Agenda item

Cais amlinellol ar gyfer codi 9 sy'n cynnwys 3 fforddiadwy ynghyd a darparu mynedfa a lôn stad.

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Aled Ll. Evans

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

COFNODION:

Cais amlinellol ar gyfer codi 9 tŷ sy'n cynnwys 3 tŷ fforddiadwy ynghyd a darparu mynedfa a lon stad.

 

(a)     Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi ei fod yn gais amlinellol ar gyfer codi 9 annedd, 3 ohonynt yn fforddiadwy ar ran o safle o fewn pentref Chwilog a oedd wedi ei ddynodi ar gyfer 21 o dai yn y CDUG. Roedd y cais yn ymwneud a hanner y safle oedd agosaf i dai presennol stad Ty’n Rhos ac yn cynnwys y ffordd fynediad. Nodwyd bod cais wedi ei gyflwyno o dan C16/1363/41/AM ar gyfer codi 9 annedd ychwanegol (3 ohonynt yn fforddiadwy) ar gyfer gweddill y safle, a oedd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Nodwyd fod y bwriad ar gyfer y safle yn ei gyfanrwydd (y cais yma a chais C16/1363/41/AM) yn cynnwys 18 o dai, ac felly ystyrir fod nifer yr unedau yn dderbyniol ar gyfer y safle ac fe fyddai defnydd addas (ar sail dwysedd) yn cael ei wneud o’r tir. Roedd y cais yn cynnig 33.3% o dai fforddiadwy, sef y ffigwr agosaf at y targed gyda’r niferoedd o dan ystyriaeth.

 

Adroddwyd y derbyniwyd sylwadau gan yr Uned Draenio Tir ar fore’r pwyllgor yn cyfeirio at broblemau dŵr wyneb ar ran o’r cae. Roeddent o’r farn y byddai’r gwaith ynghlwm a datblygu’r tir yn helpu’r sefyllfa bresennol.

 

Ystyriwyd y byddai cyfraniad ariannol (i’w gytuno) ar gyfer gwella cyfleusterau yn y parc presennol drwy Gytundeb 106, o ystyried y byddai’r datblygiad a ganiatawyd ar safle Bryn Hyfryd (C14/0113/41/AM) yn darparu llecyn o fewn y safle, yn dderbyniol i sicrhau bod y ddarpariaeth o lecynnau agored adloniadol yn yr ardal leol yn diwallu anghenion y datblygiad.

 

Eglurwyd y disgwylir cyfraniad addysgol o £9,359, yn deillio o’r ddau gais gerbron, er mwyn sicrhau y gall Ysgol Gynradd Chwilog ymdopi gydag unrhyw gynnydd yn nifer y disgyblion, o ganlyniad i’r unedau preswyl a nodir ar gyfer y safleoedd yn Chwilog yn y CDUG.

 

Nodwyd yr argymhellir gosod amod ychwanegol, pe caniateir y cais, na ellir creu mynediad cerbydol o’r safle i’r trac sydd yn arwain i’r fynwent.

 

Ystyriwyd bod y ddau gais gyda’i gilydd yn dderbyniol yn nhermau eu hasesu yn erbyn gofynion y Briff Datblygu ar gyfer y safle ac yn erbyn gofynion polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol eraill a nodwyd yn yr adroddiad. 

 

(b)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod y bwriad yn cyfarch gofynion yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd;

·         Bod pryder wedi ei nodi o ran bodolaeth llysiau’r dial ar y safle ond nid oedd tystiolaeth o hyn ac nid oedd wedi ei nodi gan yr Uned Bioamrywiaeth;

·         O ran sylwadau’r Uned Bioamrywiaeth, bod y ffermwr wedi torri’r gwrych gan ei fod yn ymledu i’r tir pori.

 

(c)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Bod y ffaith y cyflwynwyd dau gais wedi peri ychydig o ddryswch;

·         Bod diffygion yn y draeniau wedi bodoli ers peth amser gan achosi i ddŵr lifo i dŷ wrth ymyl. A fyddai’n bosib un ai derbyn cadarnhad pellach neu osod amod bod y datblygiad ddim yn achosi llifogydd a bod y broblem yn cael ei ddatrys?

 

Mewn ymateb i sylwadau’r aelod lleol, nododd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu yr argymhellir, pe caniateir y cais, i osod amod i gytuno ar fanylion cynllun draenio tir cyn cychwyn y datblygiad ac fe anogir yr ymgeisydd i gysylltu â Dŵr Cymru a’r Uned Draenio Tir cyn dylunio i ymateb i’r problemau presennol.

 

(ch)   Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod parthed y cyfraniad addysgol, nododd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu bod y cyfraniad ariannol wedi ei gyfrifo yn unol â’r polisiau.

 

Nododd aelod y byddai’n fuddiol nodi ffigwr penodol o ran y cyfraniad ar gyfer gwella cyfleusterau yn y parc presennol er mwyn cael syniad o faint o wellhad a fyddai i’r cyfleusterau.

 

PENDERFYNWYD dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r ymgeisydd gwblhau cytundeb 106 yn ymwneud a’r cyfraniad ariannol addysgol ac ar gyfer gwella llecyn chwarae ac i sicrhau fod 3 o’r 9 tŷ yn dai fforddiadwy ar gyfer angen lleol cyffredinol.

 

Amodau:

                                                                                                         

1.      Amodau safonol amser cais amlinellol

2.      Amod derbyn materion a gadwyd yn ôl

3.      Llechi

4.      Amodau Priffyrdd

5.      Amod Dwr Cymru

6.      Tynnu hawliau dirprwyedig a ganiateir ar yr unedau fforddiadwy

7.      Cytuno ar gynllun i waredu’r Llysiau Dial

8.      Tirlunio

9.      Datblygu gam wrth gam

10.    Dim creu mynediad cerbydol o’r safle i’r trac sydd yn arwain i’r fynwent

 

Nodyn Dŵr Cymru

Nodiadau Priffyrdd

 

Dogfennau ategol: