Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Rhif | eitem | |
---|---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd yr Aelodau Cabinet a swyddogion i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. Mair Rowlands a’r Cyng. W Gareth Roberts |
||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod:
|
||
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater brys i’w drafod |
||
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd
unrhyw faterion yn codi o drosolwg
a chraffu. |
||
COFNODION CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 24 HYDREF PDF 156 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar y 24 Hydref 2017, fel rhai cywir. |
||
Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siecyn Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd y
ddogfen ymgynghorol ar flaenoriaethau Cynllun y Cyngor ar gyfer 2018-2023 a
chytundeb i gynnal cyfnod ymgynghori o 6 wythnos ar y ddogfen o’r 27ain o
Dachwedd 2017. Cytunwyd i’r
trefniadau a amlinellwyd yn yr adroddiad er mwyn adnabod datrysiadau ac unrhyw
anghenion adnoddau sydd ynghlwm a’r blaenoriaethau gan nodi y byddai yna adrodd
yn ôl ar y canfyddiadau i’r Cabinet ym mis Ionawr. Cofnod: Cyflwynwyd yr
eitem gan Cyng. Dyfrig Siencyn PENDERFYNWYD Cymeradwywyd y ddogfen
ymgynghorol ar flaenoriaethau Cynllun y Cyngor ar gyfer
2018-2023 a chytundeb i gynnal cyfnod ymgynghori
o 6 wythnos ar y ddogfen o’r 27ain o Dachwedd 2017. Cytunwyd i’r
trefniadau a amlinellwyd yn yr adroddiad
er mwyn adnabod
datrysiadau ac unrhyw anghenion adnoddau sydd ynghlwm a’r
blaenoriaethau gan nodi y byddai yna
adrodd yn ôl ar y canfyddiadau
i’r Cabinet ym mis Ionawr. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi mai dogfen
ymgynghorol oedd yn cael ei
drafod er mwyn mynd i
ymgynghoriaeth gyffredinol ar flaenoriaethau Cynllun y Cyngor. Esboniwyd fel rhan
o’r broses i lunio’r Cynllun fod cyfarfodydd wedi eu cynnal
ar sail yr ardaloedd llesiant er mwyn amlygu
unrhyw faterion oedd angen sylw
lleol. Aethpwyd i
fanylder am amserlen y cynllun, gan nodi
fod yr amserlen
yn un dynn. Yn dilyn y cyfnod
ymgynghori bydd adroddiad yn dod
yn ôl i’r
Cabinet ym mis Ionawr. Bydd gwaith
pellach yn mynd rhagddi ar
y blaenoriaethau yn y cyfamser er mwyn
cael cyfle i ddod o hyd
i ddatrysiadau ac adnoddau, a fydd yn cael eu
trafod ymhellach yn Cabinet. Bydd copi
o Gynllun y Cyngor yn dod i’r
Cabinet ar Chwefror 13, a fydd yn cynnwys
cynlluniau busnes yr adrannau, bydd
yna yn cael
ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn
ar 1 Mawrth er mwyn ei
fabwysiadu. Nodwyd y bydd yr ymgynghoriad yn digwydd ar y we, ar gael mewn lleoliadau cyhoeddus ynghyd a gweithdai gyda grwpiau megis mudiadau trydydd sector. Mynegwyd y bydd y Cynllun yn nodi dyheadau’r Cyngor am y 5 mlynedd nesaf, a pwysleisiwyd pwysigrwydd fod y Cynllun yn adlewyrchu’r weledigaeth gywir. Awdur: Dewi Wyn Jones |
||
UCHAFU'R CYFLENWAD O DAI CYMDEITHASOL A FFORDDIADWY DRWY GRYFHAU CAPASITI STRATEGOL PDF 150 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd i
ddyrannu £45,646 y flwyddyn am dair blynedd (cyfanswm oddeutu £140,000), fel
galwad cyntaf yn erbyn cynnyrch y premiwm treth cyngor i’w godi a’r ail
gartrefi ac eiddo gwag erbyn Ebrill 2018 ymlaen a galluogi’r Pennaeth Oedolion,
Iechyd a Llesiant i benodi swyddog ychwanegol o fewn Tîm Strategol Tai, fel
bydd modd i’r Cyngor fanteisio yn llawn ar arian grant gellid hawlio gan
Llywodraeth Cymru i gynyddu’r nifer o dai cymdeithasol a fforddiadwy yng
Ngwynedd. Cofnod: Cyflwynwyd yr
eitem gan y Cyng. Craig ab Iago PENDERFYNWYD Cymeradwywyd i ddyrannu £45,646 y flwyddyn am dair blynedd (cyfanswm oddeutu £140,000), fel galwad cyntaf yn erbyn cynnyrch y premiwm treth cyngor i’w godi a’r ail gartrefi ac eiddo gwag erbyn Ebrill 2018 ymlaen a galluogi’r Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant i benodi swyddog ychwanegol o fewn Tîm Strategol Tai, fel bydd modd i’r Cyngor fanteisio yn llawn ar arian grant gellid hawlio gan Llywodraeth Cymru i gynyddu’r nifer o dai cymdeithasol a fforddiadwy yng Ngwynedd. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod yr Aelod Cabinet yn awyddus i bob un o drigolion Gwynedd
gael cartref. Pwysleisiwyd fod prinder tai yn y sir ac fod Llywodraeth Cymru
wedi neilltuo adnoddau cyfalaf ychwanegol i gynorthwyo Llywodraeth Leol i
ddarparu tai ychwanegol. Nodwyd fod gan yr
adran un swyddog ar hyn o bryd ond fod angen penodi swyddog ychwanegol er mwyn
manteisio yn llawn ar y cyfle i dderbyn arian cyfalaf gan y Llywodraeth tuag at
dai. Yn ychwanegol mynegwyd ei fod yn gylfe i
ddefnyddio canran o arian Premiwm Treth y Cyngor, a fydd yn cael ei godi ar
‘ail grartrefi’ ac eiddo gwag, i sircau
cyflenwad o dai o ansawdd i drigolion Gwynedd. Sylwadau yn codi o’r
drafodaeth -
Nodwyd
fod trafodaethau cychwynnol wedi digwydd gyda’r Cymdeithasau Tai er mwyn
adnabod sut bydd modd i symud ymlaen gyda’r cyfle. -
Trafodwyd
y Premiwm Treth y Cyngor gan nodi fod % o’r arian wedi glustnodi ar gyfer tai i
bobl ifanc Gwynedd, ac felly fod y cynllun yn cyd-fynd a hyn. Mynegwyd fod
amcangyfrif darbodus wedi cael ei wneud o’r incwm o’r Premiwm Treth ac ei fod o
gwmpas £2.1m. -
Pwysleisiwyd
fod angen darparu tai sydd ei angen i drigolion Gwynedd, ac fod materion tai
wedi ei godi mewn trafodaeth a’r Aelod Cynulliad Lleol. -
Mynegwyd
mewn cyfnod o arbedion ei fod yn hanfon i fanteisio yn llawn ar y cyfle. Awdur: Arwel Wyn Owen |
||
CYLLIDEB REFENIW 2017/18 ADOLYGIAD AIL CHWARTER PDF 76 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Peredur Jenkins Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Penderfynwyd i: -
Dderbyn
yr adroddiad ar adolygiad diwedd yr ail chwarter (sefyllfa 30 Medi 2017) o’r
Gyllideb Refeniw, gan ofyn i’r Aelodau Cabinet a’r penaethiaid adrannau
perthnasol gymryd camau priodol ynglŷn a materion o dan eu
harweiniad/rheolaeth. -
Gyda
chytundeb y Pennaeth Adran Amgylchedd, trosglwyddo (£282k) o’r Adran Amgylchedd
i’r Gronfa Strategaeth Ariannol. -
Gyda
chytundeb y Pennaeth Adran Cefnogaeth Gorfforaethol trosglwyddo (£54k) o’r
Adran Cefnogaeth gorfforaethol i’r Gronfa Strategaeth Ariannol. -
Cynaeafu
(£200k) o’r casgliad ffafriol Treth y Cyngor, (£800k) o danwariant Gostyngiad
Treth y Cyngor, (£406k) arbedion a wireddwyd ymlaen llaw, (£444k) tanwariant
un-tro ar fidiau a (£697k) o ganlyniad i amgylchiadau ffafriol ar gyllidebau
eraill y Cyngor, a’i drosglwyddo i’r Gronfa Strategaeth Ariannol i gynorthwyo
gyda pwysau anochel un-tro ar gyllidebau’r Cyngor. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan y Cyng. Peredur Jenkins PENDERFYNWYD Penderfynwyd i: -
Dderbyn
yr adroddiad ar adolygiad diwedd yr ail chwarter (sefyllfa 30 Medi 2017) o’r
Gyllideb Refeniw, gan ofyn i’r Aelodau Cabinet a’r penaethiaid adrannau
perthnasol gymryd camau priodol ynglŷn a materion o dan eu
harweiniad/rheolaeth. -
Gyda
chytundeb y Pennaeth Adran Amgylchedd, trosglwyddo (£282k) o’r Adran Amgylchedd
i’r Gronfa Strategaeth Ariannol. -
Gyda
chytundeb y Pennaeth Adran Cefnogaeth Gorfforaethol trosglwyddo (£54k) o’r
Adran Cefnogaeth gorfforaethol i’r Gronfa Strategaeth Ariannol. -
Cynaeafu (£200k) o’r casgliad ffafriol
Treth y Cyngor, (£800k) o danwariant Gostyngiad Treth y Cyngor, (£406k) arbedion a wireddwyd ymlaen llaw, (£444k) tanwariant un-tro ar fidiau a (£697k) o ganlyniad i amgylchiadau
ffafriol ar gyllidebau eraill y Cyngor, a’i drosglwyddo
i’r Gronfa Strategaeth Ariannol i gynorthwyo gyda
pwysau anochel un-tro ar gyllidebau’r
Cyngor. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi mai cyfrifoldeb y Cabinet yr cymryd camau, fel bod angen, i
sicrhau rheolaeth briodol dros gyllidebau’r Cyngor. Tynwyd
sylw yn benodol ar yr adrannau sy’n gorwario, a bu i’r Aelodau Cabinet
perthnasol esbonio’r gorwariant. Adran Oedolion,
Iechyd a Llesiant Esboniwyd mai
ychydig dros £200k yw’r gorwariant yn yr adran, sy’n canran fach o’r gyllideb
ar y cyfan er nad yw hyn yn cyfiawnhau gorwario. Nodwyd os yn tynnu’r elfen
arbedion o’r gorwariant mae’r neges yn un gadarnhaol, fodd bynnag mae’r adran
yn parhau i weithio ar ail-becynnu y cynlluniau arbedion. Wrth edrych ar yr
Gwasanaeth Darparu nodwyd fod rhai cartrefi preswyl yn gwario lawer yn uwch
na’i cyllidebau. Cydnabyddiwyd fod gwendidau yn y Gwasnaeth Darparu ond fod adroddiad wedi ei gomisiynu a
fydd yn mynd dan groen yr adran i weld ble gall addasiadau gael eu gwneud.
Gobeithir adrodd ar yr adroddiad yn Chwefror a fydd yn roi darlun gwell o’r
gwasanaeth. Pwysleisiwyd yn glir fod gwaith angen ei wneud. Adran Plant a
Chefnogi Teuluoedd Mynegwyd fod yr
adran yn cydnabod ei bod yn gorwario ond na all addo na fydd y gorwariant yn
lleihau yn y tymor byr. Mae dau wasanaeth yn gorwario, Gwasanaeth Gweithredol
a’r Gwasanaeth Lleoliadau. Nodwyd fod
cynnydd yn y galw am wasanaeth ac yn ychwanegol at hyn fod anghenion y plant yn
rhai llawer mwy dwys nac oeddent flynyddoedd yn ôl. Mynegwyd fod trefniadau
craffu mewnol yn eu lle ac eu bod yn edrych ar y gwasanaethau pob chwe wythnos.
Cynlluniau ar y gweill megis Strategaeth Plant a Cefnogi Teuluoedd. O ganlnyiadau’r cynlluniau yma gobeithir y bydd newidiadaqu tymor hir. Bydd y cynlluniau yn cael eu monitro
yn aml. Adran Addysg Prif reswm tu ôl i’r gorwariant yn yr Adran Addysg yw cludiant, ac hyn o ganlyniad i leihad ar werthiant tocynnau cludiant ôl-16 a cludiant tacsis ysgolion. Wrth edrych ar gludiant tacsis nodwyd fod cynnwydd wedi bod yn y galw am amrywiol resymau megis plant yn symud i mewn i’r adral ac angen mynd i’r Unedau Iaith a plant gydag anableddau dwys. Ar hyn o bryd nid oes modd i’r adran ragweld faint o blant ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. Awdur: Dafydd Edwards |
||
RHAGLEN CYFALAF 2017/18 ADOLYGIAD YR AIL CHWARTER PDF 150 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Peredur Jenkins Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr
adroddiad ar adolygiad yr ail chwarter (sefyllfa 30 Medi 2017) o’r rhaglen
gyfalaf, a chymeradwyo’r ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad,
sef: -
£1,121,000
cynnydd mewn defnydd o fenthyca -
(£389,000)
lleihad mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau -
£78,000
cynnydd mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf -
£118,000
cynnydd mewn defnydd o gyfraniadau refeniw -
(£663,000)
lleihad mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill -
(£48,000)
lleihad mewn defnydd o’r gronfa gyfalaf Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan y Cyng. Peredur Jenkins PENDERFYNWYD Derbyn yr
adroddiad ar adolygiad yr ail chwarter (sefyllfa 30 Medi 2017) o’r rhaglen gyfalaf,
a chymeradwyo’r ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r
adroddiad, sef: - £1,121,000 cynnydd mewn defnydd o fenthyca - (£389,000) lleihad mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau - £78,000 cynnydd mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf - £118,000 cynnydd mewn defnydd o gyfraniadau refeniw - (£663,000) lleihad mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill - (£48,000) lleihad mewn defnydd o’r gronfa gyfalaf TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod yr
adroddiad technegol yn rhan o’r
drefn monitro cyllideb a’r prif
ddiben yw cyflwyno’r rhaglen gyfalaf ddiwygiedig a chymeradwyo’r ffynonellau ariannu perthnasol. Mynegwyd fod cynnydd
o £0.217m yn y ffynonellau ariannu ers yr
adolygiad diwethaf. Esboniwyd fod cynlluniau
pendant mewn lle i fuddsoddi tua
£33.4m yn 2017/18 gyda
£5.4m ohono wedi ei ariannu trwy
grantiau, sydd yn adlewyrchu’r gwaith caled yr
adrannau i ddenu grantiau. Tynnwyd sylw at gynnydd mewn benthyca
arall, ac nad yw’n creu ymrwymiad
ychwanegol ar gyllidebau refeniw’r Cyngor, newid technegol
i drefnu ariannu y Llywodraeth yw hwn. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth - Nodwyd y bydd symudiadau gwariant cyfalaf yn cael ei nodi yn y Adroddiadau Perfformiad ym mis Ionawr ac felly bydd mwy o wybodaeth am y cynlluniau yn Ionawr. Diolchwyd i staff yr adran Gyllid am eu gwaith rheoli cyllidebau manwl. Awdur: Dafydd Edwards |