Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 24/04/2017 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 5)

5 Cais Rhif C17/0100/46/LL - Hirdre Ganol, Edern, Pwllheli pdf eicon PDF 337 KB

Ymestyn safle carafanau teithiol presennol gan gynyddu niferoedd carafanau teithiol o 11 i 22.

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Simon Glyn

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ymestyn safle carafanau teithiol presennol gan gynyddu niferoedd carafanau teithiol o 11 i 22.

 

(a)     Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod safle’r cais wedi ei leoli yng nghefn gwlad ac o fewn Ardal Gwarchod y Dirwedd. Er bod y safle neu rannau o’r safle yn weladwy o ardaloedd uwch ymhellach i ffwrdd ni ystyriwyd y byddai’r bwriad o ymestyn y safle o ran ei arwynebedd a’i niferoedd yn debygol o greu nodwedd ymwthiol nac amlwg yn y dirwedd.

 

         Tynnwyd sylw bod y safle wedi ei leoli oddeutu 225 medr oddi wrth Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Corsydd Llyn a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Cors Hirdre. Nodwyd y derbyniwyd sylwadau Cyfoeth Naturiol Cymru ar y bwriad ac roedd y sylwadau yn ystyried oherwydd natur y datblygiad ei bod yn annhebyg o effeithio ar y nodweddion, cyfanrwydd ecolegol neu ymarferoldeb unrhyw safleoedd statudol o ddiddordeb ecolegol, daearegol a/neu geomorffolegol.

 

Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Cefnogwyd y cais gan yr aelod lleol (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), nododd bod y safle yn addas ar gyfer y nifer a ofynnir amdanynt a bod y maes carafanau yn cael ei reoli’n gyfrifol.

 

         PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

Amodau:

 

1.      Cychwyn o fewn 5 mlynedd.

2.     Unol â chynlluniau a gyflwynwyd.

3.     Nifer o unedau teithiol ar y safle ar unrhyw un adeg i’w cyfyngu i 22.

4.     Cyfyngu tymor i rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref.

5.     Defnydd gwyliau yn unig.

6.     Cadw cofrestr.

7.     Dim storio carafanau teithiol ar y safle.

8.    Cyflawni’r cynllun tirlunio.