Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng Gareth Thomas

Penderfyniad:

Gweithredu ar y cynnig a gyhoeddwyd 4 Medi 2018 i gau Ysgol Glanadda a Babanod Coed Mawr ar 31 Awst 2020, a chynnig lle i’r disgyblion yn Ysgol y Garnedd (yn ddarostyngedig i ddewis rhieni); a chynyddu capasiti Ysgol y Garnedd i 420 yn weithredol 1 Medi 2020.

Cofnod:

PENDERFYNWYD

 

Gweithredu ar y cynnig a gyhoeddwyd 4 Medi 2018 i gau Ysgolion Glanadda a Babanod Coed Mawr ar 31 Awst 2020, a chynnig lle i’r disgyblion yn Ysgol y Garnedd (yn ddarostyngedig i ddewis rhieni); a chynyddu capasiti Ysgol y Garnedd i 420 yn weithredol 1 Medi 2020.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Gareth Thomas

 

Yn dilyn hysbysiad gan Lywodraeth Cymru bod cyfle i Awdurdodau Lleol  gyflawni prosiectau ychwanegol oddi mewn Band A Rhaglen Ysgolion 21ain Ganrif, llwyddodd Gwynedd i sicrhau bid i ad-drefnu ysgolion cynradd yn nalgylch Bangor. Cyflwynwyd adroddiad i’r Cabinet (Ionawr 2017) a chymeradwywyd yr argymhelliad i gynnal trafodaethau lleol yn unol â’r adroddiad ynglŷn ag adolygu darpariaeth addysg gynradd ym Mangor. Ym Mehefin 2017, sefydlwyd Panel Adolygu Dalgylch Bangor i drafod y nifer o opsiynau fyddai’n gwella a chynnal safon addysg.  Cyflwynwyd yr opsiynau i’r Cabinet ym Mawrth 2018 a chymeradwywyd yr argymhelliad i gynnal ymgynghoriad statudol ar y broses o adrefnu’r ysgolion cynradd. Cynhaliwyd ymgynghoriad statudol a derbyniwyd 68 ymateb a chyflwynwyd prif sylwadau’r ymgynghoriad hwnnw i’r Cabinet yng Ngorffennaf 2018. Penderfyniad y Cabinet yn y cyfarfod hwnnw oedd

 

Cymeradwyo'r cynnig i gau Ysgolion Glanadda a Babanod Coed Mawr ar 31 Awst 2020, a chynnig lle i’r disgyblion yn Ysgol y Garnedd (yn ddarostyngedig i ddewis rhieni); a chynyddu capasiti Ysgol y Garnedd i 420.

 

Cymeradwyo cyhoeddi rhybuddion statudol ar y cynnig i (i) uchod yn unol â gofynion Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

 

Yn dilyn y penderfyniad, cyhoeddwyd, yn unol â Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgol 2013, rybudd statudol ar y 4ydd o Fedi 2018 ac fe gynhaliwyd cyfnod o wrthwynebu statudol ar y cynnig (rhwng 4/9/18 a 2/10/18).

 

Amlygwyd bod un gwrthwynebiad wedi ei dderbyn yn ystod y cyfnod gwrthwynebu oedd yn ymwneud a materion trafnidiaeth, diogelwch plant, cyllid, addysg ag y Gymraeg. Ategwyd bod un ohebiaeth wedi cyrraedd yn hwyr yn y dydd a bod angen cyfarch yr ohebiaeth hynny fel rhan o’r trafodaethau.

 

Gwnaed cais i’r Cabinet gefnogi’r cynnig fyddai yn gwella adnoddau addysg yn sylweddol i blant Ysgol y Garnedd ynghyd a phlant Ysgolion Glan Adda a Coed Mawr.

 

Trafodwyd y gwrthwynebiadau.

 

Mewn ymateb i bryderon yn ymwneud a thraffig ar Ffordd Penrhos nododd  Uwch Reolwr Eiddo (Corfforaethol) bod pob ymgais wedi ei wneud i geisio lliniaru’r sefyllfa sydd yn creu trafferthion yn yr ardal yn ystod y boreau a’r prynhawniau. Nododd bod 30 lle parcio ychwanegol wedi ei gynllunio ar gyfer parcio staff ac ymwelwyr ynghyd a man gollwng fyddai yn cael ei reoli oddi ar y brif-ffordd. 

 

Amlygwyd bod cais cynllunio ar gyfer y datblygiad wedi ei gymeradwyo ym Mhwyllgor Cynllunio 5.11.18 gyda phryderon trafnidiaeth wedi eu trafod. Nodwyd bod yr Adran Trafnidiaeth yn hapus gyda’r cyfuniad newydd o addasiadau fyddai yn cyfarch y problemau.

 

Mewn ymateb i bryderon trafnidiaeth yn ystod y cyfnod adeiladu amlygwyd bod pob ymgais yn cael ei wneud i leihau unrhyw anghydfod i drigolion lleol. Ategwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda’r trigolion a bod ychydig o addasiadau wedi ei wneud i’r cynlluniau. Nodwyd bod cynllun rheolaeth traffig wedi ei lunio byddai’n parchu ystyriaethau trigolion lleol.

