Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Annes Sion 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Linda Ann Jones, Eryl Jones-Williams ac Arwyn
Herald Roberts. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 14eg o Dachwedd 2023, fel rhai cywir. Cofnod: Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 14 Tachwedd, 2023 fel rhai cywir. |
|
CALENDR PWYLLGORAU 2024/25 PDF 92 KB Argymell y Calendr Pwyllgorau
ar gyfer 2024/25 i’r Cyngor Llawn ei fabwysiadu. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad ac argymell y Calendr Pwyllgorau
2024/25 i gyfarfod y Cyngor Llawn ar y 7fed o Fawrth, 2024 ar gyfer ei
fabwysiadu. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad oedd yn gofyn am farn y Pwyllgor ar y Calendr
Pwyllgorau 2024/25 cyn ei gyflwyno i gyfarfod y Cyngor wythnos nesaf. Adroddwyd
bod ymgynghori wedi digwydd efo swyddogion mewnol y Cyngor ynghyd ag Awdurdod y
Parc Cenedlaethol er mwyn osgoi gwrthdaro â chyfarfodydd eraill. Yn ogystal
nodwyd bod pob ymdrech wedi ei wneud i osgoi gwrthdaro gyda cyfarfodydd Bwrdd
Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a’r Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd. Amlygwyd bod dyddiad
cyntaf y Cyngor wedi symud i’r 9fed o Fai, 2024 yn sgil
Etholiad Comisiynydd yr Heddlu sydd yn cael ei gynnal ar yr 2il o
Fai. Adroddwyd bod dyddiad wrth gefn ar gyfer Cyfarfod Arbennig o’r Cyngor wedi
ei nodi yn y calendr ar gyfer mis Medi 2024 er mwyn cynnal trafodaeth bosib ar
y systemau Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy. Yn ystod y drafodaeth cododd y sylwadau canlynol: -
Arsylwyd nad oedd cyfarfodydd y Bwrdd Pensiwn wedi eu
nodi ar y Calendr ynghyd a dyddiadau hyfforddiant. Cwestiynwyd os oedd posib
cynnwys dyddiadau hyfforddiant i Gynghorwyr ar y Calendr. -
Gofynnwyd a oedd modd ymgynghori
efo’r Awdurdod Tân er mwyn osgoi gwrthdaro. Nodwyd bod 5 Cynghorydd yn aelodau
o’r Awdurdod Tân a gwrthdaro wedi bod yn y gorffennol rhwng dyddiadau
Pwyllgorau’r Cyngor a chyfarfodydd yr Awdurdod Tân. -
Mynegwyd anfodlonrwydd bod diffyg Cynghorwyr i fynychu
Pwyllgor oherwydd eu bod yn gwasanaethu’r Cyngor ar Bwyllgor arall oedd yn cael
ei gynnal yr un amser yn cael ei gofnodi fel ‘Ymddiheuriad’ neu ‘Absennol’.
Credwyd bod angen edrych fewn i’r drefn yma. -
Holwyd pam bod amser cyfarfod y
Cyngor Llawn wedi newid i 1:30 o’r gloch ac os oedd modd ei newid yn ôl i 1:00.
Credwyd y byddai hyn o fudd i Gynghorwyd sydd yn byw yn bell o Gaernarfon ac
angen teithio adref ar ôl y cyfarfod, yn ogystal â’n gwella presenoldeb drwy’r
cyfarfod cyfan. Mewn ymateb i’r
sylwadau: -
Nodwyd nad yw cyfarfodydd y Bwrdd Pensiwn yn cael eu
cynnwys yn arferol ar y Calendr Pwyllgorau am mai dim ond dau Gynghorydd sydd
yn eu mynych. Serch hyn sicrhawyd bod pob ymdrech yn cael ei wneud gan y tîm
Democratiaeth i osgoi gwrthdaro. Adroddwyd bod y tîm yn edrych fewn i
ddyddiadau hyfforddiant ar hyn o bryd â’r posibilrwydd o’u cynnwys ar y
Calendr, gellir edrych fewn i hyn flwyddyn nesaf. -
Sicrhawyd y bydd ymgynghori efo’r Awdurdod Tân yn digwydd
wrth greu Calendr Pwyllgorau 2025/26 ac o hyn allan. -
Nodwyd y bydd y tîm Democratiaeth yn edrych fewn i’r
ffordd mae Ymddiheuriadau ac Absenoldebau yn cael eu cofnodi yn sgil
gwrthdrawiadau oherwydd swyddogaethau Cynghorwyr. - Atgoffwyd bod amser cyfarfod y Cyngor Llawn wedi newid i 1:30 yn dilyn yr ymateb a dderbyniwyd i holiadur a anfonwyd at y Cynghorwyr yn 2022. Nodwyd mai un o’r prif resymau oedd i sicrhau bod amser digonol ar gael i gynnal y cyfarfodydd Grwpiau yn y bore. Ychwanegwyd bod y tîm Democratiaeth hefyd angen amser i baratoi cyfarpar y Siambr ar gyfer cyfarfod y Cyngor. Nodwyd nad ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
CEFNOGAETH I GYNGHORWYR PDF 156 KB Gofynnir i’r
Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth nodi’r sylwadau a derbyn yr adroddiad. Penderfyniad: Nodi’r sylwadau a
derbyn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad oedd yn adrodd ar ganlyniadau’r holiadur a
anfonwyd at yr holl Aelodau ym mis Ionawr, 2024 yn gofyn am eu barn ar y
gwasanaeth sydd ar gael gan y tîm Democratiaeth. Nodwyd bod 31 Cynghorydd wedi cwblhau’r holiadur. Adroddwyd bod 91% wedi
nodi bod safon y gwasanaeth yn Dda neu yn Dda iawn gydag un Aelod wedi nodi
Boddhaol a dau heb ymateb. Nodwyd bod yr Aelod oedd wedi nodi Boddhaol wedi
rhoi sylwadau am Adran arall o’r Cyngor felly bydd yr Arweinydd tîm yn cysylltu
â’r Aelod dan sylw er mwyn derbyn barn ar y gwasanaeth sy’n cael ei gynnig gan
y tîm Democratiaeth. Adroddwyd bod un Aelod wedi nodi anfodlonrwydd efo’r camau i fynd yn
ddi-bapur. Nodwyd bod y tîm Democratiaeth yn cyd-weithio gyda’r Aelodau i
geisio cynorthwyo’r newid hwn. Tynnwyd sylw at sylwadau eraill cafodd eu gwneud
megis yr heriau sydd ynghlwm â rôl Cynghorydd a’r pwysigrwydd i drin Aelodau â
pharch. Ategwyd pwysigrwydd i bob Aelod gwblhau’r holiadur er mwyn sicrhau bod
y gwasanaeth sydd ar gael i Gynghorwyr yn ddigonol ac yn ateb y gofynion ac
anogwyd yr holl Aelodau i gwblhau’r holiadur yn y dyfodol. Yn ystod y drafodaeth cododd y sylwadau canlynol: -
Mynegwyd barn bod rôl Cynghorydd
yn fwy heriol yn bresennol nag yr oedd yn arfer bod oherwydd yr hinsawdd
wleidyddol a’r heriau sydd ynghlwm a hynny megis costau byw a diffyg Tai. -
Gwnaethpwyd sylw am gymal 7 o’r adroddiad gan nodi bod
gwybodaeth anghyflawn ar safle we’r Cyngor am benodiadau Cynghorwyr i Gyrff
Allanol. Credwyd bod angen diweddaru’r wybodaeth er mwyn sicrhau ei fod yn
gyfredol. -
Gofynnwyd a yw’r tîm
Democratiaeth yn holi Aelodau am awgrymiadau ar sut i wella’r gwasanaeth sydd
ar gael iddynt. -
Holiwyd os yw gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael o ran
gofal plant i Gynghorwyr yn cael ei rannu efo Cynghorwyr benywaidd.
Pwysleisiwyd ei bod yn angenrheidiol denu merched i ymgymryd â rôl
Cynghorydd. Mewn ymateb i’r
sylwadau: -
Cydnabuwyd bod angen diweddaru’r wybodaeth am Gyrff
Allanol yn gyson gan adrodd bod trefniadau ar y gweill er mwyn ymgymryd â’r
gwaith dros y misoedd nesaf. -
Nodwyd bod yr holiadur yn cynnwys
cwestiwn ar sut all y tîm Democratiaeth ddatblygu’r gwasanaeth sydd ar gael i
Aelodau yn ogystal â chwestiwn am unrhyw sylwadau pellach. Credwyd bod yr
holiadur yn rhoi cyfleoedd digonol i Aelodau nodi eu barn a’u hawgrymiadau. -
Cadarnhawyd bod y wybodaeth am y
cymorth sydd ar gael o ran gofal plant eisoes wedi ei rannu efo Cynghorwyr yn
ystod y Dyddiau Croeso fel rhan o’r drefn anwytho a hefyd ar gael ar y Mewnrwyd
Aelodau. Nodwyd efallai bod modd cylchredeg y wybodaeth drwy ei gynnwys yn y
Bwletin Aelodau er mwyn ei amlygu ymhellach dros yr wythnosau nesaf. |
|
DARPARIAETH DYSGU A DATBLYGU I AELODAU PDF 335 KB Rhoi diweddariad o’r ddarpariaeth Dysgu a Datblygu i Aelodau, gan amlygu rhwystrau presennol i gyflwyniad y rhaglen. Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad ar y ddarpariaeth Dysgu a
Datblygu a’r cyfleoedd hyfforddiant sydd ar gael i Aelodau. Nodwyd bod yr
adroddiad ychydig yn wahanol y tro hwn er mwyn amlygu'r heriau sydd ynghlwm â
chyflwyno’r rhaglen. Soniwyd am y broses ymgynghori gyda Phenaethiaid a
Swyddogion sydd eisoes ar waith ar gyfer creu rhaglen hyfforddiant 2024/25.
Nodwyd bod hynny o’r rhaglen 2024/25 sydd wedi ei phoblogi yn barod i’w gweld
yn yr adroddiad. Adroddwyd bod y gwasanaeth yn derbyn nifer o geisiadau am
hyfforddiant newydd ac yn ceisio eu blaenoriaethu. Adlewyrchwyd ar sylwadau
blaenorol gan rai Aelodau bod y rhaglen wedi datblygu i fod yn rhaglen drom o
ran ei gynnwys. Amlygwyd bod teitlau allweddol sydd wedi eu hadnabod
fel meysydd craidd wedi eu rhestru yn yr adroddiad. Pwysleisiwyd ei bod yn
hanfodol i Aelodau gwblhau’r rhain gan nodi bod amryw heb gwblhau’r teitlau.
Tynnwyd sylw at y ffigyrau yn y tabl yn rhan 2.4 o’r adroddiad. Ychwanegwyd bod rhai o’r teitlau craidd yn rhedeg ers
peth amser a bod y niferoedd sy’n mynychu’r sesiynau yn broblemus. Nodwyd bod
cynnal hyfforddiant sy’n hanner llawn o ran presenoldeb ddim yn rhoi’r gwerth
gorau am arian ac yn arwain at orfod ail gynnal yr un hyfforddiant amryw o
weithiau. Nodwyd bod hyn yn arafu gallu swyddogion i symud ymlaen â’r rhaglen
hyfforddiant ehangach gan y bydd angen ail ymweld â’r teitlau craidd yn y
flwyddyn 2024/25. Amlygwyd y consyrn nad yw’r Aelodau sydd heb fynychu’r
hyfforddiant craidd efo’r cefndir na’r wybodaeth angenrheidiol i’w rôl. Yn ystod y drafodaeth cododd y sylwadau canlynol: -
Canmolwyd ansawdd uchel yr
hyfforddiant gan nodi eu bod yn ddefnyddiol, a diolchwyd am waith y gwasanaeth
Dysgu a Datblygu. -
Mynegwyd pryder a siomedigaeth bod nifer o Aelodau heb
fynychu’r hyfforddiant craidd a gofynnwyd pa gamau sydd ar y gweill er mwyn
sicrhau bod pawb yn mynychu’r teitlau mandadol. -
Holiwyd ynghylch blaengynllun ac
os oes modd ei gylchredeg. Credwyd y byddai derbyn blaengynllun o’r dyddiadau o
fudd i Aelodau allu cynllunio a gadael amser rhydd ar gyfer y teitlau amrywiol. -
Cydnabuwyd ei bod yn anodd
mynychu hyfforddiant oherwydd prinder amser Aelodau gyda rhai efo calendrau
llawn, yn ogystal ag amryw efo cyfrifoldebau eraill megis gyrfa neu blant.
Diolchwyd am y camau sydd eisoes wedi eu cymryd i geisio gwella nifer mynychwyr. -
Holiwyd am y posibilrwydd o wylio
sesiynau sydd wedi eu recordio ac os oes modd i Aelodau wneud hynny yn amser eu
hunain. Gofynnwyd a fydd hyn yn cyfri fel eu bod wedi mynychu’r sesiwn. -
Awgrymwyd cysylltu ag Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol er
mwyn iddynt dynnu sylw at y mater yn ffurfiol o fewn y Grwpiau gan amlygu’r
hyfforddiant fwyaf hanfodol. Ategwyd bod cyfrifoldeb bellach ar yr Arweinyddion
Grŵp i sicrhau bod Aelodau yn mynychu hyfforddiant. -
Cwestiynwyd yr angen i Aelodau ail wneud hyfforddiant os
eisoes wedi ei gwblhau e.e. yn y Cyngor diwethaf (2017-22) neu drwy sefydliad
arall. - Amlygwyd bod nifer o sesiynau yn cael eu canslo oherwydd diffyg niferoedd neu ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |