Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Statudol a Chyfarwyddwr Corfforaethol (ynghlwm).
Cofnod:
Cyflwynwyd – Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau
Cymdeithasol ar gyfer 2015/16.
Yn ei chyflwyniad, rhoddodd y Cyfarwyddwr drosolwg o berfformiad y
Gwasanaethau Cymdeithasol yng Ngwynedd dros y
flwyddyn a fu, gan amlygu’r elfennau hynny sydd wedi bod yn llwyddiannus, a
chyfeirio hefyd at rai materion sydd angen sylw. Rhoddodd flas hefyd
ar gyfeiriad y Gwasanaethau Cymdeithasol i’r dyfodol gan amlinellu’r
blaenoriaethau ar gyfer y blynyddoedd nesaf.
Manteisiodd ar y
cyfle hefyd i gydnabod arweiniad a chefnogaeth yr Aelodau Cabinet yn y maes
gofal, y Cynghorwyr W.Gareth Roberts a Mair
Rowlands. Diolchodd i’r holl staff, y
darparwyr a’r partneriaid am eu hymrwymiad a’u gwaith caled wrth sicrhau fod
plant, pobl ifanc ac oedolion bregus a’u teuluoedd yn derbyn y gwasanaethau
gorau bosib’. Diolchodd hefyd i bawb
sydd yn gofalu yn anffurfiol am aelod o’r teulu neu am gymydog, gan nodi bod eu
cyfraniad yn amhrisiadwy.
Yn dilyn y cyflwyniad, ymatebodd y Cyfarwyddwr i gyfres o gwestiynau /
sylwadau gan yr aelodau mewn perthynas â:-
·
Chynlluniau
i gwrdd â’r prinder nyrsys gofal dementia dwys yn Ne
Meirionnydd.
·
Y diffyg gwasanaethau / problemau gyda’r
gwasanaethau yn Ne Meirionnydd a sut i gyfarch y problemau hynny yn yr hinsawdd
ariannol heriol sydd ohoni.
·
Cynlluniau
i sicrhau bod y garfan o blant sydd ag anghenion
cymhleth iawn, ond ddim yn derbyn gwasanaeth gan Derwen na’r Cyngor, yn derbyn
y gefnogaeth briodol.
·
Siomedigaeth nad oedd cyfeiriad yn yr adroddiad at
drefniadau’r Cyngor er sicrhau bod oedolion hefo awtistiaeth yn derbyn
gwasanaethau digonol. Nododd y
Cyfarwyddwr nad oedd yn ymarferol cynnwys popeth yn yr adroddiad, ond y
byddai’n derbyn y sylw ar gyfer y flwyddyn nesaf.
·
Pwysigrwydd y gwaith ataliol yn y maes cyfiawnder
ieuenctid a’r angen i ddatgan siomedigaeth y Cyngor, drwy’r
Aelod Cabinet, yn y partneriaethau statudol am leihau’r ariannu sydd ar gael
ganddynt i gynnal y gwasanaeth.
·
Nifer y plant sy’n gorfod mynd allan o Wynedd i dderbyn gofal.
Nododd y Cyfarwyddwr nad oedd yn siŵr o’r union ffigurau, ond y
gallai eu rhannu gyda’r aelod ar ôl y Cyngor.
·
Yr angen i aelodau sy’n llywodraethwyr ysgolion roi
sylw i ddiogelu yn eu cyfarfodydd llywodraethwyr a’r gwaith da i godi
ymwybyddiaeth holl staff y Cyngor am y maes diogelu a’r angen i barhau i wneud
hynny.
·
Yr amser mae’n gymryd i drawsffurfio’r gwasanaethau.
·
Effaith
yr heriau sy’n wynebu’r gwasanaeth ar forâl a
throsiant staff.
·
Sut
i gyfarch y don arall o fewnlifiad fydd yn digwydd, os bydd amod 50 o Gytundeb
Lisbon yn cael ei wireddu, wrth i bobl ddychwelyd adref o’r cyfandir er mwyn
parhau i dderbyn triniaeth feddygol am ddim.
·
Y
sôn diweddar fod pobl ag afiechyd meddwl sy’n cyfeirio eu hunain am driniaeth i
sefydliad lleol yn cael eu troi i ffwrdd.
Nododd y Cyfarwyddwr na allai ateb y sylw
penodol ond y gallai drafod y mater gyda’r Bwrdd Iechyd petai’r aelod yn dod ag
enghreifftiau iddi.
·
Trefn gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol a’r broses
apêl. Nododd y Cyfarwyddwr y gallai
rannu’r dogfennau hyn gyda’r aelodau.
·
Y gwaith sy’n digwydd yn y maes trwyddedu i sicrhau
cyfrifoldeb gyrwyr tacsis dros blant maent yn eu cludo. Nododd y Cyfarwyddwr ei bod yn derbyn y sylw.
·
Trefniadau staffio’r Gwasanaethau Cymdeithasol ar
benwythnosau a’r angen i sicrhau nad yw cleifion yn cael eu rhwystro rhag symud
yn gynt o ysbyty, neu i ysbyty.
·
Cwestiwn a ofynnwyd eisoes i’r adran ynglŷn â demograffi. Cytunodd
y Cyfarwyddwr i gael yr wybodaeth i’r aelod.
Nododd yr Aelod Cabinet Plant, Pobl Ifanc a Hamdden fod yna lawer o
ddatblygiadau cyffrous ac arloesol yn digwydd o ran y maes ataliol, ac y
bwriedid adeiladu ar hynny i’r dyfodol.
Diolchodd i staff yr adran gan nodi ei bod yn gyfnod anodd iawn ac yn
faes anodd iawn i weithio ynddo a bod y staff yn aml yn mynd y tu hwnt i’w rôl
er mwyn sicrhau bod plant yn ddiogel a theuluoedd bregus yn derbyn y gefnogaeth
sydd ei hangen arnynt.
Diolchodd yr Aelod Cabinet Oedolion a Iechyd i’r Cyfarwyddwr am yr
adroddiad cynhwysfawr ac eglur o’r sefyllfa sydd ohoni. Nododd y bydd y Ddeddf Iechyd a Llesiant,
fydd yn gosod cyfeiriad i’r gwaith i’r dyfodol, yn golygu newid mawr iawn ac
erfyniodd ar ei gyd-aelodau i bresenoli eu hunain yn y gyfres o ddigwyddiadau
sy’n cael eu trefnu gan yr adran i amlygu’r newidiadau a goblygiadau’r ddeddf.
Diolchwyd i’r Cyfarwyddwr a’i staff am eu holl waith yn ystod y flwyddyn.
Dogfennau ategol: