Cyflwynwyd gan:Cyng/Cllr. Peredur Jenkins
Penderfyniad:
Cymeradwyo’r
adroddiad blynyddol a mabwysiadu’r Cynllun Pobl.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Peredur Jenkins.
PENDERFYNWYD
Cymeradwyo’r adroddiad blynyddol a
mabwysiadu’r Cynllun Pobl.
TRAFODAETH
Pwysleisiwyd nad cynllun y Gwasanaeth Adnoddau oedd y Cynllun Pobl, eithr
cynllun y Cyngor cyfan.
Croesawyd y gweithgaredd sy’n mynd ymlaen yn yr adran i hyrwyddo lles a
datblygiad staff.
Holwyd a oes cyfartaledd cyflog rhwng dynion a merched, a yw’n cael ei
fonitro ac oes modd ei gyfleu mewn ffordd synhwyrol? Mewn ymateb, eglurwyd y gofynnwyd eleni, am
yr eildro ers mabwysiadu’r cytundeb tâl a chael y cytundeb torfol yn
2008, i ymgynghorydd annibynnol gynnal asesiad o lle’r oedd y Cyngor wedi
cyrraedd gyda hyn. Pan gafwyd yr asesiad
cyntaf dair blynedd yn ôl, ‘roedd yn bositif iawn, ond ‘roedd cydnabyddiaeth
bod y sefyllfa yn anorfod a bod ymdrechion ddylai fod yn digwydd o fewn y
Cyngor i leihau’r gagendor. Gobeithid y
byddai’r hyn mae’r Cyngor wedi’i wneud dros y blynyddoedd diwethaf yn cau’r
gagendor ymhellach ac y byddai hynny’n cael ei
adlewyrchu yn adroddiad nesaf yr ymgynghorydd.
Nodwyd ymhellach y gellid cyflwyno’r diweddariad hwnnw i’r Cabinet yn
nes ymlaen yn y flwyddyn.
Nodwyd y byddai’n ddefnyddiol, wrth gyflwyno adroddiadau blynyddol yn y
dyfodol, gweld faint o ferched sy’n gweithio ar wahanol haenau o’r Cyngor, beth
yw’r rhwystrau a beth all y Cyngor ei wneud i gynorthwyo merched i oresgyn y
rhwystrau hynny. Mewn ymateb, cyfeiriodd
y Prif Weithredwr at y ffigur yn yr adroddiad ar gyfer maes llafur y Tîm
Arweinyddiaeth Corfforaethol oedd yn dangos fod 61% yn ferched a 39% yn ddynion,
oedd yn adlewyrchiad o’r cyfleoedd.
Nododd y Prif Weithredwr fod cyflog cyfartal yn fater dadleuol, sy’n cael
ei gamddehongli weithiau. Pwysleisiodd
fod cyfundrefn dâl y Cyngor yn rhoi’r un cyflog yn union am yr un gwaith
drwy ddefnyddio system wrthrychol i fesur natur unrhyw swydd o fewn y
Cyngor. Wedi dweud hynny, ‘roedd canran
uwch o ferched yn gweithio i’r Cyngor yn gweithio’n rhan amser ac felly fe
fyddai cyfartaledd cyflog yr oedd merched yn ei dderbyn gymaint yn is. ‘Roedd hynny yn wahanol i’r cwestiwn o fod yn
talu cyflog cyfartal am yr un gwaith.
Nodwyd hefyd bod gan y Cyngor amddiffyniad cyflog cyfartal ac na
chyflwynwyd unrhyw gais ers cyn 2008 a bod yr amddiffyniad a sefydlwyd yn 2008
yn gadarn iawn.
Mynegwyd syndod ynglŷn â’r cynnydd sylweddol yn
nifer y swyddi a ail hysbysebwyd. Mewn
ymateb, nodwyd mai diben yr adroddiad blynyddol oedd amlygu materion o’r fath
mewn ffordd ddealladwy a’i bod yn bwysig cael y data yn rheolaidd er mwyn gweld
y tueddiadau.
Awgrymwyd y byddai’n fuddiol gwybod faint o absenoldebau salwch sy’n salwch
tymor byr a faint sy’n salwch dros 4 diwrnod.
Nodwyd hefyd bod y 38.4% o’r staff na fu’n absennol o gwbl oherwydd
salwch yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn bobl gwerthfawr iawn, ac awgrymwyd y
dylid ystyried eu gwobrwyo mewn rhy ffordd, e.e. drwy lythyr gan yr Arweinydd /
Prif Weithredwr neu reolwr llinell neu drwy gydnabod eu presenoldeb mewn
seremoni, megis y Cyngor ar ei Orau.
Mynegwyd pryder ynglŷn â straen ar staff
ysgolion, a phwysleisiwyd bod angen edrych, nid yn unig ar y bobl hynny sydd i
ffwrdd o’r gwaith oherwydd straen, ond y rhai sy’n parhau i weithio dan straen.
Awgrymwyd y byddai’n fuddiol gwneud dadansoddiad pellach o’r absenoldebau
salwch er mwyn gweld pa fisoedd o’r flwyddyn mae salwch ar ei uchaf, a pham.
Nodwyd bod yr adroddiad yn hawdd ei ddarllen ac yn dangos yn glir mai pobl
yw adnodd pwysicaf y Cyngor. Nodwyd
hefyd bod y Cynllun Pobl yn ddarllenadwy ac yn ddealladwy ac yn dangos bod yr
holl waith sy’n ymwneud â staff y Cyngor yn deillio o roi
pobl Gwynedd yn gyntaf.
Nodwyd y disgwylid i staff newydd arwyddo i fyny i’r Cynllun Pobl, ond bod
angen ystyried hefyd beth sy’n ddisgwyliedig gan y staff hynny sydd wedi bod yn
gweithio i’r Cyngor ers blynyddoedd.
Diolchwyd i bawb fu ynghlwm â’r gwaith o gynhyrchu’r adroddiad a’r Cynllun Pobl a nodwyd yr edrychid ymlaen at weld gweithrediad y cynllun.
Awdur:Geraint Owen
Dogfennau ategol: