5 Cais Rhif C16/1603/41/AM - Cae Bodlondeb, ger Ael y Bryn, Chwilog PDF 274 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Cais
amlinellol ar gyfer codi 9 tŷ sy'n cynnwys 3 tŷ fforddiadwy ynghyd a
darparu mynedfa a lon stad.
(a) Ymhelaethodd
yr Uwch Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais,
gan nodi ei fod yn
gais amlinellol ar gyfer codi
9 annedd, 3 ohonynt yn fforddiadwy ar ran o safle o fewn pentref Chwilog
a oedd wedi ei ddynodi ar
gyfer 21 o dai yn y CDUG. Roedd y cais yn ymwneud
a hanner y safle oedd agosaf i
dai presennol
stad Ty’n Rhos ac yn cynnwys
y ffordd fynediad. Nodwyd bod cais wedi ei gyflwyno
o dan C16/1363/41/AM ar gyfer codi 9 annedd
ychwanegol (3 ohonynt yn fforddiadwy) ar gyfer gweddill
y safle, a oedd i’w ystyried yn
y cyfarfod hwn.
Nodwyd fod y bwriad ar gyfer y
safle yn ei gyfanrwydd (y cais yma a chais C16/1363/41/AM) yn cynnwys 18 o dai,
ac felly ystyrir fod nifer yr unedau yn dderbyniol ar gyfer y safle ac fe
fyddai defnydd addas (ar sail dwysedd) yn cael ei wneud o’r tir. Roedd y cais
yn cynnig 33.3% o dai fforddiadwy, sef y ffigwr agosaf at y targed gyda’r
niferoedd o dan ystyriaeth.
Adroddwyd y
derbyniwyd sylwadau gan yr Uned Draenio Tir ar fore’r pwyllgor yn cyfeirio at
broblemau dŵr wyneb ar ran o’r cae. Roeddent o’r farn
y byddai’r gwaith ynghlwm a datblygu’r tir yn helpu’r sefyllfa bresennol.
Ystyriwyd y
byddai cyfraniad ariannol (i’w gytuno) ar gyfer gwella cyfleusterau yn y parc
presennol drwy Gytundeb 106, o ystyried y byddai’r datblygiad a ganiatawyd ar
safle Bryn Hyfryd (C14/0113/41/AM) yn darparu llecyn o fewn y safle, yn
dderbyniol i sicrhau bod y ddarpariaeth o lecynnau agored adloniadol yn yr
ardal leol yn diwallu anghenion y datblygiad.
Eglurwyd y
disgwylir cyfraniad addysgol o £9,359, yn deillio o’r ddau gais gerbron, er mwyn
sicrhau y gall Ysgol Gynradd Chwilog ymdopi gydag unrhyw gynnydd yn nifer y
disgyblion, o ganlyniad i’r unedau preswyl a nodir ar gyfer y safleoedd yn
Chwilog yn y CDUG.
Nodwyd yr
argymhellir gosod amod ychwanegol, pe caniateir y cais, na ellir creu mynediad
cerbydol o’r safle i’r trac sydd yn arwain i’r fynwent.
Ystyriwyd bod y ddau gais gyda’i
gilydd yn dderbyniol yn nhermau
eu hasesu yn erbyn gofynion
y Briff Datblygu ar gyfer y safle
ac yn erbyn gofynion polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol eraill a nodwyd yn yr
adroddiad.
(b)
Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd yr ymgeisydd
y prif bwyntiau canlynol:-
·
Bod y bwriad yn cyfarch gofynion
yr Uned Polisi
Cynllunio ar y Cyd;
·
Bod pryder wedi ei nodi
o ran bodolaeth llysiau’r
dial ar y safle ond nid oedd
tystiolaeth o hyn ac nid oedd wedi
ei nodi gan
yr Uned Bioamrywiaeth;
·
O ran sylwadau’r Uned Bioamrywiaeth, bod y ffermwr wedi torri’r
gwrych gan ei fod yn
ymledu i’r tir pori.
(c) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol
gan yr aelod lleol
(nad oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn):-
· Bod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5