Agenda item

Codi sied amaethyddol.

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Brian Jones

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Codi sied amaethyddol.

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn bennaf yn cyfeirio at ddefnydd presennol y safle, maint a lleoliad y sied mewn perthynas ag eiddo cyfagos ac effaith trafnidiaeth a gynhyrchir gan y defnydd ar gyflwr y ffordd breifat a oedd yn arwain i’r safle ynghyd â chefn y tai teras cyfagos.

 

         Nodwyd bod dyluniad y sied yn syml ei naws ac o fath a fyddai’n ddisgwyliedig ar gyfer sied amaethyddol a bod y math yma o adeilad yn nodwedd arferol a oedd i’w weld mewn ardal wledig felly ni ystyriwyd y byddai’r sied yn sefyll allan yn amlwg yn y dirwedd ehangach. Cydnabuwyd y byddai’r sied yn hollol weladwy o gefnau’r tai cyfagos a’i gerddi ond oherwydd gosodiad y sied gyda’i thalcen yn wynebu’r tai a’i bellter rhyngddynt, ni ystyriwyd y byddai’r effaith yn ormesol nac yn sylweddol niweidiol ar eu mwynderau preswyl.

 

         Amlygwyd bod defnydd y tir fel rhan o uned amaethyddol eisoes yn bodoli. Cydnabuwyd  bod gweithgareddau amaethyddol yn debygol o gynhyrchu effeithiau ond roedd yr effaith eisoes yn bodoli boed sied yn bodoli ar y safle neu beidio. Adroddwyd bod ymweliad o’r safle wedi amlygu nad oedd gan yr uned lle priodol i storio peiriannau ac offer a bod hynny yn ei hun yn creu effaith gweledol negyddol. Ystyriwyd y byddai caniatáu sied storio briodol ar y safle yn ffordd o wella effaith gweledol y safle trwy gadw’r offer oddi fewn y sied. Ni ystyriwyd y byddai’r sied yn cynyddu’r effaith ar drigolion cyfagos gan na fyddai’n golygu dwysau defnydd amaethyddol y safle, roedd y sied yn ymateb i’r defnydd ac anghenion presennol.

 

         Cydnabuwyd pryder a godwyd gan wrthwynebwyr am gadw da byw yn y sied, ond roedd y bwriad yn gofyn am sied i storio offer a pheiriannau a phorthiant yn unig.

 

         Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.

 

Nodwyd yr ystyrir y datblygiad yn addas a derbyniol ar gyfer y safle a’i fod yn cydymffurfio gyda’r polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol a nodwyd yn yr adroddiad.

 

(a)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Nad oedd gan yr ymgeisydd ffermdy nac adeiladau cysylltiol i storio offer. Roedd hyn yn cyfyngu ar allu’r ymgeisydd i ddatblygu’r fferm;

·         Bod yr ymgeisydd yn cydnabod pryderon y gwrthwynebwyr ond fe fyddai’r bwriad yn welliant gan dacluso’r safle;

·         Bwriad yr ymgeisydd i wella’r trac mynediad.

 

(c)     Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

          Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·         Cwestiynu’r angen i osod amod i atal storio tail a slyri o fewn yr adeilad o ystyried ei fod yn erbyn polisïau amaethyddol i’w storio tu allan;

·         Y dylid ystyried peidio gosod yr amod;

·         Bod darn o’r trac ym mherchnogaeth yr ymgeisydd gyda rhan ohono yn gwasanaethu 7 o dai a’i fod yn bwysig yr edrychir ar ei ôl.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion:

·         Yr argymhellir gosod amod i atal storio tail a slyri o fewn yr adeilad er mwyn goresgyn pryderon lleol. Nid oedd y cais yn gofyn am storio deunydd o’r fath ac ystyriwyd oherwydd agosatrwydd at y tai nad oedd yn dderbyniol i’w storio ar y safle;

·         Gallai’r ymgeisydd wneud cais i ddiwygio neu dynnu’r amod;

·         Bod unrhyw faterion yng nghyswllt y trac mynediad yn fater preifat a oedd tu allan i’r drefn gynllunio.

 

         PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

        

         Amodau:

 

1.     Amser

2.     Yn unol â’r cynlluniau

3.     Deunyddiau / gorffeniadau

4.     Defnydd storio amaethyddol yn unig.

5.     Dim storio tail na slyri o fewn yr adeilad.

6.    Diogelu cwrs dŵr.

Dogfennau ategol: