Agenda item

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Gruffydd Williams yn cynnig fel a ganlyn:-

Gan gysidro fod Cyngor Gwynedd eisoes wedi pasio ym Mis Medi rybudd o gynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i ail gysidro mynnu rhoi 10% o dir ffermydd drosodd i goedwigaeth fel rhan o’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, galwaf ar Gyngor Gwynedd:-

I alw ar Lywodraeth Cymru i ymbwyllo ac ail ystyried (yng ngoleuni effaith cronnus ar y diwydiant amaethyddol), cyn mynnu o dan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS), rhoi 10% o dir ffermydd Cymru yn dir Cynefin / Bioamrywiaeth ynghyd â’r newidiadau i ofynion statudol a pholisïau megis Parthau Perygl Nitradau (NVZ).

Cofnod:

Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Gruffydd Williams o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

Gan gysidro fod Cyngor Gwynedd eisoes wedi pasio ym Mis Medi rybudd o gynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i ail gysidro mynnu rhoi 10% o dir ffermydd drosodd i goedwigaeth fel rhan o’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, galwaf ar Gyngor Gwynedd:-

I alw ar Lywodraeth Cymru i ymbwyllo ac ail ystyried (yng ngoleuni effaith cronnus ar y diwydiant amaethyddol), cyn mynnu o dan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS), rhoi 10% o dir ffermydd Cymru yn dir Cynefin / Bioamrywiaeth ynghyd â’r newidiadau i ofynion statudol a pholisïau megis Parthau Perygl Nitradau (NVZ).

Gosododd yr aelod y cyd-destun i’w gynnig, gan nodi:-

·         Bydd difrod arwyddocaol yn cael ei wneud i’r diwydiant amaeth os bydd Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu'r SFS a’r NVZ.

·         Bod costau cysylltiedig i ffermwyr Cymru pe baent yn colli 20% o’u tir rhwng rhoi 10% i fioamrywiaeth a 10% o’r tir i blannu coed; bydd hyn yn arwain at ddiwydiant ffermio anghynaladwy a bydd llawer o ffermwyr yn gadael y diwydiant.

·         Bod gwariant aruthrol i’r uned amaethyddol er mwyn cydymffurfio â’r rheoliadau newydd sydd yn mynd i wasgu’r ffermydd bach allan o fusnes.

·         Bydd y nitrogen fydd yn mynd ar y tir yn arwain at leihad yn y cnydau a golygai hyn y bydd llai o gynnyrch. Ychwanegodd os na fydd digon o fwyd i’r cyhoedd bydd prisiau yn codi.

·         Bod angen sefyll i fyny efo’r ffermydd neu bydd dim pobl ar ôl yn byw yng nghefn gwlad.

Gobeithiai’r cynigydd dderbyn cefnogaeth yr holl aelodau i sicrhau ffyniant y diwydiant amaethyddol a ffyniant yng nghefn gwlad.

Mynegwyd cefnogaeth gref i’r cynnig gan nifer o aelodau ar y sail:-

·         Bod dyletswydd foesol arnom yng Ngwynedd i gefnogi ffermwyr ein cymunedau, sydd yn cynrychioli diwylliant, hanes ac iaith ein cymunedau. Adroddwyd y slogan Dim ffermwyr, Dim bwyd, Dim dyfodol.

·         Bod prisiau cyfredol defaid yn profi prinder a chredwyd y bydd prinder bwyd ac mai nid tyfu coed fydd yr ateb.

·         Bod amaeth yn bwysig iawn ym Mhen Llŷn. Gofynnwyd am gefnogaeth yr holl aelodau gan bwysleisio bod angen rhoi stop ar gynlluniau’r Llywodraeth.

·         Bod y broblem o blannu 10% o goed yn un enfawr ym Mhen Llŷn o gymharu â Meirionnydd. Credwyd nad oedd digon o dargedu wedi ei wneud gan y Llywodraeth ac yn hytrach eu bod wedi trin pob ardal yr un fath.

·         Bod angen diolch i’r ddwy Undeb amaethyddol sydd wedi gweithio’n galed i gefnogi’r amaethwyr. Mynegwyd bod angen i’r Cyngor gefnogi a chryfhau eu cais.

·         Nodwyd mai amaeth yw sylfaen cefn gwlad a’i fod yn graidd i’n diwylliant. Nodwyd heb amaeth ni fyddai Ysgolion na phobl ifanc yng nghefn gwlad; credwyd ei bod yn hollbwysig cefnogi’r cynnig.

·         Bod yr hyn a gynigiwyd gan y Llywodraeth yn niweidiol a  diystyriol o iechyd meddyliol a lles emosiynol y diwydiant, sydd mewn gwirionedd yn ddiwydiant o unigolion. Credwyd ei fod yn fygythiad i fyd amaeth ac yn peryglu olyniaeth amaethyddol.

Cysidrwyd rhoi gwelliant ar y cynnig ond yn dilyn trafodaeth rhwng yr aelod a’r Swyddog Monitro penderfynwyd peidio â chynnig y gwelliant gan ei fod yn effeithio ar eglurder y cynnig gwreiddiol ac nid oedd yn cyd-fynd a’r cynnig.

I gloi mynegodd y cynigydd ei ddiolch am y gefnogaeth. Soniodd am waith ymchwil yr Undebau oedd yn cefnogi’r amaethwyr oedd yn nodi y byddai mabwysiadu’r SFS a’r NVZ yn golygu y byddai 5,500 o swyddi yn cael eu colli. Credai mai dim ond cwmnïau anferthol fyddai yn elwa.

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r cynnig, sef:-