Cyflwynwyd gan:Cyng / Cllr Dafydd Meurig
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD
Cymeradwyo’r cynnig
i barhau’r trefniant o ddarparu’r Gwasanaeth Polisi Cynllunio ar y Cyd ar gyfer
Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn am 5 mlynedd bellach.
Rhoi’r awdurdod i’r
Pennaeth Rheoleiddio a’r Pennaeth
Gwasanaethau Cyfreithiol i adolygu a chytuno ar gytundeb cydweithio
newydd i ymestyn y cyfnod a chydweithio i gynnwys:
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Dafydd Meurig
PENDERFYNWYD
Cymeradwyo’r cynnig i barhau’r trefniant o ddarparu’r Gwasanaeth Polisi
Cynllunio ar y Cyd ar gyfer Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn am 5 mlynedd
bellach.
Rhoi’r awdurdod i Pennaeth Rheoleiddio a’r Pennaeth Gwasanaethau
Cyfreithiol i adolygu a chytuno ar gytundeb cydweithio newydd i ymestyn y
cyfnod a chydweithio i gynnwys:
TRAFODAETH
Mae
Gwynedd a Môn wedi bod yn cydweithio ar ddarparu Gwasanaeth Polisi Cynllunio ar
y Cyd ers pum mlynedd bellach, ond mae’r cytundeb gwreiddiol yn dod i ben
ddiwedd y flwyddyn, neu wedi i’r cynllun gael ei fabwysiadu gan y ddau
awdurdod, pa bynnag un fydd gynharaf.
Bydd gwaith angenrheidiol yn parhau yn dilyn mabwysiadu’r cynllun er mwyn
ei fonitro a’i adolygu ayyb.
Cafwyd
adolygiad o’r gwaith a nodwyd fod y model cydweithio wedi torri tir newydd yn y
maes polisi cynllunio ac mae’r model yn cael ei gydnabod gan Lywodraeth Cymru
fel esiampl y dylai Awdurdodau Cynllunio eraill fod yn ei ystyried. Nodwyd yn
ogystal fod y prosiect wedi gwneud arbediad o £600,000 rhwng y ddau Awdurdod.
Sylwadau
yn codi o’r drafodaeth
- Holwyd am niferoedd
staffio yn lleihau, ac esboniwyd fod proffil staffio yn cyd-fynd â phroffil y
gwaith sydd i’w gyflawni gan yr uned.
Awdur:Dafydd WIlliams
Dogfennau ategol: