Agenda item

Codi adeilad amaethyddol aml bwrpas.

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Dilwyn Lloyd

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Codi adeilad amaethyddol aml bwrpas.

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais ydoedd i godi adeilad amaethyddol aml bwrpas ar gyfer storio offer, peiriannau, gwair/bwyd a rhoi lloches i anifeiliaid ar dir ger Fferm Tanyffordd sydd wedi ei leoli ar gyrion pentref Carmel.

 

         Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd yn cefnogi’r cais a oedd yn  cadarnhau pryderon y swyddogion.

        

         Nodwyd bod polisi D9 o’r CDUG yn gefnogol i godi adeiladau ac adeiladwaith ar gyfer dibenion amaethyddol os ydynt yn amlwg yn rhesymol angenrheidiol at ddiben amaethyddiaeth ac os gellir cydymffurfio gyda meini prawf penodol ynghlwm a’r polisi.

 

         Amlygwyd y caniatawyd estyniad i stablau o dan gyfeirnod C11/0511/17/LL i greu sied amaethyddol. O gynnal archwiliad safle, ymddengys fod yr hyn a godwyd ar y safle yn fwy ac o ffurf wahanol i’r hyn a ganiatawyd a bod sied sylweddol wedi ei chodi yn hytrach na’r estyniad fel y caniatawyd. Nid oedd ychwaith yn ymddangos fod defnydd y sied mewn cysylltiad â gwir ddefnydd amaethyddol fel yr awgrymwyd ar yr adeg.

 

Nodwyd o ystyried maint y daliad, ni chredir fod gwir gyfiawnhad i godi sied amaethyddol newydd o ystyried fod modd defnyddio'r sied bresennol (a oedd yn anawdurdodedig yn ei ffurf bresennol o safbwynt maint/dyluniad a’i ddefnydd) yn ogystal â siediau eraill oedd eisoes wedi eu codi ar y safle.

         

Nodwyd bod lleoliad y sied arfaethedig yn amlwg o fewn y dirwedd leol oherwydd ei ffurf a maint a’i lleoliad dyrchafedig, credir felly y byddai hyn yn amharu ar fwynderau gweledol yr ardal gyfagos gan gynnwys ardal Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Dyffryn Nantlle sydd yn groes i ofynion perthnasol polisïau B12, B22 a B23.

        

(b)     Cefnogwyd y cais gan yr aelod lleol, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), a gwnaed y prif bwyntiau canlynol ganddo:

·         Bod yr ymgeisydd yn rhentu tir yn ychwanegol i safle’r cais;

·         Yr angen am sied bwrpasol i fab yr ymgeisydd er mwyn iddo allu paratoi defaid i’w arddangos mewn sioeau amaethyddol;

·         Mai amaeth oedd yr unig opsiwn o ran bywoliaeth mewn ardaloedd yng Ngwynedd;

·         Y dylid cefnogi’r ymgeisydd.

 

Nododd yr aelod lleol nad oedd yn teimlo ei fod wedi derbyn gwrandawiad teg. Mewn ymateb, nododd y Cadeirydd ei bod yn gwerthfawrogi ei gyflwyniad.

 

(c)     Mewn ymateb i sylwadau’r aelod lleol, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio:-

·         Mai prin iawn oedd yr achosion lle nad oedd y Cyngor yn cefnogi cais am sied amaethyddol;

·         Ni dderbyniwyd tystiolaeth bod yr ymgeisydd gyda thir ychwanegol nac fod angen y sied ar gyfer paratoi defaid i’w arddangos;

·         Credir bod yr adeiladau presennol yn cyfarch yr angen felly nid oedd cyfiawnhad am sied arall;

·         Nid oedd y Cyngor yn ymwybodol o’r tir a rentir.

 

(ch)   Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais.

 

          Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod parthed yr achos gorfodaeth, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio bod ymchwiliad gorfodaeth gan nad oedd defnydd amaethyddol i’r sied ac nid oedd ei ffurf yr un fath ar hyn a ganiatawyd.

 

          Nododd aelod gan na dderbyniwyd tystiolaeth i gyfiawnhau’r angen am y siediau y dylid ystyried gohirio’r cais er mwyn rhoi cyfle i’r ymgeisydd gyflwyno mwy o wybodaeth.

 

          Mewn ymateb i sylw gan aelod, nododd yr Uwch Gyfreithiwr yn unol â’r Cod Ymddygiad nad oedd yn briodol i aelodau’r Pwyllgor drafod y cais efo’r ymgeisydd ac fe gynghorir yr aelodau i awgrymu i’r ymgeisydd eu bod yn cysylltu efo’r aelod lleol neu’r Gwasanaeth Cynllunio.

 

         Cynigwyd ac eiliwyd gwelliant i ohirio’r cais er mwyn rhoi cyfle i’r ymgeisydd gyflwyno mwy o wybodaeth.

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais.

Dogfennau ategol: