Cais amlinellol ar gyfer codi annedd menter wledig
AELOD LLEOL:
Cynhgorydd Peter Garlick
Cofnod:
Cais amlinellol ar gyfer codi annedd menter wledig
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a
dderbyniwyd
(a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais,
gan nodi bod y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio ar alw’r Aelod Lleol.
Eglurwyd bod y penderfyniad wedi ei ohirio ym Mhwyllgor Cynllunio 29.04.2019 er
mwyn asesu cynnwys llythyr hwyr a dderbyniwyd gan gyfreithiwr perchennog y tir.
Roedd y llythyr yn nodi bod perchnogion y tir am drosglwyddo’r
busnes i’r ymgeiswyr a gwerthu’r rhan o dir y bwriedir adeiladu’r tŷ oedd
yn destun y cais i’r ymgeiswyr.
Adroddwyd bod safle’r cais wedi ei leoli oddeutu 250m
i ffwrdd o ffin ddatblygu pentref Bontnewydd, ac yn nhermau’r Cynllun Datblygu Lleol,
roedd wedi ei leoli yng nghefn gwlad agored. Yn sgil yr angen i
gynnal a gwarchod cefn gwlad roedd angen cyfiawnhad arbennig iawn dros ganiatáu
adeiladu tai newydd yno. Nodwyd bod Polisi PS17 o’r Cynllun Datblygu Lleol yn
datgan mai dim ond datblygiadau tai a oedd yn cydymffurfio â Pholisi Cynllunio
Cymru a Nodyn Cyngor Technegol (NCT) 6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig
Cynaliadwy, fyddai’n cael eu caniatáu yng nghefn gwlad agored.
Tynnwyd sylw bod paragraff 4.3.1 o’r NCT6 yn nodi mai un
o’r ychydig sefyllfaoedd lle gellid cyfiawnhau datblygiad preswyl newydd ar ei
ben ei hun yng nghefn gwlad agored oedd pan fo angen llety i alluogi gweithwyr
menter wledig i fyw yn eu man gwaith neu’n agos ato. Ymhelaethwyd bod yr angen
hanfodol am lety yn dibynnu ar anghenion y fenter wledig dan sylw, ac nad ar
ddewis nac amgylchiadau personol yr ymgeisydd.
Nodwyd, petai’r sefyllfa perchnogaeth tir a’r busnes
yn newid yn swyddogol yn y dyfodol yna byddai’n ofynnol ail-asesu’r bwriad yn
ei gyfanrwydd yn erbyn y rhannau perthnasol o NCT 6. Adroddwyd ei bod yn
gynamserol ac amhriodol i asesu sefyllfa i’r dyfodol gan nad oedd sicrwydd bod
hyn am ddigwydd. Pe byddai sefyllfa’r berchnogaeth yn newid yn swyddogol yn y
dyfodol yna byddai’n ofynnol i’r ymgeiswyr ddarparu’r wybodaeth briodol ar
gyfer ail-asesu’r cais yn ei gyfanrwydd.
Tynnwyd sylw at baragraff 4.11
o’r NCT 6 sydd yn nodi bod rhaid darparu tystiolaeth nad oes unrhyw
annedd/anheddai neu adeiladau eraill y gellid eu haddasu i fodloni’r angen. Os
oes annedd/anheddau ar y fenter yn bodoli yn barod yna byddai angen dangos pam na ellid defnyddio’r rhain i ddiwallu anghenion
y fenter ar gyfer gweithiwr preswyl, a pham na ellid aildrefnu trefniadau llafur neu breswyl er mwyn
sicrhau bod y llety presennol yn diwallu anghenion
y fenter heb fod angen annedd arall.
Ystyriwyd bod y bwriad o godi annedd menter wledig yng
nghyswllt y busnes ar y safle yn groes i ofynion polisïau PCYFF 1 a PS17 o’r
CDLl ynghyd â pharagraffau 4.2.36 - 37 o Bolisi Cynllun Cymru, rhan 4.3.1 o NCT
6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy a rhan 2.13 o Arweiniad
Ymarferol NCT 6.
Mynegodd yr Uwch Gyfreithiwr mai’r tir sydd wedi ei
drosglwyddo i’r ymgeisydd ac nid y busnes, a gydag addasiadau wythnosol yn dod
i law, anodd yw asesu’r sefyllfa. Awgrymwyd mai’r datrysiad gorau fyddai
cyflwyno cais o’r newydd pan fydd y busnes wedi ei drosglwyddo i’r ymgeisydd yn
ei gyfanrwydd
(c ) Amlygwyd bod yr Aelod Lleol yn gefnogol iawn
i ganlyniad ffafriol yn dilyn y
wybodaeth ddiweddaraf a ddaeth i law.
(ch) Cynigiwyd ac eiliwyd i wrthod y cais
(d)
Yn ystod y drafodaeth
ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Bod
yr argymhelliad i wrthod yn cyd-fynd a’r polisïau perthnasol
·
Y
byddai caniatáu yn gosod cynsail beryglus
·
Nid
yw’r angen wedi ei brofi
Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn â chynnig argymhelliad gwahanol petai’r busnes wedi ei drosglwyddo
yn llawn, nododd y Rheolwr Cynllunio y byddai angen cwblhau profion a chasglu
tystiolaeth ychwanegol.
(dd) PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau
isod
·
Mae’r safle wedi ei leoli yng nghefn gwlad agored o
safbwynt polisi cynllunio, ac mae’r datganiad cynllunio ac arfarniad tŷ
menter wledig yn cadarnhau fod unigolion sydd yn berchen a 50% o’r busnes
menter wledig, yn berchen y tir ble leolir y busnes ac yn byw o fewn eiddo sydd
wedi ei leoli ar y safle yn barod. Mae’r
Awdurdod Cynllunio Lleol felly o’r farn fod unrhyw angen swyddogaethol sy’n
bodoli gyda’r busnes ar y safle wedi ei ddiwallu’n barod ac y byddai codi
annedd ychwanegol ar y safle yma felly yn groes i ofynion polisïau PCYFF 1 a
PS17 o’r CDLl ynghyd â pharagraffau 4.2.36 - 37 o Bolisi Cynllun Cymru, rhan
4.3.1 o NCT 6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy a rhan 2.13 o
Arweiniad Ymarferol NCT 6.
·
Mae’r fynedfa bresennol a fwriedir ei ddefnyddio i
wasanaethu’r bwriad gerbron yn israddol o ran gwelededd tua chyfeiriad
Bontnewydd. I’r perwyl hyn, mae’r bwriad yn groes i ofynion polisi TRA 4 o’r
Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd a Môn 2017 o ran sicrhau diogelwch ffyrdd.
Dogfennau ategol: