Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Richardson 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

 

Ni dderbyniwyd ymddiheuriadau.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganodd y Cynghorydd W Gareth Roberts fuddiant personol yn Eitem 6 ar y rhaglen oherwydd bod ei ferch yn gweithio i Adran Eiddo’r Cyngor, a mab-yng-nghyfraith yn gweithio i’r Adran Ieuenctid. Gan na thrafodwyd fater yn effeithio’n benodol ar yr adrannau hyn, ac nad oedd yn fuddiant oedd yn rhagfarnu, ni adawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

Datganodd y Cynghorydd Ioan Thomas fuddiant personol ym mhwynt 3.8.22 yn Eitem 6 (Pont yr Aber) ar y rhaglen oherwydd ei fod yn aelod o Ymddiriedolaeth yr Harbwr. Roedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant oedd yn rhagfarnu a gadawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y pwynt hwn.

 

Datganodd y Cynghorydd Gareth Thomas fuddiant personol yn Eitem 6 ar y rhaglen oherwydd bod ei fab-yng-nghyfraith yn gweithio i Wasanaeth Llyfrgelloedd y Cyngor. Gan na thrafodwyd fater yn effeithio’n benodol ar y Gwasanaeth hwn, ac nad oedd yn fuddiant oedd yn rhagfarnu, ni adawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

Datganodd y Cynghorydd Mair Rowlands fuddiant personol yn Eitem 6 gan ei bod yn aelod o Fwrdd Derwen a Bwrdd Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid. Roedd yr aelod o’r farn nad oedd yn fuddiant oedd yn rhagfarnu ac fe gymerodd ran yn y drafodaeth ar yr eitem.

 

Datganodd y Cynghorydd Mandy Williams-Davies fuddiant personol ym mhwynt 3.8.1 yn Eitem 6 (Brecwast am ddim) gan bod ei phlant yn derbyn y ddarpariaeth. Roedd yr aelodau o’r farn nad oedd yn fuddiant oedd yn rhagfarnu ac fe gymerodd ran yn y drafodaeth ar yr eitem.

 

Datganodd Dilwyn Williams fuddiant personol, ar ran holl Uwch Swyddogion y Cyngor, ym mhwynt 3.8.60 yn Eitem 6 (Uwch Reolaeth y Cyngor). Gan na thrafodwyd fater yn effeithio’n benodol ar y Gwasanaeth hwn ni adawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

Datganodd Dilwyn Williams fuddiant personol ym mhwynt 3.8.53 yn Eitem 6 (Cyllid a Chyfrifeg) gan bod ei fab yn gweithio yn Adran Gyllid y Cyngor. Gan na thrafodwyd fater yn effeithio’n benodol ar y Gwasanaeth hwn ni adawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

Datganodd Dafydd Edwards fuddiant personol ym mhwynt 3.8.60 (fel uchod) ac ym mhwynt 3.8.28 o Eitem 6 (Cefnogol-Derwen) gan bod ei wraig yn gweithio’n achlysurol i Derwen. Gan na thrafodwyd fater yn effeithio’n benodol ar y Gwasanaeth hwn ni adawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

Datganodd Iwan Evans fuddiant personol gan bod cyfeiriad at ei Swydd yn Atodiad 1 i Eitem 6. Gan na thrafodwyd fater yn effeithio’n benodol ar y Gwasanaeth hwn ni adawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

 

4.

Materion yn Codi o Bwyllgorau Craffu

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o Bwyllgorau Craffu.

 

 

5.

Eitem 5 - 20150730 Cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 225 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf 2015.

 

 

6.

Eitem 6 - Adroddiad - Canfod barn y cyhoedd ar doriadau posib pdf eicon PDF 162 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Peredur Jenkins.

Eiliwyd gan y Cyng. W Gareth Roberts.

 

TRAFODAETH

 

Trafodwyd cynnwys y tabl yn rhan 3.8 o'r adroddiad mewn clystyrau gwahanol. Trafodwyd eitemau 1 i 26 yn gyntaf, yna trafodwyd eitemau 27 i 52, ac yna eitemau 53 i 65.

Isod mae’r sylwadau ar gyfer pob eitem yn unigol yn y clwstwr cyntaf o eitemau rhwng 1 a 26 –

 

1.    Brecwast am ddim

Derbyniwyd argymhelliad yr Aelod Cabinet Adnoddau yn yr adroddiad, ond gan nodi’r canlynol -

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr bod hwn yn ddarpariaeth statudol ond bod yna amodau iddo. Dyw’r amodau hyn ddim yn rhwystr rhag ymgynghori â’r cyhoedd.

 

2.    Ieuenctid

Derbyniwyd argymhelliad yr Aelod Cabinet Adnoddau yn yr adroddiad, ond gan nodi’r sylwadau canlynol -

Mae gofyn statudol i ddarparu gwasanaeth ar gyfer ieuenctid ond nid oes raid i hynny ddigwydd drwy’r Gwasanaeth Ieuenctid o anghenraid. Byddai trafodaeth gyda’r trydydd sector yn cael ei groesawu yn ystod y cyfnod ymgynghori ar ddulliau amgen o ddarparu gwasanaeth.

 

3.    Arlwyaeth Cynradd

Derbyniwyd argymhelliad yr Aelod Cabinet Adnoddau yn yr adroddiad, ond gan nodi’r sylwadau canlynol –

Cytunwyd i amlygu unrhyw dystiolaeth sy’n bodoli ar y cyswllt rhwng maeth a chyflawniad addysgol yn ystod y cyfnod ymgynghori.

 

4.    Darparu – Canolfannau Chwaraeon a Byw’n Iach

Derbyniwyd argymhelliad yr Aelod Cabinet Adnoddau yn yr adroddiad, ond gan nodi’r sylwadau canlynol -

Nodwyd y bydd mwy o wybodaeth ar gael yn dilyn cwblhau’r broses o ganfod arbedion effeithlonrwydd, a bod angen caniatáu amser i weld os fedr y Canolfannau fod yn hunangynhaliol.

 

5.    Mynwentydd

Cytunwyd i dderbyn argymhelliad yr Aelodau yn dilyn y Gweithdai Craffu Aelodau.

 

6.    Archifau

Derbyniwyd argymhelliad yr Aelod Cabinet Adnoddau yn yr adroddiad.

 

7.    Adfywio Cymunedol

Derbyniwyd argymhelliad yr Aelod Cabinet Adnoddau yn yr adroddiad, ond gan nodi’r sylwadau canlynol -

Cytunwyd y bydd angen rhannu gwybodaeth, wrth ymgynghori, ynghylch beth yw gwaith a swyddogaeth yr Uned. Bydd y dogfennau ymgynghori yn cynnwys gwybodaeth am effaith torri’r gwasanaeth hwn.

 

8.    Morwrol a Pharciau Gwledig

Derbyniwyd argymhelliad yr Aelod Cabinet Adnoddau yn yr adroddiad, ond nodwyd y canlynol -

Cytunwyd i geisio canfod o ble, yn ddaearyddol, mae sylwadau yn dod yn ystod y broses ymgynghori. Gall hyn fod yn bwysig gan bod rhai eitemau yn dylanwadu’n fwy ar rai ardaloedd yn uniongyrchol nag eraill.

 

9.    Bioamrywiaeth

Derbyniwyd argymhelliad yr Aelod Cabinet Adnoddau yn yr adroddiad, ond gan nodi’r sylwadau canlynol -

Yn y dogfennau ymgynghori, dylid egluro’n llawn beth fydd effaith toriad mewn gwasanaeth. Yn yr achos hwn, dylid deall effaith torri 2 swydd mewn uned o 3 swydd. Cytunwyd hefyd, yn ystod y cyfnod ymgynghori, i drafod gydag asiantaethau allanol am sut i ddarparu gwasanaeth.

 

10. Cyllideb Awtistiaeth

Cytunwyd i dderbyn argymhelliad yr Aelodau yn dilyn y Gweithdai Craffu Aelodau.

 

11. Ôl-16

Cytunwyd i dderbyn argymhelliad yr Aelodau yn dilyn y Gweithdai Craffu Aelodau. Dylid sicrhau bod ymgynghori’n digwydd gyda’r bobl ifanc sy’n derbyn y gwasanaeth. Dylid hefyd sicrhau bod effaith torri’r gwasanaeth yn cael ei amlygu.

 

12. Rheoli  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.