5 Cais Rhif C17/0144/23/LL - Tir tu cefn i 1 Tai Trefor, Ceunant, Llanrug PDF 323 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Codi sied amaethyddol.
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir
y cais, gan nodi bod y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn bennaf yn cyfeirio
at ddefnydd presennol y safle, maint a lleoliad y sied mewn perthynas ag eiddo cyfagos ac effaith trafnidiaeth a gynhyrchir gan y defnydd ar gyflwr
y ffordd breifat a oedd yn arwain
i’r safle ynghyd â chefn y tai teras cyfagos.
Nodwyd bod dyluniad y sied yn syml
ei naws ac o fath a fyddai’n ddisgwyliedig ar gyfer sied amaethyddol
a bod y math yma o adeilad yn nodwedd arferol
a oedd i’w weld mewn ardal wledig
felly ni ystyriwyd
y byddai’r sied yn sefyll allan
yn amlwg yn y dirwedd ehangach.
Cydnabuwyd y byddai’r sied yn hollol
weladwy o gefnau’r tai cyfagos a’i
gerddi ond oherwydd gosodiad y sied gyda’i thalcen
yn wynebu’r tai a’i bellter rhyngddynt,
ni ystyriwyd y byddai’r effaith yn ormesol nac
yn sylweddol niweidiol ar eu
mwynderau preswyl.
Amlygwyd bod defnydd y tir fel
rhan o uned amaethyddol eisoes yn bodoli. Cydnabuwyd bod gweithgareddau
amaethyddol yn debygol o gynhyrchu effeithiau ond roedd yr effaith
eisoes yn bodoli boed sied
yn bodoli ar y safle neu
beidio. Adroddwyd bod ymweliad o’r safle
wedi amlygu nad oedd
gan yr uned
lle priodol i storio peiriannau
ac offer a bod hynny yn ei hun yn
creu effaith gweledol negyddol. Ystyriwyd y byddai caniatáu sied storio
briodol ar y safle yn ffordd
o wella effaith gweledol y safle trwy gadw’r offer oddi fewn y sied.
Ni ystyriwyd y byddai’r sied yn cynyddu’r
effaith ar drigolion cyfagos gan na fyddai’n golygu dwysau defnydd amaethyddol y safle, roedd y sied yn
ymateb i’r defnydd ac anghenion presennol.
Cydnabuwyd pryder a godwyd gan wrthwynebwyr
am gadw da byw yn y sied, ond
roedd y bwriad yn gofyn am sied
i storio offer a pheiriannau a phorthiant yn unig.
Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.
Nodwyd
yr ystyrir y datblygiad yn addas a derbyniol ar gyfer y safle
a’i fod yn cydymffurfio gyda’r polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol a
nodwyd yn yr adroddiad.
(a)
Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd asiant yr
ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Nad oedd gan yr
ymgeisydd ffermdy nac adeiladau cysylltiol
i storio offer. Roedd hyn yn
cyfyngu ar allu’r ymgeisydd i ddatblygu’r fferm;
·
Bod yr ymgeisydd yn cydnabod
pryderon y gwrthwynebwyr ond fe fyddai’r
bwriad yn welliant gan dacluso’r
safle;
·
Bwriad yr ymgeisydd i wella’r
trac mynediad.
(c) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau
canlynol gan aelodau:
·
Cwestiynu’r angen i osod
amod i atal
storio tail a slyri o fewn yr adeilad
o ystyried ei fod yn erbyn
polisïau amaethyddol i’w storio tu
allan;
·
Y dylid ystyried peidio gosod yr amod;
· Bod darn o’r trac ym mherchnogaeth yr ymgeisydd gyda rhan ohono yn gwasanaethu 7 o dai a’i fod yn bwysig ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5