Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Y Cynghorwyr Endaf Cooke, Gweno Glyn, Aeron
M. Jones, Dyfrig Wynn Jones, Linda A. W. Jones, June E. Marshall, Dewi Owen,
Peter Read a Hefin Underwood. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod blynyddol y Cyngor a gynhaliwyd ar 12 Mai, 2016 fel rhai cywir (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod
blynyddol y Cyngor a gynhaliwyd ar 12 Mai, 2016 fel rhai cywir. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant
personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn
bresennol. |
|
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cydymdeimlad Cydymdeimlwyd â
theulu Jo Cox, AS, a lofruddiwyd mewn amgylchiadau
erchyll yn Swydd Efrog yn ddiweddar a thalwyd teyrnged iddi gan y Cynghorydd
Gwen Griffith. Cydymdeimlwyd â theulu’r
diweddar Athro Gwyn Thomas, bardd, ysgolhaig a beirniad llenyddol. Nodwyd bod y
Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir oedd wedi colli anwyliaid
yn ddiweddar. Safodd y Cyngor
fel arwydd o barch. Llongyfarchiadau Llongyfarchwyd yr
holl bobl ifanc a phlant o Wynedd fu’n cystadlu yn
Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerffili. Llongyfarchwyd
Elin Thomas, yn enedigol o Llannor, Pen Llŷn, am gynrychioli Cymru a
chanu’r anthem genedlaethol Gymreig ar ddechrau’r tair gêm rygbi rhyngwladol
diweddar rhwng Seland Newydd a Chymru, a dymunwyd bob
llwyddiant iddi i’r dyfodol. Materion Eraill Ad-drefnu
Llywodraeth Leol Adroddwyd y
cyhoeddodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd Cabinet
Llywodraeth Cymru dros Gyllid a Llywodraeth Leol, ddatganiad ar y 23ain o Fehefin yn cadarnhau:- ·
Y
bydd cynghorwyr lleol sy’n cael eu hethol yn etholiad Mai 2017 yn gwasanaethu
tymor pum mlynedd (Mai 2017 i Mai 2022) ac y bydd hyn yn cyd-fynd â chylch
etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sydd hefyd nawr yn bum mlynedd. ·
Na
fyddai unrhyw adolygiad i ffiniau etholaethau cyn yr etholiad ym mis Mai, a
olygai y byddai 75 aelod etholedig yn parhau i wasanaethu ar Gyngor Gwynedd o
Fai 2017 ymlaen. Byddai mwy o
wybodaeth am adolygu llywodraeth leol i ddilyn erbyn tymor yr hydref. Dadorchuddio Plac Adroddwyd bod
croeso i bawb fod yn bresennol mewn seremoni ym Mhlas Llanwnda, Stryd y
Castell, Caernarfon am 11.45yb ar ddydd Gwener, 1 Gorffennaf, i ddadorchuddio
carreg gofeb ar gyfer yr Uwch Gapten Lionel Wilmot Brabazon Rees, sef yr unig
berson o Wynedd i dderbyn y Groes Fictoria yn ystod y
Rhyfel Byd Cyntaf. Coffau Brwydr Coed
Mametz I nodi canrif ers
Brwydr Coed Mametz, Brwydr Gyntaf y Somme yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, estynnwyd gwahoddiad i
bawb i Agoriad Swyddogol Gardd Goffa’r Rhyfel Mawr
yng Nghastell Caernarfon am 12.00yb ar ddydd Iau, 7 Gorffennaf. Nodwyd y cynhelir gweithgareddau eraill fel
rhan o Agoriad yr Ardd Goffa yn y Castell hefyd gyda Chôr Rygbi Gogledd Cymru a
Band y Signalau Brenhinol yn cymryd rhan. Seremoni y Cyngor
ar ei Orau Nodwyd:- ·
Bod
Seremoni flynyddol y Cyngor ar ei Orau yn gyfle i ddathlu holl waith ardderchog
y 7,000 o staff sy’n gweithio i Gyngor Gwynedd i ddarparu amrediad o
wasanaethau sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau trigolion y sir, aelodau staff
sy’n mynd tu hwnt i’w swydd ddisgrifiad i roi pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth
maent yn ei wneud. ·
Bod
y pum gwobr sy’n cael eu cyflwyno yn ystod y Seremoni yn ymwneud â gwerthoedd y
Cyngor sef Gwerth am Arian, Positif, Gweithio fel Tïm,
Parch a Gwasanaethu, sef pum gwerth sy’n graidd i egwyddorion y Cyngor ac yn
arwain ei ffordd o weithio gan amlygu beth sy’n bwysig os am ddarparu’r
gwasanaethau gorau i bobl Gwynedd. · Bod nifer fawr o enwebiadau yn cael eu derbyn ar gyfer y gwobrau, a ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |
|
GOHEBIAETH, CYFATHREBIADAU, NEU FUSNES ARALL Derbyn unrhyw ohebiaeth, gyfathrebiadau neu
fusnes arall a ddygir gerbron yn arbennig dan gyfarwyddyd y Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim. |
|
CWESTIYNAU Ystyried unrhyw gwestiynau y
rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (1) Cwestiwn gan y Cynghorydd Sion Wyn Jones “A
oes modd i’r Aelod Cabinet wneud datganiad ynglŷn â’r
diffyg torri gwair yng Ngwynedd?” Ateb gan y Cynghorydd John Wynn Jones, Aelod
Cabinet Amgylchedd “Mae’r Aelod yn ymwybodol o’r sefyllfa ariannol
anodd iawn sy’n wynebu’r Awdurdod hwn ac o benderfyniad y Cyngor hwn ar 3
Mawrth, 2016 i weithredu 49 toriad i wasanaethau oedd yn cynnwys lleihau nifer
o doriadau gwair mewn rhai lleoliadau. O ganlyniad bydd
yn rhaid i ni, yn anffodus, dderbyn bod hyn yn golygu dirywiad mewn edrychiad
rhai lleoliadau ar adegau o’r flwyddyn a pham fydd amrywiaethau yn y tymor tyfu
fel yn achos eleni. Mae’r Adran
berthnasol yn monitro effaith gwireddu’r newid yn ofalus, yn sicrhau bod
lleoliadau lle mae pryderon o ran diogelwch yn derbyn blaenoriaeth ac yn
addasu’r rhaglenni torri lle yn bosib’ er mwyn ceisio lliniaru effaith y newid
hwn. Bydd yr addasiadau i’r rhaglenni torri yn parhau am yr hyn sy’n weddill
o’r tymor tyfu a’r flwyddyn. Hoffwn
ddiolch o ddifri’ i staff Cynnal Tiroedd am sicrhau bod y gwaith yn cael ei
gyflawni er y newidiadau.” Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Sion Wyn Jones “Ydi’r Aelod
Cabinet yn fodlon ystyried rhoi cyfrifoldeb torri gwair i gynghorau cymuned a
thref neu gael strategaeth newydd yn yr adran?” Ateb gan y Cynghorydd John Wynn Jones, Aelod Cabinet
Amgylchedd “Mae Cyngor
Gwynedd, wrth gwrs, yn fodlon gweithio hefo cynghorau cymuned ym mhob maes sy’n
bosib’, ac mae hwn yn un o’r meysydd sydd yn bosib’, ond rhaid bod yn ofalus
nad ydym yn ei basio drosodd heb sicrwydd gan y cynghorau cymuned ar rai
materion, e.e. ynglŷn ag yswiriant atebolrwydd cyhoeddus a hefyd eu bod yn
derbyn y cyfrifoldeb os bydd damwain yn digwydd ac mae hyn i mi yn rhywbeth y
dylent ei ystyried o ddifri’. Mi fyddwn
i’n fodlon trafod unrhyw ddatrysiad sy’n well na’r hyn ‘rydym yn ei wneud ar
hyn o bryd. ‘Rwy’n llongyfarch yr adran
oherwydd mae wedi bod yn dymor tyfu anodd iawn hefo tywydd mor gyfnewidiol ac
‘rydym i gyd wedi profi hynny yn ein gerddi yn gyffredinol ac ‘rwy’n meddwl bod
yr adran a’r gweithwyr sydd wedi bod ar y rheng flaen wedi gwneud gwaith
rhyfeddol yn y misoedd sydd wedi pasio.” (2) Cwestiwn gan y Cynghorydd Aled Evans “A wnaiff yr Aelod
Cabinet sy’n gyfrifol am gynllunio adrodd ar y camau a gymerir i wneud yn
siŵr y bydd datganiadau ardrawiad ieithyddol a ddarperir gyda cheisiadau
cynllunio o dan y CDLL yn ddiduedd, fel na bo ymgeisydd yn darparu y fath
ddatganiad fel rhan o’i gyflwyniad am ganiatâd i unrhyw ddatblygiad?” Ateb gan y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet
Cynllunio (Dosbarthwyd ateb
ysgrifenedig yr Aelod Cabinet i’r aelodau ymlaen llaw.) “Ar hyn o bryd ‘rydym yn penderfynu ceisiadau cynllunio yn ôl y Cynllun Datblygu Unedol presennol ac mae’r cwestiwn yn ymwneud â’r Cynllun Datblygu Lleol, fydd yn cael ei fabwysiadu gobeithio gan y Cyngor ym mis Mawrth y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y CYFARWYDDWR STATUDOL GWASANAETHAU CYMDEITHASOL 2015/16 PDF 105 KB Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Statudol a Chyfarwyddwr Corfforaethol (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd – Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau
Cymdeithasol ar gyfer 2015/16. Yn ei chyflwyniad, rhoddodd y Cyfarwyddwr drosolwg o berfformiad y
Gwasanaethau Cymdeithasol yng Ngwynedd dros y
flwyddyn a fu, gan amlygu’r elfennau hynny sydd wedi bod yn llwyddiannus, a
chyfeirio hefyd at rai materion sydd angen sylw. Rhoddodd flas hefyd
ar gyfeiriad y Gwasanaethau Cymdeithasol i’r dyfodol gan amlinellu’r
blaenoriaethau ar gyfer y blynyddoedd nesaf. Manteisiodd ar y
cyfle hefyd i gydnabod arweiniad a chefnogaeth yr Aelodau Cabinet yn y maes
gofal, y Cynghorwyr W.Gareth Roberts a Mair
Rowlands. Diolchodd i’r holl staff, y
darparwyr a’r partneriaid am eu hymrwymiad a’u gwaith caled wrth sicrhau fod
plant, pobl ifanc ac oedolion bregus a’u teuluoedd yn derbyn y gwasanaethau
gorau bosib’. Diolchodd hefyd i bawb
sydd yn gofalu yn anffurfiol am aelod o’r teulu neu am gymydog, gan nodi bod eu
cyfraniad yn amhrisiadwy. Yn dilyn y cyflwyniad, ymatebodd y Cyfarwyddwr i gyfres o gwestiynau /
sylwadau gan yr aelodau mewn perthynas â:- ·
Chynlluniau
i gwrdd â’r prinder nyrsys gofal dementia dwys yn Ne
Meirionnydd. ·
Y diffyg gwasanaethau / problemau gyda’r
gwasanaethau yn Ne Meirionnydd a sut i gyfarch y problemau hynny yn yr hinsawdd
ariannol heriol sydd ohoni. ·
Cynlluniau
i sicrhau bod y garfan o blant sydd ag anghenion
cymhleth iawn, ond ddim yn derbyn gwasanaeth gan Derwen na’r Cyngor, yn derbyn
y gefnogaeth briodol. ·
Siomedigaeth nad oedd cyfeiriad yn yr adroddiad at
drefniadau’r Cyngor er sicrhau bod oedolion hefo awtistiaeth yn derbyn
gwasanaethau digonol. Nododd y
Cyfarwyddwr nad oedd yn ymarferol cynnwys popeth yn yr adroddiad, ond y
byddai’n derbyn y sylw ar gyfer y flwyddyn nesaf. ·
Pwysigrwydd y gwaith ataliol yn y maes cyfiawnder
ieuenctid a’r angen i ddatgan siomedigaeth y Cyngor, drwy’r
Aelod Cabinet, yn y partneriaethau statudol am leihau’r ariannu sydd ar gael
ganddynt i gynnal y gwasanaeth. ·
Nifer y plant sy’n gorfod mynd allan o Wynedd i dderbyn gofal.
Nododd y Cyfarwyddwr nad oedd yn siŵr o’r union ffigurau, ond y
gallai eu rhannu gyda’r aelod ar ôl y Cyngor. ·
Yr angen i aelodau sy’n llywodraethwyr ysgolion roi
sylw i ddiogelu yn eu cyfarfodydd llywodraethwyr a’r gwaith da i godi
ymwybyddiaeth holl staff y Cyngor am y maes diogelu a’r angen i barhau i wneud
hynny. ·
Yr amser mae’n gymryd i drawsffurfio’r gwasanaethau. ·
Effaith
yr heriau sy’n wynebu’r gwasanaeth ar forâl a
throsiant staff. ·
Sut
i gyfarch y don arall o fewnlifiad fydd yn digwydd, os bydd amod 50 o Gytundeb
Lisbon yn cael ei wireddu, wrth i bobl ddychwelyd adref o’r cyfandir er mwyn
parhau i dderbyn triniaeth feddygol am ddim. ·
Y
sôn diweddar fod pobl ag afiechyd meddwl sy’n cyfeirio eu hunain am driniaeth i
sefydliad lleol yn cael eu troi i ffwrdd.
Nododd y Cyfarwyddwr na allai ateb y sylw
penodol ond y gallai drafod y mater gyda’r Bwrdd Iechyd petai’r aelod yn dod ag
enghreifftiau iddi. ·
Trefn gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol a’r broses
apêl. Nododd y Cyfarwyddwr y gallai
rannu’r dogfennau hyn gyda’r aelodau. · Y gwaith sy’n digwydd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
RHYBUDDION O GYNNIG Dogfennau ychwanegol: |
|
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Annwen Hughes Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrthi o dan
Adran 4.20 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Annwen Hughes yn cynnig fel
a ganlyn:- “Fel
Cynghorwyr, rydym yn gwbl ymwybodol o'r dioddefaint a orfodir ar nifer o
drigolion Gwynedd o ganlyniad i doriadau ariannol llym llywodraeth San Steffan.
Credwn, fodd bynnag, bod dewis arall i’r ymosodiad ideolegol yma ar wasanaethau
cyhoeddus sy’n cael effaith andwyol ar bobl leol. Y dewis amgen yw trethu a
hynny trwy drethiant trafodion ariannol ar weithgareddau sydd wedi cyflymu
cyfoeth nifer o fancwyr barus Llundeinig yn ddiweddar, ar draul tlodi'r
boblogaeth ehangach. Erfyniaf ar Gynghorwyr Gwynedd i gefnogi fy ngalwad ar
Lywodraeth San Steffan i wneud defnydd helaeth o’r dreth trafodion ariannol,
treth Twm Sion Cati, gan ddefnyddio'r arian i wrthdroi'r lleihad parhaus yn y
grant canolog gaiff ei ddyrannu i gynghorau sir, gan gynnwys Gwynedd.” Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nododd y Cynghorydd Annwen Hughes, yn wyneb y farchnad ariannol bresennol
a chanlyniad refferendwm yr UE, ei bod am dynnu ei chynnig yn ôl gan fod angen
iddi ail-edrych ar y mater. |
|
Rhybudd o gynnig gan y Cynghorydd Mandy Williams Davies Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrthi o dan
Adran 4.20 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Mandy Williams
Davies yn cynnig fel a ganlyn:- “Bod Cyngor Gwynedd yn galw ar
fanc HSBC i ail ystyried eu penderfyniad i gau eu canghennau
ym Mlaenau Ffestiniog, Abermaw a Thywyn, gan ddatgan
ein pryder am yr effaith negyddol
ar fusnesau a thrigolion yn y trefi allweddol yma o’r sir.” Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Mandy
Williams-Davies o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i
eiliwyd:- “Bod Cyngor Gwynedd
yn galw ar fanc HSBC i ail ystyried eu penderfyniad i gau eu canghennau ym
Mlaenau Ffestiniog, Abermaw a Thywyn, gan ddatgan ein pryder am yr effaith
negyddol ar fusnesau a thrigolion yn y trefi allweddol yma o’r sir.” Yn ystod y drafodaeth, nodwyd:- ·
Siomedigaeth ynglŷn â diffyg cyswllt y banc â’r dref ynglŷn â’u bwriad. ·
Ei bod yn destun pryder pan mae gwasanaethau yn
dechrau gadael prif drefi’r sir heb gynllun tymor hir. ·
Er bod dulliau pobl o fancio yn newid, bod gan y
banciau ddyletswydd i’r gymuned ac y dylent feddwl sut maent am gynnal
gwasanaethau a moderneiddio, ond heb ddiflannu’n llwyr o’r trefi gwledig. ·
Bod y banciau yn gwrando ar eu cyfranddalwyr yn
hytrach na’u cwsmeriaid. ·
Gall methu bancio arian yn lleol arwain at fusnesau
yn gorfod cau. ·
Bod angen i’r Cyngor fynd at HSBC i drafod gyda
meddyliau agored ac awgrymiadau positif. Cynigiwyd ac
eiliwyd i ychwanegu at y cynnig bod y Cyngor hwn yn estyn gwahoddiad i fanc
HSBC am drafodaeth ar y mater. Cytunodd cynigydd
y cynnig gwreiddiol i ddiwygio’r cynnig ar y llinellau a nodwyd gyda chaniatâd
y Cyngor a’r eilydd. Pleidleisiwyd ar y
cynnig diwygiedig, ac fe gariodd. PENDERFYNWYD derbyn y cynnig gwreiddiol, wedi’i
addasu fel a ganlyn:- “Bod Cyngor
Gwynedd yn:- (a) Galw ar fanc HSBC i ail ystyried eu
penderfyniad i gau eu canghennau ym Mlaenau Ffestiniog, Abermaw a Thywyn, gan
ddatgan ein pryder am yr effaith negyddol ar fusnesau a thrigolion yn y trefi
allweddol yma o’r sir. (b) Estyn gwahoddiad i fanc HSBC am drafodaeth
ar y mater. |