9 Cais Rhif C19/0169/19/AM - Gypsy Wood, Bontnewydd PDF 110 KB
Cais amlinellol ar gyfer codi annedd menter wledig
AELOD LLEOL:
Cynhgorydd Peter Garlick
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Cais amlinellol ar gyfer codi annedd menter wledig
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a
dderbyniwyd
(a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais,
gan nodi bod y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio ar alw’r Aelod Lleol.
Eglurwyd bod y penderfyniad wedi ei ohirio ym Mhwyllgor Cynllunio 29.04.2019 er
mwyn asesu cynnwys llythyr hwyr a dderbyniwyd gan gyfreithiwr perchennog y tir.
Roedd y llythyr yn nodi bod perchnogion y tir am drosglwyddo’r
busnes i’r ymgeiswyr a gwerthu’r rhan o dir y bwriedir adeiladu’r tŷ oedd
yn destun y cais i’r ymgeiswyr.
Adroddwyd bod safle’r cais wedi ei leoli oddeutu 250m
i ffwrdd o ffin ddatblygu pentref Bontnewydd, ac yn nhermau’r Cynllun Datblygu Lleol,
roedd wedi ei leoli yng nghefn gwlad agored. Yn sgil yr angen i
gynnal a gwarchod cefn gwlad roedd angen cyfiawnhad arbennig iawn dros ganiatáu
adeiladu tai newydd yno. Nodwyd bod Polisi PS17 o’r Cynllun Datblygu Lleol yn
datgan mai dim ond datblygiadau tai a oedd yn cydymffurfio â Pholisi Cynllunio
Cymru a Nodyn Cyngor Technegol (NCT) 6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig
Cynaliadwy, fyddai’n cael eu caniatáu yng nghefn gwlad agored.
Tynnwyd sylw bod paragraff 4.3.1 o’r NCT6 yn nodi mai un
o’r ychydig sefyllfaoedd lle gellid cyfiawnhau datblygiad preswyl newydd ar ei
ben ei hun yng nghefn gwlad agored oedd pan fo angen llety i alluogi gweithwyr
menter wledig i fyw yn eu man gwaith neu’n agos ato. Ymhelaethwyd bod yr angen
hanfodol am lety yn dibynnu ar anghenion y fenter wledig dan sylw, ac nad ar
ddewis nac amgylchiadau personol yr ymgeisydd.
Nodwyd, petai’r sefyllfa perchnogaeth tir a’r busnes
yn newid yn swyddogol yn y dyfodol yna byddai’n ofynnol ail-asesu’r bwriad yn
ei gyfanrwydd yn erbyn y rhannau perthnasol o NCT 6. Adroddwyd ei bod yn
gynamserol ac amhriodol i asesu sefyllfa i’r dyfodol gan nad oedd sicrwydd bod
hyn am ddigwydd. Pe byddai sefyllfa’r berchnogaeth yn newid yn swyddogol yn y
dyfodol yna byddai’n ofynnol i’r ymgeiswyr ddarparu’r wybodaeth briodol ar
gyfer ail-asesu’r cais yn ei gyfanrwydd.
Tynnwyd sylw at baragraff 4.11
o’r NCT 6 sydd yn nodi bod rhaid darparu tystiolaeth nad oes unrhyw
annedd/anheddai neu adeiladau eraill y gellid eu haddasu i fodloni’r angen. Os
oes annedd/anheddau ar y fenter yn bodoli yn barod yna byddai angen dangos pam na ellid defnyddio’r rhain i ddiwallu anghenion
y fenter ar gyfer gweithiwr preswyl, a pham na ellid aildrefnu trefniadau llafur neu breswyl er mwyn
sicrhau bod y llety presennol yn diwallu anghenion
y fenter heb fod angen annedd arall.
Ystyriwyd bod y bwriad o godi annedd menter wledig yng
nghyswllt y busnes ar y safle yn groes i ofynion polisïau PCYFF 1 a PS17 o’r
CDLl ynghyd â pharagraffau 4.2.36 - 37 o Bolisi Cynllun Cymru, rhan 4.3.1 o NCT
6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy a rhan 2.13 o Arweiniad
Ymarferol NCT 6.
Mynegodd yr Uwch Gyfreithiwr mai’r tir sydd wedi ei drosglwyddo i’r ymgeisydd ac nid y busnes, a gydag addasiadau wythnosol yn dod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9
6 Cais Rhif C19/0169/19/AM - Gypsy Wood, Bontnewydd, Caernarfon PDF 102 KB
Cais amlinellol
ar gyfer codi annedd menter
wledig.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Peter Garlick
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Cais amlinellol ar gyfer codi annedd menter wledig.
(a) Ymhelaethodd
yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod safle Gypsy Wood yn gweithredu fel atyniad parc teuluol. Eglurwyd
bod safle’r cais wedi ei leoli oddeutu 250m i ffwrdd o ffin ddatblygu pentref
Bontnewydd, roedd wedi ei leoli yng nghefn gwlad agored yn nhermau’r Cynllun
Datblygu Lleol. Yn sgil yr angen i gynnal a gwarchod cefn gwlad roedd angen
cyfiawnhad arbennig iawn dros ganiatáu adeiladu tai newydd yno. Nodwyd bod
Polisi PS17 o’r Cynllun Datblygu Lleol yn datgan mai dim ond datblygiadau tai a
oedd yn cydymffurfio â Pholisi Cynllunio Cymru a Nodyn Cyngor Technegol (NCT)
6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy, fyddai’n cael eu caniatáu
yng nghefn gwlad agored.
Tynnwyd
sylw bod paragraff 4.3.1 o’r NCT6 yn nodi mai un o’r ychydig sefyllfaoedd lle
gellir cyfiawnhau datblygiad preswyl newydd ar ei ben ei hun yng nghefn gwlad
agored oedd pan fo angen llety i alluogi gweithwyr menter wledig i fyw yn eu
man gwaith neu’n agos ato. Ymhelaethwyd bod yr angen hanfodol am lety yn
dibynnu ar anghenion y fenter wledig dan sylw, ac nid ar ddewis nac
amgylchiadau personol yr ymgeisydd. Ychwanegwyd y dylid asesu ceisiadau am
ganiatâd cynllunio ar gyfer anheddau mentrau gwledig newydd yn ofalus i sicrhau
y gellir cyfiawnhau gwyro oddi wrth y polisi arferol o gyfyngu ar ddatblygiad
newydd yng nghefn gwlad agored.
Eglurwyd,
o’r wybodaeth a gyflwynwyd datgenir fod yr ymgeisydd wedi ymgymryd mewn
partneriaeth 50% gyda Mr a Mrs Evans, perchnogion y tir. Nodwyd oherwydd bod Mr
a Mrs Evans yn parhau gyda 50% o’r busnes; yn berchen ar y tir ble leolir y
busnes ac yn byw ar y safle; ystyriwyd fod unrhyw angen swyddogaethol, sef yr
angen i weithiwr llawn amser fodoli ar y safle drwy’r adeg i ddelio gyda
sefyllfaoedd annisgwyl neu unrhyw argyfwng, wedi ei ddiwallu gan yr eiddo
presennol. Tynnwyd sylw nad oedd yr NCT yn caniatáu ail-dŷ ar safle menter
gwledig ac felly ystyriwyd fod gofynion swyddogaethol y fenter wledig wedi ei
ddiwallu yn gyfan gwbl gyda’r ddarpariaeth bresennol.
Argymhellwyd
i’r Pwyllgor wrthod y cais oherwydd bod safle’r cais wedi ei leoli yng nghefn
gwlad agored o safbwynt polisi cynllunio a bod unrhyw angen swyddogaethol a
oedd yn bodoli gyda’r busnes ar y safle wedi ei ddiwallu’n barod a byddai codi
annedd ychwanegol ar y safle yn groes i ofynion polisïau PCYFF 1 a PS 17 o’r
Cynllun Datblygu Lleol.
Adroddwyd
y derbyniwyd llythyr hwyr gan gyfreithiwr perchennog y tir a oedd yn nodi bod
perchnogion y tir am gytuno les gyda’r ymgeisydd am y safle yn ei gyfanrwydd.
Nodwyd na welwyd diben mewn gohirio’r cais oherwydd gallai trefniant o’r fath
gymryd amser i ddod yn weithredol a byddai angen ail-asesu’r cais yng
nghyd-destun Nodyn Cyngor Technegol 6.
(b) Cefnogwyd y cais gan yr aelod lleol (nad
oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), nododd y prif bwyntiau canlynol:-
· Bod yr ymgeisydd wedi datblygu’r safle yn sylweddol yn y 2 flynedd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6