Agenda item

Addasu cyn gapel i 9 uned breswyl.

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd E. Selwyn Griffiths

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Cofnod:

Addasu cyn gapel i 9 uned breswyl gyda darpariaeth barcio.

 

(a)      Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais rhestredig, gan nodi mai materion cadwraethol yn unig a asesir, sef effaith y bwriad ar edrychiad a chymeriad hanesyddol a phensaernïol yr adeilad rhestredig.

 

         Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.

 

Nodwyd y gwerthfawrogir fod angen addasu ar raddfa gweddol helaeth y nodweddion o fewn yr adeilad ond roedd rhaid cael balans rhwng hyn a sicrhau dyfodol ar gyfer yr adeilad. Nodwyd fod ei gyflwr wedi dirywio a bellach roedd yn cael effaith ar yr adeilad ei hun, y strydwedd a mwynderau tai cyfagos heb sôn am fod yn berygl. Pwysleisiwyd bod rhaid taro balans rhwng gwarchod yr adeilad rhestredig a’i nodweddion a sicrhau defnydd hirdymor. Teimlir bod hyn yn cael ei golli yn asesiad rhai o’r ymgynghorai statudol, yn ddelfrydol fe fyddai wedi dod i ddefnydd yn gynharach ond o ystyried y sefyllfa roedd rhaid bod yn fwy meddwl agored am ganiatau defnydd newydd o’r adeilad.

 

Ystyriwyd fod egwyddor y bwriad o ail-ddefnyddio ac addasu’r adeilad i’w groesawu gan sicrhau dyfodol a defnydd newydd i’r adeilad rhestredig gradd II. Nodwyd bod y gwaith mewnol yn sylweddol ei natur, ond fel yr eglurwyd, ystyrir fod hyn yn hanfodol er galluogi sefydlu defnydd newydd hir dymor i’r adeilad, a’r cyfaddawd oedd sicrhau ail-ddefnyddio nifer o’r nodweddion oedd i’w symud/tynnu o fewn yr unedau.

 

(b)     Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

          Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod, nododd y Rheolwr Cynllunio bod y cynlluniau manwl a oedd yn ynghlwm â’r cais yn dangos bwriad i ail-ddefnyddio llawer o’r seti yn y galeri fel rhan o’r ceginau a partisiwns newydd ac o fewn yr unedau. Ychwanegodd bod y nenfwd yn cael ei warchod gan gael ei guddied fel oedd yn digwydd yn aml wrth drosi capeli.

 

          Nododd aelodau eu tristwch o ran colli treftadaeth a’r gwaith cywrain ond ei fod yn anodd cael cydbwysedd o ran gwarchod y nodweddion a dod a’r adeilad yn ôl i ddefnydd. 

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i dderbyn cadarnhad CADW.

 

Amodau:

1.     5 mlynedd 

2.     Unol a’r cynlluniau

3.     Dyluniad a gorffeniad y fynedfa gerbydol, i gynnwys y drws, i’w gymeradwyo yn ysgrifenedig gan yr ACLL cyn dechrau unrhyw waith arall sydd yn destun y caniatâd.

4.     Amod cofnod ffotograffig

5.     Llechi to i gydweddu a’r llechi presennol

6.     Ffenestri gwreiddiol i’w trwsio fel y maent ac unrhyw ffenestri amnewidir i gyd fynd a’r gwreiddiol/amodau gwydro gyda gwydr wedi ei gymylu /afloyw        

7.     Drws newydd cefn i fod o wneuthuriad pren i gyd fynd a’r gweddill

8.     Nwyddau dwr glaw o wneuthuriad haearn bwrw

9.     Grisiau gwreiddiol i’w cadw bob amser

10.   Manylion gwarchod y rhosyn to i’w gytuno o flaen llaw a’i gymeradwyo yn ysgrifenedig gan yr ACLL

11.   Manylion unrhyw fents allanol i’w gymeradwyo yn ysgrifenedig gan yr ACLL cyn dechrau’r gwaith.

12.   Cytuno ar gynllun i ail-ddefnyddio nodweddion mewnol o fewn y datblygiad.

 

Dogfennau ategol: