Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679729

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

 

Dim ymddiheuriadau i’w cyhoeddi.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganodd y Prif Weithredwr fuddiant personol yn eitem 6 ar y rhaglen, oherwydd fod ei wraig yn gweithio i ddarparwr allasai gael ei effeithio gan weithrediadau’r cynllun gweithredu. Roedd y swyddog o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y siambr yn ystod y drafodaeth am yr eitem.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu.

5.

COFNODION O GYFARFOD A GYNHALIWYD AR 28 MAWRTH 2017 pdf eicon PDF 150 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar y 28 Mawrth, 2017, fel rhai cywir.

 

6.

ASESIAD DIGONOLRWYDD GOFAL PLANT 2017 - 2022 pdf eicon PDF 219 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. / Cllr Mair Rowlands

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  • Cymeradwyo’r Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant 2017-22 er gyfer ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru
  • Defnyddio’r adnoddau a chyllid presennol i fynd i’r afael a’r bylchau a amlygwyd yn yr Asesiad, a datblygu gofal plant ychwanegol lle bo’r angen, yn unol ar gynllun gweithredu.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Mair Rowlands

 

PENDERFYNWYD

 

  • Cymeradwyo’r Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant 2017-22 ar gyfer ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru
  • I ddefnyddio adnoddau a chyllid presennol i fynd i’r afael a’r bylchau a amlygwyd yn yr Asesiad, ac i ddatblygu gofal plant ychwanegol lle bo angen, yn unol ar cynllun gweithredu.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad ac Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant 2017-22, gan nodi fod yr Asesiad angen ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 30 Ebrill. Amlygwyd y bydd angen defnyddio adnoddau a chyllid presennol i fynd i’r afael a’r bylchau sydd wedi ei amlygu i gyd fynd a’r Cynllun Gweithredu.

 

Mae Deddf Gofal Plant 2006 (Asesiad Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2016, yn mynnu fod Awdurdodau Lleol yn paratoi Asesiad o ddigonolrwydd y ddarpariaeth gofal yn eu hardal ac yn adolygu y rhain yn rheolaidd. Nodwyd fod Cynllun Gweithredu yn adnabod y blychau o fewn yr asesiad ac mae trefn yn ei lle o fewn Canllawiau Statudol Gofal Plant.

 

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-       Holwyd sut y bydd y Cynllun 30 awr o ofal plant yn cydweithio a’r prosiect hwn. Nododd Rachel Jones ei bod wedi ysgrifennu’r asesiad ynghyd a gweithio gyda’r cynllun 30 awr o ofal plant, ac o ganlyniad bydd y ddau brosiect yn cydblethu.

-       Nodwyd yn adran Camau Gweithredu yn yr Asesiad nad oes llawer wedi ei nodi yn y golofn Cerrig Milltir felly holwyd pwy fydd a’r cyfrifoldeb fod y cerrig milltir yn digwydd. Pwysleisiwyd y bydd cerrig milltir ar gyfer pob cam gweithredu ynghyd a sefydlu Bwrdd Strategol Gofal Plant ar y cyd rhwng Gwynedd a Môn.

-       Cwestiynwyd pam y bu ymateb holiaduron rhieni yn yr ymgynghoriad mor isel – nododd Rachel Jones fod y Llywodraeth wedi cysoni yr asesiad a holiaduron dros Gymru a nodwyd o ganlyniad i hyn fod ymatebion wedi bod yn isel ar draws Cymru. Amlygodd Rachel yn ogystal ei bod wedi creu holiadur byr lleol ei hun yn ogystal er mwyn cael mwy o wybodaeth gan  rieni. 

-       Nodwyd fod grantiau yn cyd-fynd a’r Asesiad, ond natur grantiau yw e bod yn dod i ben a ble fydd yn hyn gadael y gwasanaeth. Pwysleiswyd fod hyn i’w weld ym mhob adran a bydd yr adran yn blaenoriaethu a edrych ar eu gwasanaethau.

-       Pan yn edrych ar y Gymraeg, holwyd os y bydd y cynllun a’r gofal plant sydd ar gael yn cyd-fynd a polisi iaith yr adran addysg. Amlygwyd fod yr eirfa a ddefnyddwyd yn yr holiadur yn nodi os y ddarpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg ond yn cwblhau gwaith papur drwy gyfrwng y Seasneg wedi eu nodi fel lleioliad sy’n gweithio yn ddwyieithog er fod y ddarpariaeth ar gael drwy’r Gymraeg i’r plant. Pwylsieswyd mai dilyn geifra Llywodraeth Cymru oedd yr holiadur a nodwyd fod angen cadarnhau fod y ddarpariaeth ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.

-       Mynegwyd fod trafodaeth ar hyn o bryd i ddatblygu cynllun gofal rhyngenhedlaeth yn digwydd gyda Prifysgol Bangor i ddod a gofal plant a gofal pobl hyn at ei gilydd,  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

Awdur: Rachel Jones