 

Awgrymwyd y gellid ystyried amseroedd agor a chau'r pum ysgol sydd yn yr ardal, fyddai’n lleihau dwysedd traffig. Mater i’r ysgolion eu hunain fydd penderfynu hyn.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â llwybrau cerdded, amlygwyd bod asesiad wedi ei wneud i ganfod cartrefi’r disgyblion, ac o ganlyniad bod y prif lwybrau cerdded yn cyrraedd yr ysgol o dri chyfeiriad gwahanol. Er nad oedd unrhyw fwriad newid y llwybrau, nodwyd y byddai gwaith yn cael ei wneud i hyrwyddo diogelwch ffyrdd gyda’r plant.

 

Er yr ymateb, nododd Aelod Ward Dewi bod sôn am gau un o’r llwybrau am ddwy flynedd wedi creu pryderon chwyrn ymysg trigolion lleol. Ymatebodd yr Uwch Reolwr drwy nodi bod trefniadau i gau rhai o’r llwybrau dros dro (am oddeutu 8 wythnos), ond hefyd roedd yn barod i drafod y mater gyda’r Aelod.

 

Yn manteisio ar ei hawl i siarad, nododd Aelod Lleol Ward Glyder y prif bwyntiau canlynol:

  • Ei bod yn gwbl gefnogol i’r ysgol newydd. Ategodd bod angen dybryd am  adeilad newydd a'i bod yn hapus iawn gyda’r dyluniad.
  • Croesawodd sylwadau'r Uwch Reolwr Eiddo am bryderon y llwybrau cyhoeddus a’i barodrwydd i gynnal trafodaethau lleol.
  • Tynnwyd sylw at drigolion Rhodfa Penrhos oedd wedi talu am wyneb newydd i’r rhodfa gan nad yw’r ffordd wedi ei mabwysiadu gan y Cyngor. Dymunodd yr Aelod Lleol weld bod y trigolion hyn yn cael eu digolledu yn llawn petai unrhyw ddifrod i’r rhodfa yn ystod y cyfnod datblygu.
  • Bod modd ystyried cadw Ysgol Glan Adda yn agored oherwydd bod cynnydd yn y niferoedd a’r ysgol o dan arweinyddiaeth newydd.
  • Bod rhieni Ysgol y Garnedd wedi dewis addysg Gymraeg i’w plant. Ategodd bod ethos arbennig gan yr ysgol a bod angen ymrwymiad a chefnogaeth y Cyngor i warchod Cymreictod yr ysgol.
  • Ei bod yn gefnogol i’r cynllun, bod y cyfnod yn un cyffrous a bod modd datrys rhwystrau ar y cyd.

 

Mewn ymateb i sylw am warchod y Gymraeg, amlygodd Aelod Cabinet Addysg, bod pob ysgol yng Ngwynedd gyda’r un polisi iaith. Gyda chryfder yr iaith yn Ysgol y Garnedd, nodwyd bod cyfle i gryfhau Cymreictod Bangor a bod defnydd o’r Siarter Iaith yn adnodd ychwanegol fyddai’n sicrhau defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg.

 

Ategodd y Swyddog Ardal mai rhesymol fyddai disgwyl gweld mwy o siaradwyr di Gymraeg yn yr ysgol a derbyniwyd bod gwaith cefnogol i’w wneud yn y tymor byr. Er hynny, adroddwyd bod nifer o blant di-gymraeg eisoes wedi mynychu Ysgol y Garnedd ac wedi llwyddo.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â chadw Ysgol Glan Adda yn agored, amlygodd y Swyddog Ardal bod sefyllfa ariannol y ddwy ysgol yn fregus ac er bod yr ysgol yn ymddangos yn llawn nid yw’r sefyllfa yn ddelfrydol nac yn gynaliadwy.

 

Mewn ymateb i’r ohebiaeth hwyr a dderbyniwyd oedd yn amlygu pryder nad oedd ymateb digon ffeithiol wedi cael ei gyflwyno i’r pryderon ieithyddol, nododd yr Aelod Cabinet Addysg bod asesiad ieithyddol wedi ei weithredu fel rhan o’r broses. Ategodd y dylai pob plentyn cael cyfle cyfartal a ni ddylai plant Cymraeg gael eu cadw arwahan. Ni ddylid amddifadu unrhyw blentyn rhag cael mynediad i adeilad ac adnodd newydd ac ni ddylid gwahaniaethu rhwng plant ar unrhyw sail.

 

Atgoffwyd yr aelodau bod y cynnig yn ganlyniad i gyfnod hir o gynllunio o fewn amserlen dynn ac y byddai unrhyw oediad ar y penderfyniad yn amharu ar gyfnod rhyddhau'r arian. Ategwyd bod camau statudol wedi eu cwblhau a phetai angen ymgynghori ar opsiwn arall byddai rhaid ail ddechrau’r broses.

 

Awdur:Diane Jones

Dogfennau ategol: