Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 24/04/2017 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 5)

5 Cais Rhif C17/0041/09/LL - Tir gyferbyn Glan y Môr, Tywyn pdf eicon PDF 108 KB

Codi dau deras o naw annedd (pedwar o'r anheddau ar gyfer angen lleol fforddiadwy).

 

AELODAU LLEOL:   Y Cynghorwyr Anne Lloyd Jones a Mike Stevens

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cadeiriwyd y drafodaeth ar y cais hwn gan y Cynghorydd Michael Sol Owen.

 

Codi dau deras o naw annedd (pedwar o’r anheddau ar gyfer angen lleol fforddiadwy).

 

(a)      Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y bwriad yn ddatblygiad preswyl ar safle tu mewn i ffin datblygu tref Tywyn gyda thai preswyl wedi’u lleoli ar dir gerllaw’r safle i bob cyfeiriad.

 

Nodwyd y byddai gostyngiad o 20% ym mhris y tai fforddiadwy gan ddod a’r pris i lawr i oddeutu £128,000 o gymharu â phris marchnad agored o oddeutu £160,000.

 

Tynnwyd sylw nad oedd safle’r cais wedi ei leoli o fewn ardal lifogydd ond bod pryder y gallai’r ffordd fynediad i’r safle o Marine Parade gael ei heffeithio gan lifogydd. Nodwyd yn wreiddiol roedd gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) bryderon sylweddol, ond yn dilyn diwygiadau i gynnwys yr Asesiad Canlyniadau Llifogydd derbyniwyd cadarnhad fod CNC yn hapus gyda’r diwygiadau cyn belled bo amodau yn cael eu cynnwys ar unrhyw ganiatâd cynllunio yn nodi fod llwybr dihangfa i gyfeiriad Ffordd Warwig (i’r dwyrain) yn cael ei ddarparu cyn i’r datblygiad gael ei anheddu, a bod lefelau llawr gorffenedig y datblygiad yn 7.1 medr Uwchlaw Seilnod Ordnans.

 

Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Nododd yr aelod lleol (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), ei bod yn fodlon efo’r argymhelliad.

 

(c)     Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

         Mewn ymateb i sylw gan aelod bod pris y tai fforddiadwy yn uchel o ystyried cyflogau yn ardal Meirionnydd, nododd y Rheolwr Cynllunio bod yr Uned Strategol Tai wedi cadarnhau eu bod yn fforddiadwy.

 

PENDERFYNWYD dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r ymgeisydd gwblhau cytundeb cyfreithiol o dan Adran 106 o’r Ddeddf Cynllunio 1990 er mwyn sicrhau fod 4 tŷ allan o gyfanswm o 9 tŷ yn fforddiadwy yn y lle cyntaf ac am byth.

 

Amodau:

       

1.      5 mlynedd i gychwyn y datblygiad.

2.      Yn unol â’r cynlluniau a gyflwynwyd.

3.      Llechi naturiol.

4.      Deunyddiau allanol i’w cytuno.

5.      Gwaith tirlunio, plannu a gwelliannau i fioamrywiaeth i’w cwblhau o fewn amserlen benodol

6.      Amodau priffyrdd perthnasol.

7.      Amod tynnu hawliau a ganiateir i ffwrdd.

8.      Lefelau llawr gorffenedig yr anheddau i fod o 7.1m Uwchlaw Seilnod Ordnans

9.      Sicrhau bod llwybr troed yn cael ei ddarparu i gysylltu’r safle a Ffordd Warwig ar gael cyn i’r tai cael eu meddiannu, rhaid cadw’r llwybr yn glir a di-rwystr yn ystod oes y datblygiad.

10.    Amod cyflwyno a chytuno manylion ffiniau’r safle.

11.    Amod dim dŵr wyneb i gael ei waredu i’r garthffos gyhoeddus.

12.    Dim amharu ar adnoddau Dŵr Cymru sydd yn croesi neu gerllaw safle’r cais