5 Cais Rhif C16/1250/17/LL - Fferm Tanyffordd, Cilgwyn, Carmel, Caernarfon PDF 249 KB
Codi adeilad amaethyddol aml bwrpas.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Dilwyn Lloyd
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Codi adeilad amaethyddol aml bwrpas.
(a)
Ymhelaethodd y Rheolwr
Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd
y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2016 er mwyn rhoi cyfle
i’r ymgeisydd gyflwyno mwy o wybodaeth.
Cyfeiriwyd at y wybodaeth ychwanegol a
gyflwynwyd gan yr ymgeisydd ynghyd â llythyr o gefnogaeth a dderbyniwyd.
Tynnwyd sylw bod polisi D9 o Gynllun Datblygu
Unedol Gwynedd (CDUG) yn gefnogol i godi adeiladau ac adeiladwaith ar gyfer
dibenion amaethyddol os ydynt yn amlwg yn rhesymol angenrheidiol at ddiben
amaethyddiaeth. Nodwyd ar sail y wybodaeth a ddaeth i law gyda’r cais a’r hyn a
welwyd o ran defnydd/gweithgarwch yn y sied ‘amaethyddol’ bresennol ac o fewn y
safle oddi amgylch, roedd y swyddogion yn parhau o’r farn,
ag heb gael eu hargyhoeddi, nad oedd y sied arfaethedig yn y lleoliad hwn yn
ddatblygiad gwirioneddol resymol angenrheidiol ar gyfer dibenion amaethyddol.
Nodwyd pryder am effaith ychwanegu sied fawr,
ddiwydiannol yr olwg ar y safle yn ychwanegol i’r siediau presennol ar
fwynderau gweledol yr ardal.
Credir bod y bwriad i godi adeilad amaethyddol
aml bwrpas arall ar y safle yn annerbyniol ac yn groes i ofynion polisïau
perthnasol y CDUG.
(b) Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau
canlynol:
·
Nad oedd y bwriad yn unol
â’r polisïau;
·
Ofn creu cynsail peryglus pe caniateir y cais gan nad
oedd yn ymddangos
y byddai defnydd amaethyddol o’r sied;
·
Bod y Pwyllgor wedi rhoi cyfle
i’r ymgeisydd gyflwyno gwybodaeth ychwanegol ond nid oedd yn
ddigonol felly roedd rhaid dilyn y polisïau;
·
Bod yr ymgeisydd yn arbenigo
mewn stoc pedigri a’i fod
yn anghywir mesur gofynion y person ar faint y tir. Byddai’r aelod yn atal ei
bleidlais.
PENDERFYNWYD gwrthod y cais.
Rhesymau:
1. Nid yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi ei argyhoeddi bod angen rhesymol
angenrheidiol am sied amaethyddol wedi cael ei brofi ar gyfer y safle hwn.
Credir felly fod y bwriad yn groes i ofynion polisi D9 o Gynllun Datblygu
Unedol Gwynedd.
2.
Mae lleoliad y sied
arfaethedig yn amlwg o fewn y dirwedd leol oherwydd ei ffurf a maint a’i
lleoliad dyrchafedig, credir felly y byddai hyn yn amharu ar fwynderau gweledol
yr ardal gyfagos gan gynnwys ardal Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Dyffryn
Nantlle sydd yn groes i ofynion perthnasol polisïau B12, B22 a B23.
5 Cais Rhif C16/1250/17/LL - Fferm Tanyffordd, Cilgwyn, Carmel, Caernarfon PDF 689 KB
Codi adeilad amaethyddol aml bwrpas.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Dilwyn Lloyd
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Codi adeilad amaethyddol aml bwrpas.
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais
gan nodi mai cais ydoedd
i godi adeilad
amaethyddol aml bwrpas ar gyfer
storio offer, peiriannau, gwair/bwyd a rhoi
lloches i anifeiliaid ar dir ger Fferm
Tanyffordd sydd wedi ei leoli
ar gyrion pentref Carmel.
Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd yn cefnogi’r cais a oedd yn cadarnhau
pryderon y swyddogion.
Nodwyd bod polisi D9 o’r CDUG yn gefnogol i
godi adeiladau ac adeiladwaith ar gyfer dibenion amaethyddol os ydynt yn amlwg
yn rhesymol angenrheidiol at ddiben amaethyddiaeth ac os gellir cydymffurfio gyda meini prawf
penodol ynghlwm a’r polisi.
Amlygwyd y caniatawyd estyniad i stablau o dan
gyfeirnod C11/0511/17/LL i greu sied amaethyddol.
O gynnal archwiliad safle, ymddengys fod yr hyn
a godwyd ar y safle yn fwy
ac o ffurf wahanol i’r hyn a ganiatawyd
a bod sied sylweddol wedi ei chodi
yn hytrach na’r estyniad fel
y caniatawyd. Nid oedd ychwaith yn ymddangos fod
defnydd y sied mewn cysylltiad â gwir ddefnydd amaethyddol
fel yr awgrymwyd
ar yr adeg.
Nodwyd o ystyried maint y daliad, ni
chredir fod gwir gyfiawnhad i godi sied
amaethyddol newydd o ystyried fod modd
defnyddio'r sied bresennol (a oedd yn anawdurdodedig yn ei ffurf
bresennol o safbwynt maint/dyluniad a’i ddefnydd) yn
ogystal â siediau eraill oedd eisoes
wedi eu codi
ar y safle.
Nodwyd bod lleoliad y sied arfaethedig yn amlwg o fewn y dirwedd leol
oherwydd ei ffurf a maint a’i lleoliad dyrchafedig, credir felly y byddai hyn
yn amharu ar fwynderau gweledol yr ardal gyfagos gan gynnwys ardal Tirwedd o
Ddiddordeb Hanesyddol Dyffryn Nantlle sydd yn groes i ofynion perthnasol
polisïau B12, B22 a B23.
(b) Cefnogwyd y cais gan yr aelod lleol,
(nad oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn), a gwnaed y prif
bwyntiau canlynol ganddo:
·
Bod yr ymgeisydd yn rhentu tir
yn ychwanegol i safle’r cais;
·
Yr angen am sied bwrpasol i
fab yr ymgeisydd er mwyn iddo allu paratoi defaid i’w arddangos mewn sioeau
amaethyddol;
·
Mai amaeth oedd yr unig opsiwn
o ran bywoliaeth mewn ardaloedd yng Ngwynedd;
·
Y dylid
cefnogi’r ymgeisydd.
Nododd yr aelod lleol nad oedd yn teimlo ei fod wedi derbyn gwrandawiad
teg. Mewn ymateb, nododd y Cadeirydd ei bod yn gwerthfawrogi ei gyflwyniad.
(c)
Mewn ymateb i sylwadau’r aelod lleol,
nododd yr Uwch
Reolwr Gwasanaeth Cynllunio:-
·
Mai prin iawn oedd yr
achosion lle nad oedd y Cyngor
yn cefnogi cais am sied amaethyddol;
·
Ni dderbyniwyd tystiolaeth bod yr ymgeisydd gyda thir ychwanegol nac fod angen
y sied ar gyfer paratoi defaid
i’w arddangos;
·
Credir bod yr adeiladau presennol yn cyfarch yr
angen felly nid oedd cyfiawnhad am sied arall;
·
Nid oedd y Cyngor yn ymwybodol
o’r tir a rentir.
(ch) Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais.
Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod parthed yr achos gorfodaeth, nododd yr ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5