Agenda item

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Peredur Jenkins.

Eiliwyd gan y Cyng. W Gareth Roberts.

 

TRAFODAETH

 

Trafodwyd cynnwys y tabl yn rhan 3.8 o'r adroddiad mewn clystyrau gwahanol. Trafodwyd eitemau 1 i 26 yn gyntaf, yna trafodwyd eitemau 27 i 52, ac yna eitemau 53 i 65.

Isod mae’r sylwadau ar gyfer pob eitem yn unigol yn y clwstwr cyntaf o eitemau rhwng 1 a 26 –

 

1.    Brecwast am ddim

Derbyniwyd argymhelliad yr Aelod Cabinet Adnoddau yn yr adroddiad, ond gan nodi’r canlynol -

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr bod hwn yn ddarpariaeth statudol ond bod yna amodau iddo. Dyw’r amodau hyn ddim yn rhwystr rhag ymgynghori â’r cyhoedd.

 

2.    Ieuenctid

Derbyniwyd argymhelliad yr Aelod Cabinet Adnoddau yn yr adroddiad, ond gan nodi’r sylwadau canlynol -

Mae gofyn statudol i ddarparu gwasanaeth ar gyfer ieuenctid ond nid oes raid i hynny ddigwydd drwy’r Gwasanaeth Ieuenctid o anghenraid. Byddai trafodaeth gyda’r trydydd sector yn cael ei groesawu yn ystod y cyfnod ymgynghori ar ddulliau amgen o ddarparu gwasanaeth.

 

3.    Arlwyaeth Cynradd

Derbyniwyd argymhelliad yr Aelod Cabinet Adnoddau yn yr adroddiad, ond gan nodi’r sylwadau canlynol –

Cytunwyd i amlygu unrhyw dystiolaeth sy’n bodoli ar y cyswllt rhwng maeth a chyflawniad addysgol yn ystod y cyfnod ymgynghori.

 

4.    Darparu – Canolfannau Chwaraeon a Byw’n Iach

Derbyniwyd argymhelliad yr Aelod Cabinet Adnoddau yn yr adroddiad, ond gan nodi’r sylwadau canlynol -

Nodwyd y bydd mwy o wybodaeth ar gael yn dilyn cwblhau’r broses o ganfod arbedion effeithlonrwydd, a bod angen caniatáu amser i weld os fedr y Canolfannau fod yn hunangynhaliol.

 

5.    Mynwentydd

Cytunwyd i dderbyn argymhelliad yr Aelodau yn dilyn y Gweithdai Craffu Aelodau.

 

6.    Archifau

Derbyniwyd argymhelliad yr Aelod Cabinet Adnoddau yn yr adroddiad.

 

7.    Adfywio Cymunedol

Derbyniwyd argymhelliad yr Aelod Cabinet Adnoddau yn yr adroddiad, ond gan nodi’r sylwadau canlynol -

Cytunwyd y bydd angen rhannu gwybodaeth, wrth ymgynghori, ynghylch beth yw gwaith a swyddogaeth yr Uned. Bydd y dogfennau ymgynghori yn cynnwys gwybodaeth am effaith torri’r gwasanaeth hwn.

 

8.    Morwrol a Pharciau Gwledig

Derbyniwyd argymhelliad yr Aelod Cabinet Adnoddau yn yr adroddiad, ond nodwyd y canlynol -

Cytunwyd i geisio canfod o ble, yn ddaearyddol, mae sylwadau yn dod yn ystod y broses ymgynghori. Gall hyn fod yn bwysig gan bod rhai eitemau yn dylanwadu’n fwy ar rai ardaloedd yn uniongyrchol nag eraill.

 

9.    Bioamrywiaeth

Derbyniwyd argymhelliad yr Aelod Cabinet Adnoddau yn yr adroddiad, ond gan nodi’r sylwadau canlynol -

Yn y dogfennau ymgynghori, dylid egluro’n llawn beth fydd effaith toriad mewn gwasanaeth. Yn yr achos hwn, dylid deall effaith torri 2 swydd mewn uned o 3 swydd. Cytunwyd hefyd, yn ystod y cyfnod ymgynghori, i drafod gydag asiantaethau allanol am sut i ddarparu gwasanaeth.

 

10. Cyllideb Awtistiaeth

Cytunwyd i dderbyn argymhelliad yr Aelodau yn dilyn y Gweithdai Craffu Aelodau.

 

11. Ôl-16

Cytunwyd i dderbyn argymhelliad yr Aelodau yn dilyn y Gweithdai Craffu Aelodau. Dylid sicrhau bod ymgynghori’n digwydd gyda’r bobl ifanc sy’n derbyn y gwasanaeth. Dylid hefyd sicrhau bod effaith torri’r gwasanaeth yn cael ei amlygu.

 

12. Rheoli Llygredd

Cytunwyd i dderbyn argymhelliad yr Aelodau yn dilyn y Gweithdai Craffu Aelodau.

 

13. Llyfrgelloedd

Derbyniwyd argymhelliad yr Aelod Cabinet Adnoddau yn yr adroddiad. Cytunwyd hefyd i ychwanegu unrhyw wybodaeth berthnasol allan o’r ymgynghoriad ar y Gwasanaeth Llyfrgelloedd i’r dogfennau ymgynghori.

 

14. Dileu cymorth i blant o fewn llochesi Cymorth i Ferched Bangor a Blaenau Ffestiniog

Cytunwyd ei bod yn anodd mesur effaith toriad o’r fath i’r dyfodol, ond cytunwyd y dylid amlygu’r ffaith bod swyddogion y timau dydd a nos yn parhau i gynnig cefnogaeth o amgylch diogelwch plant. Cytunwyd fodd bynnag bod angen amlygu effaith y toriad, gan gyflwyno unrhyw dystiolaeth, yn y dogfennau ymgynghori.

 

15. Twristiaeth a Marchnata

Derbyniwyd argymhelliad yr Aelod Cabinet Adnoddau yn yr adroddiad, ond gan ychwanegu’r canlynol -

Cytunwyd y dylid amlinellu cyd-destun yr argymhelliad, gan esbonio rôl y Cyngor yn y maes. Dylid hefyd amlygu unrhyw opsiynau eraill i ddarparu’r gwasanaeth.

 

16. Cefnogi Busnes

Derbyniwyd argymhelliad yr Aelod Cabinet Adnoddau yn yr adroddiad.

 

17. Gwasanaeth Gweithredol (Adran Plant)

Derbyniwyd argymhelliad yr Aelod Cabinet Adnoddau yn yr adroddiad, ond nodwyd –

Dylid ychwanegu gwybodaeth neu dystiolaeth, yn y dogfennau ymgynghori, sawl achos na fydd yn cael ei derbyn sylw yn dilyn torri dwy swydd.

 

18. Goleuo Ffyrdd Sirol a Chefnffyrdd

Derbyniwyd argymhelliad yr Aelod Cabinet Adnoddau yn yr adroddiad, ond gan nodi’r canlynol –

Dylid cywiro teitl yr eitem, gan nad yw’r Cyngor yn gyfrifol am oleuo cefnffyrdd.

 

19. Polisi Cynllunio ar y Cyd

Derbyniwyd argymhelliad yr Aelod Cabinet Adnoddau yn yr adroddiad, ond gan nodi’r sylwadau canlynol –

Cytunwyd bod angen bod yn glir beth fyddai effaith y toriad ar allu’r Cyngor i gyflawni’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (sy’n flaenoriaeth ac yn y Cynllun Strategol). Wrth esbonio oblygiadau’r toriad yn y dogfennau ymgynghori, dylid cyflwyno tystiolaeth am oblygiadau gwahanol yr opsiynau gwahanol o dorri 1, 2 neu 3 swydd.

 

20. Digartrefedd

Derbyniwyd argymhelliad yr Aelod Cabinet Adnoddau yn yr adroddiad.

 

21. Prosiectau Economaidd Strategol

Derbyniwyd argymhelliad yr Aelod Cabinet Adnoddau yn yr adroddiad. Datganwyd hefyd gryn anfodlonrwydd bod meysydd gwaith anstatudol fel hyn i’w hystyried ar gyfer toriadau, gan y gallant gyfrannu at waith ataliol ar wasanaethau eraill y Cyngor, ac at ddatblygu cymunedau cynaliadwy.

 

22. Pont Aber

Derbyniwyd argymhelliad yr Aelod Cabinet Adnoddau yn yr adroddiad, ond nodwyd bod angen newid teitl yr eitem i ‘Pont yr Aber’.

 

23. Glanhau Strydoedd

Derbyniwyd argymhelliad yr Aelod Cabinet Adnoddau yn yr adroddiad.

 

24. Trethi

Derbyniwyd argymhelliad yr Aelod Cabinet Adnoddau yn yr adroddiad.

 

25. Dileu Cynllun Gofalwyr Ifanc

Derbyniwyd argymhelliad yr Aelod Cabinet Adnoddau yn yr adroddiad, ond gan nodi’r canlynol –

Cytunwyd bod angen cyflwyno barn defnyddwyr y gwasanaeth (y Gofalwyr Ifanc), a barn wrthrychol, yn y dogfennau ymgynghori.

 

26. Cyfiawnder Ieuenctid

Derbyniwyd argymhelliad yr Aelod Cabinet Adnoddau yn yr adroddiad, ond gan nodi’r canlynol –

Dylai’r dogfennau ymgynghori esbonio cyd-destun gwaith y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, gan esbonio beth yw’r elfennau statudol. Dylid esbonio ei fod yn waith partneriaethol gyda Chyngor Môn, yr Heddlu, a’r Gwasanaeth Prawf, gyda phob partner yn cyfrannu cyllid. Cytunwyd hefyd y dylid esbonio natur y swydd sy’n cael ei hystyried, ac oblygiadau’r toriad posib.

 

Clwstwr eitemau 27 i 52

 

Derbyniwyd argymhelliad yr Aelod Cabinet Adnoddau ar bob eitem ond ychwanegwyd sylwadau ar yr eitemau canlynol –

 

27. Cludiant Cyhoeddus

Gan fod y £300,000 o doriad posib yn gyllid sy’n cael ei ddefnyddio’n bresennol i ddigolledu rhai teithiau, bydd gwybodaeth am ba deithio posib all gael eu heffeithio gan y toriad yn cael ei ychwanegu yn y dogfennau ymgynghori.

 

28. Cefnogol Derwen

Yn y dogfennau ymgynghori dylid manylu pwy sy’n derbyn y gwasanaeth hwn (sef plant ag anableddau a’u teuluoedd) a beth yw natur y gwaith.

Dylid hefyd, wrth ymgynghori, drafod gyda phartneriaid (cyllidol ac ymarferol) mewn prosiect er mwyn deall sut fyddai toriad posib yn effeithio ar eu rôl nhw yn y gwaith.

Esboniwyd hefyd y bydd Asesiadau Effaith Cydraddoldeb yn cael eu cyflwyno o flaen y Cyngor cyn iddo benderfynu, ar ddiwedd y daith, ar y toriadau.

 

32.Celfyddydau am Amgueddfeydd

Nodwyd sylw bod nifer o’r prosiectau mae’r Gwasanaeth hwn yn ei ddarparu yn waith ataliol, gan weithiau ddarparu cefnogaeth i bobl mewn partneriaeth a Gwasanaethau Iechyd. Dylid amlygu hyn yn y dogfennau ymgynghori.

 

47.Pont Abermaw

Cytunwyd y dylai’r dogfennau ymgynghori esbonio mai cyfraniad y Cyngor at gostau’r bont sy’n cael eu hystyried. Gan nad yw’r bont yn eiddo i’r Cyngor, nid penderfyniad y Cyngor yn y pen draw fyddai ei chau ai peidio.

 

Clwstwr eitemau 53 i 65

 

Yn ychwanegol i’r penderfyniad a nodir isod, cytunwyd y dylid amlygu’r pwyntiau canlynol yn y dogfennau ymgynghori –

 

Nid yw’r eitemau o 53 i 65 yn mynd i gael eu cynnwys yn y dogfennau oherwydd bod yr Aelodau Cabinet o’r farn na fyddai aelodau o’r cyhoedd am flaenoriaethu mecanwaith gweithredu mewnol y Cyngor o flaen darpariaeth gwasanaeth rheng flaen. Drwy beidio ag ychwanegu’r eitem i’r rhestr o doriadau posib, sy’n hir yn barod, fe ddylai fod yn haws i’r cyhoedd ddeall y toriadau sy’n cael eu hymgynghori arnynt. Wedi dweud hyn, dylid amlygu bod yr Aelodau Cabinet yn ystyried peirianwaith y Cyngor ar gyfer canfod toriadau, a dylid amlygu hefyd yr arbedion sydd eisoes wedi eu cyflawni.

 

Trafodaeth ar bwyntiau 3.4 - 3.7 yn yr adroddiad i’r cyfarfod

 

Yn ychwanegol i’r penderfyniad a nodir isod, cytunwyd y dylid amlygu’r pwyntiau canlynol yn y dogfennau ymgynghori –

 

Mae’n angenrheidiol i edrych ar wasanaethau addysg oherwydd maint y gyllideb, er bod tua 90% o gyllid darpariaeth addysg y Cyngor wedi ei datganoli i’r ysgolion.

 

 

PENDERFYNIAD

 

1.         Ceisio barn y cyhoedd yng Ngwynedd ar doriadau posib yn unol â’r argymhellion a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet Adnoddau ar gynigion rhifau 1 i 52 yn rhan 3.8 o’r adroddiad i’r cyfarfod.

 

2.         Yn ychwanegol i’r uchod, cytunwyd hefyd i ganfod barn ar gynigion P5, PaB5, PaB6, PaB13, PaB20, Y1, Y3, Rh4, O15, O20, CG19, CG18 a C9 sydd wedi eu cynnwys yn Atodiadau 1 – 10 o’r adroddiad i’r cyfarfod.

 

3.         Yn wyneb cymhlethdod y broses o ganfod barn, yr angen i sicrhau ei fod yn broses ystyrlon, a’r ffaith ei fod yn annhebygol fod pobl Gwynedd am flaenoriaethu gwasanaeth cefnogol uwchben gwasanaethau rheng flaen, na ddylid canfod barn y cyhoedd ar gynigion 53 i 65 yn rhan 3.8 o’r adroddiad, a chynigion Rh28, Rh30, O4, O23, CG1, CG10, CG12, CG20 a C13 sydd wedi eu cynnwys yn Atodiadau 1 – 10 o’r adroddiad i’r cyfarfod gan adael i’r Cyngor bwyso a mesur y flaenoriaeth y dylid ei roi i’r cynlluniau yma yn erbyn y cynlluniau eraill pan fyddant yn ystyried y toriadau.

 

4.         Cytunwyd y dylid gofyn i’r Aelod Cabinet Addysg symud ymlaen i baratoi strategaeth ar gyfer creu cyfundrefn addysg fydd yn parhau i roi blaenoriaeth i gynnal safonau a chryfhau arweinyddiaeth o fewn y cyfyngiadau ariannol amlwg sydd am fod yn ein hwynebu, a’r angen drwy hynny i wireddu arbedion effeithlonrwydd pellach.

 

 

Dogfennau ategol: