Cyflwynwyd gan:Cyng. Peredur Jenkins
Penderfyniad:
Penderfynwyd i:
-
Dderbyn
yr adroddiad ar adolygiad diwedd yr ail chwarter (sefyllfa 30 Medi 2017) o’r
Gyllideb Refeniw, gan ofyn i’r Aelodau Cabinet a’r penaethiaid adrannau
perthnasol gymryd camau priodol ynglŷn a materion o dan eu
harweiniad/rheolaeth.
-
Gyda
chytundeb y Pennaeth Adran Amgylchedd, trosglwyddo (£282k) o’r Adran Amgylchedd
i’r Gronfa Strategaeth Ariannol.
-
Gyda
chytundeb y Pennaeth Adran Cefnogaeth Gorfforaethol trosglwyddo (£54k) o’r
Adran Cefnogaeth gorfforaethol i’r Gronfa Strategaeth Ariannol.
-
Cynaeafu
(£200k) o’r casgliad ffafriol Treth y Cyngor, (£800k) o danwariant Gostyngiad
Treth y Cyngor, (£406k) arbedion a wireddwyd ymlaen llaw, (£444k) tanwariant
un-tro ar fidiau a (£697k) o ganlyniad i amgylchiadau ffafriol ar gyllidebau
eraill y Cyngor, a’i drosglwyddo i’r Gronfa Strategaeth Ariannol i gynorthwyo
gyda pwysau anochel un-tro ar gyllidebau’r Cyngor.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan y Cyng. Peredur Jenkins
PENDERFYNWYD
Penderfynwyd i:
-
Dderbyn
yr adroddiad ar adolygiad diwedd yr ail chwarter (sefyllfa 30 Medi 2017) o’r
Gyllideb Refeniw, gan ofyn i’r Aelodau Cabinet a’r penaethiaid adrannau
perthnasol gymryd camau priodol ynglŷn a materion o dan eu
harweiniad/rheolaeth.
-
Gyda
chytundeb y Pennaeth Adran Amgylchedd, trosglwyddo (£282k) o’r Adran Amgylchedd
i’r Gronfa Strategaeth Ariannol.
-
Gyda
chytundeb y Pennaeth Adran Cefnogaeth Gorfforaethol trosglwyddo (£54k) o’r
Adran Cefnogaeth gorfforaethol i’r Gronfa Strategaeth Ariannol.
-
Cynaeafu (£200k) o’r casgliad ffafriol
Treth y Cyngor, (£800k) o danwariant Gostyngiad Treth y Cyngor, (£406k) arbedion a wireddwyd ymlaen llaw, (£444k) tanwariant un-tro ar fidiau a (£697k) o ganlyniad i amgylchiadau
ffafriol ar gyllidebau eraill y Cyngor, a’i drosglwyddo
i’r Gronfa Strategaeth Ariannol i gynorthwyo gyda
pwysau anochel un-tro ar gyllidebau’r
Cyngor.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi mai cyfrifoldeb y Cabinet yr cymryd camau, fel bod angen, i
sicrhau rheolaeth briodol dros gyllidebau’r Cyngor. Tynwyd
sylw yn benodol ar yr adrannau sy’n gorwario, a bu i’r Aelodau Cabinet
perthnasol esbonio’r gorwariant.
Adran Oedolion,
Iechyd a Llesiant
Esboniwyd mai
ychydig dros £200k yw’r gorwariant yn yr adran, sy’n canran fach o’r gyllideb
ar y cyfan er nad yw hyn yn cyfiawnhau gorwario. Nodwyd os yn tynnu’r elfen
arbedion o’r gorwariant mae’r neges yn un gadarnhaol, fodd bynnag mae’r adran
yn parhau i weithio ar ail-becynnu y cynlluniau arbedion.
Wrth edrych ar yr
Gwasanaeth Darparu nodwyd fod rhai cartrefi preswyl yn gwario lawer yn uwch
na’i cyllidebau. Cydnabyddiwyd fod gwendidau yn y Gwasnaeth Darparu ond fod adroddiad wedi ei gomisiynu a
fydd yn mynd dan groen yr adran i weld ble gall addasiadau gael eu gwneud.
Gobeithir adrodd ar yr adroddiad yn Chwefror a fydd yn roi darlun gwell o’r
gwasanaeth. Pwysleisiwyd yn glir fod gwaith angen ei wneud.
Adran Plant a
Chefnogi Teuluoedd
Mynegwyd fod yr
adran yn cydnabod ei bod yn gorwario ond na all addo na fydd y gorwariant yn
lleihau yn y tymor byr. Mae dau wasanaeth yn gorwario, Gwasanaeth Gweithredol
a’r Gwasanaeth Lleoliadau.
Nodwyd fod
cynnydd yn y galw am wasanaeth ac yn ychwanegol at hyn fod anghenion y plant yn
rhai llawer mwy dwys nac oeddent flynyddoedd yn ôl. Mynegwyd fod trefniadau
craffu mewnol yn eu lle ac eu bod yn edrych ar y gwasanaethau pob chwe wythnos.
Cynlluniau ar y gweill megis Strategaeth Plant a Cefnogi Teuluoedd. O ganlnyiadau’r cynlluniau yma gobeithir y bydd newidiadaqu tymor hir. Bydd y cynlluniau yn cael eu monitro
yn aml.
Adran Addysg
Prif reswm tu ôl
i’r gorwariant yn yr Adran Addysg yw cludiant, ac hyn o ganlyniad i leihad ar
werthiant tocynnau cludiant ôl-16 a cludiant tacsis ysgolion. Wrth edrych ar
gludiant tacsis nodwyd fod cynnwydd wedi bod yn y
galw am amrywiol resymau megis plant yn symud i mewn i’r adral
ac angen mynd i’r Unedau Iaith a plant gydag anableddau dwys. Ar hyn o bryd nid
oes modd i’r adran ragweld faint o blant a fydd yn symud i mewn i’r ardal ac o
ganlyniad yn methu rhagweld y costau. Nodwyd fod system gymedroli llym mewn
lle, ond fod angen adroddiad pellach yn edrych ar y mater.
Adran Priffyrdd a
Bwrdeistrefol
Nodwyd fod amryw
resymau dros y gorwariant. Esboniwyd fod gwaith wedi cael ei wneud i’r
Asiantaeth Cefnffyrdd, ond fod gostyngiad yn y cyfraddau cyflawni’r gwaith
ynghyd a mewnoli gan yr Asiantaeth wedi achosi i leihad mewn incwm. Gobeithia’r
adran y bydd modd gweithio mwy i’r Asiantaeth er mwyn codi’r lefel incwm.
Er mwyn sicrhau y
bydd lefel gorwariant yn lleihau bydd yr adran yn ail edrych ac o bosib yn dal
yn ôl ar waith ail wynebu ffyrdd. Yn ychwanegol at hyn mae prisiau plastig a metalau yn codi ac o ganlyniad gall hyn olygu y bydd lefel
incwm yr Adran Gwastraff yn cynyddu.
Sylwadau’n codi
o’r drafodaeth
-
Wrth
drafod yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd nodwyd fod pwysau ar gyllidebau’r
maes plant ar hyd y Gogledd. Mynegwyd mae hwn yw’r maes ble mae modd
cydweithio. Angen cadw golwg ar faint mae siroedd eraill yn ei wario y plentyn
er mwyn sicrhau fod Gwynedd yn rhoi yr un lefel o wasanaeth a siroedd
eraill. Ychwanegwyd fod hon yn broblem
genedlaethol ac mae y ffaith fod anghenion y plant yn llawer mwy dwys o’i
gymharu a blynyddoedd eraill yn codi braw yn wyneb yr holl doriadau.
-
Wrth
drafod yr Adran Addysg, nodwyd fod angen trafodaeth bellach ar adran Amgylchedd
er mwyn meddwl am ffyrdd o ddefnyddio adnoddau’r Cyngor er mwyn lleihau’r
gorwariant ar gludiant. Mynegwyd fod angen mwy o ddisgyblaeth ariannol ac angen
gweld canlyniad adolygu’r gwasanaeth cludiant yn ystod chwarter tri.
-
Nodwyd er rhai adrannau
yn gorwario rhaid nodi yn
glir fod rhai adrannau yn
tanwario ac fod eu tanwariant yn
cael eu cynaeafu
i’r Gronfa Strategaeth Ariannol. Mynegwyd fod angen
parhau i ymroi i’r disgyblaeth
ariannol, ac fod trafodaethau yn mynd yn ei
blaen ar arbedion i’r dyfodol.
Awdur:Dafydd Edwards
Dogfennau ategol: