5 Cais Rhif C16/0835/44/CR - Capel Garth, Bank Place, Porthmadog PDF 344 KB
Addasu cyn gapel i 9 uned breswyl.
AELOD LLEOL: Cynghorydd E.
Selwyn Griffiths
Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Addasu cyn gapel i 9 uned breswyl gyda darpariaeth
barcio.
(a)
Ymhelaethodd y Rheolwr
Cynllunio ar gefndir y cais rhestredig, gan nodi mai materion cadwraethol yn
unig a asesir, sef effaith y bwriad ar edrychiad a chymeriad hanesyddol a
phensaernïol yr adeilad rhestredig.
Tynnwyd sylw at y sylwadau
ychwanegol a dderbyniwyd.
Nodwyd y gwerthfawrogir fod angen addasu ar
raddfa gweddol helaeth y nodweddion o fewn yr adeilad
ond roedd rhaid cael balans
rhwng hyn a sicrhau dyfodol ar gyfer yr
adeilad. Nodwyd fod ei gyflwr
wedi dirywio a bellach roedd yn
cael effaith ar yr adeilad
ei hun, y strydwedd a mwynderau tai cyfagos heb
sôn am fod yn berygl. Pwysleisiwyd bod rhaid taro balans rhwng gwarchod yr adeilad rhestredig
a’i nodweddion a sicrhau defnydd hirdymor. Teimlir bod hyn yn cael
ei golli yn asesiad rhai
o’r ymgynghorai statudol, yn ddelfrydol
fe fyddai
wedi dod i ddefnydd yn
gynharach ond o ystyried y sefyllfa roedd rhaid bod yn fwy meddwl
agored am ganiatau defnydd newydd o’r adeilad.
Ystyriwyd fod egwyddor y bwriad o ail-ddefnyddio ac addasu’r adeilad i’w groesawu gan
sicrhau dyfodol a defnydd newydd i’r adeilad rhestredig
gradd II. Nodwyd bod y gwaith mewnol
yn sylweddol ei natur, ond
fel yr eglurwyd,
ystyrir fod hyn yn hanfodol
er galluogi sefydlu defnydd newydd hir dymor
i’r adeilad, a’r cyfaddawd oedd
sicrhau ail-ddefnyddio nifer o’r nodweddion
oedd i’w symud/tynnu o fewn
yr unedau.
(b) Cynigwyd
ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.
Mewn ymateb
i gwestiwn gan aelod, nododd
y Rheolwr Cynllunio bod y cynlluniau manwl a oedd yn ynghlwm
â’r cais yn dangos bwriad
i ail-ddefnyddio llawer o’r seti
yn y galeri fel rhan o’r
ceginau a partisiwns newydd ac o fewn yr unedau. Ychwanegodd bod y nenfwd yn cael ei
warchod gan gael ei guddied fel oedd
yn digwydd yn aml wrth
drosi capeli.
Nododd aelodau
eu tristwch o ran colli treftadaeth a’r gwaith cywrain
ond ei fod
yn anodd cael cydbwysedd o ran gwarchod y nodweddion a dod a’r adeilad yn ôl
i ddefnydd.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn
ddarostyngedig i dderbyn cadarnhad CADW.
Amodau:
1. 5 mlynedd
2. Unol a’r cynlluniau
3. Dyluniad a gorffeniad y fynedfa gerbydol, i gynnwys y drws, i’w gymeradwyo
yn ysgrifenedig gan yr ACLL cyn dechrau unrhyw waith arall sydd yn destun y
caniatâd.
4. Amod cofnod ffotograffig
5. Llechi to i gydweddu a’r llechi presennol
6. Ffenestri gwreiddiol i’w trwsio fel y maent ac unrhyw ffenestri amnewidir
i gyd fynd a’r gwreiddiol/amodau gwydro gyda gwydr wedi ei gymylu /afloyw
7. Drws newydd cefn i fod o wneuthuriad pren i gyd fynd a’r
gweddill
8. Nwyddau dwr glaw o wneuthuriad haearn bwrw
9. Grisiau gwreiddiol i’w cadw bob amser
10. Manylion gwarchod y rhosyn to i’w gytuno o flaen llaw a’i
gymeradwyo yn ysgrifenedig gan yr ACLL
11. Manylion unrhyw fents
allanol i’w gymeradwyo yn ysgrifenedig gan yr ACLL cyn dechrau’r gwaith.
12. Cytuno ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5