Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng/Cllr. Mandy Williams-Davies & Ioan Thomas

Penderfyniad:

  1. Ymrwymo £121,255 o gyllid ychwanegol o’r Gronfa Drawsffurfio , ar gyfer ymestyn y cynllun ‘Cydymdrechu yn erbyn tlodi’ ar gyfer 2017-18 i wireddu ymrwymiadau sy’n rhan o Gynllun y Cyngor 2017-18.
  2. Ymrwymo £117,000 o gyllid ychwanegol o’r Gronfa Drawsffurfio, ar gyfer ymestyn y cynllun ‘Swyddi gwerth uchel ac o ansawdd’ ar gyfer 2017-18 i wireddu ymrwymiadau sy’n rhan o Gynllun y Cyngor 2017-18.
  3. Ymrwymo £23,000 o gyllid ychwanegol o’r Gronfa Drawsffurfio ar gyfer ymestyn Cynllun Datblygu Gwynedd Wledig ar gyfer 2017-18 i wireddu ymrwymiadau sy’n rhan o Gynllun y Cyngor 2017-18.
  4. Ymrwymo £42,000 o gyllid ychwanegol o’r Gronfa Drawsffurfio, ar gyfer ymestyn y cynllun ‘ Digwyddiadau Proffil Uchel a Strategol’ ar gyfer 2017-18 i wireddu ymrwymiadau sy’n rhan o Gynllun y Cyngor 2017-18.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Ioan Thomas a Cyng. Mandy Williams-Davies

 

PENDERFYNWYD

 

  1. Ymrwymo £121,255 o gyllid ychwanegol o’r Gronfa Drawsffurfio ar gyfer ymestyn y cynllun ‘Cydymdrechu yn erbyn Tlodi’ ar gyfer 2017-18 i wireddu ymrwymiadau sy’n rhan o Gynllun y Cyngor 2017-18.
  2. Ymrwymo £117,000 o gyllid ychwanegol o’r Gronfa Drawsffurfio ar gyfer ymestyn y cynllun ‘Swyddi Gwrth Uchel ac o Ansawdd’ ar gyfer 2017-18 i wireddu ymrwymiadau sy’n rhan o Gynllun y Cyngor 2017-18.
  3. Ymrwymo £23,000 o gyllid ychwanegol o’r Gronfa Drawsffurfio ar gyfer ymestyn Cynllun Datblygu Gwynedd Wledig ar gyfer 2017-18 i wireddu ymrwymiadau sy’n rhan o Gynllun y Cyngor 2017-18.
  4. Ymrwymo £42,000 o gyllid ychwanegol o’r Gronfa Drawsffurfio ar gyfer ymestyn y cynllun ‘Digwyddiadau Proffil Uchel a Strategol’ ar gyfer 2017-18 i wireddu ymrwymiadau sy’n rhan o Gynllun y Cyngor 2017-18.

 

TRAFODAETH

 

Ar gyfer yr holl gynlluniau darparodd yr aelod cabinet perthnasol wybodaeth ar lafar ynglŷn â faint o adnodd a ddarparwyd ar gyfer y cynlluniau yma yn y gorffennol a faint oedd ar ôl yn parhau i’w wario.

 

              I.        Nodwyd fod yr adroddiad yn pwysleisio’r prif ddeilliannau a gweithgareddau sydd o Gynllun Cydymdrechu yn erbyn tlodi ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.  Yn dilyn trafodaethau gyda phartneriaid, nodwyd fod ffigyrau yn yr argymhelliad wedi newid i’r hyn sydd wedi ei nodi yn yr adroddiad.

 

Mynegwyd fod y cynllun yn cynnwys rhaglen o ymyraethau sy’n cynnwys darparu sgiliau i ymdopi a rheoli incwm, sgiliau i gael mynediad at wybodaeth a mynediad ar waith ac i atal segurdod economaidd. 

 

Sylwadau o’r drafodaeth

-   Trafodwyd rheswm dros y llithriad o bron i £74,000 a ddylid fod wedi ei wario yn ystod y flwyddyn ariannol. Nodwyd mai’r rheswm dros hyn oedd bod cais am arian wedi mynd i Gronfa’r Loteri gan y partneriaid a'u bod yn parhau i aros am yr ymateb gan y gronfa.

 

              I.        Mynegwyd fod budd mewn codi ymwybyddiaeth i’r swyddi gwerth uchel ac amlygu fod angen y gefnogaeth o fewn y sir. Nodwyd fod newid i’r ffigyrau yn yr argymhelliad o’i gymharu â’r hyn sydd wedi ei nodi yn ar adroddiad.

 

Sylwadau o’r drafodaeth

-   Nodwyd fod twf mewn pobl ifanc sy’n cychwyn busnesau yn y sir a phwysleisiwyd pwysigrwydd cefnogi’r busnesau yma.

 

            II.        Mynegwyd fod y Cynllun Datblygu Gwynedd Wledig  yn un sy’n rhoi cyfleoedd cyffroes yn yr ardal ac yn un sy’n bwysig iawn i’r ardal. Nodwyd fod angen y cyllid er mwyn parhau’r cynllun am flwyddyn ychwanegol.

 

Sylwadau’r o’r drafodaeth

-   Nodwyd mai arian Ewropeaidd yw’r arian hwn, ac mae’n tanlinellu'r risgiau mwyaf o adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae cyfnod heriol yn wynebu’r Cyngor wrth edrych ar arian Ewropeaidd, ond mae cyfle i’r prosiect hwn barhau am flwyddyn ychwanegol.

 

           III.        Mae’r prosiect hwn yn cefnogi digwyddiadau proffil uchel ac mae’n gyfle i gydweithio ac mewn partneriaeth â mudiadau eraill. Nodwyd fod angen i’r Cyngor newydd gael trafodaeth ar beth a ystyrir yn waith craidd adrannau a beth sy’n brosiectau.

 

Sylwadau o’r drafodaeth

-   Nid yr arian sy’n bwysig wrth edrych ar y prosiect yma ond y gefnogaeth a’r profiad sy’n cael ei gynnig gan yr adran i’r cwmnïau sy’n trefnu digwyddiadau.

-   Nodwyd hefyd fod y digwyddiadau yma yn rhan o godi ymwybyddiaeth am y sir, ac yn rhoi budd economaidd.

 

 

 

Awdur:Catrin Thomas & Dylan Griffiths

Dogfennau ategol: