon o ystyriaeth wedi ei roi ar drigolion bregus a thrigolion gyda chyflyrau iechyd.

·         Rhaid sicrhau bod digon o doiledau cyhoeddus ar gael - Gwynedd yn ardal sydd yn ddibynnol ar dwristiaeth ac felly angen sicrhau toiledau o ansawdd uchel.

·         Deiseb yn erbyn y penderfyniad o gau'r toiledau yn casglu momentwm gyda dros 2000 o enwau - nid oes rheswm digonol i gau toiledau cyhoeddus

 

c)            Mewn ymateb i’r sylwadau, atgoffwyd yr Aelodau bod toriad i’r gwasanaeth eisoes wedi ei gytuno yn y Cyngor Llawn ym mis Mawrth 2016, ac felly rhaid oedd ystyried ffordd o symud ymlaen. Derbyniodd yr Aelod Cabinet y sylw bod y pwnc yn un oedd yn amlygu pryderon ymysg cymunedau. Nododd hefyd fod ganddo gydymdeimlad llawn gyda thrigolion â chyflyrau iechyd ac y byddai yn rhoi ystyriaeth lawn i hyn. Ategwyd y byddai'r toiledau yn parhau ar agor hyd nes bydd ymgynghori gyda’r cymunedau perthnasol wedi cymryd lle.

 

ch)       Mewn ymateb, nodwyd y sylwadau canlynol yn gefnogol i’r argymhelliad:

 

·         Derbyn yr adroddiad a llongyfarch yn adran am ystyried cynllun amgen ar gyfer toiledau cyhoeddus mewn dull positif. Cyfeiriwyd at enghreifftiau da drwy’r Sir o doiledau sydd eisoes yn cael eu rheoli gan y Cynghorau Cymuned

·         Croesawu'r adroddiad.  Cyfle da yma i  sefydlu partneriaeth gymunedol - dyma'r ffordd ymlaen. Cyfle da i gydweithio.

·         I’r rhai hynny sydd yn fregus neu a chyflyrau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

ADOLYGIAD O DREFNIADAU CASGLU GWASTRAFF GWYRDD Y CYNGOR pdf eicon PDF 555 KB

Aelod Cabinet: Cynghorydd John Wynn Jones

 

Ystyried yr adroddiad a gwneud argymhellion ar y drefn awgrymir ar gyfer codi ffi ar drigolion am gasglu gwastraff gardd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ymneilltuodd y Cynghorydd Angela Russell o’r ystafell yn ystod y drafodaeth.

 

a)            Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod Cabinet Amgylchedd yn amlygu bwriad yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol i godi ffi am gasglu gwastraff gardd.

 

Mewn cyfarfod a gynhaliwyd 16.12.14 bu i’r Cabinet gymeradwyo gweithredu ystod o gynlluniau arbedion effeithlonrwydd  a oedd yn cynnwysAdolygu Gwasanaeth Gwastraff Gardd’ i gyflawni arbedion o £750,000 yn y flwyddyn ariannol 2017/2018.

 

O dan ‘Reoliadau Gwastraff a Reoli’r 2012 gall awdurdodau godi ffi ar gasglu gwastraff gardd gan drigolion (hyn ddim i gynnwys y gost o’i waredu) ac mae Deddf Amddiffyn yr Amgylchedd 1990 yn rhoddi hyblygrwydd ar godi ffi neu beidio ar hawl pe dymunir i godi ffi resymol am y gwasanaeth.

 

Mae Llywodraeth Cymru yn ei ganllawiau ymarfer da ‘Glasbrint Casglu’ yn argymell y dylid codi ffi ar drigolion am gasglu gwastraff gardd ar amlder pob pythefnos a hyn i bwrpas lleihau ar y cyfaint o wastraff gardd a roddir allan gan drigolion ac er mwyn arbed costau casglu a thirlenwi.

 

Adroddwyd bod gwastraff gardd yn cyfrannu at gyflawni targedau ailgylchu ac ym Mawrth 2016 bu i’r Cyngor lwyddo i gyrraedd 58.75% (targed statudol o 58%). Nodwyd, pe byddai’r ganran ailgylchu yn gostwng yn is na’r targed yna byddai'r Cyngor yn derbyn dirwyon. Amlygwyd y bydd gostyngiad tebygol yn y galw am y gwasanaeth yn y flwyddyn gyntaf, ond rhagwelir bydd cynnydd yn y flwyddyn olynol.

 

Gwnaed sylw nad oedd codi ffi ar unrhyw wasanaeth yn fater poblogaidd, ond bod rhaid ymateb i’r toriadau neu bydd rhaid ystyried toriadau pellach mewn gwasanaethau eraill.

 

Yr opsiynau dan sylw;

 

-       Opsiwn 1: Parhau i gasglu gwastraff gardd  am 12 mis o’r flwyddyn gan osod lefel ffi o £33 y flwyddyn (Arbediad blynyddol - £750,000)

 

-       Opsiwn 2: Casglu gwastraff gardd am 9 mis y flwyddyn gan osod lefel ffi o £30 mis y flwyddyn (arbediad blynyddol - £756,410)

 

b)            Mewn ymateb i sylw ynglŷn â phryder o dderbyn dirwyon am fethu cyrraedd targedau ailgylchu cenedlaethol, dywedodd Pennaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol bod yr adran yn rhannu'r pryderon hynny ac yn pwysleisio  yr angen i barhau i gyflawni a chynnal y gwasanaeth i’r un safon gan fonitro'r sefyllfa yn ofalus.

 

c)            Yn ystod y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol:

·      Nad oedd cyflwyno'r newidiadau yn amserol o ystyried newidiadau diweddar i drefniadau ailgylchu - buasai hyn yn gam yn ôl

·      Bod chwe swydd yn y fantolnid oedd hyn yn newyddion da

·      Cais i’r Cyngor ystyried sachau hesian fel opsiwn

·      Dim yn gefnogol i’r taliad

·      Cynnydd tebygol mewn tipio slei bach a cham ddefnydd o’r bin gwastraff gweddilliolsut fydd hyn yn cael ei blismona?

·      Angen ystyried sut y bydd unigolion bregus yn ymdopi

·      Dylid annog mwy o ddefnydd o’r bin brown

·       Cais i ystyried gostyngiad mewn ffi i fin llai ei faint

·      Ymddengys bod pobl y Sir yn cael eu cosbi am gompostio - angen i Lywodraeth Cymru addasu'r fformiwla ailgylchu

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, atgoffwyd yr Aelodau bod y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

STRATEGAETH "MWY NA LLYFRAU" : GWASANAETH LLYFRGELL CYNGOR GWYNEDD pdf eicon PDF 365 KB

Aelod Cabinet: Cynghorydd Ioan Thomas

 

Craffu’r broses sydd wedi ei dilyn ar gyfer llunio’r strategaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)            Cyflwynwyd adroddiad gan Uwch Reolwr Dysgu Cymunedol yr Adran Economi yn gofyn i’r aelodau graffu'r broses sydd wedi ei dilyn ar gyfer llunio'r Strategaeth ‘Mwy na Llyfrau’. Nododd yr Aelod Cabinet bod darparu Gwasanaeth Llyfrgell ‘cynhwysfawr ac effeithlon i bawb sydd yn dymuno ei ddefnyddio’ yn ofyniad statudol o dan Ddeddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964.

 

b)            Adroddwyd bod ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu barn syniadau trigolion, defnyddwyr a phartneriaid ar y Strategaeth “Mwy na Llyfrau”wedi ei gynnal yn ystod Mai - Gorffennaf 2015. Ategwyd bod ystod o argymhellion wedi eu cyflwyno  gan yr ymgynghorwyr oedd yn casglu a dadansoddi'r adborth a gyflwynwyd gan y cyhoedd a’r partneriaid. Nodwyd rhai o’r sylwadau a gyflwynwyd gan yr ymgynghorwr,

 

        Yr angen i addasu’r weledigaeth a chryfhau rhai o’r blaenoriaethau.

        nad yw parhau gyda’r sefyllfa bresennol yn gynaliadwy.

        amharodrwydd cyffredinol ymysg y cyhoedd i weld unrhyw newid i’r rhwydwaith o lyfrgelloedd, hyd yn oed mewn cyd-destun ariannol heriol.

 

Amlygwyd bod y Strategaeth yn argymell bod y Gwasanaeth Llyfrgell yn canolbwyntio  ar bedwar maes blaenoriaeth sef, cynnig darllen, cynnig gwybodaeth, cynnig iechyd a lles a cynnig digidol.

I gyflawni Strategaeth o fewn y gyllideb argymhellwyd categoreiddio'r math o ddarpariaeth sydd ei angen ar draws y Sir ac argymhellwyd symud i ddarpariaeth yn seiliedig ar bedwar model

 

          Llyfrgelloedd Dalgylch

          Llyfrgelloedd Cymunedol o dan reolaeth y Cyngor

          Gwasanaethau Teithiol  

          Dolen neu Gyswllt  Cymunedol

 

c)            Yn ystod y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol:

 

        Pryder bod hyn yn ysgwyddo baich ychwanegol a’r Gynghorau Cymuned. Nodwyd mai gwirfoddolwyr sydd yn gweithredu ar y Cynghorau a bod y niferoedd aelodau yn lleihau oherwydd bod cyfrifoldebau ychwanegol yn cael eu cynnig iddynt o bob cyfeiriad. Amlygwyd bod angen cynnal trafodaethau i amlygu’r disgwyliadau ychwanegol hyn.

 

Mewn ymateb i’r sylw, nodwyd bod pryder ynglŷn â chapasiti gwirfoddolwyr i gyflawni eisoes wedi cael ei ystyried ac yr argymhelliad yw i’r Cyngor wneud ‘cynnig o’r hyn gall ei gyflawni’, gydag ymateb yn ddibynnol ar ‘yr hyn gall y cynghorau cymuned eu cyflawni’. Ategwyd nad datrysiadau oedd yn cael eu rhannu ond datganiad o’r hyn y gall y Cyngor ei gynnig..

 

        Mewn ymateb i leihad mewn cyllideb i brynu llyfrau, cynigiwyd cynnal ‘Diwrnod Amnest’

        Angen ystyried dod a gwasanaethau at ei gilydd - llyfrgelloedd, canolfannau twristiaeth, toiledau cyhoeddus

        Pwysleisiwyd yr angen i gynnal trafodaethau yn lleol er mwyn ymateb yn bositif i'r her

        Y modelau i’w croesau ac yn rai oedd yn ymateb yn greadigol i sicrhau bod y gwasanaeth llyfrgelloedd arbennig yma yn parhau yng Ngwynedd.

 

        Beth yw gwerth ‘Lori Ni’?

        Angen buddsoddiad pellach mewn llyfrau print bras Cymraeg

 

ch)       Mewn ymateb i’r sylwadau nodwyd bod y Polisi Rhoddion yn un sydd wedi ei ystyried a bod llyfrgelloedd yn y gorffennol wedi derbyn rhoddion gwerthfawr iawn. Er hynny, yn sgil prinder staff, nodwyd bod hyn yn dasg ychwanegol i staff ddethol a dewis llyfrau addas i’w benthyg.

 

Yng nghyd-destun gwerth ‘Lori Ni’  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

DIGARTREFEDD - YMCHWILIAD CRAFFU pdf eicon PDF 293 KB

Aelod Cabinet : Cynghorydd  Ioan Thomas

 

Derbyn adroddiad gan yr Aelod Cabinet ar weithredu argymhellion yr Ymchwiliad Craffu

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)            Cyflwynwyd adroddiad yn manylu ar gynllun gweithredu'r Adran Tai a ddatblygwyd i ymateb i argymhellion yr Ymchwiliad Digartrefedd a gwblhawyd 17.9.2016. Diolchwyd am fewnbwn yr Aelodau i’r ymchwiliad a nododd yr Aelod Cabinet bod mwyafrif o’r argymhellion wedi eu gweithredu. Ychwanegodd yr Uwch Reolwr Tai bod yr ymchwiliad wedi bod yn werthfawr ac yn ddefnyddiol i wella’r gwasanaeth.

 

b)            Mewn ymateb, nododd y Cynghorydd Eric M Jones (Cadeirydd yr Ymchwiliad) ei fod wedi bod yn falch o gael y cyfle i fod yn rhan o’r ymchwiliad a gwneud cyfraniad positif i’r gwasanaeth digartrefedd - diolchodd i staff yr Adran Tai am yr hyn sydd wedi ei gyflawni ac am yr adroddiad cynnydd.

 

c)            Wrth drafod yr argymhellion rhoddwyd diweddariad ar y rhai oedd wedi eu cwblhau a hefyd y rhai hynny oedd ar y gweill. Nododd yr Aelod Cabinet bod yr ymchwiliad craffu wedi bod yn rhan o broses sydd i’w chroesawu.

 

ch)         Yn ystod y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol:

 

        Pryder bod pobl tu allan i’r Sir yn cyflwyno eu hunain yn ddigartref ac felly yn cael blaenoriaeth dros drigolion lleol oherwydd y system pwyntiau

        Diffyg tai cymdeithasol i bobl leol

 

d)            Mewn ymateb i’r sylw nododd yr Uwch Reolwr Tai bod ystyriaethau safonol a lleol yn cael eu gwneud ar gyfer pob cais. Nodwyd bod pob ymgais wedi ei gwneud i uchafu yr  elfen ‘lleol’ mor uchel â phosib ar y rhestr blaenoriaethau. Cytunwyd nad oedd yr adran yn cwrdd ar anghenion bob tro a bod hyn oherwydd sefyllfaoedd anodd. Amlygwyd bod dros 80% o osodiadau i unigolion gyda chyswllt 'gyda’r gymuned', dros 90% gyda chyswllt 'gyda chymuned gyfagos' a nifer fechan iawn (2%) heb gyswllt. Ategwyd bod rhaid gweithredu o fewn Deddf Gwlad ac felly rhoddir blaenoriaeth ar y ‘angen’.

 

      Yng nghyd destun, ‘uchafu iaith’, nodwyd bod cyswllt eisoes wedi ei wneud gyda’r Cynulliad ac nad oedd modd uchafu hyn yn bellach. Nodwyd bod gan Loegr Ddeddf Lleol (Localism Act), ond nid yw yn bodoli yng Nghymru - Cymru yn ddibynnol ar y  Ddeddf Tai. Cynigiwyd, yn sgil y newidiadau diweddar i Gabinet y Cynulliad y byddai modd ail gyflwyno'r neges yma.

 

Derbyniwyd yr adroddiad cynnydd a croesawyd y gwaith oedd wedi ei weithredu eisoes ar y mwyafrif o’r argymhellion er mwyn gwella’r gwasanaeth

11.

CYTUNDEBAU ADRAN 106 pdf eicon PDF 249 KB

Aelod Cabinet: Cynghorydd  Dafydd Meurig

 

Ystyried canfyddiadau yr is-grwp ar bwrpas ac ehangder Cytundebau 106

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)            Cyflwynwyd adroddiad i’r Pwyllgor Craffu yn adrodd ar sylwadau ac argymhellion Grŵp Tasg a Gorffen (grŵp bychan o gynghorwyr a swyddogion) oedd yn edrych ar opsiynau posib ar gyfer y defnydd o Gytundebau 106 gan y Cyngor i’r dyfodol. Cafwyd mewnbwn arbenigwyr allanol i’r trafodaethau hyn.

 

Nodwyd bod gwaith y grŵp wedi bod yn ddefnyddiol iawn ac wedi ystyried y prif faterion sydd yn ymwneud âr defnydd o gytundebau 106. Daethpwyd i’r amlwg bod angen gwneud gwelliannau er mwyn cyfarch pryderon sydd wedi codi dros y blynyddoedd diwethaf.

 

b)            Amlygodd yr Aelod Cabinet bod y cyfarfodydd Grŵp Tasg a Gorffen wedi bod yn werthfawr a bod yr argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad yn rai rhesymol ac amlwg. Gwahoddwyd y Pwyllgor i ystyried casgliadau ac argymhellion yr is grŵp.

 

c)            Mewn ymateb i’r adroddiad, cytunwyd gyda’r feirniadaeth bod Cytundebau 106 yn addas ar gyfer datblygiadau mawr a bod problemau yn codi gyda datblygiadau bach, unigol a datblygiadau hunan-adeiladu.

 

d)            Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag hyfywdra gosod cytundeb 106 ar eiddo, nodwyd bod rhaid ystyried pob cais yn unigol. Ategwyd y byddai rhaid i’r gwasanaeth ystyried addasrwydd a hyblygrwydd  cytundeb 106 gan deilwra i’r hyn sydd ei angen. I sicrhau os ydyw yn hyfyw bydd y gwasanaeth yn defnyddio Prisiwr Dosbarth er mwyn deall y sefyllfa yn well, bod y trefniadau cywir yn cael eu dilyn a bod cadarnhad yn cael ei roi o ran hyfywdra.

 

e)            Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chyfraniadau addysgol mewn sefyllfaoedd lle ceir datblygiadau tai newydd mewn cymunedau, cadarnhawyd mai cost plentyn ysgol sydd yn cael ei ystyried ar nid gwerth y tŷ. Cadarnhawyd bod sail ddeddfwriaethol i hyn gyda fformiwla benodol i’w ddilyn - anodd iawn yw uchafu'r gost yma.  Mewn ymateb, nododd y Cynghorydd G Williams bod angen herio'r rheolau hyn.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadau'r argymhellion a nodwyd ym mharagraff 9 o’r adroddiad.

 

12.

