5 Cais Rhif C16/0761/44/LL - Capel Garth, Bank Place, Porthmadog PDF 274 KB
Addasu cyn Gapel i 9 uned breswyl gyda darpariaeth parcio.
AELOD LLEOL: Cynghorydd E.
Selwyn Griffiths
Dolen i'r dogfennau
cefndir perthnasol
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Addasu
cyn Gapel i 9 uned breswyl gyda darpariaeth parcio.
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod yr adeilad presennol yn sefyll yn wag ers oddeutu 18 mlynedd. Adroddwyd y
caniatawyd cais yn 2010 i addasu’r adeilad i 8 uned byw, ond ni weithredwyd y
caniatâd yn ystod y cyfnod statudol. Nodwyd bod safle’r cais o fewn canol tref
Porthmadog gyda ffordd dosbarth 3 yn rhedeg o flaen yr adeilad a oedd yn
adeilad rhestredig gradd II.
Ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol mewn egwyddor.
Cyfeiriwyd at bolisi CH6 o’r CDUG a oedd yn ymwneud â sicrhau canran o dai
fforddiadwy mewn datblygiad o’r math yma. Nodwyd o edrych ar y cynlluniau llawr
roedd sawl un o’r unedau yn disgyn o fewn maint uned yr ystyrir i fod yn
fforddiadwy yng nghyd-destun y Canllaw Cynllunio Atodol: Tai Fforddiadwy.
Ystyriwyd nad oedd lleoliad y datblygiad yng nghanol y dref yn rhoi gwerth
premiwm ar yr unedau a fyddai’n cael eu darparu ac felly fod hyn, yn ogystal â’u maint, yn golygu fod canran o’r unedau am fod yn
fforddiadwy beth bynnag heb yr angen i gyfyngu hynny ymhellach drwy Gytundeb
106. Adroddwyd y derbyniwyd ar fore’r Pwyllgor gadarnhad o bris marchnad agored
tebygol ar gyfer yr unedau ac nid oedd pris ddim un o’r unedau yn uwch na
£110,000. Ystyriwyd y byddai’n afresymol i gyfyngu'r pris ymhellach drwy
Gytundeb 106.
Nodwyd ni fwriedir gwneud llawer o addasiadau allanol i’r
adeilad, fe fyddai’r gwaith mwyaf ar flaen yr adeilad er mwyn creu mynedfa
gerbydol newydd i ddarparu lle parcio ar gyfer bob uned byw.
Nodwyd bod y cynllun yma yn gyfle i sicrhau defnydd hirdymor
yr adeilad rhestredig gradd II a oedd yn dirywio.
Cyfeiriwyd at y gwrthwynebiadau gan drigolion lleol ar sail gor-edrych ac aflonyddwch yn ystod gwireddu’r cynllun.
Nodwyd yr argymhellir gosod amod i sicrhau fod y ffenestri a oedd yn gwynebu tŷ Gwylfa yn cael eu hail-wydro gyda gwydr
wedi ei gymylu (neu ddull tebyg) er mwyn sicrhau preifatrwydd y tŷ ac na
fyddai unrhyw or-edrych annerbyniol yn digwydd o
ganlyniad i’r bwriad.
Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd gan yr
Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd oedd yn nodi eu bod yn ystyried bod y bwriad a’r
materion o ran tai fforddiadwy yn dderbyniol.
Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr
adroddiad.
(b) Nodwyd bod yr aelod
lleol yn gefnogol i’r cais efo’r
amodau.
Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r
cais.
(c) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol:
·
Er bod yr unedau yn naturiol
yn fforddiadwy gan fod eu
maint yn cyfyngu eu gwerth,
ni ellir
eu hatal rhag mynd yn
lety gwyliau, felly fyddai’n bosib rhoi cytundeb 106 ar rai ohonynt?
· Gan nad oedd yr ymgeisydd wedi gwrthod cytundeb 106, pam na ellir gosod cytundeb 106 a fyddai o help i’r Cyngor o ran darparu tai ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5