Cyflwynwyd gan:Cyng. / Cllr Mair Rowlands
Penderfyniad:
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr eitem gan Cyng. Mair Rowlands
PENDERFYNWYD
TRAFODAETH
Cyflwynwyd
yr adroddiad ac Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant 2017-22, gan nodi fod yr
Asesiad angen ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 30 Ebrill. Amlygwyd y bydd
angen defnyddio adnoddau a chyllid presennol i fynd i’r afael a’r bylchau sydd
wedi ei amlygu i gyd fynd a’r Cynllun Gweithredu.
Mae Deddf
Gofal Plant 2006 (Asesiad Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2016, yn mynnu fod Awdurdodau
Lleol yn paratoi Asesiad o ddigonolrwydd y ddarpariaeth gofal yn eu hardal ac
yn adolygu y rhain yn rheolaidd. Nodwyd fod Cynllun Gweithredu yn adnabod y
blychau o fewn yr asesiad ac mae trefn yn ei lle o fewn Canllawiau Statudol
Gofal Plant.
Sylwadau yn codi o’r drafodaeth
- Holwyd sut y bydd y Cynllun 30
awr o ofal plant yn cydweithio a’r prosiect hwn. Nododd Rachel Jones ei bod
wedi ysgrifennu’r asesiad ynghyd a gweithio gyda’r cynllun 30 awr o ofal plant,
ac o ganlyniad bydd y ddau brosiect yn cydblethu.
- Nodwyd yn adran Camau Gweithredu
yn yr Asesiad nad oes llawer wedi ei nodi yn y golofn Cerrig Milltir felly
holwyd pwy fydd a’r cyfrifoldeb fod y cerrig milltir yn digwydd. Pwysleisiwyd y
bydd cerrig milltir ar gyfer pob cam gweithredu ynghyd a sefydlu Bwrdd
Strategol Gofal Plant ar y cyd rhwng Gwynedd a Môn.
- Cwestiynwyd pam y bu ymateb
holiaduron rhieni yn yr ymgynghoriad mor isel – nododd Rachel Jones fod y
Llywodraeth wedi cysoni yr asesiad a holiaduron dros Gymru
a nodwyd o ganlyniad i hyn fod ymatebion wedi bod yn isel ar draws Cymru.
Amlygodd Rachel yn ogystal ei bod wedi creu holiadur byr lleol ei hun yn
ogystal er mwyn cael mwy o wybodaeth gan
rieni.
- Nodwyd fod grantiau yn cyd-fynd
a’r Asesiad, ond natur grantiau yw e bod yn dod i ben a ble fydd yn hyn gadael
y gwasanaeth. Pwysleiswyd fod hyn i’w weld ym mhob
adran a bydd yr adran yn blaenoriaethu a edrych ar eu gwasanaethau.
- Pan yn edrych ar y Gymraeg,
holwyd os y bydd y cynllun a’r gofal plant sydd ar gael yn cyd-fynd a polisi
iaith yr adran addysg. Amlygwyd fod yr eirfa a ddefnyddwyd
yn yr holiadur yn nodi os y ddarpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg ond yn cwblhau
gwaith papur drwy gyfrwng y Seasneg wedi eu nodi fel lleioliad sy’n gweithio yn ddwyieithog er fod y
ddarpariaeth ar gael drwy’r Gymraeg i’r plant. Pwylsieswyd mai dilyn geifra
Llywodraeth Cymru oedd yr holiadur a nodwyd fod angen cadarnhau fod y
ddarpariaeth ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Mynegwyd fod trafodaeth ar hyn o
bryd i ddatblygu cynllun gofal rhyngenhedlaeth yn digwydd
gyda Prifysgol Bangor i ddod a gofal plant a gofal pobl hyn at ei gilydd,
nodwyd fod yr adran yn gobeithio y bydd perthynas rhwng y cynllun hwn a’r
asesiad.
Cyn terfynu diolchodd Arweinydd y Cyngor i swyddogion y Cyngor am eu cefnogaeth yn ystod ei gyfnod fel Arweinydd y Cyngor.
Awdur:Rachel Jones
Dogfennau ategol: