Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng/Cllr. Dyfed Edwards & Gareth Thomas

Penderfyniad:

  1. Fod y Cabinet yn comisiynu cynllun i’w osod yn ein Cynllun Strategol ar gyfer 2017/18 i asesu ble ddylai’r llinell warchodaeth fod ar gyfer y Sector Uwchradd er mwyn defnyddio’r wybodaeth hwnnw wrth sefydlu cyllideb 2018/19;

  1. Gan dderbyn fod yna drafodaethau wedi cychwyn gyda rhanddeiliaid ar asesu’r broblem, y dylid tanlinellu’r angen i’r Cyngor newydd ystyried canlyniadau’r trafodaethau hynny yn fuan yn oes y Cyngor er mwyn sefydlu datrysiad hir dymor cynaliadwy ar gyfer y sector Uwchradd;

  1. Er mwyn prynu amser i hynny ddigwydd, ein bod yn gofyn i’r Aelod Cabinet dros Adnoddau geisio pontio am ddwy flynedd y £298,990 y mae disgwyl i’r sector Uwchradd ei ddarganfod i’w ariannu o falansau;

  1. Er mwyn osgoi gwastraffu adnoddau drwy ddiswyddo ac ail gyflogi, fod gofyn i’r Aelod cabinet dros Adnoddau hefyd ystyried cynnwys yn ei gyllideb ar gyfer 2017/18 arian pontio i’r ysgolion hynny fyddai’n colli arian oherwydd lleihad yn y niferoedd plant gan ystyried hefyd y defnydd o falansau ysgolion unigol mewn unrhyw gynllun a gynigir.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Gareth Thomas

PENDERFYNWYD

TRAFODAETH

Nododd yr Aelod Cabinet Addysg ei bod yn amlwg ers cryn amser fod angen canfod datrysiad hir dymor cynaliadwy i sefyllfa gyllido addysg Uwchradd yng Ngwynedd a bod gwaith ar droed i wneud hynny. Yn y cyfamserroedd mwy o ysgolion yn anelu am y llinell warchodaeth, chwestiynau yn codi hefyd ynglŷn ag a yw’r llinell warchodaeth honno yn y lle iawn. Roedd yn amserol felly comisiynu cynllun er mwyn ystyried eto lefel y linell warchodaeth ar gyfer y Sector Uwchradd.

Gan fod angen ystyried canlyniadau’r trafodaethau ar ddyfodol y sector Uwchradd byddai angen amser ychwanegol i gyflawni targed arbedion y Sector Uwchradd os am wneud hynny heb waethygu sefyllfa addysg Uwchradd o fewn y sir.

Daeth i’r amlwg hefyd fod y cyfanswm sirol o niferoedd disgyblion ysgolion uwchradd y sir yn disgyn yn 2017/18 ond yn codi wedyn yn y ddwy flynedd ganlynol. Gan fod ariannu ysgolion unigol yn cael ei ddyrannu yn ôl y nifer o ddisgyblion, darbodus felly fyddai pontio’r diffyg fydd yn cael ei achosi gan y gostyngiad yn niferoedd y disgyblion. Golyga hynny ei bod yn bosib i’r ysgolion unigol osgoi diswyddo ac ail benodi staff mewn cyfnod cymharol fyr, gan osgoi costau diswyddo ac aflonyddu ar addysg y disgyblion.

Ychwanegodd fod safonau addysg wedi codi yn raddol ers 2012, ac y byddai cynnal y cyllid yn galluogi’r gwelliant yna barhau.

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth:

-       Ei bod yn sefyllfa ddyrys pan mae niferoedd disgyblion yn gostwng ac ysgolion yn wynebu colli staff a pheryglu cynnydd mewn safonau.

-       Ei bod yn well gwneud penderfyniad cynnar i bontio’r diffyg cyn i’r sefyllfa fynd yn argyfyngus.

-       Oes yno le i ysgolion ddefnyddio eu balansau i bontio’r diffyg?

Mewn ymateb nododd y Pennaeth Cyllid fod lefel balansau ysgolion unigol yn mynd i gael ei ystyried wrth ddyrannu’r cyllid pontio, er mwyn dyrannu’r cyllid yn deg. Ychwanegodd fod cost ynghlwm a diswyddo staff, felly’r penderfyniad darbodus fyddai i bontio’r diffyg.

Awdur:Dilwyn O Williams

Dogfennau ategol: