Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd Aelodau’r
Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Derbyniwyd
ymddiheuriad gan yr Aelod Cabinet Cyng. Ioan Thomas. Dymunwyd adferiad buan i wraig y Cynghorydd yn dilyn llaw driniaeth |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd datganiad o fuddiant gan y Cynghorydd Elin Walker Jones oherwydd ei bod yn Lywodraethwraig yn Ysgol y Garnedd, ond nid oedd yn fuddiant oedd yn rhagfarnu. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion brys. |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw
faterion yn codi o drosolwg a chraffu. |
|
COFNODION CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 2 A'R 16 HYDREF 2018 PDF 70 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfodydd y Cabinet a gynhaliwyd ar y
2il o Hydref a’r 16eg o Hydref 2018, fel rhai cywir |
|
AD-DREFNU YSGOLION BANGOR PDF 116 KB Cyflwynwyd gan: Cyng Gareth Thomas Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Gweithredu ar y cynnig a gyhoeddwyd 4 Medi 2018 i gau Ysgol Glanadda a Babanod Coed Mawr ar 31 Awst 2020, a chynnig lle i’r disgyblion yn Ysgol y Garnedd (yn ddarostyngedig i ddewis rhieni); a chynyddu capasiti Ysgol y Garnedd i 420 yn weithredol 1 Medi 2020. Cofnod: PENDERFYNWYD Gweithredu ar y cynnig a gyhoeddwyd 4 Medi
2018 i gau Ysgolion Glanadda a Babanod Coed Mawr ar 31 Awst 2020, a chynnig lle
i’r disgyblion yn Ysgol y Garnedd (yn ddarostyngedig i ddewis rhieni); a
chynyddu capasiti Ysgol y Garnedd i 420 yn weithredol
1 Medi 2020. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Gareth
Thomas Yn dilyn hysbysiad gan Lywodraeth Cymru bod
cyfle i Awdurdodau Lleol gyflawni
prosiectau ychwanegol oddi mewn Band A Rhaglen Ysgolion 21ain Ganrif, llwyddodd
Gwynedd i sicrhau bid i ad-drefnu ysgolion cynradd yn nalgylch Bangor.
Cyflwynwyd adroddiad i’r Cabinet (Ionawr 2017) a chymeradwywyd yr argymhelliad
i gynnal trafodaethau lleol yn unol â’r adroddiad ynglŷn ag adolygu
darpariaeth addysg gynradd ym Mangor. Ym Mehefin 2017, sefydlwyd Panel Adolygu
Dalgylch Bangor i drafod y nifer o opsiynau fyddai’n gwella a chynnal safon addysg. Cyflwynwyd yr opsiynau i’r Cabinet ym Mawrth
2018 a chymeradwywyd yr argymhelliad i gynnal ymgynghoriad statudol ar y broses
o adrefnu’r ysgolion cynradd. Cynhaliwyd ymgynghoriad statudol a derbyniwyd 68
ymateb a chyflwynwyd prif sylwadau’r ymgynghoriad hwnnw i’r Cabinet yng Ngorffennaf 2018. Penderfyniad y Cabinet yn y cyfarfod
hwnnw oedd Cymeradwyo'r
cynnig i gau Ysgolion Glanadda a Babanod Coed Mawr ar 31 Awst 2020, a chynnig
lle i’r disgyblion yn Ysgol y Garnedd (yn ddarostyngedig i ddewis rhieni); a chynyddu
capasiti Ysgol y Garnedd i 420. Cymeradwyo
cyhoeddi rhybuddion statudol ar y cynnig i (i) uchod yn unol â gofynion Adran
48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 Yn dilyn y penderfyniad, cyhoeddwyd, yn unol
â Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgol 2013, rybudd statudol ar y 4ydd o Fedi
2018 ac fe gynhaliwyd cyfnod o wrthwynebu statudol ar y cynnig (rhwng 4/9/18 a
2/10/18). Amlygwyd bod un gwrthwynebiad wedi ei
dderbyn yn ystod y cyfnod gwrthwynebu oedd yn ymwneud a materion trafnidiaeth, diogelwch plant, cyllid, addysg ag y Gymraeg. Ategwyd bod un ohebiaeth wedi cyrraedd yn
hwyr yn y dydd a bod angen cyfarch yr ohebiaeth hynny fel rhan o’r
trafodaethau. Gwnaed cais i’r Cabinet gefnogi’r cynnig
fyddai yn gwella adnoddau addysg yn sylweddol i blant Ysgol y Garnedd ynghyd a
phlant Ysgolion Glan Adda a Coed Mawr. Trafodwyd y gwrthwynebiadau. Mewn ymateb i bryderon yn ymwneud a thraffig
ar Ffordd Penrhos nododd Uwch Reolwr
Eiddo (Corfforaethol) bod pob ymgais wedi ei wneud i geisio lliniaru’r sefyllfa
sydd yn creu trafferthion yn yr ardal yn ystod y boreau a’r prynhawniau. Nododd
bod 30 lle parcio ychwanegol wedi ei gynllunio ar gyfer parcio staff ac
ymwelwyr ynghyd a man gollwng fyddai yn cael ei reoli oddi ar y brif-ffordd. Amlygwyd bod cais cynllunio ar gyfer y
datblygiad wedi ei gymeradwyo ym Mhwyllgor Cynllunio 5.11.18 gyda phryderon
trafnidiaeth wedi eu trafod. Nodwyd bod yr Adran Trafnidiaeth yn hapus gyda’r
cyfuniad newydd o addasiadau fyddai yn cyfarch y problemau. Mewn ymateb i bryderon trafnidiaeth yn ystod y cyfnod adeiladu amlygwyd bod pob ymgais yn cael ei wneud i leihau unrhyw anghydfod i drigolion lleol. Ategwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda’r trigolion ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. Awdur: Diane Jones |
|
RHAGLEN TARGEDU BUDDSODDIAD MEWN ADFYWIO: CANOL DINAS BANGOR PDF 179 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: a) I gefnogi’r bwriad o dargedu Rhaglen Targedu
Buddsoddiad mewn Adfywio ar gyfer datblygu a gweithredu prosiectau o fewn
Cynllun Adfywio Canol Dinas Bangor b) Ymrwymo, mewn egwyddor, £250k o’r Gronfa Cydariannu a sefydlwyd i’w
ddefnyddio fel arian cyfatebol ar gyfer rhaglenni ariannol allanol ond gofyn am
adroddiad pellach ar y Cynllun terfynol er mwyn sicrhau ei fod yn cwrdd ag
amcanion y Cyngor ac yn cynrychioli gwerth am arian. Cofnod: Cyflwynwyd yr eitem
gan y Cyng. Dyfrig Siencyn PENDERFYNWYD a)
Cefnogi’r bwriad o dargedu Rhaglen Targedu
Buddsoddiad mewn Adfywio ar gyfer datblygu a gweithredu prosiectau o fewn
Cynllun Adfywio Canol Dinas Bangor b)
Ymrwymo, mewn egwyddor, £250k o’r Gronfa
Cydariannu a sefydlwyd i’w ddefnyddio fel arian cyfatebol ar gyfer rhaglenni
ariannol allanol ond gofyn am adroddiad pellach ar y Cynllun terfynol er mwyn
sicrhau ei fod yn cwrdd ag amcanion y Cyngor ac yn cynrychioli gwerth am arian. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan Uwch Reolwr
Economi a Chymuned a rhoddwyd crynodeb o gyd-destun a chefndir y rhaglen oedd
yn rhagweld hyd at £22m o gyllideb
cyfalaf ar gyfer Gogledd Cymru rhwng 2018 - 2021. Adroddwyd bod data Mynegrif Amddifadedd
Lluosog ar gyfer Cymru sydd yn defnyddio methodoleg clwstwr wedi ei ddefnyddio
ar gyfer adnabod yr ardaloedd (trefi) hynny gyda chanran uchaf o’r boblogaeth
sydd o fewn y 10% mwyaf difreintiedig yng Nghymru. O safbwynt blaenoriaethau’r
rhaglen TRI dros y cyfnod 2018 - 2021 blaenoriaethwyd prosiectau adfywio canol
tref ar gyfer 4 lleoliad - Rhyl, Bae Colwyn Wrecsam a Bangor. Pwysleisiwyd mai dyraniadau ariannol
tybiannol oedd wedi eu cynnig ac y byddai unrhyw ymrwymiad ariannol yn
ddibynnol ar gyflwyno Cynlluniau Prosiect fyddai’n cwrdd â gofynion Rhaglen
TRI. Nodwyd bod dyraniad rhanbarthol tybiannol Rhaglen TRI yng Ngwynedd yn
cynnwys £3m ar gyfer Cynllun Adfywio Canol Dinas Bangor, ynghyd a thua £1.5m ar
gyfer thema tai (adnewyddu adeiladau gwag) fyddai yn cyfrannu at
flaenoriaethu’r Strategaeth Ranbarthol (a gymeradwywyd gan y Cabinet
22.5.2018). Nodwyd bod Partneriaeth Strategol Dinas
Bangor wedi llunio strategaeth Adfywio ar gyfer y Ddinas ac adolygwyd y rhaglen
waith yn ystod yr Haf eleni gan gadarnhau blaenoriaethau fyddai yn cyfrannu at
brif amcanion a chanllawiau Rhaglen TRI. Cyfeiriwyd at y cynlluniau yn yr
adroddiad a mynegwyd bod angen gwaith rhagbaratoi pellach i ddatblygu cynigion
manwl. Amlygwyd bod modd cyflwyno ceisiadau am yr arian ar sail prosiectau unigol
yn hytrach nag fel un pecyn llawn. O ran ystyriaethau ariannol, atgoffwyd yr
aelodau mai cyllideb cyfalaf oedd yn cael ei ddarparu drwy’r Rhaglen TRI ac
uchafswm ymyrraeth Llywodraeth Cymru fesul prosiect fyddai 70%. Golygai hyn y
byddai angen sicrhau o leiaf 30% o arian cyfatebol. Er y byddai cydweithio gyda
phartneriaethau yn nodwedd amlwg ymhob
un o’r prosiectau, y corff arweiniol fyddai’n gyfrifol am ddatblygu manylion y
prosiect ynghyd a’r pecyn ariannu arfaethedig a’r arian cyfatebol. Amlygwyd y
byddai Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am arwain ar dri o’r prosiectau gyda’r bwriad
o gyfrannu / ryddhau £250k o’r Gronfa Cydariannu i gwrdd â’r bwlch ariannol.
Ategwyd bod Partneriaethau megis BIPBC, Prifysgol Bangor a CCG yn dymuno arwain
/ cyfrannu ar brosiectau eraill. Mewn ymateb i’r cyflwyniad, nodwyd nad oedd
cyfyngiad gwariant yr arian yn addas a bod angen yr arian ar draws y Sir.
Awgrymwyd bod hyn yn esiampl arall o arian Llywodraeth Cymru yn cael ei
ddosbarthu ar lefel rhanbarthol ac yna yn cael ei gyfyngu gan ganllawiau tynn. Mewn ymateb i sylw ynglŷn â llwyddiant tebygol y gwariant, nodwyd nad oedd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. Awdur: Llyr B Jones |