CLUDIANT ADDYSG ÔL -16 - YMCHWILIAD CRAFFU pdf eicon PDF 443 KB

Aelod Cabinet : Cynghoryddr Gareth Thomas

 

Derbyn adroddiad gan yr Aelod Cabinet ar weithredu argymhellion yr Ymchwiliad Craffu

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ymneilltuodd y Cynghorydd Linda Morgan o’r ystafell yn ystod y drafodaeth

 

a)            Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet yn rhoi diweddariad ar y cynnydd pellach o ran gweithredu argymhellion Ymchwiliad Craffu Cludiant Addysg Ol-16. Amlygwyd bod yr argymhellion wedi eu rhannu i dri categori

 

-           Gweithredu yn syth

-           Cydweithio yn y tymor canolig gyda gwasanaethau / partneriaid eraill er mwyn ymchwilio i ymarferoldeb gweithredu’r argymhellion

-           Peidio ystyried yr argymhellion hyn am y tro

 

Ategwyd bod nifer o’r argymhellion wedi eu cynnwys yn y Polisi Cludiant newydd a bod yr argymhellion sydd yn weddill yn ddibynnol ar drafodaethau. Cydnabuwyd  bod rhai o’r trafodaethau wedi bod yn araf a’r rhwystr mwyaf oedd cynnal trafodaethau gyda’r coleg, a datrys y broblem ‘teithio yn hyblyg’. Adroddwyd bod llawer o waith wedi ei wneud i geisio datrys yr uchod, ond heb ddwyn ffrwyth hyd yn hyn. Derbyniodd bod arafwch gyda’r broses ac unrhyw gerydd am hyn.

 

Derbyniodd yr Uwch Reolwr Ysgolion  bod yr ymateb ffurfiol wedi bod yn araf, ond adroddodd ei fod bellach wedi derbyn llythyr (dyddiedig 16.5.16) gan y Coleg yn nodi eu dymuniad i fod yn asiant ac yn agored i drafod ymhellach. Ychwanegwyd bod y trafodaethau hyn i ddechrau 21.6.16. Ategwyd bod y Coleg wedi nodi yn y llythyr eu bod yn ystyried ‘trosglwyddo'r ddarpariaeth i gyd’ ac felly angen trafod cynnwys y llythyr mewn manylder. Cyfeiriwyd hefyd mai at Meirion Dwyfor yn unig roedd y llythyr ac felly hyn hefyd angen ystyriaeth llawn.

 

Adroddwyd bod bwriad sefydlu Fforwm Defnyddiwr, ond angen sicrhau bod ‘cynnig ar y bwrdd’ i’r defnyddwyr yng nghyd destun ymateb i’r angen o gynyddu'r hyblygrwydd heb ychwanegu cost. Amlygwyd y byddai'r Fforwm Defnyddwyr yn cynnwys cynrychiolwyr o’r Coleg, Swyddogion y Cyngor, Darparwyr Cludiant a Myfyrwyr. Y gobaith yw i’r Fforwm aeddfedu fel y byddai yn rhoi pwyslais ar wleidyddion i weithredu.

 

Nodwyd bod system rhandaliadau misol wedi ei sefydlu, ond yng nghyd-destun myfyrwyr yn derbyn lwfansau hwyr i dalu costau, nid oedd hyn  yn flaenoriaeth gan y Colegau. Ategwyd y bwriad o godi hyn yn y trafodaethau gyda'r Coleg.

 

Adroddwyd bod 37% o lwybrau teithio gyda chyfyngiad amser; 40% o lwybrau heb gyfyngiad a 23% yn fysiau coleg pur. Yr her fwyaf yw ceisio datrysiad i’r llwybrau teithio hynny sydd yn gyfyngedig.

 

b)            Mewn ymateb i’r adroddiad nododd y Cynghorydd G Williams  bod angen cymharu'r hyn sydd ar gael yn Lloegr gyda’r hyn sydd ar gael yng Nghymru. Roedd yn parhau gyda phryderon nad oedd Cyngor Gwynedd wedi cynorthwyo aelwydydd y Sir gyda chostau a thegwch  addysg eu plant.

 

c)            Yn ystod y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol:

 

·                    Bod y Coleg yn araf yn derbyn cyfrifoldeb dros y myfyrwyr - nid yw teithio yn llesol i blant ac nid yw’r colegau yn rhoi digon o ystyriaeth i hyn. Awgrymwyd y dylai’r Coleg arwain ar y mater a cheisio datrys y broblem

·                    Rhaid rhoi plant a phobl ifanc Gwynedd yn ganolog i’r gwasanaeth. Rhaid sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfleoedd cyfartal

·                    Rhaid datrys y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12.