Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679729

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd Mair Rowlands, Morwena Edwards (Cyfarwyddwr Corfforaethol) ac Iwan Trefor Jones (Cyfarwyddwr Corfforaethol)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

 

4.

MATERIONED YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu.

 

5.

CONODION O GYFARFOD A GYNHALIWYD AR CHWEFROR 14 2017 pdf eicon PDF 182 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar y 14eg o Chwefror, 2017, fel rhai cywir.

 

6.

FFIOEDD CATREFI GOFAL ANNIBYNOL pdf eicon PDF 368 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr W Gareth Roberts

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

 

Cymeradwyo’r ffioedd canlynol ar gyfer 2017-18

 

Categori gofal

 

£ yr Wythnos

Preswyl

 

£507.45

Preswyl – Dementia/EMI

 

£566.75

Nyrsio

 

£587.23*

Nyrsio – Dementia/EMI

 

£617.93*

 

*Nid yw’n cynnwys cyfraniad Iechyd

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Gareth Roberts

 

PENDERFYNWYD

 

Cymeradwyo’r ffioedd canlynol ar gyfer 2017-18

 

Categori Gofal

 

£ yr wythnos

Preswyl

£507.45

Preswyl – Dementia/EMI

£566.75

Nyrsio

£587.23*

Nyrsio – Dementia/EMI

£617.93*

 

*Nid yw’n cynnwys cyfraniad Iechyd

 

TRAFODAETH

 

Yn flynyddol mae angen adolygu’r ffioedd cartrefi gofal annibynnol. Mae wedi ei nodi dan adran 35 o’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, fod gan y Cyngor ddyletswydd i ddiwallu anghenion gofal a chymorth oedolion sy’n preswylio’n arferol yn yr ardal. Nodwyd fod llawer o waith trafod wedi ei wneud gyda darparwyr, ac mae Grŵp Ffioedd Cartrefi Gofal Gogledd Cymru wedi gwneud llawer o waith ymchwil torfol.

 

Pwysleisiwyd fod categorïau amrywiol yn y maes, ac mae wedi amlygu fod gofal nyrsio yn her yng Ngwynedd, ac o ganlyniad mae’r ffioedd yn adlewyrchu’r straen ychwanegol ar nyrsio. Mynegwyd fod ffioedd yn amrywio o sir i sir ond fod yr amrediad yn isel ac o gwmpas rhyw £20.

 

‘Roedd y ffioedd ar ffurf drafft wedi bod yn Fforwm Darparwyr, nodwyd fod yr ymateb yn gadarnhaol.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-       Holwyd am bwynt 7 yn yr adroddiad a oedd yn Ddyfarniad Achos Llys. Nodwyd fod Achos Llys yn y Goruchaf Lys yn ystod mis Ebrill, a dadl a’i Awdurdod Lleol yntau’r Bwrdd Iechyd sydd am dalu am swm bychan o arian. Gall yr achos effeithio ar y ffioedd yma - ond bydd rhaid ystyried y sefyllfa ymhellach wedi i’r dyfarniad ddod i law.

 

Awdur: Aled Davies

7.

TROSGLWYDDO BALANSAU YSGOLION SY'N CAU - NEWID GEIRIAD CYNLLUN ARIANNU YSGOLION pdf eicon PDF 293 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr Gareth Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Newid geiriad cymal 4.8 o Gynllun Ariannu Ysgolion i ddarllen fel a ganlyn:

 

 

4.8       Gweddillion cau ysgolion ac amnewid ysgolion

Bydd gweddill unrhyw ysgol sy’n cau (boed y gweddill hwnnw yn warged neu’n ddiffyg) yn eiddo i’r Awdurdod; ni ellir ei drosglwyddo       fel gweddill i unrhyw ysgol arall, heblaw i ysgol a sefydlwyd fel canlyniad i’r cau hwnnw.  Mewn sefyllfa o’r fath trosglwyddir y gweddill i’r ysgol newydd o dan ddarpariaethau Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Gareth Thomas 

 

PENDERFYNWYD

 

Newid geiriad cymal 4.8 o Gynllun Ariannu Ysgolion i ddarllen fel a ganlyn:

 

4.8       Gweddillion cau ysgolion ac amnewid ysgolion

Bydd gweddill unrhyw ysgol sy’n cau (boed y gweddill hwnnw yn warged neu’n ddiffyg) yn eiddo i’r Awdurdod; ni ellir ei drosglwyddo fel gweddill i unrhyw ysgol arall, heblaw i ysgol a sefydlwyd fel canlyniad i’r cau hwnnw.  Mewn sefyllfa o’r fath trosglwyddir y gweddill i’r ysgol newydd o dan ddarpariaethau Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010.

 

TRAFODAETH

 

Nodwyd ar hyn o bryd fod y geiriad yn darllen fel y canlynol:

 

4.8       Gweddillion cau ysgolion ac amnewid ysgolion

Bydd gweddill unrhyw ysgol sy’n cau (boed y gweddill hwnnw yn warged neu’n ddiffyg) yn eiddo i’r Awdurdod; ni ellir ei drosglwyddo fel gweddill i unrhyw ysgol arall, hyn yn oed lle bo’r ysgol yn olynydd i’r ysgol sy’n cau

 

Ar hyn o bryd, os bydd ysgolion yn cau y bydd balansau yn mynd yn ôl i’r awdurdod. Nodwyd fod yr Adran Addysg yn teimlo ei bod yn fwy synhwyrol, os yw ysgol yn olynu’r ysgol sy’n cau, fod y balansau yn symud i’r ysgol newydd. Pwysleisiwyd fod y mater wedi ei drafod yn y Fforwm Cyllideb Ysgolion sydd yn argymell y newid, ac mae trafodaethau wedi bod gyda’r ysgolion.

Awdur: Owen Owens

8.

ADRODDIAD STEM GOGLEDD pdf eicon PDF 466 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr Mandy Williams-Davies

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r canlynol:

 

           Cadarnhau penderfyniad i Gyngor Gwynedd arwain y Cynllun Rhanbarthol ar ran y 4 Sir.

           Yn amodol ar gymeradwyaeth WEFO, fod yr aelod cabinet mewn ymgynghoriad a’r Pennaeth Cyllid a’r Pennaeth Economi yn derbyn y cynnig grant o hyd at £1,461,000.

           Cadarnhau fod Cyngor Gwynedd yn ymrwymo hyd at £150,000 o’r Gronfa Cydariannu tuag at y Cynllun.

Cofnod:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Mandy Davies-Williams

 

PENDERFYNWYD

 

Cymeradwyo’r canlynol:

 

  • Cadarnhau penderfyniad i Gyngor Gwynedd arwain y Cynllun Rhanbarthol ar ran y 4 Sir.
  • Yn amodol ar gymeradwyaeth WEFO, fod yr aelod cabinet mewn ymgynghoriad a’r Pennaeth Cyllid a’r Pennaeth Economi yn derbyn y cynnig grant o hyd at £1,461,000.
  • Cadarnhau fod Cyngor Gwynedd yn ymrwymo hyd at £150,000 o’r Gronfa Cydariannu tuag at y Cynllun.

 

 

TRAFODAETH

 

Nodwyd mai pwrpas y prosiect yw codi brwdfrydedd a sgiliau pobl ifanc yn benodol mewn pynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Pwysleisiwyd ei fod yn brosiect ar y cyd gyda 3 Awdurdod Lleol Gogledd Orllewin Cymru (Conwy, Môn a Dinbych) i roi cais am arian o gronfa gymdeithasol Ewropeaidd i ddatblygu’r cynllun.

 

Disgwylir dyfarniad WEFO a’r cynnig grant ym mis Ebrill 2017.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-       Nodwyd fod y cynllun yn un sy’n cael ei ariannu gan arian Ewropeaidd, a chodwyd  cwestiwn ynghylch beth fydd yn digwydd ar ôl 3 blynedd. Pwysleisiwyd fod prosiectau pellgyrhaeddol wedi ei ariannu gan arian Ewropeaidd dros y blynyddoedd. Nodwyd fod gwaith yn cael ei wneud gan y Llywodraeth yn gyfredol i geisio creu strategaeth.

-       Gan fod y prosiect wedi ei anelu at bobl ifanc 11-19 oed, holwyd  os oes gwaith yn cael ei wneud gyda’r oedran cynradd. Nodwyd fod cyfyngiadau ar y prosiect STEM ar gyfer oedran penodol, ac fod darpariaeth cynradd yn cael ei arwain drwy’r Bwrdd Uchelgais.

-       Trafodwyd deilliannau’r prosiect,   gan fod yr adroddiad yn nodi deilliannau rhanbarthol.  Cadarnhafwyd fod deilliannau  penodol  ar lefel  sirol ac  fesul ysgolion penodol.

-       Nodwyd brwdfrydedd wrth  annog y pynciau hyn, ond fod sicrhau athrawon yn y pynciau yn gallu bod yn her  – mynegwyd fod hyn yn bryder ond gall annog athrawon i’r dyfodol.

-       Awgrymwyd fod angen hefyd sicrhau fod Gwe yn rhan o unrhyw gynllun a chadarnhawyd fod hynny wedi digwydd.

 

Awdur: Catrin Thomas

9.

ADRODDIAD AD-TRAC GWYNEDD pdf eicon PDF 222 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr Mandy Williams-Daveis

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  • Cymeradwyo’r Pennaeth Economi a Chymuned i dderbyn cynnig grant o £1,203,437 yn amodol ar ddyfarniad Swyddfa Ariannu Ewrop i weithredu Cynllun AD-TRAC yng Ngwynedd.
  • Ymrwymo i gydariannu’r cynllun hyd at £492,095 drwy’r dull a nodir yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Mandy Williams-Davies

 

PENDERFYNWYD

 

  • Cymeradwyo’r Pennaeth Economi a Chymuned i dderbyn cynnig grant o £1,203,437 yn amodol ar ddyfarniad Swyddfa Ariannu Ewrop i weithredu Cynllun AD-TRAC yng Ngwynedd.
  • Ymrwymo i gydariannu’r cynllun hyd at £492,095 drwy’r dull a nodir yn yr adroddiad.

  

TRAFODAETH

 

Dyma brosiect ar y cyd gydag Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru, Grŵp Llandrillo-Menai a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i weithio gyda pobl ifanc 16-24 oed sydd ddim mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth drwy roi cefnogaeth ddwys i’w galluogi i symud yn nes at addysg, hyfforddiant neu waith. Pwysleisiwyd mai pobl ifanc mwyaf bregus y gymdeithas fydd yn rhan o’r prosiect hwn.

 

Nodwyd ei fod yn brosiect werth £1.2miliwn. Nodwyd fod diweddariad ers cyhoeddi’r adroddiad, sef bod WEFO wedi cadarnhau bod y Cynllun Busnes yn dderbyniol a bydd llythyr yn cadarnhau hyn ar fin cyrraedd. Bydd yn nodi y gall partneriaid y cynllun dracio eu gwariant, a hawlio’r cyllid, o 1 Mawrth.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth:

-       Nodwyd fod y math yma o brosiect yn sicrhau fod pobl ifanc bregus yn gallu sefyll ar eu traed eu hunain, a bod arian Ewropeaidd yn gallu cyflawni a newid bywydau pobl.

-       Holwyd a oedd targedau’r cynllun yn ddigon heriol – sef i wneud gwahaniaeth i fywydau dros hanner y cyfanswm o 450 o bobl ifanc y bydd y cynllun yn ceisio eu cyrraedd? Nodwyd bod angen i’r Cyngor weithiau fod yn ddigon mentrus i gychwyn ar ddull newydd o weithio a bod yn barod i fethu. Nod y cynllun fyddai gwneud gwahaniaeth i fywydau’r cyfanswm o 450.Pwysleiswyd fod cost y pen yng Ngwynedd yn uwch na siroedd eraill Gogledd Cymru oherwydd natur ddaearyddol a gwasgaredig y sir. Mae costau cludiant er mwyn i’r unigolion gyrraedd y ddarpariaeth ac ar gyfer y gweithwyr o’r herwydd yn uwch.

Nodwyd mai gwaith ataliol mae’r grant hwn yn dalu amdano. Mae gwaith ymchwil wedi dangos y gall y gost tymor hir i wasanaethau cyhoeddus fod cymaint a £140,000 i bob unigolyn, ac felly bod gwario rhwng £3,000-£11,000 y pen dros 2-3 mlynedd yn gost effeithiol.Nodwyd fod Trac a Ad-Trac yn gweithio o fewn Fframwaith Ymgysylltu Cenedlaethol - ac wedi cyfnod tair blynedd yr ymyrraeth grant y bydd ymarfer da o’r gwaith yma yn cael ei wreiddio i mewn i’r Fframwaith Ymgysylltu.

Awdur: Catrin Thomas

10.

MODEL LLYWODRAETHU RHANBARTHOL I WIREDDU'R WELEDIGAETH AR GYFER TWF ECONOMAIDD GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 191 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr Mandy Williams-Davies

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  1. Cefnogi’r model llywodraethu rhanbarthol a ffafrir- sef Cydbwyllgor statudol, i’w ddatblygu ymhellach
  2. Cyfarwyddo swyddogion ni weithio gyda chydweithwyr mewn cynghorau partner i ddatblygu cyfansoddiad manwl a chytundeb rhwng awdurdodau ar gyfer y Cydbwyllgor arfaethedig gan ei gyflwyno er mwyn rhoi ystyriaeth i’r Cyngor ymrwymo i fodel Cydbwyllgor statudol gyda’r pum cyngor partner, o fewn tri mis cyntaf tymor newydd y Cyngor.
  3. Nodi fod y Cyngor hwn hefyd yn disgwyl sicrhwydd o ran sefydlu Swyddfa Raglen a cael dealltwriaeth o’r strwythyr a dull ariannu’r Swyddfa honno pan yn cymeradwyo unrhyw gyfansoddiad / cytundeb.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Mandy Williams-Davies

 

PENDERFYNWYD

 

  1. Cefnogi’r model llywodraethu rhanbarthol a ffafrir- sef Cydbwyllgor statudol, i’w ddatblygu ymhellach
  2. Cyfarwyddo swyddogion i weithio gyda chydweithwyr mewn cynghorau partner i ddatblygu cyfansoddiad manwl a chytundeb rhwng awdurdodau ar gyfer y Cydbwyllgor arfaethedig gan ei gyflwyno er mwyn rhoi ystyriaeth i’r Cyngor ymrwymo i fodel Cydbwyllgor statudol gyda’r pum cyngor partner, o fewn tri mis cyntaf tymor newydd y Cyngor.
  3. Nodi fod y Cyngor hwn hefyd yn disgwyl sicrwydd o ran sefydlu Swyddfa Raglen/prosiect er mwyn cael  dealltwriaeth o atebolrwydd, y strwythur a dull ariannu’r Swyddfa honno pan yn cymeradwyo unrhyw gyfansoddiad / cytundeb.

 

TRAFODAETH

 

Ym Medi 2016 bu i’r Cabinet gymeradwyo’r Weledigaeth ar Gyfer Twf yr Economi yng Ngogledd Cymru. Nodwyd mai’r cam nesaf yw hwn, sef creu Cydbwyllgor Statudol er mwyn llywodraethu ac i edrych sut i fynd ymlaen a’r gwaith. Pwysleisiwyd mai’r bwriad yw dod a’r cynllun ger bron y Cyngor Llawn newydd o fewn 3 mis.

 

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-  Nodwyd ei bod yn gyfle i warchod a datblygu ardaloedd unigryw sy’n cynnal yr economi mewn ffordd wahanol a chynnal cymunedau unigryw yng Ngwynedd

-  O dderbyn y model llywodraethu, holwyd am Adnoddau digonol i gefnogi’r gwaith ee swyddfa Prosiect/rhaglen, a bod angen eglurder am yr Adnoddau ariannol ac Adnoddau dynol i gefnogi hynny.  Nodwyd hefyd yr angen am arweinydd fyddai’n atebol am y prosiect yn ei gyfanrwydd. 

 

Awdur: Iwan Trefor Jones

11.

STRATEGAETH AREDION 2015/16 - 17/18: ADRODDIAD CYNNYDD AR WIREDDU CYNLLUNIAU ARBEDION pdf eicon PDF 135 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr Peredur Jenkins

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  1. Nodi’r cynnydd calonogol tuag at wireddu’r cynlluniau arbedion 2015/16 - 17/18.
  2. Derbyn yn ffurfiol fod dau gynllun hanesyddol am ddisgyn yn fyr o’r targed arbedion sef:

Cynllun 2013/14

Hwb Rhanbarthol Gogledd Cymru

£29,684

Cynllun 2014/15

Galluogi

£121,000

 

Cyfanswm Arbedion I’r Dileu

£150,684

 

  1. Er mwyn cyflawni’r targed o £81,566 “Arbedion Trawsadrannol I’w Darganfod” yn 2016/17, cymeradwyo defnydd arbedion mae’r Adran Cyllid wedi eu gwireddu yn gynnar.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng.  Peredur Jenkins

 

PENDERFYNWYD

 

  1. . Nodi’r cynnydd calonogol tuag at wireddu’r cynlluniau arbedion 2015/16 - 17/18.
  2. Derbyn yn ffurfiol fod dau gynllun hanesyddol am ddisgyn yn fyr o’r targed arbedion sef:

Cynllun 2013/14

Hwb Rhanbarthol Gogledd Cymru

£29,684

Cynllun 2014/15

Galluogi

£121,000

 

Cyfanswm Arbedion i’r Dileu

£150,684

 

  1. Er mwyn cyflawni’r targed o £81,566 “Arbedion Trawsadrannol i’w Darganfod” yn 2016/17, cymeradwyo defnydd arbedion mae’r Adran Cyllid wedi eu gwireddu yn gynnar.

 

TRAFODAETH

 

Nodwyd fod yr  adroddiad cynnydd yn drosolwg o’r hyn sydd wedi ei gyflawni dros y ddwy flynedd diwethaf. Pwysleisiwyd mai cyfrifoldeb yr aelodau perthnasol o’r Cabinet yw gwireddu’r arbedion, gyda’r Aelod Cabinet Adnoddau yn  cadw trosolwg o’r darlun o’r arbedion yn ei gyfanrwydd.

 

Yn Strategaeth Ariannol 2016/17 mae £9,201,411 o arbedion wedi eu cynllunio, sef 141 cynllun.  O’r 141 o’r cynlluniau adrannol mae 128 wedi eu gwireddu yn llawn neu yn rhannol. Rhagwelir y bydd 94% o arbedion 2016/17 wedi eu gwireddu ar amser.

 

Mynegwyd fod angen dileu’r bwlch o £150,684 o ddau gynllun hanesyddol - “Galluogi” a “Hwb Rhanbarthol Gogledd Cymru”. Roedd y ddau gynllun wedi eu datblygu fel rhan o’r nod i adnabod £5m o arbedion Trawsadrannol, ond maent wedi cyflawni llai o arbedion nag oed wedi ei ragweld.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-       Pwysleisiwyd fod gwaith arbennig wedi ei wneud ar draws y Cyngor i sicrhau gwireddu’r  swm uchel o £9.2m.  Diolchwyd i bawb am y gwaith  gwaith arbennig sydd wedi bod ynghlwm â gwireddu’r arbedion hyn.

Parhau i fonitro y sefyllfa y flwyddyn ariannol ganlynol.

Awdur: Dafydd Edwards

12.

CYFLENWADAU DWR MANDDALIADAU pdf eicon PDF 389 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr Dafydd Meurig

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD

 

Cyflawni’r gwaith uwchraddio cyflenwadau dwr preifat mewn manddaliadau ar gost o hyd at £400,000 gan benderfynu ar ba ddull i’w ddefnyddio ar gyfer ei ariannu o’r 2 ddewis sydd ar gael wrth sefydlu Cynllun Rheoli Asedau newydd y Cyngor.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Dafydd Meurig

 

PENDERFYNWYD

 

Cyflawni’r gwaith uwchraddio cyflenwadau dwr preifat mewn manddaliadau ar gost o hyd at £400,000 gan benderfynu ar ba ddull i’w ddefnyddio ar gyfer ei ariannu o’r 2 ddewis sydd ar gael, wrth sefydlu Cynllun Rheoli Asedau newydd y Cyngor.

 

TRAFODAETH

 

Nodwyd fod 42 o fandaliaid ym mherchnogaeth y Cyngor ac mae 16 o’r rhain wedi ei lleoli mewn ardaloedd anghysbell, filltiroedd lawer o brif gyflenwadau dwr cyhoeddus. Mae Rheoliadau Cyflenwadau Dwr Preifat 2009  yn gosod safonau hylendid a ddisgwylir.  Er mwyn cyrraedd y safonau hyn, mae’n angenrheidiol bwrw ymlaen gyda’r gwaith uwchraddio. 

Nodwyd nad oes cyllid ar gael yn bresennol gan y Gwasanaeth Eiddo i wneud y gwaith anorfod yma.  Ystyriwyd yr opsiynau cyllido fel a ganlyn:

-       y stad man-ddaliadau, gan ystyried gwaredu o’r stad er mwyn ariannu

-       blaenoriaethau’r rhaglen gyfalaf yn sgil sefydlu yr ail gynllun rheoli asedau, sy’n cael ei ystyried yn gyfredol.

 

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

Nodwyd nad yw’r swm ar gyfer cyflawni y gwaith yn hollol glir hyd yma, ac ystyriwyd ei fod yn rhesymol gwneud eithriad y tro hwn i danysgrifio i un o’r opsiynau uchod yn hytrach nag adnabod ffynhonnell benodol er mwyn galluogi bwrw ymlaen gyda’r gwaith.

Awdur: Dafydd Gibbard

13.

YMESTYN Y TREFNIANT O DDARPARU'R GWASANAETH POLISI CYNLLUNIO AR Y CYD DRWY'R UNED POLISI CYNLLUNIO AR Y CYD GWYNEDD A MON pdf eicon PDF 139 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr Dafydd Meurig

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwyo’r cynnig i barhau’r trefniant o ddarparu’r Gwasanaeth Polisi Cynllunio ar y Cyd ar gyfer Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn am 5 mlynedd bellach.

                

Rhoi’r awdurdod i’r Pennaeth Rheoleiddio a’r Pennaeth  Gwasanaethau Cyfreithiol i adolygu a chytuno ar gytundeb cydweithio newydd i ymestyn y cyfnod a chydweithio i gynnwys:

  • Adolygu a chytuno ar drefniadau gweinyddu, gweithredu a rheoli’r Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd
  • Adolygu rôl y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd fel corf trawsffiniol ar gyfer gwneud penderfyniadau cyn adrodd yn ôl i’r Cabinet am gymeradwyaeth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Dafydd Meurig

 

PENDERFYNWYD

 

Cymeradwyo’r cynnig i barhau’r trefniant o ddarparu’r Gwasanaeth Polisi Cynllunio ar y Cyd ar gyfer Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn am 5 mlynedd bellach.

 

Rhoi’r awdurdod i Pennaeth Rheoleiddio a’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i adolygu a chytuno ar gytundeb cydweithio newydd i ymestyn y cyfnod a chydweithio i gynnwys:

  • Adolygu a chytuno ar drefniadau gweinyddu, gweithredu a rheoli’r Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd
  • Adolygu rôl y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd fel corff trawsffiniol ar gyfer gwneud penderfyniadau cyn adrodd yn ôl i’r Cabinet am gymeradwyaeth.

 

 

TRAFODAETH

 

Mae Gwynedd a Môn wedi bod yn cydweithio ar ddarparu Gwasanaeth Polisi Cynllunio ar y Cyd ers pum mlynedd bellach, ond mae’r cytundeb gwreiddiol yn dod i ben ddiwedd y flwyddyn, neu wedi i’r cynllun gael ei fabwysiadu gan y ddau awdurdod, pa bynnag un fydd gynharaf.  Bydd gwaith angenrheidiol yn parhau yn dilyn mabwysiadu’r cynllun er mwyn ei fonitro a’i adolygu ayyb.

 

Cafwyd adolygiad o’r gwaith a nodwyd fod y model cydweithio wedi torri tir newydd yn y maes polisi cynllunio ac mae’r model yn cael ei gydnabod gan Lywodraeth Cymru fel esiampl y dylai Awdurdodau Cynllunio eraill fod yn ei ystyried. Nodwyd yn ogystal fod y prosiect wedi gwneud arbediad o £600,000 rhwng y ddau Awdurdod.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-       Holwyd am niferoedd staffio yn lleihau, ac esboniwyd fod proffil staffio yn cyd-fynd â phroffil y gwaith sydd i’w gyflawni gan yr uned. 

 

Awdur: Dafydd WIlliams

14.

ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET OEDOLION A IECHYD pdf eicon PDF 248 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr W Gareth Roberts

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

a)    Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

b)    Cymeradwo ail broffilio gwireddu pedwar o’r cynlluniau arbedion fel a ganlyn:

 

Cyf

Cynllun

Proffil

Presennol

Proffil Amgen

 

 

2017/18

2017/18

2018/19

2019/20

OED22

Ystyried Tai Gwarchod/TGY fel llety amgen i wlâu preswyl

200,000

 

120,000

80,000

OED25

Adolygu Pecynnau cinio/te

100,000

25,000

75,000

 

OED34

Gwella effeithlonrwydd gweithwyr maes

113,000

38,000

75,000

 

C2

Dileu 2 swydd allan o 7.5 yn yr Uned cefnogi Systemau o fewn y Gwasanaeth Oedolion (Toriad)

60,0000

 

60,000

 

 

Cyfanswm

473,000

63,000

330,000

80,000

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Gareth Roberts

 

PENDERFYNWYD

 

a)    Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

b)    Cymderadwyo ail broffilio gwireddu pedwar o’r cynlluniau arbedion fel a ganlyn:

 

 

Cyf

Cynllun

Proffil

Presennol

Proffil Amgen

 

 

2017/18

2017/18

2018/19

2019/20

OED22

Ystyried Tai Gwarchod/TGY fel llety amgen i wlâu preswyl

200,000

 

120,000

80,000

OED25

Adolygu Pecynnau cinio/te

100,000

25,000

75,000

 

OED34

Gwella effeithlonrwydd gweithwyr maes

113,000

38,000

75,000

 

C2

Dileu 2 swydd allan o 7.5 yn yr Uned cefnogi Systemau o fewn y Gwasanaeth Oedolion (Toriad)

60,0000

 

60,000

 

 

Cyfanswm

473,000

63,000

330,000

80,000

 

 

TRAFODAETH

 

Nodwyd fod yr adran yn datblygu, fod newidiadau yn gwreiddio ac fod effaith y newidiadau yn cael eu teimlo yn raddol.  

 

 

Tynnodd yr  yr Aelod Cabinet sylw at ambell brosiect, gan gynnwys gweithio yn integredig a phrosiect Llys Cadfan.  Mae prosiect Llys Cadfan yn brosiect cyffrous sy’n gweithio tu allan i’r bocs.  Pwrpas y prosiect yw  rhoi cefnogaeth yn fwy lleol i bobl yn ne’r  Sir.

Tynnwyd sylw at fesurau perfformiad ac yn benodol at “bobl sy’n nodi y gallent wneud yr hyn sy’n bwysig iddynt” - mae’n fesur newydd i’r adran ac mae 57%yn teimlo eu bod yn gallu gwneud beth sy’n bwysig iddynt.

 

Nodwyd fod swm y gorwariant wedi gostwng o £168,000 i oddeutu £88,000.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-        Mewn ymateb i ymholiad, nodwyd y disgwylir adroddiad ar ganfyddiadau ac argymhellion gan (AGGCC) yn ystod yr wythnosau nesaf.  ,

Tynnwyd sylw at Fesur 5.7 - “cyfradd oedi wrth drosglwyddo gofal am resymau gofal cymdeithasol” - nodwyd fod trafodaethau yn digwydd ar hyn o bryd er mwyn ceisio gwella y sefyllfa. 

 

 

Awdur: Morwena Edwards

15.

ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET PLANT, PHOBL IFANC A HAMDDEN pdf eicon PDF 286 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr Mair Rowlands

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Dyfed Edwards yn absenoldeb Cyng. Mair Rowlands

                                                                                       

PENDERFYNWYD

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Nodwyd fod yr adroddiad cynhwysfawr sy’n nodi’r prosiectau yn y cynllun strategol. Pwysleisiwyd fod gwaith yn parhau gyda rhannau o’r gwasanaeth ieuenctid a hamdden i drawsffurfio a datblygu ar gyfer y dyfodol.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

-       Gofynwyd am adroddiad pellach i’r cyfarfod nesaf er mwyn esbonio os oes gwahaniaeth wedi digwydd i fywydau’r bobl ifanc sydd wedi derbyn achrediadau gan y gwasanaeth ieuenctid, ac ym mha ffordd y mae’r achrediadau wedi gwneud gwahaniaeth.

-       Gofynnwyd am esboniad am y gwahaniaeth yn y ffigurau am yr achrediadau gan y gwasanaeth ieuenctid gan nad oedd eglurder llawn.  

-       Cynnydd wedi bod mewn plant sydd mewn gofal – cafwyd cadarnhad fod  gwaith yn cael ei wneud, ac y bydd adroddiad yn mynd i’r Tîm Arweinyddiaeth.

 

Awdur: Morwena Edwards

16.

ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET ADNODDAU pdf eicon PDF 293 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr Peredur Jenkins

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr adroddiad a chymeradwyo ail broffilio’r Cynlun Peidio Talu’r ffi am dalu Treth Cyngor yn y swyddfa bost I 2018/19 yn hytrach na 2017/18 fel y bwriad gwreiddiol

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Peredur Jenkins

                                                                                       

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd yr adroddiad a chymeradwyo ail broffilio’r Cynllun Peidio Talu’r ffi am dalu Treth Cyngor yn y Swyddfa Bost i 2018/19 yn hytrach na 2017/18 fel y bwriad gwreiddiol

 

TRAFODAETH

 

Nodwyd fod 12 adolygiad gwasanaeth wedi eu cwblhau, yn ogystal a rhaglen hyrwyddo egwyddorion Ffordd Gwynedd ymysg rheolwyr Cynhelir sesiynau hyfforddiant mewnol pellach ar gyfer Rheolwyr o fis Ebill ymlaen, ac awgrymwyd y byddai o fudd i Aelodau Cabinet newydd fynychu’r sesiynau yma.

 

 

Nodwyd fod her mewn gwireddu cynllun toriad rhif 13 (peidio talu ffi am dalu Treth Cyngor yn y Swyddfa Bost) ac o ganlyniad bydd angen gwaith ymchwil pellach ar y prosiect hwn, ac felly angen ail broffilio’r arbediad i’w wireddu yn 2018/19.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-       Holwyd am system ffeilio electroneg (EDRMS) – esboniwyd ei fod yn system newydd  ar gyfer ffeilio yn electroneg, sydd yn lleihau y nifer ffeiliau sy’n cael eu cadw gan geisio sicrhau cadw’r ffeiliau hanfodol yn unig.

-       Nodwyd fod % dyddiau salwch yn cynyddu (er yn gymharol isel ar lefel Cymru) - a nodwyd fod nifer o’r rhain yn salwch tymor hir.

 

Awdur: Dilwyn Williams

17.

ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET TAI, GOFAL CWSMER A LLYFRGELLOEDD, AMDDIFADEDD A CHYDRADDOLDEB pdf eicon PDF 312 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Ioan Thomas

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Nodwyd fod tai fforddiadwy yn brosiect sydd yn mynd rhagddo gan gydweithio gyda Grwp Cynefin. Mae gwaith yn cael ei wneud ym Mhenygroes, Waunfawr, Llanuwchllyn a Bethesda.

 

Mynegwyd fod cynnydd wedi bod yn nifer y cyfeiriadau i’r Uned Ddigartrefedd, ac mae dirywiad yn y mesuriadau perfformiad. Ond mae gwaith yn cael ei wneud i geisio ymateb i’r angen.

 

Nodwyd fod y Cyngor wedi cytuno i dderbyn 40 o ffoaduriaid rhwng 2016-20. Gobeithir erbyn mis Ebrill eleni y bydd ugain o ffoaduriaid wedi eu derbyn i’r sir  ac wedi lletya yng Ngogledd y Sir.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-       Cywiriad i’w nodi yn % marwolaethau wedi eu cofrestru o fewn 5 diwrnod - angen ei gywiro o 5% i 95%

 

Awdur: Morwena Edwards

18.

BLAENRAGLEN Y CABINET pdf eicon PDF 267 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr Dyfed Edwards

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r Flaenraglen a gynhwyswyd yn y papurau i’r cyfarfod gyda newidiadau a ganlyn:

Cyflwyniad gan Ffion Johnstone – Gareth Roberts *

 

*Gareth Thomas oedd i’w weld yn y drafft.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Dyfed Edwards

 

PENDERFYNWYD

 

Cymeradwyd y Flaenraglen a gynhwyswyd yn y papurau i’r cyfarfod, yn amodol ar wneud yr addasiadau isod:

-       Cyng. Gareth Thomas – Newid enw’r Aelod Cabinet yn yr eitem Cyflwyniad gan Ffion Johnstone.