Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan
y Cyng. Peredur Jenkins.
PENDERFYNIAD
Rhif |
Toriad posib |
Swm £ |
C2 |
Dileu 2 swydd allan o
7.5 yn yr Uned cefnogi Systemau o fewn y Gwasanaeth Oedolion |
80,000 |
C3 |
Dileu 3 swydd allan o
20.6 yn yr Uned Cefnogi Gweithlu sy’n gwasanaethu oedolion a phlant |
90,000 |
C4 |
Dileu 2 swydd allan o
10.5 yn yr Uned datblygu gweithlu o fewn y Gwasanaeth oedolion |
75,000 |
C5 |
Dileu 1 swydd allan o
2.5 yn y maes Rheolaeth a Strategaeth Tai |
37,500 |
C7 |
Dileu 1 swydd allan o
3 yn yr Uned Gwasanaeth Gwybodaeth sy’n delio gyda’r Ddeddf Diogelu data a’r
Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth |
30,000 |
C8 |
Cau adeiladau Frondeg Pwllheli ac Adeilad Ffordd y Traeth yn y
Felinheli ond gofyn i’r Gwasanaeth
adrodd yn ôl i’r Cabinet ar achos busnes cynllun C8 (Frondeg)
cyn symud ymlaen i’w wireddu er mwyn sicrhau fod yna atebion derbyniol i
anghenion y rhai sydd yno ar hyn o bryd |
60,000 |
C9 |
Dileu 1 swydd allan o
8.5 yn yr Uned Cynnal a Chadw Adeiladau |
28,000 |
C10 |
Dileu 1.5 swydd allan
o 7.2 yn yr Uned Stadau a Chyfleusterau |
40,000 |
C11 |
Dileu 2 swydd allan o
37.62 yn yr Unedau Cyfrifeg |
50,000 |
C12 |
Rhoi’r gorau i
gefnogaeth yr Uned Technoleg Gwybodaeth i systemau y tu allan i oriau gwaith
arferol |
39,500 |
C13 |
Dileu Cynllun
Hyfforddeion Gwynedd a Chynllun Hyfforddeion Proffesiynol |
258,720 |
C14 |
Dileu 2 swydd allan o
8.8 yn yr uned Iechyd a Diogelwch |
80,000 |
C15 |
Ail fodelu’r
partneriaethau rhwng Gwynedd a Môn yn sgil y newid i Fyrddau
Gwasanaethau Cyhoeddus |
130,000 |
C16 |
Dileu cyfraniad y
Cyngor i Bartneriaeth Amgylchedd Gwynedd |
7,620 |
C18 |
Dileu cyllideb ar
gyfer cefnogi gwaith alcohol a chyffuriau |
28,900 |
C19 |
Dileu 1 swydd allan o
2 yn y maes Rheolaeth Prosiect |
31,060 |
1 |
Torri gwair prif
lecynnau trefi 6 gwaith y flwyddyn yn hytrach nag 8 gwaith ond dylid ystyried os gellir
darganfod mwy o arbedion effeithlonrwydd ar Gynllun rhif 1 (Torri gwair canol
Trefi) drwy leihau’r toriadau sylfaenol ymhellach a chan ofyn i gymunedau
lleol dalu os dymunir cael gwell safon |
120,000 |
2 |
Dileu 1 swydd allan o
10.5 yn yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd |
15,000 |
3 |
Lleihau cyllideb
grantiau strategol i’r celfyddydau o 50%, ond ei weithredu o’r 1 Ebrill 2017 er mwyn rhoi cyfle i’r Gwasanaeth
drafod ei weithrediad gyda’r cyrff a gefnogir a cheisio denu cymorth o
ffynonellau eraill i gymryd lle’r lleihad yn y cymorth gan y Cyngor |
84,850 |
4 |
Torri 2 swydd allan o
7 yn yr Uned Gwasanaeth gorfodaeth stryd |
64,500 |
5 |
Lleihau oriau agor
Archifdy Dolgellau o 3 diwrnod i 2 ac Archifdy Caernarfon o 4 i 3 diwrnod yr
wythnos |
41,670 |
6 |
Torri gwair y 131 o
feysydd chwarae plant bob deufis yn hytrach nag yn fisol |
60,000 |
8 |
Lleihau elfen o
gyllideb “Gwynedd Ni” gan ganolbwyntio ar yr elfen statudol. |
70,000 |
9 |
Dileu 1 swydd allan o
27.7 yn yr Uned Prosesu Treth Gyngor |
25,000 |
10 |
Torri 50% ar y
gwasanaeth cynnal promenadau, meinciau ac enwau strydoedd |
40,000 |
11 |
Peidio darparu copïau
caled o’r llyfryn twristiaeth “Eryri Mynyddoedd a Môr” |
46,000 |
12 |
Lleihau 50% ar y
grantiau a roddir i fudiadau gwirfoddol ar gyfer prosiectau penodol |
62,500 |
13 |
Peidio talu’r ffi am
dalu Treth Gyngor yn y swyddfa bost |
40,000 |
14 |
Lleihau amlder torri
gwair ym mynwentydd y Cyngor o 7 gwaith y flwyddyn i 5 |
60,000 |
15 |
Torri 10% ar y
gyllideb prynu llyfrau yn y llyfrgelloedd |
26,000 |
16 |
Dileu 1 swydd allan o
14 yn yr uned Rheolaeth Adeiladu |
40,000 |
17 |
Dileu ail swydd o’r
10.5 yn yr Uned Polisi Cynllunio ar y cyd. |
15,000 |
19 |
Lleihau amser / a neu
godi ffi am yr elfen gwarchod o fewn y cynllun brecwast am ddim i blant
ysgolion cynradd |
100,000 |
20 |
Cadw’r Teledu Cylch
Cyfyng (CCTV) ond yn hytrach na
dileu’r adnodd sy’n cadw golwg parhaus arno, y dylid ceisio cyflawni’r
arbediad drwy leihau cyfraniad y Cyngor a gwneud unrhyw newidiadau gweithredu
y gellid eu gwneud heb amharu ar effeithioldeb y
gyfundrefn |
90,000 |
21 |
Dileu 1 swydd allan o
2.45 yn yr Uned Bioamrywiaeth |
30,000 |
22 |
Lleihau 50% ar y
gyllideb rheoli traffig |
65,000 |
23 |
Dileu 20% ar y
gyllideb llwybrau cyhoeddus yn cynnwys 1 swydd allan o 7.2 |
110,000 |
25 |
Dileu 1 swydd allan o
8 yn yr Uned Rheoli Llygredd |
35,000 |
26 |
Dileu grant canolfan
Noddfa |
5,000 |
27 |
Dileu 1 swydd allan o
13.8 yn yr Uned Hylendid Bwyd |
36,000 |
28 |
Dileu 1 swydd allan o
21.7 yn yr Uned Budd-daliadau Tai a threth Gyngor |
25,000 |
29 |
Dileu Gwasanaeth gang
cymunedol Arfon |
70,000 |
30 |
Torri’r gyllideb
cynnal ffyrdd (gan nodi yr addaswyd
swm y toriad yn unol a’r argymhelliad yn yr adroddiad) |
850,000 |
31 |
Yn hytrach na’r cynnig gwreiddiol o gau 30 allan o’r 42 Clwb
Ieuenctid, y dylid newid y cynllun dan sylw i wireddu’r arbediad toriadau o
£200,000 (ynghyd a’r arbediad effeithlonrwydd disgwyliedig o £70,000) drwy
ail ddylunio’r Gwasanaeth Ieuenctid a chan dderbyn y bydd angen ystyried y
grantiau i fudiadau ieuenctid fel rhan o’r holl adolygiad |
200,000 |
32 |
Rhoi’r gorau i redeg
Amgueddfa Lloyd George ond gan
weithredu o’r 1 Ebrill 2017 er mwyn rhoi cyfle i’r Gwasanaeth gynnal
trafodaethau gydag unrhyw gorff fyddai’n dymuno cymryd cyfrifoldeb am yr
amgueddfa |
27,000 |
33 |
Cynyddu pris prydau
ysgolion cynradd o £2.30 i £2.50 (gan
nodi’r newid yn uchafswm y pris y dylid ei godi) |
105,000 |
37 |
Dileu 2 swydd allan o
85 yn yr Uned Gweithwyr Cymdeithasol, Therapyddion Galwedigaethol a
Swyddogion Gofal o fewn y Gwasanaeth Oedolion |
80,000 |
38 |
Lleihau amlder glanhau
pentrefi a stadau diwydiannol i bob 3 mis yn hytrach na bob mis a chynyddu
amser ymateb i ddigwyddiadau |
130,000 |
39 |
Lleihau’r gyllideb
lyfrau yn y llyfrgelloedd o 25%. |
39,000 |
40 |
Dileu 1 swydd allan o
12 yn yr Uned Gorfodaeth Tai |
30,000 |
42 |
Lleihau 12.4% ar y
gyllideb o £801,790 a delir gan y Gwasanaeth Oedolion i sefydliadau
gwirfoddol / elusennol. |
100,000 |
43 |
Dileu 10% o’r gyllideb
Gwasanaeth Plant Derwen (sy’n cyflogi 19.4) |
75,000 |
44 |
Dileu rhaglenni byw’n
iach |
54,050 |
46 |
Dileu’r gyllideb ar
gyfer cynnal y Gwarchodfeydd Natur |
59,400 |
47 |
Dileu cyllideb
prosiectau diogelwch cymunedol a thrais yn y cartref |
24,250 |
48 |
Rheoli traethau baner
las a baner werdd yn unig |
24,200 |
49 |
Dileu 1 swydd allan o
7.7 ar reoli risgiau llifogydd. |
40,000 |
50 |
Dileu 1 swydd allan o
7 yn yr Uned sy’n rheoli grantiau adnewyddu a grantiau i’r anabl |
30,000 |
51 |
Cau 50 allan o 73 o
doiledau cyhoeddus y sir |
244,000 |
52 |
Dileu 1 swydd allan o
21 yn y Gwasanaeth aml asiantaethol Cyfiawnder
Ieuenctid. |
25,000 |
53 |
Dileu rhaglenni
datblygu chwaraeon |
71,180 |
58 |
Cau canolfannau
Croeso’r Cyngor |
155,000 |
63 |
Dileu 1 swydd allan o
7 ar reolaeth gwaith ffyrdd |
30,000 |
65 |
Dileu 4 swydd allan o
85 yn yr Uned Gweithwyr Cymdeithasol, Therapyddion Galwedigaethol a
Swyddogion Gofal o fewn y Gwasanaeth Oedolion |
80,000 |
71 |
Dileu 1 swydd allan o
21.4 yn yr Uned Digartrefedd |
25,000 |
v.
Nodi hefyd tra na fyddwn yn disgwyl yr elfen doriadau o £28,000
a nodir gyferbyn â chynllun 55 (Llyfrgelloedd), y bydd yna barhad i ddisgwyl
newidiadau ar gyfer y gwasanaeth llyfrgell fydd yn cael eu cyfyngu i’r swm
arbediad effeithlonrwydd a dargedwyd ar eu cyfer fydd efallai yn golygu
gweithredu elfen helaeth o’r newid a nodir yn erbyn cynllun rhif 55.
vi.
Ar gyfer Cynllun 66 (Cymorth i Ferched), tra na ddylid ei
dorri ar hyn o bryd, y dylai hyn fod yn amodol ar iddynt fodloni’r Gwasanaeth eu
bod wedi edrych am yr holl gyfleon posibl i fod mor effeithlon a phosibl, gan
gynnwys unrhyw arbediad fyddai’n deillio o hynny yn yr arbedion
effeithlonrwydd.
vii.
Ar gyfer Cynlluniau 72 (Pont Abermaw) a 78 (Pont yr
Aber), na ddylid torri’r cyllidebau yma ar hyn o bryd, ond fod hynny yn amodol
ar gyrraedd targed o leihau’n sylweddol y gost i’r Cyngor o gyfrannu tuag at eu
dyfodol, gan gynnwys unrhyw arbediad fyddai’n deillio o hynny yn yr arbedion
effeithlonrwydd.
viii.
Ar gyfer Cynllun 59 (Neuadd Dwyfor), na ddylid torri’r
gyllideb yma, ond fod hynny yn amodol ar drafod opsiynau gydag unrhyw fudiad
lleol gyda golwg ar iddynt gymryd cyfrifoldeb amdano gyda’r nod o leihau’r
costau sy’n syrthio ar drethdalwyr Gwynedd, ac y dylid cynnwys unrhyw arbedion
yn yr arbedion effeithlonrwydd.
ix.
Gydag argymhellion vi), vii) a viii) uchod y dylid adrodd
yn ôl ymhen blwyddyn gan ail ymweld a’r sefyllfa bryd hynny yn sgil unrhyw
ddatblygiadau.
x.
Awdurdodi’r Pennaeth Cyllid, mewn ymgynghoriad gyda’r
Aelod Cabinet dros Adnoddau, i adolygu lefel cronfeydd penodol (fel awgrymir ym
mharagraffau 8.6 - 8.8 o’r atodiad “Cyllideb 2016/17”) er mwyn ariannu’r angen
i “bontio” £2,106,050 yn 2016/17, oherwydd ni fydd modd cynhaeafu’r holl
doriadau ar unwaith o Ebrill 2016.
xi.
Awdurdodi’r Pennaeth Cyllid, mewn ymgynghoriad gyda’r
Aelod Cabinet dros Adnoddau, i drefnu i ariannu swm addasedig o gronfeydd, fel
bo angen, er mwyn amddiffyn penderfyniadau’r Cyngor ar y gyllideb a’r dreth pe
bai newidiadau ymylol mewn grant Llywodraeth, yn dilyn penderfyniadau
Llywodraeth Cymru, fydd yn arwain at ddatgan setliad grant terfynol ar gyfer
llywodraeth leol ar 2 Mawrth, a phleidlais yn y Cynulliad ar 9 Mawrth 2016 i’w
gadarnhau.