Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Richardson 01286 679490
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd Aelodau’r
Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cyng. Dyfrig Siencyn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater brys. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
MATERION YN CODI O BWYLLGORAU CRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion yn codi o Bwyllgorau
Craffu. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 19eg O IONAWR 2016 PDF 128 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd
y Cadeirydd gofnodion y Cabinet a gynhaliwyd ar 19eg o Ionawr 2016. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ADOLYGIAD STRATEGOL PRIFFYRDD PDF 133 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. John Wynn Jones Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
y Cyng. John Wynn Jones. Eiliwyd gan y Cyng. Dafydd Meurig. PENDERFYNIAD 1. Derbyn
canlyniadau’r adolygiad strategol. 2. Tra’n
nodi a derbyn gwaith clodwiw y gwasanaeth, er mwyn sicrhau ein bod mor
effeithiol ac effeithlon ag y gallwn fod y dylid cynnal adolygiad o’r
gwasanaeth yn cael ei gynnal dros y misoedd nesaf fel rhan o brosiect “Arfogi
Unedau i Roi Ffordd Gwynedd ar Waith”. 3. Y
dylai cyfrifoldeb dros bontydd, waliau cynnal a chwlferi drosglwyddo i’r Adran
Priffyrdd a Bwrdeistrefol gan ofyn i’r ddau aelod Cabinet perthnasol oruchwylio
cynllun rhesymegol ar gyfer gwneud hynny; 4. Y
dylid newid i drefn o sefydlu risgiau ein pontydd a waliau cynnal a dilyn
cyfundrefn cynnal ar sail risg yn sgil hynny. Er mwyn gwneud hynny, y dylid
hefyd cymeradwyo hyd at yr uchafswm o £104,000 o adnoddau unwaith ac am byth
o’r gronfa buddsoddi i arbed oni bai fod yna ffyrdd eraill o ariannu’r
buddsoddiad angenrheidiol gan adael i’r Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad a’r
Aelod Cabinet Adnoddau ystyried y swm sydd angen ei ryddhau o’r Gronfa. 5. Ystyried
a dylid lleihau’r gyllideb cynnal ffyrdd a maint y lleihad hwnnw fel rhan o’r
ystyriaeth a roddir i doriadau. Awdur: Dilwyn O Williams |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
POLISI CLUDIANT ÔL-16 PDF 164 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Gareth Thomas Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
y Cyng. Gareth
Thomas. Eiliwyd gan y Cyng. Ioan
Thomas. PENDERFYNIAD Cymeradwyo’r Polisi Cludiant Ôl-16 newydd (cyflwynwyd i’r
Cabinet fel Atodiad 1 i’r adroddiad perthnasol) i’w weithredu o fis Medi 2016
ymlaen Awdur: Owen Owens |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
BIL DRAFFT LLYWODRAETH LEOL (CYMRU) PDF 332 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Dyfed Wyn Edwards Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
y Cyng. Dyfed Edwards. Eiliwyd gan y Cyng. Gareth
Thomas. PENDERFYNIAD Cymeradwyo’r sylwadau a gynhwyswyd yn yr adroddiad i’r
cyfarfod, mewn ymateb i’r Bil ar ran y Cyngor, gan ychwanegu sylwadau a
gyflwynwyd gan Bwyllgor Archwilio’r Cyngor. Awdur: Arwel Ellis Jones |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
TROSOLWG PERFFORMIAD CYNGOR GWYNEDD 2015/16 PDF 293 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Dyfed Wyn Edwards Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
y Cyng. Dyfed Edwards. Eiliwyd gan y Cyng. Dafydd Meurig. PENDERFYNIAD Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad a gyflwynwyd i’r
cyfarfod. Awdur: Geraint Owen |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYNLLUN STRATEGOL 2016/17 PDF 225 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Dyfed Wyn Edwards Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
y Cyng. Dyfed Edwards. Eiliwyd gan y Cyng. Gareth Thomas PENDERFYNIAD Cymeradwyo Cynllun Strategol 2016-17 i’w gyflwyno i’r Cyngor
ar 3 Mawrth 2016. Awdur: Geraint Owen |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ARBEDION EFFEITHLONRWYDD PDF 103 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Peredur Jenkins Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
y Cyng. Peredur Jenkins. Eiliwyd gan y Cyng. W
Gareth Roberts. PENDERFYNIAD Cymeradwyo cynlluniau effeithlonrwydd a restrir yng nghymalau’r adroddiad i’r cyfarfod: 2.4 (sef cynlluniau Plant1, Plant2, Plant4, OED25, OED27, OED29, OED34, CC3, TAI6) 3.1 (sef cynlluniau OED7, OED8, OED9, OED10) 5.1 sef –
gan gymeradwyo hefyd sylw’r Pwyllgor Craffu Cymunedau parthed Cynllun 4.1 (sef ‘Trefn Wahanol o Newid Lampau – cyfanswm o £97,000). Awdur: Meinir Owen |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYLLIDEB REFENIW 2015/16 - ADOLYGIAD TRYDYDD CHWARTER PDF 60 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Peredur Jenkins Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
y Cyng. Peredur Jenkins. Eiliwyd gan y Cyng. Dafydd Meurig. PENDERFYNIAD Derbyn yr adroddiad ar adolygiad trydydd chwarter (sefyllfa 31 Rhagfyr 2015) o Gyllideb Refeniw 2015/16, gan ofyn i’r Aelodau Cabinet a’r penaethiaid adrannau perthnasol gymryd camau priodol ynglŷn â materion o dan eu harweiniad/rheolaeth. Nodi'r amrywiol adolygiadau a nodir yn yr adroddiad a’r camau i’w cymryd gan adrannau i gadw rheolaeth ar eu cyllidebau. Cymeradwyo defnyddio tan wariant corfforaethol 2015/16 i gynorthwyo Strategaeth Ariannol 2016/17, yn benodol er mwyn ariannu bidiau un-tro. Awdur: Dafydd L Edwards |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
RHAGLEN GYFALAF 2015/16 - ADOLYGIAD TRYDYDD CHWARTER PDF 158 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Peredur Jenkins Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
y Cyng. Peredur Jenkins. Eiliwyd gan y Cyng. John Wynn Jones. PENDERFYNIAD Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd y trydydd chwarter (sefyllfa 31 Ragfyr 2015) o’r rhaglen gyfalaf, a chymeradwyo’r ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 2 o’r adroddiad, sef: ·
cynnydd £132,000 mewn defnydd o fenthyca heb
gefnogaeth ·
cynnydd £276,000 mewn defnydd o grantiau a
chyfraniadau ·
cynnydd £350,000 mewn defnydd o dderbyniadau
cyfalaf ·
cynnydd £268,000 mewn defnydd o gyfraniadau
refeniw ·
lleihad £151,000 mewn defnydd o’r gronfa gyfalaf
·
cynnydd £133,000 mewn defnydd o gronfeydd
adnewyddu Awdur: Dafydd L Edwards |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYLLIDEB 2016/17, STRATEGAETH ARIANNOL 2016/17 - 2019/20 A THORIADAU I GYFARCH Y BWLCH ARIANNOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
y Cyng. Peredur Jenkins. PENDERFYNIAD
|