Agenda item

Aelod Cabinet: Cynghorydd John Wynn Jones

 

Ystyried yr adroddiad, a gwneud argymhelliad ar Gynllun i geisio cadw toiledau cyhoeddus, sydd dan fygythiad o gau oherwydd y toriadau, yn agored a gweithredol i’r dyfodol.

 

Cofnod:

a)            Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod Cabinet Amgylchedd yn argymell cynllun i geisio cadw'r toiledau cyhoeddus hynny sydd o dan fygythiad o gau, yn agored a gweithredol i’r dyfodol. Cyfeiriwyd at ymarferiad Her Gwynedd lle bu i’r Cyngor, yn ei gyfarfod ar y 3ydd o Fawrth 2016, argymell gwneud toriadau oedd yn cynnwys ‘cau 50 allan o 73 o doiledau cyhoeddus y Sir’ gan dorri £244,000 o’r gyllideb ar gyfer y gwasanaeth. Eglurwyd mai bwriad y cynllun amgen yma oedd cwrdd â’r toriad drwy geisio cynnal y ddarpariaeth bresennol o doiledau cyhoeddus yn y Sir.

 

Gwnaed cais gan yr Aelod Cabinet i’r Pwyllgor ystyried y cynllun  a chyfeirio eu hargymhelliad i’r Cabinet. Eglurwyd bod y Cynllun yn ddibynnol ar ennyn diddordeb Cynghorau Cymuned a Thref i Bartneriaethau er mwyn sicrhau parhad ar y ddarpariaeth, drwy gyfrannu yn ariannol at y cynllun. Tynnwyd sylw at y ddau opsiwn:

·         Opsiwn 1 - lefel cyfraniad o £4000 i bob toiled yn agored drwy’r flwyddyn a chyfraniad o £2000 i bob toiled sydd yn agored yn dymhorol

·         Opsiwn 2 – cyfraniad cyfwerth a thraean (33.3%) cost blynyddol ar gyfartaledd o weithredu’r toiled

 

Nodwyd bod y cynllun yn fodd o gynnal y ddarpariaeth, ac os na fydd sêl bendith i’r cynllun, byddai rhaid asesu'r angen yn lleol.

 

b)            Yn ystod y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol yn erbyn yr argymhelliad:

·         Nad oedd y cynllun wedi ei graffu yn ddigonol

·         Papur Gwyn gan y Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol (GIG) yn nodi bod rhaid gwella profiad y claf drwy 'wrando a dysgu’ ac i sefydliadau ddatblygu strategaethau clir i gyfarch hyn - cau toiledau cyhoeddus yn groes i hyn.

·         Nad oedd digon o ystyriaeth wedi ei roi ar drigolion bregus a thrigolion gyda chyflyrau iechyd.

·         Rhaid sicrhau bod digon o doiledau cyhoeddus ar gael - Gwynedd yn ardal sydd yn ddibynnol ar dwristiaeth ac felly angen sicrhau toiledau o ansawdd uchel.

·         Deiseb yn erbyn y penderfyniad o gau'r toiledau yn casglu momentwm gyda dros 2000 o enwau - nid oes rheswm digonol i gau toiledau cyhoeddus

 

c)            Mewn ymateb i’r sylwadau, atgoffwyd yr Aelodau bod toriad i’r gwasanaeth eisoes wedi ei gytuno yn y Cyngor Llawn ym mis Mawrth 2016, ac felly rhaid oedd ystyried ffordd o symud ymlaen. Derbyniodd yr Aelod Cabinet y sylw bod y pwnc yn un oedd yn amlygu pryderon ymysg cymunedau. Nododd hefyd fod ganddo gydymdeimlad llawn gyda thrigolion â chyflyrau iechyd ac y byddai yn rhoi ystyriaeth lawn i hyn. Ategwyd y byddai'r toiledau yn parhau ar agor hyd nes bydd ymgynghori gyda’r cymunedau perthnasol wedi cymryd lle.

 

ch)       Mewn ymateb, nodwyd y sylwadau canlynol yn gefnogol i’r argymhelliad:

 

·         Derbyn yr adroddiad a llongyfarch yn adran am ystyried cynllun amgen ar gyfer toiledau cyhoeddus mewn dull positif. Cyfeiriwyd at enghreifftiau da drwy’r Sir o doiledau sydd eisoes yn cael eu rheoli gan y Cynghorau Cymuned

·         Croesawu'r adroddiad.  Cyfle da yma i  sefydlu partneriaeth gymunedol - dyma'r ffordd ymlaen. Cyfle da i gydweithio.

·         I’r rhai hynny sydd yn fregus neu a chyflyrau iechyd, awgrymwyd eu bod yn trefnu eu siwrne ymlaen llaw a bod gwybodaeth ardderchog am doiledau cyhoeddus y sir ar gael ar wefan y Cyngor.

·         Rhai Cynghorau Cymuned eisoes wedi cynnal trafodaethau yn lleol ar y mater

·         Gwnaed cais am wybodaeth ychwanegol am incwm toiledau a chyfraniad yr  Asiantaethau Cefnffyrdd.

·         Awgrym i godi tal yn y toiledau hynny sydd yn ddrud i’w cynnal

 

d)            Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag anghysondebau mewn defnydd toiledau a’r  baich gwaith ychwanegol fydd yn wynebu Cynghorau Cymuned, amlygwyd bod grantiau ar gael i’r Cynghorau Cymuned geisio amdanynt ac y byddai Swyddogion o’r Adran Economi  ar gael i gynnig gwybodaeth am y grantiau hyn. Nodwyd y gall y broses drosglwyddo gymryd hyd at 3 blynedd i’w gwireddu.

 

dd)       Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â grantiau toiledau cymunedol, nodwyd bod y grantiau sydd ar gael yn parhau - Pennaeth y Gwasanaeth i adrodd yn unigol i’r Cynghorydd L Morgan.
 

Cynigiwyd ac eiliwyd i gefnogi opsiwn 1.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr argymhellion a nodwyd yn 3.1 o’r adroddiad gyda’r Pwyllgor yn cefnogi opsiwn 1- lefel cyfraniad o £4000 i bob toiled yn agored drwy’r flwyddyn a chyfraniad o £2000 i bob toiled sydd yn agored yn dymhorol

Anogwyd yr Adran i;

-       edrych ymhellach i gyfleon i  godi tal yn y toiledau drytaf ( a chynghori Cynghorau Cymunedau a Thref ar sut i wneud hyn)

-       edrych os oes modd ymestyn ymhellach y Cynllun Grant Llywodraeth Cymru ar gyfer Toliedau Cyhoeddus

 

Dogfennau ategol: