skip to main content

Agenda item

Addasu cyn Gapel i 9 uned breswyl gyda darpariaeth parcio.

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd E. Selwyn Griffiths

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

 

 

Cofnod:

Addasu cyn Gapel i 9 uned breswyl gyda darpariaeth parcio.

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod yr adeilad presennol yn sefyll yn wag ers oddeutu 18 mlynedd. Adroddwyd y caniatawyd cais yn 2010 i addasu’r adeilad i 8 uned byw, ond ni weithredwyd y caniatâd yn ystod y cyfnod statudol. Nodwyd bod safle’r cais o fewn canol tref Porthmadog gyda ffordd dosbarth 3 yn rhedeg o flaen yr adeilad a oedd yn adeilad rhestredig gradd II.

          

         Ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol mewn egwyddor. Cyfeiriwyd at bolisi CH6 o’r CDUG a oedd yn ymwneud â sicrhau canran o dai fforddiadwy mewn datblygiad o’r math yma. Nodwyd o edrych ar y cynlluniau llawr roedd sawl un o’r unedau yn disgyn o fewn maint uned yr ystyrir i fod yn fforddiadwy yng nghyd-destun y Canllaw Cynllunio Atodol: Tai Fforddiadwy. Ystyriwyd nad oedd lleoliad y datblygiad yng nghanol y dref yn rhoi gwerth premiwm ar yr unedau a fyddai’n cael eu darparu ac felly fod hyn, yn ogystal â’u maint, yn golygu fod canran o’r unedau am fod yn fforddiadwy beth bynnag heb yr angen i gyfyngu hynny ymhellach drwy Gytundeb 106. Adroddwyd y derbyniwyd ar fore’r Pwyllgor gadarnhad o bris marchnad agored tebygol ar gyfer yr unedau ac nid oedd pris ddim un o’r unedau yn uwch na £110,000. Ystyriwyd y byddai’n afresymol i gyfyngu'r pris ymhellach drwy Gytundeb 106.

 

         Nodwyd ni fwriedir gwneud llawer o addasiadau allanol i’r adeilad, fe fyddai’r gwaith mwyaf ar flaen yr adeilad er mwyn creu mynedfa gerbydol newydd i ddarparu lle parcio ar gyfer bob uned byw.

 

         Nodwyd bod y cynllun yma yn gyfle i sicrhau defnydd hirdymor yr adeilad rhestredig gradd II a oedd yn dirywio.

 

         Cyfeiriwyd at y gwrthwynebiadau gan drigolion lleol ar sail gor-edrych ac aflonyddwch yn ystod gwireddu’r cynllun. Nodwyd yr argymhellir gosod amod i sicrhau fod y ffenestri a oedd yn gwynebu tŷ Gwylfa yn cael eu hail-wydro gyda gwydr wedi ei gymylu (neu ddull tebyg) er mwyn sicrhau preifatrwydd y tŷ ac na fyddai unrhyw or-edrych annerbyniol yn digwydd o ganlyniad i’r bwriad.      

 

         Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd gan yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd oedd yn nodi eu bod yn ystyried bod y bwriad a’r materion o ran tai fforddiadwy yn dderbyniol.

 

         Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Nodwyd bod yr aelod lleol yn gefnogol i’r cais efo’r amodau.

 

         Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

(c)     Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol:

 

·         Er bod yr unedau yn naturiol yn fforddiadwy gan fod eu maint yn cyfyngu eu gwerth, ni ellir eu hatal rhag mynd yn lety gwyliau, felly fyddai’n bosib rhoi cytundeb 106 ar rai ohonynt?

·         Gan nad oedd yr ymgeisydd wedi gwrthod cytundeb 106, pam na ellir gosod cytundeb 106 a fyddai o help i’r Cyngor o ran darparu tai fforddiadwy?

·         Nid oedd gosod amod 106 yn ddatrysiad i bob dim, roedd prisiau’r unedau yn rhesymol beth bynnag;

·         Y byddai’r bwriad yn ddefnydd da o’r adeilad.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd yr Uwch Gyfreithiwr bod problemau efo rhoi cytundeb 106 ar unedau pan fo prisiau marchnad agored yn isel ac fe allai disgownt ar y pris olygu eu bod yn anhyfyw. Eglurwyd nad oedd yn bosib cyfyngu unedau yn y canolfannau mwy, fel Porthmadog, i bobl leol. Nodwyd bod polisïau cenedlaethol yn hyrwyddo dod ac adeiladau rhestredig yn ôl i ddefnydd ac roedd costau sylweddol ynghlwm.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais. 

 

Amodau:

1.     5 mlynedd 

2.     Unol a’r cynlluniau diwygiedig

3.     Dyluniad a gorffeniad y fynedfa gerbydol i’w gymeradwyo yn ysgrifenedig gan yr ACLL.

4.     Amod cofnod ffotograffig

5.     Llechi to i gydweddu a’r llechi presennol

6.     Ffenestri gwreiddiol i’w trwsio fel y mae ac unrhyw ffenestri amnewidir i gyd fynd a’r gwreiddiol/amodau gwydro gyda gwydr wedi ei gymylu /afloyw

7.     Drws newydd cefn i fod o wneuthuriad pren i gyd fynd a’r gweddill

8.     Nwyddau dwr glaw o wneuthuriad haearn bwrw

9.     Grisiau gwreiddiol i’w cadw bob amser

10.   Manylion gwarchod y rhosyn to i’w gytuno o flaen llaw a’i gymeradwyo yn ysgrifenedig gan yr ACLL

11.   Rhaid i'r gwaith adeiladau cael ei gynnal rhwng 08.00 - 18.00 ar ddydd Llun i ddydd Gwener, 08.00 - 13.00 ar ddydd Sadwrn a dim gwaith o gwbl ar ddydd Sul neu Wyliau'r Banc.

12.   Amodau priffyrdd

13.   Dwr Cymru

14.   Manylion unrhyw fents allanol i’w gymeradwyo yn ysgrifenedig gan yr ACLL cyn dechrau’r gwaith.

15.   Cytuno ar gynllun i ail-ddefnyddio nodweddion mewnol o fewn y datblygiad.

 

Nodyn: ystlumod

 

Dogfennau ategol: