5 Cais Rhif C17/0041/09/LL - Tir gyferbyn Glan y Môr, Tywyn PDF 108 KB
Codi dau deras o naw annedd (pedwar o'r anheddau ar gyfer angen lleol fforddiadwy).
AELODAU LLEOL: Y Cynghorwyr Anne Lloyd Jones a Mike Stevens
Dolen
i’r dogfennau cefndir perthnasol
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Cadeiriwyd y drafodaeth ar y cais hwn gan y Cynghorydd
Michael Sol Owen.
Codi dau deras o naw annedd (pedwar o’r anheddau ar
gyfer angen lleol fforddiadwy).
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y bwriad
yn ddatblygiad preswyl ar safle tu mewn i ffin datblygu tref Tywyn gyda thai
preswyl wedi’u lleoli ar dir gerllaw’r safle i bob cyfeiriad.
Nodwyd y byddai gostyngiad o 20% ym mhris y tai fforddiadwy gan ddod a’r
pris i lawr i oddeutu £128,000 o gymharu â phris marchnad agored o oddeutu
£160,000.
Tynnwyd sylw nad oedd safle’r cais wedi ei leoli o fewn ardal lifogydd ond
bod pryder y gallai’r ffordd fynediad i’r safle o
Marine Parade gael ei heffeithio gan lifogydd. Nodwyd
yn wreiddiol roedd gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) bryderon sylweddol, ond yn
dilyn diwygiadau i gynnwys yr Asesiad Canlyniadau Llifogydd derbyniwyd
cadarnhad fod CNC yn hapus gyda’r diwygiadau cyn belled
bo amodau yn cael eu cynnwys ar unrhyw ganiatâd cynllunio yn nodi fod llwybr
dihangfa i gyfeiriad Ffordd Warwig (i’r dwyrain) yn
cael ei ddarparu cyn i’r datblygiad gael ei anheddu, a bod lefelau llawr
gorffenedig y datblygiad yn 7.1 medr Uwchlaw Seilnod
Ordnans.
Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn
yr adroddiad.
(b) Nododd yr aelod lleol
(oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), ei bod yn
fodlon efo’r argymhelliad.
(c) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.
Mewn ymateb i
sylw gan aelod bod pris y tai fforddiadwy yn uchel o ystyried cyflogau yn ardal
Meirionnydd, nododd y Rheolwr
Cynllunio bod yr Uned Strategol Tai wedi cadarnhau eu bod yn fforddiadwy.
PENDERFYNWYD dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r
ymgeisydd gwblhau cytundeb cyfreithiol o dan Adran 106 o’r Ddeddf Cynllunio
1990 er mwyn sicrhau fod 4 tŷ allan o gyfanswm o
9 tŷ yn fforddiadwy yn y lle cyntaf ac am byth.
Amodau:
1.
5 mlynedd i gychwyn y datblygiad.
2.
Yn
unol â’r cynlluniau a gyflwynwyd.
3.
Llechi naturiol.
4.
Deunyddiau allanol i’w cytuno.
5.
Gwaith tirlunio, plannu a gwelliannau i
fioamrywiaeth i’w cwblhau o fewn amserlen benodol
6.
Amodau priffyrdd perthnasol.
7.
Amod tynnu hawliau a ganiateir i ffwrdd.
8.
Lefelau llawr gorffenedig yr anheddau i fod o 7.1m
Uwchlaw Seilnod Ordnans
9.
Sicrhau bod llwybr troed yn cael ei ddarparu i
gysylltu’r safle a Ffordd Warwig ar gael cyn i’r tai
cael eu meddiannu, rhaid cadw’r llwybr yn glir a di-rwystr yn ystod oes y
datblygiad.
10.
Amod
cyflwyno a chytuno manylion ffiniau’r safle.
11.
Amod dim dŵr wyneb i gael
ei waredu i’r garthffos gyhoeddus.
12.
Dim
amharu ar adnoddau Dŵr Cymru sydd yn croesi neu gerllaw safle’r cais