Argymell y Calendr Pwyllgorau
ar gyfer 2024/25 i’r Cyngor Llawn ei fabwysiadu.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad ac argymell y Calendr Pwyllgorau
2024/25 i gyfarfod y Cyngor Llawn ar y 7fed o Fawrth, 2024 ar gyfer ei
fabwysiadu.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad oedd yn gofyn am farn y Pwyllgor ar y Calendr
Pwyllgorau 2024/25 cyn ei gyflwyno i gyfarfod y Cyngor wythnos nesaf. Adroddwyd
bod ymgynghori wedi digwydd efo swyddogion mewnol y Cyngor ynghyd ag Awdurdod y
Parc Cenedlaethol er mwyn osgoi gwrthdaro â chyfarfodydd eraill. Yn ogystal
nodwyd bod pob ymdrech wedi ei wneud i osgoi gwrthdaro gyda cyfarfodydd Bwrdd
Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a’r Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd.
Amlygwyd bod dyddiad
cyntaf y Cyngor wedi symud i’r 9fed o Fai, 2024 yn sgil
Etholiad Comisiynydd yr Heddlu sydd yn cael ei gynnal ar yr 2il o
Fai. Adroddwyd bod dyddiad wrth gefn ar gyfer Cyfarfod Arbennig o’r Cyngor wedi
ei nodi yn y calendr ar gyfer mis Medi 2024 er mwyn cynnal trafodaeth bosib ar
y systemau Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy.
Yn ystod y drafodaeth cododd y sylwadau canlynol:
-
Arsylwyd nad oedd cyfarfodydd y Bwrdd Pensiwn wedi eu
nodi ar y Calendr ynghyd a dyddiadau hyfforddiant. Cwestiynwyd os oedd posib
cynnwys dyddiadau hyfforddiant i Gynghorwyr ar y Calendr.
-
Gofynnwyd a oedd modd ymgynghori
efo’r Awdurdod Tân er mwyn osgoi gwrthdaro. Nodwyd bod 5 Cynghorydd yn aelodau
o’r Awdurdod Tân a gwrthdaro wedi bod yn y gorffennol rhwng dyddiadau
Pwyllgorau’r Cyngor a chyfarfodydd yr Awdurdod Tân.
-
Mynegwyd anfodlonrwydd bod diffyg Cynghorwyr i fynychu
Pwyllgor oherwydd eu bod yn gwasanaethu’r Cyngor ar Bwyllgor arall oedd yn cael
ei gynnal yr un amser yn cael ei gofnodi fel ‘Ymddiheuriad’ neu ‘Absennol’.
Credwyd bod angen edrych fewn i’r drefn yma.
-
Holwyd pam bod amser cyfarfod y
Cyngor Llawn wedi newid i 1:30 o’r gloch ac os oedd modd ei newid yn ôl i 1:00.
Credwyd y byddai hyn o fudd i Gynghorwyd sydd yn byw yn bell o Gaernarfon ac
angen teithio adref ar ôl y cyfarfod, yn ogystal â’n gwella presenoldeb drwy’r
cyfarfod cyfan.
Mewn ymateb i’r
sylwadau:
-
Nodwyd nad yw cyfarfodydd y Bwrdd Pensiwn yn cael eu
cynnwys yn arferol ar y Calendr Pwyllgorau am mai dim ond dau Gynghorydd sydd
yn eu mynych. Serch hyn sicrhawyd bod pob ymdrech yn cael ei wneud gan y tîm
Democratiaeth i osgoi gwrthdaro. Adroddwyd bod y tîm yn edrych fewn i
ddyddiadau hyfforddiant ar hyn o bryd â’r posibilrwydd o’u cynnwys ar y
Calendr, gellir edrych fewn i hyn flwyddyn nesaf.
-
Sicrhawyd y bydd ymgynghori efo’r Awdurdod Tân yn digwydd
wrth greu Calendr Pwyllgorau 2025/26 ac o hyn allan.
-
Nodwyd y bydd y tîm Democratiaeth yn edrych fewn i’r
ffordd mae Ymddiheuriadau ac Absenoldebau yn cael eu cofnodi yn sgil
gwrthdrawiadau oherwydd swyddogaethau Cynghorwyr.
-
Atgoffwyd bod amser cyfarfod y
Cyngor Llawn wedi newid i 1:30 yn dilyn yr ymateb a dderbyniwyd i holiadur a
anfonwyd at y Cynghorwyr yn 2022. Nodwyd mai un o’r prif resymau oedd i sicrhau
bod amser digonol ar gael i gynnal y cyfarfodydd Grwpiau yn y bore. Ychwanegwyd
bod y tîm Democratiaeth hefyd angen amser i baratoi cyfarpar y Siambr ar gyfer
cyfarfod y Cyngor. Nodwyd nad oedd bwriad i ail ymgynghori'r tymor yma oni bai
i amryw leisio'r un farn am amser cyfarfod y Cyngor. Ategwyd bod modd i Aelodau
ymuno yn rhithiol er mwyn osgoi siwrnai hir.
Dogfennau ategol: