5 Cais Rhif C17/0100/46/LL - Hirdre Ganol, Edern, Pwllheli PDF 337 KB
Ymestyn safle carafanau teithiol presennol gan gynyddu niferoedd carafanau teithiol o 11 i 22.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Simon Glyn
Dolen
i’r dogfennau cefndir perthnasol
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Ymestyn
safle carafanau teithiol presennol gan gynyddu niferoedd carafanau teithiol o
11 i 22.
(a) Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan
nodi bod safle’r cais wedi ei leoli yng nghefn gwlad ac o fewn Ardal Gwarchod y
Dirwedd. Er bod y safle neu rannau o’r safle yn weladwy o ardaloedd uwch
ymhellach i ffwrdd ni ystyriwyd y byddai’r bwriad o ymestyn y safle o ran ei
arwynebedd a’i niferoedd yn debygol o greu nodwedd ymwthiol nac amlwg yn y
dirwedd.
Tynnwyd
sylw bod y safle wedi ei leoli oddeutu 225 medr oddi wrth Ardal Cadwraeth
Arbennig (ACA) Corsydd Llyn a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Cors Hirdre. Nodwyd y
derbyniwyd sylwadau Cyfoeth Naturiol Cymru ar y bwriad ac roedd y sylwadau yn
ystyried oherwydd natur y datblygiad ei bod yn annhebyg o effeithio ar y
nodweddion, cyfanrwydd ecolegol neu ymarferoldeb unrhyw safleoedd statudol o
ddiddordeb ecolegol, daearegol a/neu geomorffolegol.
Roedd y datblygiad yn dderbyniol
o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr
adroddiad.
(b) Cefnogwyd y cais gan yr aelod
lleol (oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), nododd bod y safle yn addas
ar gyfer y nifer a ofynnir amdanynt a bod y maes
carafanau yn cael ei reoli’n
gyfrifol.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.
Amodau:
1.
Cychwyn o fewn 5 mlynedd.
2. Unol â chynlluniau a gyflwynwyd.
3. Nifer o unedau teithiol ar y safle ar
unrhyw un adeg i’w cyfyngu
i 22.
4. Cyfyngu tymor
i rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref.
5. Defnydd gwyliau
yn unig.
6. Cadw cofrestr.
7. Dim storio carafanau
teithiol ar y safle.
8. Cyflawni’r cynllun tirlunio.