Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Anwen J. Davies, Kim Jones, Beth Lawton a Gareth Roberts.

 

2.

COFNODION pdf eicon PDF 283 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr, 2023 fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

1.    Y Swyddog Monitro, ar ran y prif swyddogion oedd yn bresennol, gan fod yr adroddiad yn ymwneud â’u cyflogau.

 

Roedd o’r farn bod gan y swyddogion fuddiant o sylwedd, ac ynghyd â’r ddau Gyfarwyddwr Corfforaethol, y Pennaeth Cyllid a’r Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth, gadawodd y Swyddog Monitro'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem, gan nad oeddent angen bod yn bresennol i gynghori.  Arhosodd y Prif Weithredwr i mewn yn y cyfarfod i gynghori.

 

2.    Roedd yr aelodau wedi derbyn nodyn briffio ymlaen llaw gan y Swyddog Monitro ynglŷn ag eitem 19(a) – Rhybudd o gynnig gan y Cynghorydd Gruffydd Williams ac eitem 19(b) – Rhybudd o gynnig gan y Cynghorydd Dewi Jones.

 

Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol yn eitem 19(a) a 19(b) ar y rhaglen – Rhybuddion o gynnig:-

 

Y Cynghorwyr Dafydd Davies, Elfed Wyn ap Elwyn, Anwen Hughes, Anne Lloyd Jones, Elwyn Jones, Dewi Owen a Richard Glyn Roberts oherwydd eu bod yn amaethu.

 

Roedd yr aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau sy’n rhagfarnu a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

4.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

Cydymdeimlwyd â’r canlynol:-

 

·         Y Cynghorydd Dewi Owen a’r teulu ar golli ei fam;

·         Y Cynghorydd Dylan Fernley ar golli ei dad.

·         Teulu Dylan Jones o’r Adran Dai ac Eiddo fu farw’n ddiweddar, yn arbennig ei frawd, Steffan Jones, Pennaeth Priffyrdd, Peirianneg ac YGC, a rhoddwyd teyrnged gan y Prif Weithredwr.

 

Nodwyd bod sawl teulu arall yng Ngwynedd hefyd wedi colli rhai annwyl iddyn nhw yn ddiweddar a dymuna’r Cyngor anfon ei gydymdeimlad llwyr at y teuluoedd hyn.

 

Ymdawelodd y Cyngor fel arwydd o barch a choffadwriaeth.

 

 

·         Llongyfarchwyd a chroesawyd y Cynghorydd Newydd, Sian Williams o ward Cricieth sy’n mynychu ei chyfarfod cyntaf o’r Cyngor heddiw.

·         Cydnabuwyd gwaith Prifysgol Bangor ym maes iechyd y cyhoedd wrth i fedal a thystysgrif gwobr y Frenhines gael ei gyflwyno i’r brifysgol yn ddiweddar.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

6.

CWESTIYNAU pdf eicon PDF 234 KB

Ystyried unrhyw gwestiynau gan aelodau etholedig y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.18 o’r Cyfansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

(Cyhoeddwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau ymlaen llaw.)

 

(1)     Cwestiwn Y Cynghorydd Gruff Williams

 

Sut y gwnaeth Cabinet y Cyngor hwn gytuno â Chyngor Môn i beidio a gwneud y Gymraeg yn amcan o Gynllun Llesiant ar y Cyd newydd?

 

Ateb – Arweinydd y Cyngor – Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

Yn gyntaf dylid nodi fod yr iaith Gymraeg yn flaenoriaeth barhaol i’r Bwrdd ers ei sefydlu yn ôl yn 2015. Fel ag y nodir yng nghylch gorchwyl y Bwrdd .....’Cymraeg fydd prif iaith gweinyddiaeth y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, ar lafar ac yn ysgrifenedig. Fe fydd pob aelod yn paratoi adroddiadau yn ddwyieithog.’

 

Mae gofyn statudol i’r Bwrdd gyhoeddi Cynllun Llesiant a sefydlu amcanion llesiant pob 5 mlynedd. Golyga hyn fod y Cynllun Llesiant newydd (2023-28) ar gyfer Gwynedd a Môn yn gosod amcanion ar gyfer y 5 mlynedd nesaf yn unig. Fe gofiwch i’r Cynllun hwnnw gael ei gymeradwyo gan y Cyngor hwn ar y 4 o Fai y llynedd. Adnabuwyd tri amcan ar gyfer y cyfnod dan sylw yn seiliedig ar ganlyniadau’r asesiadau llesiant a gwblhawyd yn 2022. Tra bod Amcanion Llesiant yn newid dros amser tydi ymrwymiad y Bwrdd i flaenoriaethu’r iaith Gymraeg ddim yn newid.

 

Datblygwyd yr amcanion ar y cyd hefo holl aelodau’r Bwrdd ac mae’r Cynllun Llesiant wedi ei gymeradwyo yn ffurfiol gan yr holl aelodau statudol, sef Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Ynys Môn, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Awdurdod Tan ac Achub Gogledd Cymru.

 

Dyma ddyfyniad o Gynllun Cyflawni 2023/24 y Bwrdd sy’n gosod allan y flaenoriaeth i’r Gymraeg ac i’r amcanion am y pum mlynedd dan sylw:

Dyma ein blaenoriaeth parhaol:

Mae’r iaith Gymraeg yn flaenoriaeth parhaol i’r Bwrdd ac rydym yn ei hyrwyddo ym mhob maes o’n gwaith

Dyma ein Amcanion Llesiant am y cyfnod 2023-28:

·         Rydym am weithio gyda’n gilydd i liniaru effaith tlodi ar lesiant ein cymunedau.

·         Rydym am weithio gyda’n gilydd i wella lles a llwyddiant ein plant a phobl ifanc er mwyn gwireddu eu llawn botensial.

·         Rydym am weithio gyda’n gilydd i gefnogi ein gwasanaethau a’n cymunedau i symud tuag at Sero Net Carbon.

Rydym fel Bwrdd wedi cytuno i ddilyn methodoleg System Gyfan a Pwysa Iach/Cymru Iach fel llinyn euraidd drwy’r gwaith yma.

 

Cyfeiriwyd at ddarlun oedd wedi ei gyhoeddi yn yr ateb ysgrifenedig oedd yn gosod allan yr uchod gyda’r iaith Gymraeg yn y canol yn treiddio drwy holl waith y Bwrdd.

 

Cwestiwn Atodol y Cynghorydd Gruff Williams

 

O ystyried yr hyn rydych wedi ei nodi, fedrwch chi gadarnhau felly os ydi’r Gymraeg yn rhy bwysig i fod yn amcan llesiant neu ddim digon pwysig i fod yn amcan llesiant?

 

Ateb – Arweinydd y Cyngor – Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

Mae’r Gymraeg yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud yn y Cyngor ac nid yw’n ffitio fewn i un bocs penodol. Ni chredaf ei fod yn gwestiwn y gellir ei ateb efo ia neu na, dim ond nodi fod y Gymraeg yn dreiddiol drwy’r Cyngor.

 

(2)   Cwestiwn Y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADOLYGIAD BLYNYDDOL - POLISI TAL Y CYNGOR 2024-25 pdf eicon PDF 127 KB

Cyflwyno adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion i fabwysiadu’r Polisi Tâl ar gyfer 2024/25.

 

Cofnod:

 

Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion, y Cynghorydd Menna Trenholme yr adroddiad oedd yn argymell i’r Cyngor gymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion i fabwysiadu Polisi Tâl y Cyngor ar gyfer 2024/25.

 

Cyfeiriwyd at yr oedi sylweddol yn 2023 cyn dod i gytundeb ynglŷn â’r cynnydd yng nghyflog holl staff y Cyngor o ganlyniad i’r broses fargeinio bresennol. Cyfrannodd y broses yma at y trafodaethau am osod cyllidebau a cheisio rhoi sicrwydd i Gynghorau am lefelau cyflog. Roedd trafodaethau maith rhwng yr Undebau a’r Cyngor ynglŷn â faint all y Cyngor fforddio oedd wedi arwain at oedi cyn dod i benderfyniad. Ychwanegwyd nad yw’r trafodaethau ar gyfer cyflog 2024/25 wedi dechrau hyd yma ac y bydd misoedd eto nes y bydd penderfyniad ar hyn.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. Codwyd y materion a ganlyn:-

 

·         Nodwyd bod tudalen 30 o’r adroddiad yn cyfeirio at Adolygiad Hutton o Gyflog Teg yn y Sector Gyhoeddus ac yn argymell cymhareb o ddim mwy na 1:20 rhwng y cyflog uchaf a’r cyflog isaf (swyddi llawn amser). Ategwyd bod yr adroddiad yn nodi fod y gymhareb hon yng Nghyngor Gwynedd yn 1:5.6. Ychwanegwyd bod llawer o’r swyddi ar y lefel isaf ddim yn swydd llawn amser ac y byddai’n dda darganfod beth fyddai’r gymhareb o gysidro swyddi rhan amser e.e. cytundebau 23 awr yr wythnos neu gymhorthydd Ysgol sy’n gweithio yn ystod y tymor Ysgol yn unig.

·         Cyfeiriwyd at ran 5 o’r tabl (Atodiad 1) ar dudalen 34 gan wneud sylw y byddai’r tabl yn gliriach pe bai pob swydd yn cael ei nodi yno un o dan y llall er gwaetha’r ffaith eu bod nhw ar yr un raddfa. Credwyd nad yw defnydd yr atalnodau yn ei wneud yn glir yn ei fformat bresennol.

·         Nodwyd bod yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol, mewn ymateb i gwestiwn aelod yn gynharach, wedi nodi bod trosiant staff yn isel yn yr Awdurdod yma, gan ychwanegu bod eithriadau fel Gofal Cymdeithasol a Pheirianneg. Gofynnwyd ble mae’r cyfiawnhad dros ddefnyddio pwysau’r farchnad ar y lefelau cyflog.

 

Mewn ymateb, nododd y Prif Weithredwr:-

 

·         Mai cymhareb ar sail pro rata ydyw er mwyn cymharu’r ddau lefel cyflog ochr yn ochr yn deg. Cynigiwyd darparu’r ffigwr yn seiliedig ar staff sydd ddim yn gweithio oriau llawn amser i’r aelod ar ôl y cyfarfod petai derbyn y wybodaeth yma o ddiddordeb iddo.

·         Derbyniwyd sylw’r aelod o ran y tabl yn yr adroddiad gan nodi y byddai’r atalnod yn cael ei addasu yn y dyfodol er mwyn ei wneud yn fwy twt.

·         Nodwyd mai prin iawn iawn yw’r defnydd o atodiad y farchnad gan nodi nad yw hyn yn arferiad sy’n cael ei wneud mewn unrhyw amgylchiadau sefydlog.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion i fabwysiadu’r Polisi Tâl ar gyfer 2024/25.

 

8.

CYNLLUN CYNGOR GWYNEDD - 2023-28: ADOLYGIAD 2023-24 pdf eicon PDF 167 KB

Cyflwyno adroddiad Arweinydd y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadu Cynllun Cyngor Gwynedd 2023-28 – Adolygiad 2023-24.

 

Cofnod:

 

Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn yr adroddiad oedd yn gwahodd y Cyngor i gymeradwyo adolygiad o Gynllun y Cyngor 2024/25. Nodwyd bod blwyddyn wedi pasio ers mabwysiadu Cynllun Cyngor Gwynedd 2023-2028 gan nodi mai adolygiad ysgafn sydd yma ond bod newidiadau pwysig wedi bod i’r Cynllun.

 

Tynnwyd sylw at rai materion megis Maes Blaenoriaeth: Gwynedd Yfory gan nodi bod y prosiect Cinio Ysgol am ddim bellach wedi ei gyflwyno i holl Ysgolion Cynradd Gwynedd o flaen amserlen y Llywodraeth. Ychwanegwyd bod y Strategaeth Addysg bellach yn dyddio felly bydd Strategaeth newydd yn cael ei llunio er mwyn sicrhau bod yr Addysg orau yn cael ei gynnig i blant y Sir. Nodwyd bod Strategaeth gyfredol a chadarn yn ofynnol er mwyn ceisio denu arian grant i fuddsoddi mewn adeiladau Ysgolion. Bydd y ddarpariaeth gynhwysiad hefyd yn cael ei hadolygu i edrych ar y cynnydd mewn anghenion ymddygiadol emosiynol ymysg plant, sgil effaith y pandemig.

 

Nodwyd o dan y Maes Blaenoriaeth: Gwynedd Gymraeg bydd adolygiad o’r Polisi Iaith Addysg yn cael ei gynnal ynghyd â chynnal gwerthusiad o’r gyfundrefn drochi. Mynegwyd bod hyn yn cadarnhau awydd yr Awdurdod i roi sylw i’r ddau faes a byddant yn rhan o Gynllun y Cyngor am y flwyddyn i ddod. Rhannwyd y newyddion bod Meirion Prys Jones, un o gynllunwyr ieithyddol mwyaf profiadol Cymru, yn cael ei gomisiynu i arwain ar y gwaith o ail edrych ar Bolisi Iaith Addysg Gwynedd. Anogwyd pawb i gymryd rhan yn y sgwrs bwysig yma pan fydd y cyfnod ymgysylltu yn cychwyn. Ychwanegwyd bod mân newidiadau eraill wedi cael eu cynnwys yn yr adroddiad a mynegwyd balchder dros allu cynnig i’r Cyngor fabwysiadu’r newidiadau hyn.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

Gofynnwyd am sicrwydd nad yw Ysgol Tywyn am ddisgyn oddi ar y rhestr aros am welliannau gan nodi bod yr adroddiad yn cyfeirio at foderneiddio adeiladau ac amgylchedd ddysgu yn  benodol yn ardaloedd Bangor a Criccieth. Nodwyd bod Ysgol Tywyn yn un o Ysgolion hynaf y Sir ac angen gwaith atgyweirio. Mynegwyd pryder bod Tywyn yn cael ei esgeuluso yn ddaearyddol.

·         Mewn ymateb nododd yr Arweinydd nad yw ardal Dysyni yn cael ei esgeuluso a bod cynrychiolwyr y ward yn gwneud gwaith da o dynnu sylw’r Cyngor at faterion yr ardal. Adroddwyd bod yr Adran Addysg yn falch o glywed am y sylwadau.

·         Ychwanegodd y Prif Weithredwr mai cyfeirio at adeiladu Ysgolion mae’r adroddiad ac nid cynnal Ysgolion, ond gobeithiai y bydd gwedd newydd i’r rhaglen pe bai’r sefyllfa gyllidol yn caniatáu.

 

Mynegwyd safbwynt bod y Cynllun yma a’r Ddeddf Llesiant wedi cael eu seilio ar y ‘sustainable development goals’ gan y Cenhedloedd Unedig ac mai dyma yw testun a gwreiddyn yr holl wrthdaro sydd yn bodoli yn Ewrop ac yng Nghymru rhwng yr amaethwyr a’r Awdurdodau. Nodwyd hefyd bod gwrthdaro rhwng ceisio gwireddu sero net a thlodi oherwydd y costau sydd ynghlwm a sero net. Mynega’r aelod na allai bleidleisio o blaid  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

CYLLIDEB 2024/25 pdf eicon PDF 258 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

1. Cymeradwyo’r argymhellion a gyflwynwyd gan y Cabinet, sef:-

 

(a)  Sefydlu cyllideb o £331,814,710 ar gyfer 2024/25 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £233,316,780 a £98,497,930 o incwm o’r Dreth Cyngor (sy’n gynnydd o 9.54%).

(b)  Sefydlu rhaglen gyfalaf o £85,224,800 yn 2024/25 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad.

 

2.  Nodi fod yr Aelod Cabinet dros Gyllid, drwy daflen benderfyniad dyddiedig 23 Chwefror 2024, wedi cymeradwyo cyfrifiad y symiau a ganlyn ar gyfer y flwyddyn 2024/25 yn unol â’r rheoliadau a luniwyd dan Adran 33 (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Y Ddeddf”):-

 

(a) 56,109.27 yw’r swm a gyfrifwyd fel ei Sylfaen Dreth Cyngor am y flwyddyn yn unol â’r Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Cyngor) (Cymru) 1995 fel y’i diwygiwyd.

 

(b) Rhan o ardal y Cyngor – Sylfaen Drethiannol Cymuned –

 

Aberdaron

      607.86

 

Llanddeiniolen

  1,879.99

Aberdyfi

    1,199.84

Llandderfel

   513.67

Abergwyngregyn

      127.25

Llanegryn

     170.33

Abermaw (Barmouth)

    1,279.39

Llanelltyd

     316.11

Arthog

      686.30

Llanengan

  2,611.78

Y Bala

      805.81

Llanfair

     365.02

Bangor

    4,216.67

Llanfihangel y Pennant

     251.26

Beddgelert

      342.39

Llanfrothen

     237.05

Betws Garmon

      146.14

Llangelynnin

     469.59

Bethesda

    1,729.69

Llangywer

     154.76

Bontnewydd

      470.78

Llanllechid

     362.98

Botwnnog

      470.80

Llanllyfni

  1,485.90

Brithdir a Llanfachreth

      470.72

Llannor

     931.18

Bryncrug

      348.73

Llanrug

  1,148.76

Buan

      239.47

Llanuwchllyn

     335.02

Caernarfon

    3,689.58

Llanwnda

     848.52

Clynnog Fawr

      489.48

Llanycil

     211.80

Corris

      323.38

Llanystumdwy

     929.25

Criccieth

    1,004.64

Maentwrog

     328.15

Dolbenmaen

      656.05

Mawddwy

     377.08

Dolgellau

    1,284.66

Nefyn

  1,656.10

Dyffryn Ardudwy

      861.12

Pennal

     238.42

Y Felinheli

    1,192.74

Penrhyndeudraeth

     822.80

Ffestiniog

    1,816.64

Pentir

  1,300.06

Y Ganllwyd

        90.89

Pistyll

     306.53

Harlech

      852.33

Porthmadog

  2,268.75

Llanaelhaearn

      482.64

Pwllheli

  1,834.49

Llanbedr

      373.86

Talsarnau

     364.36

Llanbedrog

      855.68

Trawsfynydd

     517.21

Llanberis

      797.48

Tudweiliog

     512.69

Llandwrog

    1,066.90

Tywyn

  1,779.66

Llandygai

    1,022.19

 

Waunfawr

     577.90

 

 

sef y symiau a gyfrifwyd fel symiau Sylfaen y Dreth Cyngor ar gyfer y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o’i ardal lle bo un eitem arbennig neu fwy’n berthnasol.

 

3. Bod y symiau a ganlyn yn cael eu cyfrifo yn awr gan y Cyngor ar gyfer y flwyddyn 2024/25 yn unol ag Adrannau 32 i 36 o’r Ddeddf:-

                       

(a)   

£570,459,760

Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodwyd yn Adran 32(2)(a) i (e) o’r Ddeddf (gwariant gros).

 

(b)   

£236,024,890

Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodwyd yn Adran 32(3)(a) i (c) o’r Ddeddf (incwm).

 

(c)   

£334,434,870

Sef y swm sy’n cyfateb i’r gwahaniaeth rhwng cyfanswm 3(a) uchod a chyfanswm 3(b) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol ag Adran 32(4) o’r Ddeddf, fel ei ofynion cyllideb ar gyfer y flwyddyn (cyllideb net).

 

     (ch)

£232,821,120

Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn amcangyfrif y byddant yn daladwy yn ystod y flwyddyn i’w gronfa ar gyfer cyfan o’r Dreth Annomestig Genedlaethol a Grant Cynnal Refeniw, llai amcangyfrif o’r gost i’r Cyngor o ryddhad dewisol o’r dreth annomestig a ganiateir.

 

(d)   

£1,811.00

Sef y swm yn 3(c) uchod llai’r swm yn 3(ch) uchod, y cyfan wedi ei rannu gan y swm  ...  view the full Penderfyniad text for item 9.

Cofnod:

 

Nododd y Cadeirydd, yn ôl Cyfansoddiad y Cyngor, rhaid i’r Pennaeth Cyllid dderbyn unrhyw welliant i’r eitem yma yn ysgrifenedig ymlaen llaw, a rhaid i’r gwelliant hwnnw arwain at gyllideb hafal os yw am gael ei drafod. Roedd holl aelodau’r Cyngor wedi cael eu hatgoffa o hyn wythnos ddiwethaf, ac ni dderbyniodd y Pennaeth Cyllid unrhyw rybudd o welliant erbyn yr amser cau dynodedig. O ganlyniad, ni fydd modd ystyried unrhyw rybudd o welliant i’r gyllideb.

 

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Ioan Thomas:-

 

·         Adroddiad a chyflwyniad yn argymell cyllideb i’r Cyngor ei chymeradwyo ar gyfer 2024/25;

·         Penderfyniad drafft y Dreth Cyngor yn seiliedig ar argymhelliad y Cabinet i’r Cyngor (ar sail cynnydd o 9.54%) ynghyd â thablau yn dangos lefel y Dreth Cyngor a’r cynnydd fesul cymuned.

 

Diolchodd i staff yr Adran Gyllid am eu gwaith yn paratoi’r gyllideb. Ychwanegodd nad yw’n rhoi unrhyw bleser o gwbl iddo i gynnig codi Treth Cyngor mewn cyfnod ble mae gymaint o drigolion y Sir yn brwydro yn erbyn costau byw sydd wedi cynyddu yn sylweddol.

 

Pwysleisiodd os bydd gan unrhyw un broblem i dalu Treth Cyngor neu angen cymorth ar gostau byw ei bod yn bwysig iddynt gysylltu gyda’r Cyngor. Nodwyd bod angen i Gynghorwyr drosglwyddo’r wybodaeth yma i’w hetholwyr. Rhannwyd y manylion cyswllt perthnasol oedd yn cynnwys rhif ffôn Galw Gwynedd â’r cyfeiriad e-bost ynghyd â chyfeiriad e-bost y gwasanaeth Treth Cyngor.

 

Atgoffodd y Pennaeth Cyllid yr aelodau o rai o’r prif risgiau yn Atodiad 10 o’r adroddiad, a chadarnhaodd, wedi ystyried yr holl risgiau a’r camau lliniaru, ei fod o’r farn bod Cyllideb y Cyngor am 2024/25 yn gadarn, yn ddigonol, ac yn gyraeddadwy.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Mynegwyd bod gwariant Cyngor Gwynedd yn cael ei arwain gan anghenion pobl Gwynedd a bod yr aelodau yma er mwyn ateb y gofynion a’r anghenion hynny. Nodwyd bod y sefyllfa ariannol bresennol eisoes yn ddifrifol. Gofynnwyd faint o'r gorwariant sy’n deillio o ddiffyg cyllido bwriadol a’r diffyg i gydnabod angen sylfaenol gan Lywodraeth Prydain.

·         Mewn ymateb nodwyd mai’r broblem yw tan-gylllido sylweddol gan y Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd. Cydnabuwyd bod y sefyllfa yn un broblemus oherwydd mai drwy Gaerdydd yn unig, ynghyd â thaliadau Treth Cyngor, y mae Cynghorau yn cael eu harian. Pwysleisiwyd bod y Cyngor mewn sefyllfa o gael ei danariannu.

·         Nododd un aelod y byddai yn pleidleisio o blaid y gyllideb ond yn gwneud hynny yn anfoddog. Mynegodd ein bod wedi cael ein gwthio a’n gorfodi i’r sefyllfa yma dros gyfnod o 10 mlynedd dan bolisi llymder Llywodraeth San Steffan. Nodwyd bod San Steffan yn torri taliadau yswiriant gwladol ond yn tan-gyllido gwasanaethau cyhoeddus gan orfodi Cynghorau i gynyddu’r Dreth Cyngor.

·         Credwyd ei bod yn bwysig mynegi anfodlonrwydd efo’r sefyllfa mae’r Cyngor wedi cael ei orfodi i fod ynddi. Ategwyd mai llesiant plant y dyfodol fydd yn dioddef yn y pen draw.

·         Cyfeiriwyd at achosion unigol torcalonnus roedd aelodau wedi dod ar eu traws  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

ADOLYGU TREFNIADAU CRAFFU pdf eicon PDF 263 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadu Opsiwn 1 – sef cadw at y trefniadau pwyllgorau craffu cyfredol gan gymeradwyo’r camau gweithredu i wella effeithlonrwydd sydd wedi eu cynnwys yn Atodiad 2 i’r adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth yr adroddiad oedd yn gofyn i’r Cyngor fabwysiadu Opsiwn 1 yn dilyn adolygu trefniadau Craffu. Adroddodd ei fod yn cyflwyno’r adroddiad ar ran y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio oedd wedi cymeradwyo’r opsiwn yma yn ei gyfarfod ym mis Ionawr, yn ddarostyngedig bod gwaith yn cael ei wneud i wella effeithlonrwydd a gweithrediadau’r Pwyllgorau Craffu.

 

          Diolchwyd i’r aelodau am eu presenoldeb a’u cyfraniad yn y gweithdai gafodd eu cynnal flwyddyn dwytha a cyfeiriwyd at yr adroddiad oedd yn crynhoi negeseuon a ddeilliodd o’r gweithdai cyn i’r Fforwm Craffu gyfarfod. Gwahoddwyd y Cynghorydd Paul Rowlinson, ar ran y Fforwm Craffu, i ymhelaethu ar ystyriaethau’r Fforwm Craffu.

 

          Adroddodd y Cynghorydd Paul Rowlinson nad oedd consensws clir yn y gweithdai na’r Fforwm Craffu gyda gwahanol aelodau yn ffafrio gwahanol opsiynau. Nododd hefyd bod mewnbwn Archwilio Cymru wedi bod yn bositif ar y cyfan; cyfeiriwyd at enghreifftiau ble roedd mewnbwn Craffu wedi gwella penderfyniadau’r Cabinet.

 

Mynegwyd nad oedd Archwilio Cymru yn awgrymu newid i’r strwythur presennol nac i lwyth gwaith y Pwyllgorau Craffu. Serch hyn, nodwyd bod rhai aelodai wedi cyfeirio at lwyth gwaith y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi gan nodi ei fod yn ormod. Yn dilyn crynhoi’r sylwadau, gwnaethpwyd cynnig ar ran y Fforwm Craffu i fabwysiadu opsiwn 1.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.  Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

Cyfeiriwyd at gam gweithredu diwethaf yn yr atodiad ble roedd sôn am adrodd yn ôl. Gofynnwyd a fydd hyn yn golygu bod adroddiad yn cael ei greu sy’n dangos i aelodau sut mae sylwadau Craffu sy’n ymwneud a newidiadau geiriol i adroddiadau wedi cael ystyriaeth a’u derbyn neu’u gwrthod. Dymuna’r aelod weld proses o adrodd ar hyn yn bodoli fel bod aelodau yn cael gwybod os gafodd eu sylwadau eu derbyn neu beidio.

·         Mewn ymateb nododd y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth y bydd adroddiad blynyddol yn cael ei ddarparu ar yr argymhellion.

 

Nododd un aelod ei fod wedi bod yn aelod o’r Pwyllgor Craffu Cymunedau ers 12 mlynedd ac o’r 13 o eitemau yr oedd wedi ei roi ger bron, credodd na chafodd yr un eitem ddatrysiad. Cwestiynodd os oes wir angen y Pwyllgorau Craffu o gwbl am mai Craffu gwaith aelodau’r Cabinet sy’n digwydd a chredwyd nad oedd pwrpas i hynny gan mai aelodau Plaid Cymru sydd â’r mwyafrif seddau ar y Pwyllgorau Craffu.

·         Mewn ymateb nododd y Cynghorydd Paul Rowlinson nad yw aelodau yn gweithredu fel plaid neu grŵp gwleidyddol penodol wrth graffu. Nododd ei fod yn ofyn statudol ar bob Cyngor i gael cyfundrefn Craffu ac mai pwrpas Craffu yw ceisio gwella penderfyniadau'r weithrediaeth. Credodd bod nifer o enghreifftiau ble mae penderfyniad y Pwyllgor Craffu wedi cael effaith gadarnhaol ar benderfyniad y Cabinet. Ychwanegodd ei bod hi’n anghyfreithlon gweithredu ar sail plaid.

 

Gwnaethpwyd sylw gan aelod a chyn-gadeirydd y Pwyllgor Craffu Gofal o bedair blynedd; dymunodd dalu teyrnged bod Craffu yn gweithio. Adroddodd ei fod wedi gweithio’n agos iawn efo aelod o grŵp gwleidyddol gwahanol fel is-gadeirydd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

11.

PROSES YMGYNGHORI - PLEIDLAIS SENGL DROSGLWYDDADWY AR GYFER ETHOLIADAU CYNGOR GWYNEDD pdf eicon PDF 209 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

  1. Bod y Cyngor yn cymeradwyo’r amserlen a’r broses arfaethedig ar gyfer cynnal yr ymgynghoriad ar newid i gyfundrefn Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar gyfer etholiadau i Gyngor Gwynedd o 2027 ymlaen.
  2. Bod y Cyngor yn dirprwyo paratoi a chynnal yr ymgynghoriad i’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol mewn ymgynghoriad a’r Aelod Cabinet dros Gefnogaeth Corfforaethol a Chyfreithiol a’r Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol (Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth).
  3. Bod y ddogfen ymgynghori yn cael ei pharatoi mewn ymgynghoriad gydag arweinyddion grwpiau gwleidyddol y Cyngor.

 

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol, y Cynghorydd Menna Trenholme yr adroddiad oedd yn darparu cysyniad o’r trefniant i gychwyn proses all arwain at fabwysiadu system pleidlais sengl drosglwyddadwy ar gyfer etholiadau Cyngor Gwynedd. Adroddwyd y bydd angen cymeradwyo’r broses ymgynghori ac amserlen penderfynu ac yna ar ôl yr ymgynghori bydd angen galw cyfarfod o’r Cyngor Llawn ar gyfer y penderfyniad yma yn unig. 

 

Nid oedd unrhyw sylwadau na chwestiynau.

 

PENDERFYNWYD

1.    Bod y Cyngor yn cymeradwyo’r amserlen a’r broses arfaethedig ar gyfer cynnal yr ymgynghoriad ar newid i gyfundrefn Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar gyfer etholiadau i Gyngor Gwynedd o 2027 ymlaen.

2.    Bod y Cyngor yn dirprwyo paratoi a chynnal yr ymgynghoriad i’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol mewn ymgynghoriad a’r Aelod Cabinet dros Gefnogaeth Corfforaethol a Chyfreithiol a’r Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol (Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth).

3.    Bod y ddogfen ymgynghori yn cael ei pharatoi mewn ymgynghoriad gydag arweinyddion grwpiau gwleidyddol y Cyngor.

 

12.

STRATEGAETH GYFALAF 2024/25 (YN CYNNWYS STRATEGAETHAU BUDDSODDI A BENTHYCA) pdf eicon PDF 244 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf ar gyfer 2024/25

 

Cofnod:

 

          Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Ioan Thomas yr adroddiad oedd yn cyfarch y gofyn statudol ar Gynghorau ac yn rhoi cyd-destun hir dymor i benderfyniadau gwariant cyfalaf a buddsoddiadau gan Gynghorau. Nodwyd bod yr adroddiad hefyd yn rhoi trosolwg o sut y rheolir risgiau cysylltiedig â'r goblygiadau i gynaliadwyedd ariannol yn y dyfodol.

 

          Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid fod yr adroddiad yn cyfeirio at 3 atodiad ond yn anffodus nid yw’r atodiadau wedi eu cynnwys yn y Rhaglen. Nodwyd fod yr atodiadau hyn yn rhoi manylder pellach ond bod gwybodaeth ddigonol wedi ei gynnwys yn yr adroddiad. 

 

Dangoswyd dabl “Gwrthbartion Buddsoddi sydd wedi’u Cymeradwyo a’r terfynau” i’r aelodau gan adrodd bod y tabl oedd yn cael ei arddangos yn rhoi’r wybodaeth oedd ar goll yn yr atodiadau. Ymddiheurwyd bod yr atodiadau heb eu cynnwys gan ychwanegu eu bod nhw wedi eu cynnwys yn Rhaglen y Pwyllgor Llywodraethau ac Archwilio ac wedi eu hystyried yno yn llawn.

 

Dyma gynnwys copi o’r tabl. 

 

 

 

Sicrhaodd y Swyddog Monitro bod yr adroddiad sydd yn y Rhaglen yn gynhwysfawr ynghyd a’r tabl uchod gafodd ei arddangos yn rhoi’r aelodau mewn sefyllfa i fedru pleidleisio a mabwysiadu’r strategaeth. 

  

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.  Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

Diolchwyd am yr adroddiad a mynegwyd diolch i gwmni Arlingclose am eu cyflwyniad i aelodau’r Cyngor nol ym mis Chwefror. Nodwyd bod y maes yn un technegol iawn ond bod Arlingclose wedi ei wneud yn haws i ddeall. Gwerthfawrogwyd bod y cyflwyniad yma wedi bod ar gael i bob Cynghorydd ac nid aelodau’r Pwyllgor Llywodraethau ac Archwilio yn unig fel sy’n arfer digwydd.

 

Cadarnhawyd bod yr aelodau mewn sefyllfa i wneud penderfyniad am fod yr adroddiad yn un cynhwysfawr.

 

          PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf ar gyfer 2024/25.

 

13.

CYTUNDEB CYFLAWNI - CYNLLUN DATBLYGU LLEOL GWYNEDD pdf eicon PDF 216 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Amgylchedd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Bod y Cyngor yn:-

  1. Cymeradwyo fersiwn terfynol o Gytundeb Cyflawni – Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd (sydd wedi ymgorffori’r diwygiadau yn dilyn y cyfnod ymgynghori cyhoeddus).
  2.  Cytuno i gyflwyno’r Cytundeb Cyflawni i Lywodraeth Cymru ar gyfer eu cymeradwyaeth.
  3. Dirprwyo hawl i’r Pennaeth Adran wneud addasiadau golygyddol er sicrhau cywirdeb yn ôl yr angen.

 

Cofnod:

 

          Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Amgylchedd, y Cynghorydd Dafydd Meurig yr adroddiad oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Cyngor Llawn i’r Cytundeb Cyflawni a chytundeb i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru ar gyfer sêl bendith. Eglurwyd bod yr adroddiad yn ymwneud a’r broses faith o greu Cynllun Datblygu Lleol a dyma’r cam cyntaf yn y broses honno sef mabwysiadu’r Cytundeb Cyflawni.

 

          Nodwyd bod y Cytundeb Cyflawni i’w weld yn llawn yn y Rhaglen yn ogystal â chyd-destun a chyfeiriadau at y broses o greu’r cytundeb, ynghyd ag amserlen a’r camau.

 

          Manylwyd ar daith y Cytundeb Cyflawni hyd yn hyn oedd yn cynnwys ymgynghoriad cyhoeddus a soniwyd am rai o’r sylwadau a dderbyniwyd. Nodwyd bod sylwadau penodol wedi eu gwneud ynglŷn â’r profion cadernid a’r posibilrwydd o’u diwygio er mwyn ystyried yr effaith ar yr iaith Gymraeg fel rhan o’r profion. Rhedwyd drwy’r profion cadernid oedd yn ymwneud ag addasrwydd y Cynllun, priodoldeb y Cynllun a gallu’r Cynllun i gyflawni. Cyfeiriwyd at yr ymateb i’r sylw oedd wedi ei gynnwys ar dudalen 169 o’r Rhaglen.

 

Nodwyd bod y Gweithgor Polisi Cynllunio a’r Cabinet wedi ystyried sylwadau’r ymgynghoriad yn llawn; mynegwyd pryder am nifer isel yr ymatebion. Adroddwyd y bydd y gwaith o greu'r Cynllun Datblygu Lleol yn cychwyn ar ôl iddo dderbyn cymeradwyaeth gan y Llywodraeth, gall hyn gymryd o gwmpas bedair wythnos.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. 

 

Gwnaethpwyd sylw gan aelod nad oedd newid wedi digwydd i’r Cynllun o ganlyniad i sylwadau’r ymgynghoriad a chredodd bod hynny yn dueddol o ddigwydd yn aml yn dilyn ymgynghoriadau. Gwerthfawrogwyd eglurhad yr Aelod Cabinet Amgylchedd am pam na gafodd y sylw ei dderbyn ond credwyd bod angen ystyried pa mor ddibynadwy ydi’r asesiad gan y Llywodraeth wrth ymdrin ag ardrawiad ar yr iaith Gymraeg.

 

          PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn:-

1.    Cymeradwyo fersiwn terfynol o Gytundeb Cyflawni – Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd (sydd wedi ymgorffori’r diwygiadau yn dilyn y cyfnod ymgynghori cyhoeddus).

2.     Cytuno i gyflwyno’r Cytundeb Cyflawni i Lywodraeth Cymru ar gyfer eu cymeradwyaeth.

3.    Dirprwyo hawl i’r Pennaeth Adran wneud addasiadau golygyddol er sicrhau cywirdeb yn ôl yr angen.

 

14.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PANEL STRATEGOL DIOGELU 2022-23 A CHYFLWYNO ADOLYGIAD O BOLISI DIOGELU CYNGOR GWYNEDD pdf eicon PDF 166 KB

Cyflwyno adroddiad Cadeirydd y Panel Strategol Diogelu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

  1. Derbyn yr adroddiad sy’n adrodd ar waith y Panel Strategol Diogelu ar gyfer y flwyddyn 2022-23.
  2. Nodi’r Polisi Diogelu diwygiedig (Atodiad 2 i’r adroddiad) ynghyd â’r Cylch Gorchwyl diwygiedig ar gyfer y Panel Strategol Diogelu (Atodiad 3).

 

Cofnod:

 

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol, y Cynghorydd Menna Trenholme adroddiad blynyddol y Panel Strategol Diogelu 2022-23 gan nodi bod yr Adran eisoes wedi cychwyn paratoi adroddiad 2023-24. Nodwyd bod yr adroddiad yn rhoi trosolwg o’r gwaith sydd wedi digwydd gan y Panel Strategol Diogelu.

 

Cymerwyd y cyfle i godi ymwybyddiaeth am y Polisi Diogelu diwygiedig gafodd ei fabwysiadu yn y bythefnos ddiwethaf. Nodwyd bod y Polisi wedi ei gynnwys yn atodiad 2 o’r adroddiad ac o ganlyniad i’r Polisi diwygiedig bod newid hefyd yn y Cylch Gorchwyl sydd i’w weld yn atodiad 3.

 

Cyfeiriwyd at un newid mawr yn y Polisi sef y gwahaniaeth rhwng Amddiffyn a Diogelu gan nodi bod y diffiniadau i’w gweld yn y Polisi.

 

Nid oedd unrhyw sylwadau na chwestiynau.

         

          PENDERFYNWYD

1.    Derbyn yr adroddiad sy’n adrodd ar waith y Panel Strategol Diogelu ar gyfer y flwyddyn 2022-23.

2.    Nodi’r Polisi Diogelu diwygiedig (Atodiad 2 i’r adroddiad) ynghyd â’r Cylch Gorchwyl diwygiedig ar gyfer y Panel Strategol Diogelu (Atodiad 3).

 

15.

DIWYGIO CYFANSODDIAD - TREFN DATRYS MEWNOL pdf eicon PDF 233 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod y Cyngor yn:-

 

  1. Mabwysiadu’r newidiadau i'r Drefn Datrys Mewnol (Atodiad 1 i’r adroddiad).
  2. Mabwysiadu’r addasiadau i Adran 7 – Craffu (Atodiad 2)
  3. Derbyn yr adroddiad ar yr addasiadau dirprwyedig (Atodiad 3).

 

Cofnod:

 

          Cyflwynodd y Swyddog Monitro'r adroddiad oedd yn cynnig diwygiadau i’r Drefn Datrys Mewnol a Chraffu ynghyd ac adrodd ar addasiadau dirprwyedig i’r Cyfansoddiad. Adroddwyd bod tair elfen i’r adroddiad oedd yn cynnwys sut i ymdrin â chwynion lefel isel rhwng aelodau o ganlyniad i’r ddyletswydd statudol sydd bellach ar Arweinyddion Grwpiau. Nodwyd bod yr ail agwedd yn deillio o benderfyniad yr adolygiad Craffu i ddiwygio’r Cyfansoddiad oedd yn cwmpasu mân newidiadau ac yn olaf newidiadau i’r cynlluniau dirprwyo.

         

Nid oedd unrhyw sylwadau na chwestiynau.

 

          PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn:-

1.    Mabwysiadu’r newidiadau i'r Drefn Datrys Mewnol (Atodiad 1 i’r adroddiad).

2.    Mabwysiadu’r addasiadau i Adran 7 – Craffu (Atodiad 2)

3.    Derbyn yr adroddiad ar yr addasiadau dirprwyedig (Atodiad 3).

 

16.

AROLYGON CYMUNEDOL O DAN DDEDDF LLYWODRAETH LEOL (DEMOCRATIAETH) CYMRU 2013 pdf eicon PDF 175 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod y Cyngor yn cymeradwyo cynnal arolygon cymunedol o dan adrannau 25 a 31 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) Cymru 2013 a’r cylch gwaith.

 

Cofnod:

 

          Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol, y Cynghorydd Menna Trenholme yr adroddiad oedd yn adrodd ar y dyletswydd statudol sydd ar Gyngor Gwynedd, o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 i fonitro’r cymunedau o fewn y Sir, a threfniadau etholiadol y cymunedau hynny.

 

Adroddwyd bod dau fath o arolwg cymunedol y dylai’r Cyngor ystyried eu cynnal sef Arolwg o ffiniau cymunedol (adran 25 o’r Ddeddf) ac Arolwg o’r trefniadau etholiadol (adran 31 o’r Ddeddf). Pwysleisiwyd nad yw’n fwriad adolygu pob cymuned dim ond y rhai sydd yn amlygu angen am newid oherwydd amgylchiadau penodol.

 

Adroddwyd ar y pedwar cam hanfodol i’r broses sef Cyhoeddusrwydd cychwynnol, Ymchwiliad ac ymgynghoriad cychwynnol, Cynigion drafft ac Argymhellion terfynol. Gofynnwyd i’r Cyngor gymeradwyo’r broses a amlinellir. Nodwyd y bydd hyn yn caniatáu cynnal y broses ymgynghori.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.  Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

Gwnaethpwyd sylw am ddyddiad oedd wedi ei gynnwys yn y tabl ar dudalen 297 o’r pecyn oedd yn cyfeirio at Ymgynghoriad 2, gan holi os yw’r dyddiad Ionawr/Chwefror 2024 yn gywir. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro mai Ionawr/Chwefror 2025 ydi’r dyddiad cywir a byddai’r tabl yn cael ei gywiro.

 

Nodwyd bod newidiadau i’r ffiniau eisoes wedi digwydd ble cafwyd lleihad yn nifer y Cynghorwyr yng Ngwynedd o 75 i 69. Gofynnwyd a fydd newidiadau i’r Cynghorau Plwyf.

Cadarnhaodd y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau bod y Cyngor Sir yn gweithredu o fewn yr un rôl a mae’r Comisiwn Ffiniau yn ei wneud efo ni fel Cyngor Sir. Golygai hyn mai’r Cyngor sy’n gyfrifol am y Cynghorau Cymuned. Bydd yr arolwg o ffiniau cymunedol yn cael ei wneud er mwyn cyd-fynd â’r Comisiwn Democratiaeth pan fyddan nhw’n dod yn ôl i edrych ar ffiniau Sirol.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn cymeradwyo cynnal arolygon cymunedol o dan adrannau 25 a 31 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) Cymru 2013 a’r cylch gwaith.

 

 

17.

ADOLYGIAD O GYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL Y CYNGOR pdf eicon PDF 264 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

  1. Mabwysiadu’r dyraniad seddau fel a nodir isod gan ddirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth wneud penodiadau i’r pwyllgorau ar sail cydbwysedd gwleidyddol ac yn unol â dymuniadau’r grwpiau gwleidyddol.

 

A

Plaid Cymru

Annibynnol

Llafur Rhydd

Cyfanswm

Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi

12

6

0

18

Pwyllgor Craffu Cymunedau

12  11

5   6

1

18

Pwyllgor Craffu Gofal

12   11

5   6

1

18

Llywodraethu ac Archwilio

8

4

0

12

 

B

Plaid Cymru

Annibynnol

Llafur Rhydd

Cyfanswm

Gwasanaethau Democrataidd

10   9

4   5

1

15

Cynllunio

10   9

4   5

1

15

Trwyddedu Canolog/Cyffredinol

10

5

0

15

Iaith

10

5

0

15

Penodi Prif Swyddogion

10

5

0

15

Apelau Cyflogaeth

5

2

0

7

Nifer y seddau

99

45

4

148

 

C

Plaid Cymru

Annibynnol

Llafur Rhydd

Cyfanswm

Pensiynau

4

2

1

7

Cydbwyllgor Ymgynghorol Lleol

7

4

0

11

CYSAG

5   4

2   3

0

7

 

Cyfanswm y seddau

115

53

5

173

 

 

2.    Enwebu’r Cynghorydd Elwyn Jones (Grŵp Annibynnol) i gynrychioli’r Cyngor ar y Panel Heddlu a Throsedd am dymor y Cyngor hwn.

 

Cofnod:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth, yr adroddiad oedd yn gofyn i’r Cyngor fabwysiadu dyraniad seddau newydd yn dilyn i un aelod newid grŵp gwleidyddol ac yn dilyn canlyniad isetholiad diweddar. Nodai bod hyn yn arwain at newidiadau i ddyraniad seddau ar Bwyllgorau, sef grŵp gwleidyddol Plaid Cymru yn ennill un sedd ar y Pwyllgor Craffu Cymunedau, Pwyllgor Crafu Gofal, Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth, Pwyllgor Cynllunio a CYSAG. Cyfeiriwyd at y manylion llawn o’r dyraniad seddau newydd sydd i’w gweld yn atodiad A o’r adroddiad.

 

          Ychwanegwyd bod y Cynghorydd Elwyn Jones bellach wedi cael ei enwebu i gynrychioli’r Cyngor ar y Panel Heddlu a Throsedd am dymor y Cyngor. Gofynnwyd i’r Cyngor Llawn gymeradwyo’r dewis yno yn ogystal â mabwysiadu’r dyraniad seddau fel y nodwyd yn yr adroddiad. Cadarnhawyd y bydd un bleidlais yn cael ei gynnal ar y ddau gynnig.

 

Nid oedd unrhyw sylwadau na chwestiynau.

 

          PENDERFYNWYD

1.    Mabwysiadu’r dyraniad seddau fel a nodir isod gan ddirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth wneud penodiadau i’r pwyllgorau ar sail cydbwysedd gwleidyddol ac yn unol â dymuniadau’r grwpiau gwleidyddol.

 

A

Plaid Cymru

Annibynnol

Llafur Rhydd

Cyfanswm

Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi

12

6

0

18

Pwyllgor Craffu Cymunedau

12  11

5   6

1

18

Pwyllgor Craffu Gofal

12   11

5   6

1

18

Llywodraethu ac Archwilio

8

4

0

12

 

B

Plaid Cymru

Annibynnol

Llafur Rhydd

Cyfanswm

Gwasanaethau Democrataidd

10   9

4   5

1

15

Cynllunio

10   9

4   5

1

15

Trwyddedu Canolog/Cyffredinol

10

5

0

15

Iaith

10

5

0

15

Penodi Prif Swyddogion

10

5

0

15

Apelau Cyflogaeth

5

2

0

7

Nifer y seddau

99

45

4

148

 

C

Plaid Cymru

Annibynnol

Llafur Rhydd

Cyfanswm

Pensiynau

4

2

1

7

Cydbwyllgor Ymgynghorol Lleol

7

4

0

11

CYSAG

5   4

2   3

0

7

 

Cyfanswm y seddau

115

53

5

173

 

2.    Enwebu’r Cynghorydd Elwyn Jones (Grŵp Annibynnol) i gynrychioli’r Cyngor ar y Panel Heddlu a Throsedd am dymor y Cyngor hwn.

 

 

18.

CALENDR PWYLLGORAU 2024/25 pdf eicon PDF 121 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadu’r Calendr Pwyllgorau ar gyfer 2024/25.

 

Cofnod:

 

          Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth yr adroddiad oedd yn gofyn i’r Cyngor fabwysiadu Calendr Pwyllgorau ar gyfer 2024/25 a hynny yn sgil gwaith manwl oedd wedi digwydd yn y cefndir o ran dewis dyddiadau gan osgoi gwrthdaro a chyfarfodydd eraill.

 

          Diolchwyd i aelodau’r Pwyllgor Gwasnaaethau Democratiaeth am eu sylwadau a’u gwaith manwl wrth drafod y Calendr a bu cytuno ar welliannau yn sgil y drafodaeth honno. Tynnwyd sylw at gyfarfod arbennig o’r Cyngor Llawn fydd bellach yn cael ei gynnal ym mis Medi.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. 

 

Mynegodd aelod awydd y grŵp annibynnol i sefydlu Cabinet Cysgodol a gofynnodd sut byddai mynd o gwmpas hyn. Manylodd ers cael gwared â’r Byrddau bod teimlad ac awydd cryf ymysg y grŵp annibynnol i sefydlu Cabinet Cysgodol er mwyn herio penderfyniadau’r Cabinet gan nad oes aelod annibynnol yn eistedd ar y Cabinet. Mynegodd hefyd bod llawer o aelodau’r grŵp Plaid Cymru yn eistedd ar y Pwyllgorau Craffu.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Monitro nad oedd y mater hwn yn fater i’r Cyngor Llawn ei drafod heddiw. Awgrymodd i’r aelod gynnal trafodaeth efo’r Gwasanaeth Democratiaeth fel man cychwyn.

 

Cymerwyd y cyfle gan aelod i dalu teyrnged i Gadeirydd y Cyngor gan frolio’r modd oedd y Cadeirydd wedi cadeirio’r cyfarfod heddiw.

                                   

          PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Calendr Pwyllgorau ar gyfer 2024/25.

 

19.

RHYBUDDION O GYNNIG

Dogfennau ychwanegol:

20.

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Gruffydd Williams

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Gruffydd Williams yn cynnig fel a ganlyn:-

 

Gan gysidro fod Cyngor Gwynedd eisoes wedi pasio ym Mis Medi rybudd o gynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i ail gysidro mynnu rhoi 10% o dir ffermydd drosodd i goedwigaeth fel rhan o’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, galwaf ar Gyngor Gwynedd:-

 

I alw ar Lywodraeth Cymru i ymbwyllo ac ail ystyried (yng ngoleuni effaith cronnus ar y diwydiant amaethyddol), cyn mynnu o dan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS), rhoi 10% o dir ffermydd Cymru yn dir Cynefin / Bioamrywiaeth ynghyd â’r newidiadau i ofynion statudol a pholisïau megis Parthau Perygl Nitradau (NVZ).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Gruffydd Williams o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

Gan gysidro fod Cyngor Gwynedd eisoes wedi pasio ym Mis Medi rybudd o gynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i ail gysidro mynnu rhoi 10% o dir ffermydd drosodd i goedwigaeth fel rhan o’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, galwaf ar Gyngor Gwynedd:-

 

I alw ar Lywodraeth Cymru i ymbwyllo ac ail ystyried (yng ngoleuni effaith cronnus ar y diwydiant amaethyddol), cyn mynnu o dan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS), rhoi 10% o dir ffermydd Cymru yn dir Cynefin / Bioamrywiaeth ynghyd â’r newidiadau i ofynion statudol a pholisïau megis Parthau Perygl Nitradau (NVZ).

 

Gosododd yr aelod y cyd-destun i’w gynnig, gan nodi:-

 

·         Bydd difrod arwyddocaol yn cael ei wneud i’r diwydiant amaeth os bydd Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu'r SFS a’r NVZ.

·         Bod costau cysylltiedig i ffermwyr Cymru pe baent yn colli 20% o’u tir rhwng rhoi 10% i fioamrywiaeth a 10% o’r tir i blannu coed; bydd hyn yn arwain at ddiwydiant ffermio anghynaladwy a bydd llawer o ffermwyr yn gadael y diwydiant.

·         Bod gwariant aruthrol i’r uned amaethyddol er mwyn cydymffurfio â’r rheoliadau newydd sydd yn mynd i wasgu’r ffermydd bach allan o fusnes.

·         Bydd y nitrogen fydd yn mynd ar y tir yn arwain at leihad yn y cnydau a golygai hyn y bydd llai o gynnyrch. Ychwanegodd os na fydd digon o fwyd i’r cyhoedd bydd prisiau yn codi.

·         Bod angen sefyll i fyny efo’r ffermydd neu bydd dim pobl ar ôl yn byw yng nghefn gwlad.

 

Gobeithiai’r cynigydd dderbyn cefnogaeth yr holl aelodau i sicrhau ffyniant y diwydiant amaethyddol a ffyniant yng nghefn gwlad.

 

Mynegwyd cefnogaeth gref i’r cynnig gan nifer o aelodau ar y sail:-

 

·         Bod dyletswydd foesol arnom yng Ngwynedd i gefnogi ffermwyr ein cymunedau, sydd yn cynrychioli diwylliant, hanes ac iaith ein cymunedau. Adroddwyd y slogan Dim ffermwyr, Dim bwyd, Dim dyfodol.

·         Bod prisiau cyfredol defaid yn profi prinder a chredwyd y bydd prinder bwyd ac mai nid tyfu coed fydd yr ateb.

·         Bod amaeth yn bwysig iawn ym Mhen Llŷn. Gofynnwyd am gefnogaeth yr holl aelodau gan bwysleisio bod angen rhoi stop ar gynlluniau’r Llywodraeth.

·         Bod y broblem o blannu 10% o goed yn un enfawr ym Mhen Llŷn o gymharu â Meirionnydd. Credwyd nad oedd digon o dargedu wedi ei wneud gan y Llywodraeth ac yn hytrach eu bod wedi trin pob ardal yr un fath.

·         Bod angen diolch i’r ddwy Undeb amaethyddol sydd wedi gweithio’n galed i gefnogi’r amaethwyr. Mynegwyd bod angen i’r Cyngor gefnogi a chryfhau eu cais.

·         Nodwyd mai amaeth yw sylfaen cefn gwlad a’i fod yn graidd i’n diwylliant. Nodwyd heb amaeth ni fyddai Ysgolion na phobl ifanc yng nghefn gwlad; credwyd ei bod yn hollbwysig cefnogi’r cynnig.

·         Bod yr hyn a gynigiwyd gan y Llywodraeth yn niweidiol a  diystyriol o iechyd meddyliol a lles emosiynol y diwydiant, sydd mewn gwirionedd yn ddiwydiant o unigolion. Credwyd ei fod yn fygythiad i fyd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 20.

21.

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Dewi Jones

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Dewi Jones yn cynnig fel a ganlyn:-

 

Mae Cyngor Gwynedd yn datgan cefnogaeth i'r sector amaeth ac amaethwyr Cymru.

 

Mae'r Cyngor yn credu bod amaethwyr Cymru yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy i economi ein gwlad, i'r iaith Gymraeg, ein diwylliant a'n treftadaeth, a bod angen cefnogi'r sector pwysig hwn.

 

Galwa'r Cyngor ar Lywodraeth Cymru i wrando ar farn a phryderon amaethwyr - a'r undebau amaeth - wrth iddynt ymgynghori ar deddfwriaeth newydd. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Dewi Jones o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

                                    Mae Cyngor Gwynedd yn datgan cefnogaeth i'r sector amaeth ac amaethwyr Cymru.

 

Mae'r Cyngor yn credu bod amaethwyr Cymru yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy  i economi ein gwlad, i'r iaith Gymraeg, ein diwylliant a'n treftadaeth, a bod angen cefnogi'r sector pwysig hwn.

 

Galwa'r Cyngor ar Lywodraeth Cymru i wrando ar farn a phryderon amaethwyr - a'r undebau amaeth - wrth iddynt ymgynghori ar deddfwriaeth newydd. 

           

   Gosododd yr aelod y cyd-destun i’w gynnig, gan nodi:-

 

·         Bod yr hyn sy’n digwydd i’r diwydiant amaeth yn effeithio ar bawb. Nododd ein bod yn ddibynnol ar ffermwyr bob dydd ar gyfer derbyn ein llefrith, bara a chig. Credodd bod derbyn bwyd o safon a bwyd lleol yn holl bwysig.

·         Cyfeiriodd at y brotest fwyaf erioed oedd wedi cyrraedd y Senedd wythnos diwethaf gydag dros 3,000 o ffermwyr yn teithio i Gaerdydd. Credai nad yw’r cynllun yn ei ffordd bresennol yn hygyrch nac yn gynaliadwy.

·         Bod angen i’r Llywodraeth ail gysidro eu bwriad o ofyn i bob ffermwr roi 10% o’u tir i dyfu coed. Mynegwyd na wnaiff coed hybu diwylliant nac iaith. Credwyd bod angen hyblygrwydd yn y cynnig a bod angen i Lywodraeth Cymru ail lunio’r cynnig. Ychwanegwyd bod angen addasu’r cynlluniau i adlewyrchu'r tirwedd, y tywydd ac amgylchedd y gweithiai’r ffermwyr ynddynt.

 

Mynegwyd cefnogaeth gref i’r cynnig gan aelodau a nododd:-

 

·         Bod ffermwyr wedi bod yn ffermio ers cenedlaethau sydd yn profi cynaliadwyedd y diwydiant.

·         Bod y Cyngor wedi ymateb i’r ymgynghoriad ac yn galw ar y Llywodraeth i gyd-drafod gyda’r diwydiant ac i lunio cynlluniau sy’n briodol ar gyfer Gymru a chefn gwlad. Ychwanegodd yr Arweinydd ei fod wedi bod yn rhan o drafodaeth yn y Fforwm Wledig, Cymdeithas Llywodraeth Leol a’u bod hwythau hefyd wedi ymateb yn yr un modd. Mynegodd yr Arweinydd falchder bod y Cyngor eisoes wedi ymateb yn gadarn.

·         Bod gwers yma i Lywodraeth Cymru sydd ddim yn deall ystyr cyd-gynllunio a chyd-gynhyrchu.

·         Bod amaethwyr yn barod i gyfrannu at yr agenda i ostwng allyriadau carbon ac yn barod i gyfrannu at fioamrywiaeth ac eisoes yn gwneud hynny i raddau helaeth.

·         Bod ffermwyr yn adnabod eu tiroedd yn well na neb a bod yr amaethwyr efo gwybodaeth am yr hyn sy’n digwydd ar eu tirwedd eu hunain.

·         Nad oes son yn y Senedd am y posibilrwydd cryf iawn o golli 5,500 o swyddi yn y diwydiant amaeth. 

·         Atgoffwyd o’r hunllef yn ystod y cyfnod clo pan nad oedd digon o fwyd ar silffoedd yr archfarchnadoedd. Nodwyd bod NFU Cymru yn ddiweddar wedi nodi bod angen cynhyrchu 25% yn fwy o fwyd erbyn 2050.

·         Bod y diwydiant amaethu wedi defnyddio ychydig bach mwy o dir yn unig i gynhyrchu bwyd nac oedden nhw’n ei ddefnyddio yn 1960. Credwyd bod hyn yn dangos bod ffermwyr wedi gwneud y gorau ac wedi datblygu beth sydd ganddyn nhw.

·         Bod yr hyn ddigwyddodd yn y Senedd yn dda o gymharu â’r hyn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 21.

22.

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Craig ab Iago

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Craig ab Iago yn cynnig fel a ganlyn:-

 

Rydym yn galw ar Lywodraeth Llafur Cymru i wneud popeth o fewn eu gallu i fynnu sicrwydd gan eu cymheiriaid ym Mhencadlys y Blaid Lafur yn Llundain eu bod, os yn fuddugol yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf, yn rhoi stop yn syth ar bolisïau llymder y Blaid Geidwadol sydd wedi bod mor ddifaol i gymunedau Gwynedd a Chymru dros y 13 mlynedd diwethaf.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Mynegodd y cynigydd ei awydd i dynnu’r cynnig isod a gyflwynodd dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad yn ôl:-

 

Rydym yn galw ar Lywodraeth Llafur Cymru i wneud popeth o fewn eu gallu i fynnu sicrwydd gan eu cymheiriaid ym Mhencadlys y Blaid Lafur yn Llundain eu bod, os yn fuddugol yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf, yn rhoi stop yn syth ar bolisïau llymder y Blaid Geidwadol sydd wedi bod mor ddifaol i gymunedau Gwynedd a Chymru dros y 13 mlynedd diwethaf.

 

 

Cadarnhaodd y Swyddog Monitro os nad yw’r cynigydd yn gwneud y cynnig yna fod y cynnig yn disgyn a bydd angen ei ail gyflwyno i gyfarfod yn y dyfodol os mai hynny yw dymuniad yr aelod.

 

Cadarnhaodd yr aelod na fyddai yn gwneud yn cynnig.

 

23.

YMATEBION / DIWEDDARIADAU I RYBUDDION O GYNNIG BLAENOROL pdf eicon PDF 189 KB

(1)  Llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Gruffydd Williams i gyfarfod 28 Medi, 2023 o’r Cyngor ynglŷn â chefnogi’r fferm deuluol Gymreig a throsi tiroedd amaethyddol yn goedwigoedd.

 

(2)  Llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd John Pughe Roberts i gyfarfod 7 Rhagfyr, 2023 o’r Cyngor ynglŷn â mesurau rheoli TB.

 

(3)  Llythyr gan y Swyddfa Dramor, Y Gymanwlad a Datblygu mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Elin Hywel i gyfarfod 7 Rhagfyr, 2023 o’r Cyngor yn galw am gadoediad parhaol yn Gaza.

 

(4)  Llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Ellin Hywel i gyfarfod 7 Rhagfyr, 2023 o’r Cyngor yn galw am gadoediad parhaol yn Gaza.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd er gwybodaeth –

 

(a)      Llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Gruffydd Williams i gyfarfod 28 Medi, 2023 o’r Cyngor ynglŷn â chefnogi’r fferm deuluol Gymreig a throsi tiroedd amaethyddol yn goedwigoedd.

(b)      Llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd John Pughe Roberts i gyfarfod 7 Rhagfyr, 2023 o’r Cyngor ynglŷn â mesurau rheoli TB.

(c)       Llythyr gan y Swyddfa Dramor, Y Gymanwlad a Datblygu mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Elin Hywel i gyfarfod 7 Rhagfyr, 2023 o’r Cyngor yn galw am gadoediad parhaol yn Gaza.

(d)      Llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Elin Hywel i gyfarfod 7 Rhagfyr, 2023 o’r Cyngor yn galw am gadoediad parhaol yn Gaza

 

Atodiadau pdf eicon PDF 76 KB

Dogfennau ychwanegol: