Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sophie Hughes  01286 679729

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

COFNODION:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd Dyfed Edwards.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

COFNODION:

Oherwydd natur Eitem 10, datganodd yr holl Aelodau oedd yn bresennol fuddiant personol. Gan nad oedd yn fuddiant sy’n rhagfarnu, byddai gan yr aelodau yr hawl i gymryd rhan yn y drafodaeth ac i bleidleisio ar y mater.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

COFNODION:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

COFNODION:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu.

5.

COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR YR 22ain O DACHWEDD 2016 pdf eicon PDF 327 KB

Dogfennau ychwanegol:

COFNODION:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar y 22ain o Dachwedd, 2016, fel rhai cywir.

6.

DYFODOL DARPARIAETH ADDYSG YN NALGYLCH YSGOL Y BERWYN pdf eicon PDF 340 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Gareth Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Gohirio’r ystyried yr argymhellion yn yr adroddiad er mwyn ystyried yr ohebiaeth ddiweddaraf a dderbyniwyd gan yr Eglwys yng Nghymru ynghyd a’r farn gyfreithiol a dderbyniwyd hefyd.

 

Rhoi amser i swyddogion gynnal trafodaethau lleol pellach.

COFNODION:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Gareth Thomas.

 

PENDERFYNWYD

 

Gohirio’r ystyried yr argymhellion yn yr adroddiad er mwyn ystyried yr ohebiaeth ddiweddaraf a dderbyniwyd gan yr Eglwys yng Nghymru ynghyd a’r farn gyfreithiol a dderbyniwyd hefyd.

 

Rhoi amser i swyddogion gynnal trafodaethau lleol pellach.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Addysg y sefyllfa yn dilyn yr ohebiaeth ddiweddar gyda’r Eglwys Yng Nghymru. Nododd fod y Cabinet wedi penderfynu ar yr 2il o  Fehefin 2015 i gau Ysgol Bro Tegid, Ysgol Beuno Sant ac Ysgol y Berwyn a sefydlu Campws Dysgu 3-19 Cyfrwng Cymraeg gyda statws Gwirfoddol a Reolir, Eglwys yng Nghymru yn ei le. Mae’r cynllun wedi bod yn mynd rhagddo gyda’r effaith eisoes yn cael ei weld yn Y Bala, gyda’r adnoddau diwylliannol a’r cae 3G yn cael eu defnyddio. Pwysleisiwyd mai mater llywodraethu sydd o dan sylw, a bod  

y cynllun yn parhau.

 

Ym Medi 2016 cyfarfu’r Pennaeth Addysg a’r Esgobaeth er mwyn eu diweddaru ar gynnydd y cynllun. Yn fuan wedi’r cyfarfod derbyniwyd llythyr bygythiol gan gynrychiolwyr cyfreithiol yr Esgobaeth oedd yn gwneud dau brif bwynt. Yn gyntaf: “The Diocese of St Asaph will not be able to consider such a school so promoted as a Church in Wales school.” Ac yn ail: “For a local authority to force site trustees into a position where their private value is unnecessarily reverted is most improper.” Nododd yr Aelod Cabinet fod y sefyllfa yn parhau i ddatblygu, gyda’r Adran Addysg yn cynnal deialog gyda’r Esgobaeth.

 

Nododd y Swyddog Monitro ei fod yn hyderus fod y broses gyfreithiol wedi ei dilyn yn briodol.Roedd wedi ceisio eglurhad pellach ar rai pwyntiau a nodwyd, a phwysleisiodd bwysigrwydd ystyried y cyngor yma pan fyddai’n cael ei dderbyn.

 

Sylwadau yn codi:

-       Syndod nad oedd ystyriaeth wedi ei roi i Addysg y plant yng ngohebiaeth yr Eglwys, gan mai hynny sy’n ganolog i’r cynllun.

-       Rhwystredigaeth fod oedi yn y prosiect a’r buddion  sy’n deillio ohono.

-       Anghrediniaeth ar y datblygiadau, gan bwysleisio mai mater o lywodraethiant sydd yma, fydd ddim yn arafu’r gwaith adeiladu o gwbl.

-       Fod angen rhannu gwybodaeth am y sefyllfa’n lleol.

 

Awdur: Iwan T Jones

7.

MATER YN CODI O'R PWYLLGOR CRAFFU - ARBEDION EFFEITHLONRWYDD PELLACH pdf eicon PDF 213 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Dafydd Meurig

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn y rhaglen o wireddu’r arbedion a drafodwyd yn Cabinet y Cyngor ar 12 Gorffennaf 2016, gyda £278,000 i’w gwrdd o’r cynlluniau amgen a nodir yn rhan 3.7 – 3.18 o’r adroddiad.

 

COFNODION:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Dafydd Meurig.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn y rhaglen o wireddu’r arbedion a drafodwyd yng Nghabinet y Cyngor ar 12 Gorffennaf 2016, gyda £278,000 i’w gwrdd o’r cynlluniau amgen a nodir yn rhan 3.7 - 3.18 o’r adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Nododd yr Aelod Cabinet Adnoddau bod yr adroddiad wedi ei gyflwyno i’r Cabinet o’r blaen, ac wedi bod trwy’r broses Craffu yn y cyfamser. Nododd hefyd fod yma gynllun sy’n diwallu anghenion am arbedion effeithlonrwydd yn yr Adran Rheoleiddio, ond yn gwneud hynny mewn ffordd wahanol i’r ffordd a fwriadwyd yn wreiddiol. Yn wreiddiolroedd bwriad i ddod a’r Gwasanaeth Difa Pla i ben, ond wedi i Craffu alw’r penderfyniad i mewn penderfynwyd ailedrych ar y sefyllfa. Wedi adolygu’r penderfyniad, daethpwyd i’r canlyniad fod modd i’r gwasanaeth gynyddu ei incwm i gyfarch a’r arbedion angenrheidiol.

 

Awdur: Dafydd W Williams

8.

CYD-LEOLI GWASANAETHAU pdf eicon PDF 311 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Dafydd Meurig

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Comisiynu’r Gwasanaeth Eiddo Corfforaethol i asesu’r portffolio Eiddo mewn lleoliadau penodol ar draws y Sir, gyda’r nod o geisio adnabod cyfleoedd i gyd leoli gwasanaethau er mwyn gallu gwneud defnydd mwy effeithlon o adeiladau’r Cyngor.

COFNODION:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Dafydd Meurig

 

PENDERFYNWYD

 

Comisiynu’r Gwasanaeth Eiddo Corfforaethol i asesu’r portffolio Eiddo mewn lleoliadau penodol ar draws y Sir, gyda’r nod o geisio adnabod cyfleoedd i gyd leoli gwasanaethau er mwyn gallu gwneud defnydd mwy effeithlon o adeiladau’r Cyngor.

 

TRAFODAETH

 

Nododd yr Aelod Cabinet Adnoddau fod y Gwasanaeth Eiddo wedi bod yn gweithio ers 2008 ar leihau’r nifer o adeiladau sydd yn eiddo i’r Cyngor. Bu i’r gwaith fynd yn anos wrth i’r portffolio eiddo leihau, felly wrth edrych ar gyfleoedd i wneud y defnydd mwyaf effeithlon o adeiladau’r Cyngor, byddai’r Gwasanaeth Eiddo yn edrych am gyfleoedd i gydleoli gwasanaethau.

 

Ategodd yr Uwch Reolwr Eiddo Corfforaethol yr Aelod Cabinet, gan nodi fod y Gwasanaeth Eiddo yn bwriadu cydweithio gyda phartneriaid eraill er mwyn cydleoli gwasanaethau. Ychwanegodd hefyd fod stad y Cyngor 25% yn llai nac yn 2008.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth:

-       Croesawu’r cydweithio a’r synnwyr cyffredin, ond bod angen gwneud yn siŵr fod y cyd-leoli yn gweithio i’r cymunedau.

 

Awdur: Dafydd Gibbard

9.

PRYDLESU CYN YSGOL BRON Y FOEL, Y FRON pdf eicon PDF 168 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Dafydd Meurig

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Defnyddio pwerau Caniatâd Gwaredu Cyffredinol (Cymru) 2003 i brydlesu cyn safle Ysgol Bron y Foel, Y Fron yn uniongyrchol i Canofan y Fron am lai na rhent y farchnad, er mwyn sicrhau buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

 

COFNODION:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Dafydd Meurig

 

PENDERFYNWYD

 

Defnyddio pwerau Caniatâd Gwaredu Cyffredinol (Cymru) 2003 i brydlesu cyn safle Ysgol Bron y Foel, Y Fron yn uniongyrchol i Canolfan y Fron am lai na rhent y farchnad, er mwyn sicrhau buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

 

TRAFODAETH

 

Nododd yr Aelod Cabinet Adnoddau fod  pwerau Caniatâd Gwaredu Cyffredinol (Cymru) 2003 yn caniatáu i’r Cyngor lesu eiddo am lai na phris y farchnad a hepgor y cyfle i waredu’r eiddo a chynhyrchu derbynneb cyfalaf os oedd buddion economaidd, cymdeithasol neu amgylcheddol yn cael eu darparu. Nododd fod polisi Ôl-ddefnydd Adeiladau Ysgolion a fabwysiadwyd gan Fwrdd y Cyngor yn 2009 yn rhoi’r cyfle cyntaf i gymunedau sydd wedi cael eu heffeithio gan gynlluniau trefniadaeth ysgolion i gyflwyno cynllun busnes er mwyn gwneud defnydd cymunedol o’r adeiladau a’u cadw yn rhan o’r gymuned. Gwerth yr adeilad ar y farchnad agored oedd oddeutu £70,000, a chynigwyd y brydles am 99 mlynedd.

 

Yn mis Hydref 2016, derbyniodd y grŵp grant o £945,000 o arian CAT 2 y Loteri Genedlaethol. ‘Roedd yn un o amodau creiddiol y grant yw nad oedd posib ei ddefnyddio i brynu/prydlesu eiddo, a llwyddodd y cais ar y sail y byddai’r Cyngor yn cefnogi’r fenter trwy ddarparu’r adeilad.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth:

·         Cydnabod fod ad-drefnu ysgolion yn medru bod yn broses boenus i’r cymunedau a effeithir, a’i bod yn bwysig ceisio cadw defnydd cymunedol i’r adeilad.

·         Ei fod yn newyddion gwych fod buddsoddiad o’r fath wedi ei ddenu i Wynedd, a llongyfarchiadau i’r grŵp a’u hymrwymiad i’r cynllun.

·         Fod pryder am gynaliadwyedd y cynllun busnes, oes yno sicrwydd na fydd yr adeilad yn cael ei ddychwelyd ymhen ychydig flynyddoedd?

 

Mewn ymateb, nododd yr Uwch Reolwr Eiddo fod y cynllun busnes wedi ei asesu’n drwyadl gan y Gwasanaeth Eiddo, yn ogystal â’r Loteri Genedlaethol yn ystod y broses o ddyfarnu’r grant.

 

Awdur: Dafydd Gibbard

10.

BLAENORIAETHAU CYLLIDEBOL A CHYLLIDEBAU YSGOLION UWCHRADD pdf eicon PDF 306 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Dyfed Edwards & Gareth Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  1. Fod y Cabinet yn comisiynu cynllun i’w osod yn ein Cynllun Strategol ar gyfer 2017/18 i asesu ble ddylai’r llinell warchodaeth fod ar gyfer y Sector Uwchradd er mwyn defnyddio’r wybodaeth hwnnw wrth sefydlu cyllideb 2018/19;

 

  1. Gan dderbyn fod yna drafodaethau wedi cychwyn gyda rhanddeiliaid ar asesu’r broblem, y dylid tanlinellu’r angen i’r Cyngor newydd ystyried canlyniadau’r trafodaethau hynny yn fuan yn oes y Cyngor er mwyn sefydlu datrysiad hir dymor cynaliadwy ar gyfer y sector Uwchradd;

 

  1. Er mwyn prynu amser i hynny ddigwydd, ein bod yn gofyn i’r Aelod Cabinet dros Adnoddau geisio pontio am ddwy flynedd y £298,990 y mae disgwyl i’r sector Uwchradd ei ddarganfod i’w ariannu o falansau;

 

  1. Er mwyn osgoi gwastraffu adnoddau drwy ddiswyddo ac ail gyflogi, fod gofyn i’r Aelod cabinet dros Adnoddau hefyd ystyried cynnwys yn ei gyllideb ar gyfer 2017/18 arian pontio i’r ysgolion hynny fyddai’n colli arian oherwydd lleihad yn y niferoedd plant gan ystyried hefyd y defnydd o falansau ysgolion unigol mewn unrhyw gynllun a gynigir.

 

COFNODION:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Gareth Thomas

 

PENDERFYNWYD

 

  1. Fod y Cabinet yn comisiynu cynllun i’w osod yn ein Cynllun Strategol ar gyfer 2017/18 i asesu ble ddylai’r llinell warchodaeth fod ar gyfer y Sector Uwchradd er mwyn defnyddio’r wybodaeth hwnnw wrth sefydlu cyllideb 2018/19;

 

  1. Gan dderbyn fod yna drafodaethau wedi cychwyn gyda rhanddeiliaid ar asesu’r broblem, y dylid tanlinellu’r angen i’r Cyngor newydd ystyried canlyniadau’r trafodaethau hynny yn fuan yn oes y Cyngor er mwyn sefydlu datrysiad hir dymor cynaliadwy ar gyfer y sector Uwchradd;

 

  1. Er mwyn prynu amser i hynny ddigwydd, ein bod yn gofyn i’r Aelod Cabinet dros Adnoddau geisio pontio am ddwy flynedd y £298,990 y mae disgwyl i’r sector Uwchradd ei ddarganfod i’w ariannu o falansau;

 

  1. Er mwyn osgoi gwastraffu adnoddau drwy ddiswyddo ac ail gyflogi, fod gofyn i’r Aelod cabinet dros Adnoddau hefyd ystyried cynnwys yn ei gyllideb ar gyfer 2017/18 arian pontio i’r ysgolion hynny fyddai’n colli arian oherwydd lleihad yn y niferoedd plant gan ystyried hefyd y defnydd o falansau ysgolion unigol mewn unrhyw gynllun a gynigir.   

 

TRAFODAETH

         

Nododd yr Aelod Cabinet Addysg ei bod yn amlwg ers cryn amser fod angen canfod datrysiad hir dymor cynaliadwy i sefyllfa gyllido addysg Uwchradd yng Ngwynedd a bod gwaith ar droed i wneud hynny. Yn y cyfamserroedd mwy o ysgolion yn anelu am y llinell warchodaeth, chwestiynau yn codi hefyd ynglŷn ag a yw’r llinell warchodaeth honno yn y lle iawn. Roedd yn amserol felly comisiynu cynllun er mwyn ystyried eto lefel y linell warchodaeth ar gyfer y Sector Uwchradd.

 

Gan fod angen ystyried canlyniadau’r trafodaethau ar ddyfodol y sector Uwchradd byddai angen amser ychwanegol i gyflawni targed arbedion y Sector Uwchradd os am wneud hynny heb waethygu sefyllfa addysg Uwchradd o fewn y sir.

 

Daeth i’r amlwg hefyd fod y cyfanswm sirol o niferoedd disgyblion ysgolion uwchradd y sir yn disgyn yn 2017/18 ond yn codi wedyn yn y ddwy flynedd ganlynol. Gan fod ariannu ysgolion unigol yn cael ei ddyrannu yn ôl y nifer o ddisgyblion, darbodus felly fyddai pontio’r diffyg fydd yn cael ei achosi gan y gostyngiad yn niferoedd y disgyblion. Golyga hynny ei bod yn bosib i’r ysgolion unigol osgoi diswyddo ac ail benodi staff mewn cyfnod cymharol fyr, gan osgoi costau diswyddo ac aflonyddu ar addysg y disgyblion.

 

Ychwanegodd fod safonau addysg wedi codi yn raddol ers 2012, ac y byddai cynnal y cyllid yn galluogi’r gwelliant yna barhau.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth:

-       Ei bod yn sefyllfa ddyrys pan mae niferoedd disgyblion yn gostwng ac ysgolion yn wynebu colli staff a pheryglu cynnydd mewn safonau.

-       Ei bod yn well gwneud penderfyniad cynnar i bontio’r diffyg cyn i’r sefyllfa fynd yn argyfyngus.

-       Oes yno le i ysgolion ddefnyddio eu balansau i bontio’r diffyg?

 

Mewn ymateb nododd y Pennaeth Cyllid fod lefel balansau ysgolion unigol yn mynd i gael ei ystyried wrth ddyrannu’r cyllid pontio  ...  view the full COFNODION text for item 10.

Awdur: Dilwyn O Williams

11.

ADRODDIAD PERFFORMIAD: AELOD CABINET PLANT, POBL IFANC A HAMDDEN pdf eicon PDF 219 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Mair Rowlands

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cymeradwyo ail broffilio gwireddu rhan o gynllun arbedion effeithlonrwydd ‘HAM4 - Rhedeg cyfleusterau yn fwy effeithiol’ (cyfanswm o £256,500), o’r flwyddyn ariannol 2017/18 i 2018/19.

                   

2015/16

2016/17

2017/18

2018/19

Cyfanswm

40,000

267,500

75,758

256,500

639,758

 

COFNODION:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Mair Rowlands.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cymeradwyo ail broffilio gwireddu rhan o gynllun arbedion effeithlonrwydd ‘HAM4 - Rhedeg cyfleusterau yn fwy effeithiol’ (cyfanswm o £256,500), o’r flwyddyn ariannol 2017/18 i 2018/19.

 

2015/16

2016/17

2017/18

2018/19

Cyfanswm

40,000

267,500

75,758

256,500

639,758

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Plant, Pobl Ifanc a Hamdden ei hadroddiad perfformiad. Adroddodd na fyddai grant Teuluoedd yn gyntaf yn cael ei dorri ar gyfer 2017-18. Byddai cyllid ar gael ar gyfer cyfnod trosiannol hyd at Hydref 2017, pan fyddai gwasanaethau yn cael cynnig i gael eu hail-gomisiynu gyda grant am dair neu bedair blynedd. Nododd fod cynnydd cyffredinol yn y mesurau perfformiad, gyda’r nifer o bobl ifanc oedd wedi derbyn achrediadau trwy’r gwasanaeth wedi cynyddu.Roedd y gwaith o ail fodelu gwasanaethau ieuenctid wedi dechrau, gyda’r gwaith ymgysylltu gyda’r bobl ifanc yn mynd yn ei flaen. 

 

Tynnodd yr Uned Dechrau’n Deg sylw i’r ffaith nad oedd y mesuryddion perfformiad o reidrwydd y ffordd orau i fesur eu perfformiad, yn benodol BC01, BC02, BC03 a BC04. Bu’r uned yn gweithio ar fesurau newydd fydd yn adlewyrchu eu perfformiad.

 

Roedd pryder ynglŷn â mesur SCC024 a SCC025, gyda gwaith yn mynd rhagddo i gyfathrebu pwysigrwydd y Cynllun Addysg Bersonol ymysg ysgolion er mwyn gwella SCC024. Cynyddodd SCC025 oherwydd bod mwy o blant mewn gofal yng Ngwynedd, ac roedd gwaith yn mynd ymlaen i wella cofnodi ymweliadau statudol yng ngwyneb y cynnydd yn y galw.

 

Adroddodd fod cynlluniau arbedion yn yr adran Plant a Chefnogi Teuluoedd yn cael eu cyflawni yn amserol, ond gan fod cynnydd yn y galw rhagwelwyd gorwariant o £168,000.

 

Nododd fod holl gynlluniau arbedion 2016/17 yr adran Economi a Chymuned wedi eu gwireddu, ond fod y Gwasanaeth Hamdden wedi cael trafferth canfod yr arbedion pellach yng nghynllun 2017/18.Roedd y datrysiad a ganfuwyd yn un heriol a byddai angen mwy o amser i wireddu’r arbedion yn llawn ac osgoi gorwariant wrth drawsffurfio’r gwasanaeth.

 

Awdur: Iwan Trefor Jones

12.

ADRODDIAD PERFFORMIAD: AELOD CABINET ADDYSG pdf eicon PDF 183 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Gareth Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cymeradwyo’r ffigyrau proffil amgen isod ar gyfer Cynllun P7 Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol:

             

2016/17

2017/18

2018/19

2019/20

Cyfanswm

26,238

98,356

436,004

247,863

808,461

 

COFNODION:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Gareth Thomas

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cymeradwyo’r ffigyrau proffil amgen isod ar gyfer Cynllun P7 Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol:

             

2016/17

2017/18

2018/19

2019/20

Cyfanswm

26,238

98,356

436,004

247,863

808,461

 

TRAFODAETH

 

Adroddodd yr Aelod Cabinet addysg fod perfformiad yr adran Addysg yn gyffredinol dda, yn enwedig yn y sector uwchradd. Fodd bynnag bu perfformiad y sector gynradd wedi bod yn statig, yn enwedig yn y cyfnod sylfaen, ac felly ‘roedd amser edrych yn fanylach ar hynny.

 

Mae canlyniadau CA4 Gwynedd wedi bod y gorau yng Nghymru ers 4 mlynedd bellach ac mae hynny i’w ganmol. Er mwyn parhau gyda’r safonau uchel yma sefydlwyd Bwrdd Ansawdd Sirol er mwyn i’r Awdurdod a GwE gael darlun cyflawno berfformiad y sector uwchradd a chynradd. ‘Roedd gweithredu’r model newydd o gefnogi ysgolion hefyd yn dwyn ffrwyth, gyda 89.2% o ysgolion Gwynedd wedi eu categoreiddio yn y dyfarniadau uchaf a dim un o ysgolion Gwynedd mewn categori statudol.

 

Nododd fod angen cysoni a gwella perfformiad ym mhynciau mathemateg a Saesneg, gyda gwaith wedi dechrau gyda Phrifysgol Bangor er mwyn adnabod darpar athrawon a’u hyfforddi.

 

Bu rhywfaint o gynnydd wrth ganfod arbedion yn yr adran, ond ‘roedd cydweithio gyda Môn i gyflawni arbedion cynllun Trawsffurfio’r Ddarpariaeth Adnoddau Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad wedi achosi llithro yn yr amserlen oherwydd trafodaethau i ymuno mewn partneriaeth ffurfiol. Golyga’r llithriad yma fod angen ail broffilio’r cynllun arbedion.

 

Awdur: Iwan Trefor Jones

13.

ADRODDIAD PERFFORMIAD: AELOD CABINET ADNODDAU pdf eicon PDF 305 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Peredur Jenkins

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Gyrru llythyr i Lywodraeth Cymru yn gofyn iddynt sicrhau y bydd taliadau Lefi Prentisiaeth a wneir yn dod yn ôl i’r Cyngor ar gyfer cyflogi prentisiaid.

COFNODION:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Peredur Jenkins

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Gyrru llythyr i Lywodraeth Cymru yn gofyn iddynt sicrhau y bydd taliadau Lefi Prentisiaeth a wneir yn dod yn ôl i’r Cyngor ar gyfer cyflogi prentisiaid.

 

TRAFODAETH

 

Adroddodd yr Aelod Cabinet Adnoddau ei fod yn gyffredinol gyfforddus gyda lefelau perfformiad ei bortffolio.

 

Nododd fod cwmni Vanguard wedi bod i mewn i gynnal hyfforddiant a bod rhaglen datblygu arweinwyr Ffordd Gwynedd ar waith.

 

‘Roedd cynnydd wedi deillio o fabwysiadu’r Strategaeth TG, gan ganolbwyntio ar ddatblygu hunan wasanaeth.

 

Nododd fod £7.6 miliwn o gynlluniau arbedion effeithlonrwydd yn cael sylw, a golyga hynny fod strategaeth a sefyllfa ariannol y Cyngor tipyn cadarnach.

 

Byddai’r Cyngor yn gorfod talu Lefi Prentisiaeth i Lywodraeth San Steffan yn y dyfodol, fydd oddeutu £600,000 o gost ychwanegol.Roedd yn aneglur faint ohono fydd yn cael ei ddychwelyd i Gymru trwy’r Fformiwla Barnett, ac nad oedd y Cynulliad wedi rhannu unrhyw gynlluniau am ei wariant gyda’r Cyngor. Er mwyn ceisio cael eglurder ar y mater awgrymwyd gyrru llythyr i’r Cynulliad i geisio mwy o wybodaeth.

Awdur: Dilwyn O Williams