Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sophie Hughes 01286 679729
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriad gan Dafydd Edwards (Pennaeth Cyllid). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion
brys. |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid
oedd unrhyw faterion yn codi
o drosolwg a chraffu. |
|
COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 4YDD HYDREF 2016 PDF 250 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar y 14eg o Hydref, 2016, fel rhai cywir. |
|
CAU ADEILADAU FRONDEG, PWLLHELI A FFORDD Y TRAETH, FELINHELI PDF 116 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Dafydd Meurig Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Bwrw
‘mlaen i gau adeilad Frondeg Pwllheli yn gynnar yn y flwyddyn ariannol 2017/18
a symud
ymlaen i’w werthu ar y farchnad agored cyn gynted â phosib er mwyn caniatáu gwireddu’r
arbediad ariannol yn llawn erbyn 2018/19, gyda’r Adran yn pontio’r diffyg yn y cyfamser. Caniatáu
defnyddio hyd at £30,000 o’r dderbynneb cyfalaf o werthu’r adeilad i gyllido costau ail
leoli unwaith ac am byth. Lleihau’r
gofod dan brydles gan y Cyngor yn Ffordd y Traeth, Felinheli er mwyn lleihau’r gwariant
blynyddol. Gwireddu
gweddill swm y toriad drwy osod gofod pellach yn Swyddfa Penrallt, Caernarfon. Cofnod: Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Dafydd Meurig. PENDERFYNWYD Bwrw ‘mlaen i gau adeilad Frondeg
Pwllheli yn gynnar yn y flwyddyn ariannol 2017/18 a symud ymlaen i’w werthu ar
y farchnad agored cyn gynted â phosib er mwyn caniatáu gwireddu’r arbediad
ariannol yn llawn erbyn 2018/19, gyda’r Adran yn pontio’r diffyg yn y cyfamser. Caniatáu defnyddio hyd at £30,000
o’r dderbynneb cyfalaf o werthu’r adeilad i gyllido costau ail leoli unwaith ac
am byth. Lleihau’r gofod dan brydles gan y
Cyngor yn Ffordd y Traeth, Felinheli er mwyn lleihau’r gwariant blynyddol. Gwireddu gweddill swm y toriad
drwy osod gofod pellach yn Swyddfa Penrallt, Caernarfon. TRAFODAETH Gan gyfeirio at y bwriad i symud rhai o bwyllgorau mwyaf y Cyngor o Frondeg i Neuadd Dwyfor, nodwyd y gallai parcio fod yn
broblem gan fod maes parcio Penlan yn hynod lawn, yn enwedig yn yr haf. Mewn ymateb, nodwyd y gallai fod angen
rhywfaint o hyblygrwydd wrth amseru cyfarfodydd gan hysbysu pobl i gyrraedd
mewn da bryd. Ychwanegwyd bod ymateb
aelodau ardal Dwyfor i’r cynlluniau wedi bod yn gadarnhaol ac mai’r unig sylw a
gafwyd hyd yma oedd y parcio. Awgrymwyd
y gallai prinder llefydd parcio annog yr aelodau i rannu ceir a thrwy hynny
leihau eu hôl troed carbon. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â gwerthiant Frondeg, cadarnhawyd bod trefniadau yn eu lle i roi gwybod
i adrannau eraill y Cyngor am y cyfle hwn cyn gosod yr adeilad ar y farchnad
agored. Croesawyd y bwriad i ail-leoli’r Cylch Meithrin i’r Ysgol Gynradd gan y byddai hynny’n gwella’r ddarpariaeth. Nodwyd hefyd y byddai symud pwyllgorau’r Cyngor i Neuadd Dwyfor yn cryfhau’r defnydd o’r adnodd hwn i’r dyfodol. Awdur: Dafydd Gibbard |
|
CAIS I RYDDHAU ADNODDAU O'R GRONFA TRAWSNEWID PDF 210 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Mair Rowlands Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: I fuddsoddi
£50,000 unwaith ac am byth o’r Gronfa Trawsnewid i ddatblygu achos fusnes
amlinellol ar gyfer asesu opsiynau busnes posib ar gyfer y gwasanaeth Hamdden. Cofnod: Cyflwynwyd yr eitem gan y Cynghorydd Mair Rowlands. PENDERFYNWYD I fuddsoddi £50,000 unwaith ac am byth
o’r Gronfa Trawsnewid i ddatblygu achos fusnes amlinellol ar gyfer asesu
opsiynau busnes posib ar gyfer y gwasanaeth Hamdden. TRAFODAETH Mewn ymateb i ymholiad ynglŷn â beth fyddai’n digwydd nesaf, eglurwyd y byddai achos busnes yn cael ei lunio rhwng nawr a diwedd Mawrth ac y byddai adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno ar ôl hynny fyddai’n rhoi cyfle i ystyried unrhyw fuddsoddiad pellach angenrheidiol yng nghyd-destun yr achos busnes hwnnw. Awdur: Ian Jones |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL ADNODDAU DYNOL PDF 764 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Peredur Jenkins Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo’r
adroddiad blynyddol a mabwysiadu’r Cynllun Pobl. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Peredur Jenkins. PENDERFYNWYD Cymeradwyo’r adroddiad blynyddol a
mabwysiadu’r Cynllun Pobl. TRAFODAETH Pwysleisiwyd nad cynllun y Gwasanaeth Adnoddau oedd y Cynllun Pobl, eithr
cynllun y Cyngor cyfan. Croesawyd y gweithgaredd sy’n mynd ymlaen yn yr adran i hyrwyddo lles a
datblygiad staff. Holwyd a oes cyfartaledd cyflog rhwng dynion a merched, a yw’n cael ei
fonitro ac oes modd ei gyfleu mewn ffordd synhwyrol? Mewn ymateb, eglurwyd y gofynnwyd eleni, am
yr eildro ers mabwysiadu’r cytundeb tâl a chael y cytundeb torfol yn
2008, i ymgynghorydd annibynnol gynnal asesiad o lle’r oedd y Cyngor wedi
cyrraedd gyda hyn. Pan gafwyd yr asesiad
cyntaf dair blynedd yn ôl, ‘roedd yn bositif iawn, ond ‘roedd cydnabyddiaeth
bod y sefyllfa yn anorfod a bod ymdrechion ddylai fod yn digwydd o fewn y
Cyngor i leihau’r gagendor. Gobeithid y
byddai’r hyn mae’r Cyngor wedi’i wneud dros y blynyddoedd diwethaf yn cau’r
gagendor ymhellach ac y byddai hynny’n cael ei
adlewyrchu yn adroddiad nesaf yr ymgynghorydd.
Nodwyd ymhellach y gellid cyflwyno’r diweddariad hwnnw i’r Cabinet yn
nes ymlaen yn y flwyddyn. Nodwyd y byddai’n ddefnyddiol, wrth gyflwyno adroddiadau blynyddol yn y
dyfodol, gweld faint o ferched sy’n gweithio ar wahanol haenau o’r Cyngor, beth
yw’r rhwystrau a beth all y Cyngor ei wneud i gynorthwyo merched i oresgyn y
rhwystrau hynny. Mewn ymateb, cyfeiriodd
y Prif Weithredwr at y ffigur yn yr adroddiad ar gyfer maes llafur y Tîm
Arweinyddiaeth Corfforaethol oedd yn dangos fod 61% yn ferched a 39% yn ddynion,
oedd yn adlewyrchiad o’r cyfleoedd. Nododd y Prif Weithredwr fod cyflog cyfartal yn fater dadleuol, sy’n cael
ei gamddehongli weithiau. Pwysleisiodd
fod cyfundrefn dâl y Cyngor yn rhoi’r un cyflog yn union am yr un gwaith
drwy ddefnyddio system wrthrychol i fesur natur unrhyw swydd o fewn y
Cyngor. Wedi dweud hynny, ‘roedd canran
uwch o ferched yn gweithio i’r Cyngor yn gweithio’n rhan amser ac felly fe
fyddai cyfartaledd cyflog yr oedd merched yn ei dderbyn gymaint yn is. ‘Roedd hynny yn wahanol i’r cwestiwn o fod yn
talu cyflog cyfartal am yr un gwaith.
Nodwyd hefyd bod gan y Cyngor amddiffyniad cyflog cyfartal ac na
chyflwynwyd unrhyw gais ers cyn 2008 a bod yr amddiffyniad a sefydlwyd yn 2008
yn gadarn iawn. Mynegwyd syndod ynglŷn â’r cynnydd sylweddol yn
nifer y swyddi a ail hysbysebwyd. Mewn
ymateb, nodwyd mai diben yr adroddiad blynyddol oedd amlygu materion o’r fath
mewn ffordd ddealladwy a’i bod yn bwysig cael y data yn rheolaidd er mwyn gweld
y tueddiadau. Awgrymwyd y byddai’n fuddiol gwybod faint o absenoldebau salwch sy’n salwch tymor byr a faint sy’n salwch dros 4 diwrnod. Nodwyd hefyd bod y 38.4% o’r staff na fu’n absennol o gwbl oherwydd salwch yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn bobl gwerthfawr iawn, ac awgrymwyd y dylid ystyried eu gwobrwyo mewn rhy ffordd, e.e. drwy lythyr gan yr Arweinydd / Prif Weithredwr neu reolwr llinell neu drwy gydnabod eu presenoldeb mewn seremoni, megis ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. Awdur: Geraint Owen |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD: AELOD CABINET YR AMGYLCHEDD PDF 145 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. John Wynn Jones Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. John Wynn Jones. PENDERFYNWYD Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Gan gyfeirio at y drefn newydd o godi tâl am
waredu gwastraff gardd, awgrymwyd y dylid tynnu sylw
pobl at y ffaith bod ganddynt ddewisiadau eraill, megis compostio. Nodwyd bod lle i ymfalchïo yn y cynnydd pellach yng nghanran y gwastraff sy’n cael ei ailgylchu o 58.70% yn 2015/16 i 62.75% erbyn diwedd Gorffennaf eleni a gofynnwyd i’r Aelod Cabinet anfon neges i’r dinasyddion yn diolch iddynt am eu hymdrechion. Awdur: Dilwyn Williams |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD: AELOD CABINET CYNLLUNIO A RHEOLEIDDIO PDF 133 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Dafydd Meurig Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Dafydd Meurig. PENDERFYNWYD Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. Awdur: Dilwyn Williams |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD: DIRPRWY ARWEINYDD PDF 152 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Dyfrig Siencyn. PENDERFYNWYD Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Nododd y Cyng. Dyfrig Siencyn, ymhellach i gynnwys
yr adroddiad ysgrifenedig, iddo gyfarfod gydag Alun Davies, AC a’i swyddogion
a’i fod yn edrych ymlaen at ddatblygu’r berthynas gyda’r Gweinidog i’r
dyfodol. Nododd hefyd ei fod wedi
paratoi ymateb i strategaeth ddrafft y Llywodraeth ‘Miliwn o Siaradwyr Cymraeg
erbyn 2050’ a bod yr ymateb hwnnw wedi derbyn cymeradwyaeth y Pwyllgor Iaith ac
wedi ei anfon ymlaen at y Gweinidog. Nododd y Cyng. Mair Rowlands ei bod yn croesawu
agoriad y Ganolfan Iaith newydd ym Mangor a diolchwyd
i’r Cyngor am yr holl gefnogaeth i wireddu’r nod. Holwyd sut y bwriedid mesur effaith y
gweithgareddau iaith. Mewn ymateb,
nodwyd mai’r nod oedd codi hyder pobl i ddefnyddio’r Gymraeg, ond nad oedd
mesur llwyddiant ai peidio yn fater hawdd.
Ar hyn o bryd, ‘roedd y Cyngor yn mesur faint o bobl sydd wedi mynychu
gwahanol ddigwyddiadau, ond nid oedd hynny’n fesur da
gan nad oedd yn dangos a oedd yna gynnydd yn y defnydd o’r herwydd. Cynhaliwyd
trafodaethau gyda chynllunwyr iaith, ond nid oedd yna ateb hawdd i’r
cwestiwn. ‘Roedd yn bwysig, fodd bynnag,
bod y Cyngor yn parhau i chwilio am yr ateb ac yn gwneud popeth o fewn ei allu
i geisio codi hyder pobl i ddefnyddio’r Gymraeg. Awgrymwyd hefyd, os yw’n anodd mesur yr
effaith, y dylid yn hytrach ganolbwyntio ar ddarlunio beth yw llwyddiant. Nodwyd bod y Siarter Iaith wedi ei ledaenu ar draws
Gogledd Cymru erbyn hyn a bod y Llywodraeth yn edrych ar ei ledaenu ar draws
Cymru. Diolchwyd i staff y Cyngor a’r
ysgolion am eu gwaith ar y cynllun arloesol hwn ac ymfalchïwyd yn y ffaith bod
plant y sir yn cael eu grymuso i baratoi eu cynlluniau gweithredu eu hunain ar
gyfer y Siarter. Cyfeiriwyd at ddiffyg cysondeb yn y ddarpariaeth
ddwyieithog ar y gwasanaethau trenau ac awgrymwyd llythyru neu ofyn am gyfarfod
gyda Llywodraeth Cymru i bwyso arnynt i sicrhau bod cyhoeddiadau ar y trenau ac
yn y gorsafoedd yn ddwyieithog a bod ynganiad enwau lleoedd Cymraeg yn gywir. Nododd y Cyng. Dyfrig Siencyn yr hoffai longyfarch
y Cynghorwyr Elin Walker Jones a Mair Rowlands ar eu gwaith caled yn sefydlu
Menter Iaith Bangor a dymunodd yn dda i’r ganolfan iaith newydd. Awdur: Dilwyn Williams |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD: AELOD CABINET YR ECONOMI A CHYMUNED PDF 227 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Mandy Williams-Davies Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Mandy
Williams-Davies. PENDERFYNWYD Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Ymfalchïwyd yn y
ffaith bod Gogledd Cymru’n rhif 4 ar restr y Lonely Planet o lefydd i ymweld â nhw a diau y byddai yna
fuddion economaidd yn deillio i’r ardal o hyn. Nodwyd hefyd bod Zipworld
ymysg y cwmnïau o Wynedd sydd wedi derbyn gwobr Twf
Cymru 50 eleni. Nodwyd bod Hwb Arloesi Porthmadog, sy’n cynnig
gofod cydweithio newydd i fusnesau bychain iawn yn yr Hen Lyfrgell am bris
rhesymol yn gynllun arloesol a gwerthfawr iawn. Ar ddiwedd y cyfarfod, nododd y Cadeirydd fod
Sophie Hughes, sydd wedi bod yn cefnogi’r Cabinet ers tro bellach, wedi ei
phenodi i swydd newydd gyda’r Comisiynydd Iaith. Diolchwyd iddi am ei holl waith a dymunwyd yn
dda iddi i’r dyfodol. Awdur: Iwan Trefor Jones |