Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679729
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd W. Gareth Roberts a Dafydd Edwards
(Pennaeth Cyllid). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganwyd buddiant gan y Cynghorydd Gareth Thomas ar gyfer eitem 6 gan fod
ganddo berthynas yn gweithio i’r Gwasanaeth Llyfrgell. Roedd yn fuddiant sy’n
rhagfarnu. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd
unrhyw faterion brys. |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd
unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu. |
|
COFNODION O GYFARFOD A GYNHALIWYD AR 7 MAWRTH 2017 PDF 218 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Cabinet a
gynhaliwyd ar y 7fed Mawrth, 2017, fel rhai cywir. |
|
PEIRIANNAU HUNANWASANAETH LLYFRGELLOEDD PDF 262 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo’r cais
am £74,412 o’r Gronfa Drawsffurfio ar gyfer prynu a mewnosod 9 peiriant hunan
wasanaeth yn y 9 prif lyfrgell. Cofnod: Cyflwynwyd
yr eitem gan Cyng. Ioan Thomas PENDERFYNWYD Cymeradwyo’r cais
am £74,412 o’r Gronfa Drawsffurfio ar gyfer prynu ac mewn osod 9 peiriant hunan
wasanaeth yn y 9 prif lyfrgell. TRAFODAETH Nodwyd fod
y Cabinet wedi mabwysiadu Strategaeth “Mwy na Llyfrau 2016-2020” ar gyfer y
Gwasanaeth Llyfrgell, sydd yn arwain at newid yn y ddarpariaeth lyfrgell drwy
symud o ddarparu 17 llyfrgell i 9 brif lyfrgell. Mae trafodaeth wedi bod gyda defnyddwyr gwasanaeth y Llyfrgelloedd ac maent
wedi nodi eu bod eisiau hwyluso eu hymweliad. Bydd y peiriannau yn rhoi mwy o
amser i staff i gynorthwyo defnyddwyr gwasanaeth. Pwysleisiwyd mai nod y
cynllun oedd codi safon y gwasanaeth yn hytrach na gwneud unrhyw arbedion.
Nodwyd fod dau beiriant hunan wasanaeth ar gael yn sir ar hyn o bryd sydd wedi
dangos gwerth y peiriannau i’r gwasanaeth. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth - Holwyd os
bydd defnyddio'r peiriannau hunanwasanaeth yn orfodol, ond nodwyd y bydd staff
ar gael er mwyn gwneud y gwaith yn ogystal os bydd yr angen yn codi. - Nodwyd y bydd yn moderneiddio’r gwasanaethau a
hyrwyddo mynediad i wasanaethau. - Nodwyd fod yr hen beiriannau yn dod i
ddiwedd ei hoes, ac felly ni fydd modd
eu defnyddio mewn lleoliadau eraill ond byddant
yn cael ei
ailgylchu. Awdur: Catrin Thomas |
|
CYNLLUN Y CYNGOR 2017/18 - CEISIADAU AM ADNODDAU YCHWANEGOL PDF 104 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Mandy Williams-Davies & Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd
yr eitem gan y Cyng. Ioan Thomas a Cyng. Mandy Williams-Davies PENDERFYNWYD
TRAFODAETH Ar gyfer yr holl gynlluniau
darparodd yr aelod cabinet perthnasol wybodaeth ar lafar ynglŷn â faint o
adnodd a ddarparwyd ar gyfer y cynlluniau yma yn y gorffennol a faint oedd ar
ôl yn parhau i’w wario.
I.
Nodwyd fod yr adroddiad yn pwysleisio’r prif ddeilliannau a
gweithgareddau sydd o Gynllun Cydymdrechu yn erbyn tlodi ar gyfer y flwyddyn
sydd i ddod. Yn dilyn trafodaethau gyda
phartneriaid, nodwyd fod ffigyrau yn yr argymhelliad wedi newid i’r hyn sydd
wedi ei nodi yn yr adroddiad. Mynegwyd fod y cynllun yn cynnwys rhaglen o ymyraethau sy’n
cynnwys darparu sgiliau i ymdopi a rheoli incwm, sgiliau i gael mynediad at
wybodaeth a mynediad ar waith ac i atal segurdod economaidd. Sylwadau o’r drafodaeth - Trafodwyd rheswm dros y
llithriad o bron i £74,000 a ddylid fod wedi ei wario yn ystod y flwyddyn
ariannol. Nodwyd mai’r rheswm dros hyn oedd bod cais am arian wedi mynd i
Gronfa’r Loteri gan y partneriaid a'u bod yn parhau i aros am yr ymateb gan y
gronfa.
I.
Mynegwyd fod budd mewn codi ymwybyddiaeth i’r swyddi gwerth uchel
ac amlygu fod angen y gefnogaeth o fewn y sir. Nodwyd fod newid i’r ffigyrau yn
yr argymhelliad o’i gymharu â’r hyn sydd wedi ei nodi
yn ar adroddiad. Sylwadau o’r drafodaeth - Nodwyd fod twf mewn pobl ifanc
sy’n cychwyn busnesau yn y sir a phwysleisiwyd pwysigrwydd cefnogi’r busnesau
yma.
II.
Mynegwyd fod y Cynllun Datblygu Gwynedd Wledig yn un sy’n rhoi cyfleoedd cyffroes yn yr
ardal ac yn un sy’n bwysig iawn i’r ardal. Nodwyd fod angen y cyllid er mwyn
parhau’r cynllun am flwyddyn ychwanegol. Sylwadau’r o’r drafodaeth - Nodwyd mai arian Ewropeaidd yw’r
arian hwn, ac mae’n tanlinellu'r risgiau mwyaf o adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae
cyfnod heriol yn wynebu’r Cyngor wrth edrych ar arian Ewropeaidd, ond mae cyfle
i’r prosiect hwn barhau am flwyddyn ychwanegol.
III.
Mae’r prosiect hwn yn cefnogi digwyddiadau proffil uchel ac mae’n
gyfle i gydweithio ac mewn partneriaeth â mudiadau eraill. Nodwyd fod angen i’r
Cyngor newydd gael trafodaeth ar beth a ystyrir yn waith craidd adrannau a beth
sy’n brosiectau. Sylwadau o’r drafodaeth - Nid yr arian sy’n bwysig wrth edrych ar ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. Awdur: Catrin Thomas & Dylan Griffiths |
|
CYNLLUN Y CYNGOR 2017/18 P9 POBL IFANC A'R DERFNYDD O'R GYMRAEG YN GYMDEITHASOL PDF 367 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Gareth Thomas & Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ymrwymo
£40,000 o gyllid ychwanegol o’r
Gronfa Drawsffurfio er
mwyn gweithredu Strategaeth Iaith Uwchradd er mwyn arwain at gynnydd pellach
mewn defnydd cymdeithasol a chwricwlaidd disgyblion o’r Gymraeg. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Cyng. Gareth Thomas PENDERFYNWYD Ymrwymo £40,000 o gyllid ychwanegol o’r Gronfa Drawsffurfio er mwyn
gweithredu Strategaeth Iaith Uwchradd er mwyn arwain at gynnydd pellach mewn defnydd
cymdeithasol a chwricwlaidd disgyblion o’r Gymraeg. TRAFODAETH Nodwyd fod y
Siarter Iaith Gynradd wedi ennill ei blwy yn Genedlaethol. Wedi iddo fod yn
brosiect arloesol yng Ngwynedd, erbyn hyn mae wedi ei ledaenu yn Genedlaethol. Bellach
mae’r plant mewn ysgolion cynradd oedd yn manteisio o’r Siarter yn symud i
ysgolion uwchradd. Nodwyd fod cwmni
Trywydd wedi paratoi adroddiad yn edrych ar ddefnydd yr iaith Gymraeg yn yr
ysgolion uwchradd. Mae’r argymhellion oedd i’w gweld yn yr adroddiad hwn wedi
eu hymgorffori yn y Strategaeth Iaith Uwchradd. Sylwadau
yn codi o’r drafodaeth - Nodwyd
fod newid mawr yn digwydd yn gymdeithasol rhwng y Cynradd a’r Uwchradd, gyda pwysau i ddefnyddio’r Saesneg yn hytrach
na’r Gymraeg. Mae her sylweddol i wrthwneud hyn. - Pwysleisiwyd
fod angen dilyniant o’r Cynradd i’r Uwchradd ac mae’n gam pwysig ymlaen. - Holwyd os
oes ystyriaeth wedi bod o wneud y cam o Siarter Iaith Uwchradd i Siarter Iaith
Cyflogwyr, gan mai dyma le mae’r angen am ddefnydd o’r Gymraeg (e.e. yn y
siopau lleol). Mae angen rhoi'r siarter
iaith yn ei gyd-destun a’i fod yn dylanwadu ar ddefnydd cymdeithasol y Gymraeg
yn gyffredinol, nid gan blant yn unig. Awdur: Garem Jackson |
|
CYNLLUN ASEDAU'R CYNGOR 2009/10 I 2018/19 PDF 252 KB Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr Peredur Jenkins Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
iv. Defnyddio £800,000 o’r adnodd hefyd i atgyfnerthu’r gyllideb cynnal a chadw o 1 Ebrill 2017 gan adael y gweddill i’r Cyngor newydd ei ystyried wrth drafod arbedion a chynllun asedau’r dyfodol. Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Cyng. Peredur Jenkins PENDERFYNWYD
TRAFODAETH Yn 2009 yn dilyn asesiad o anghenion gwariant Cyfalaf y Cyngor, ac o
ganlyniad i nad oedd digon o adnoddau gan y Cyngor i gyfarch holl anghenion
cynhaliwyd cyfres o weithdai gydag aelodau’r Cyngor i geisio
sefydlu beth oedd blaenoriaethau cyfalaf y Cyngor am y 10 mlynedd i ddod. O
ganlyniad i hyn sefydlwyd Cynllun Asedau’r Cyngor, a fabwysiadwyd gan y Cyngor. Nodwyd ei fod yn gynllun hanfodol pwysig a bod disgwyl i’r cyngor newydd
greu cynllun yn fuan yn y flwyddyn ariannol nesaf ar gyfer 2018/19 - 2027/28.
Nodwyd mai adroddiad er mwyn adrodd yn ôl a chau pen y mwdwl ar rai agweddau
o’r cynllun gwreiddiol. Dros gyfnod y Cynllun roedd y Cynllun yn rhagweld
gwariant cyfalaf dros 10 mlynedd o £143.8m. Sylwadau
yn codi o’r drafodaeth: - Wedi bod yn gynllun da sydd wedi caniatâd i
fuddsoddi yn y maes ysgolion. Gwaith pwysig wedi ei gyflawni a gwaith pwysig yn
parhau i gael ei wneud. Awdur: Dilwyn Williams |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET ADDYSG PDF 198 KB Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr Gareth Thomas Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Cyng. Gareth Thomas. PENDERFYNWYD
TRAFODAETH Yn dilyn craffu a dadansoddi perfformiad yn ystod yr haf, mae codi
safonau Cyfnod Sylfaen wedi ei bwysleisio fel blaenoriaeth. Mae’r Bwrdd Ansawdd
Sirol yn parhau i fynd rhagddi ac yn dangos cynnydd. Nodwyd mai dim ond dwy ysgol sydd mewn unrhyw gategori dilyniant ar hyn
o bryd a dim ond dwy ysgol mewn categori coch. Mynegwyd bellach nad oes un
ysgol mewn category statudol a dim ond dwy ysgol sydd
mewn categori Monitro Estyn, mae’r ddwy ysgol wedi gwneud cynnydd disgwyliedig
ar y cyflymder priodol. Nodwyd fod gwaith ar Ysgol Bro Idris ac Ysgol Glancegin
yn mynd rhagddo. Mae trafodaethau yn parhau gyda Llywodraethwyr am statws ysgol
dalgylch Y Bala. Pwysleisiwyd fod dwy ysgol wedi cael ei gwobrwyo gan Estyn am ei
rhagoriaeth sef Ysgol Cae Top ac Ysgol Morfa Nefyn a bu i Cyng. Gareth Thomas
longyfarch y ddwy ysgol. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth - Nodwyd fod cynnydd sylweddol wedi ei wneud
yn y maes, ac mae newid wedi bod mewn diwylliant. Mae gwell eglurdeb wrth
edrych ar eglurdeb a disgwyliadau. Dymunwyd yn dda i’r Pennaeth Addysg sydd yn gadael ei swydd bresennol i fynd i weithio fel Rheolwr Gyfarwyddwr GwE, a diolchwyd yn fawr am ei waith. Awdur: Iwan Trefor Jones |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD Y DIRPRWY ARWEINYDD PDF 338 KB Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
ii.
Cymeradwywyd ail broffilio’r Cynllun Arbedion yng nghyllideb y
Crwner (DaCh13) i 2018/19 yn hytrach 2017/18 fel y bwriad gwreiddiol a
amlinellir ym mhwynt 6.2 yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr eitem gan
y Cyng. Dyfrig
Siencyn PENDERFYNWYD
i.
Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn adroddiad
ii.
Cymeradwywyd ail broffilio’r Cynllun Arbedion yng nghyllideb y Crwner
(DaCh13) i 2018/19 yn hytrach 2017/18 fel y bwriad gwreiddiol a amlinellir ym
mhwynt 6.2 yn yr adroddiad. TRAFODAETH Nodwyd fod gwaith hyrwyddo’r Gymraeg mewn cymunedau yn mynd rhagddi ym Mangor, Dolgellau a Porthmadog. Mae’n rhaglen waith sydd
wedi ei chyd gytuno gyda Llywodraeth Cymru sy’n cyllido’r gwaith drwy Hunaniaith. Mae trafodaeth wedi ei gynnal gyda’r Gweinidog
er mwyn trafod y syniad o gael datblygu cynlluniau ei hunain, gan fod yr ardal
yn wahanol i eraill gan fod mwyafrif y boblogaeth yn siarad Cymraeg. Nodwyd fod arbedion yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol wedi ei gwireddu ac
mae un llithriad sef Arbedion yng nghyllideb y Crwner sydd gyfwerth â £13,795. Sylwadau
yn codi o’r drafodaeth - Nodwyd
gyda mesurau perfformio fod nifer pobl Gwynedd sy’n fodlon â gwybodaeth am yr
hyn mae’r Cyngor yn ei wneud ac am ei wneud yn y dyfodol yn 54%. Mynegwyd ei
fod yn isel i feddwl fod Her Gwynedd wedi cael ei gynnal yn ystod y flwyddyn
ddiwethaf. Mae angen parhau'r gwaith yma
a meddwl sut i godi ymwybyddiaeth gydag amrywiaeth o bobl. Awdur: Dilwyn WIlliams |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD PDF 169 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Penderfynwyd gau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod
yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir
gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 14, Rhan 4, Atodlen
12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.Gofynnir i gadw’r eitem yn eithriedig o dan yr
adran isod: 14.10.2 Gwybodaeth Eithriedig – Disgresiwn i Wahardd y
Cyhoedd Mae’r adroddiad yn cynnwys gwybodaeth yn ymwneud â
manylion cytundeb a threfniadau gwerthiant nad yw’n hysbys ar hyn o bryd. Mae’r
wybodaeth yn cael ei ystyried yn eithriedig yn unol â chategori 14, gan ei fod
yn wybodaeth sy’n ymwneud â materion ariannol neu fusnes unigolyn penodol. O
ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig
ac yn gorbwyso unrhyw fudd cyhoeddus o’i ddatgelu. |
|
TIR YN LLANRUG Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Dafydd Meurig Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Dirprwyo
hawl i’r Pennaeth Rheoleiddio mewn ymgynghoriad a’r Pennaeth Addysg i brynu
llain o dir yn Llanrug ac yn sgil y pryniant, rheolaeth briodol o’r safle, yn
unol ar adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
y Cyng. Dafydd Meurig PENDERFYNWYD Dirprwyo hawl i’r Pennaeth Rheoleiddio mewn ymgynghoriad
a’r Pennaeth Addysg i brynu llain o dir
yn Llanrug ac yn sgil y pryniant,
rheolaeth briodol o’r safle, yn unol ar adroddiad. TRAFODAETH Mae cyfle wedi codi i brynu safle
yn Llanrug at ddibenion addysg all gyfrannu at ehangu opsiynau ar gyfer
cynllunio addysg i’r dyfodol. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth -
Nododd yr Aelod Lleol Cyng. Charles Wyn Jones fod
cefnogaeth yn lleol i brynu’r tir. -
Pwysleisiwyd ‘mai prynu tir ar gyfer y dyfodol
mae’r Cyngor ac nid oes cynllun penodol ar hyn o bryd Mynegwyd fod angen rheolaeth gywir o’r tir ar ôl ei brynu Awdur: Arwyn Thomas & Diane Jones |