Adnewyddu caniatad rhif C08A/0568/24/LL a C09A/0532/24/LL ar gyfer codi 24 tŷ yn cynnwys 12 tŷ fforddiadwy, newidiadau i’r fynedfa bresennol a chreu lonydd stâd (cynllun diwygiedig i’r hyn a gyflwynwyd yn wreiddiol)
AELOD LLEOL: Cynghorydd Aeron Maldwyn Jones
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Adnewyddu caniatâd rhif
C08A/0568/24/LL a C09A/0532/24/LL ar gyfer codi 24 tŷ, yn cynnwys 12
tŷ fforddiadwy, newidiadau i’r fynedfa bresennol a chreu lonydd stad
(cynllun diwygiedig i’r hyn a gyflwynwyd yn wreiddiol).
(a)
Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod
y Pwyllgor a gynhaliwyd Ionawr 2018 er mwyn trafod pryderon yr Aelodau gyda’r ymgeisydd,
oedd yn ymwneud â lleoliad y llecyn agored
o fewn y safle. Yn ychwanegol, ymgynghorwyd ymhellach gyda Rheilffordd Eryri, Wales and West Utilities (nwy) ynghyd
â’r Uned Rheolaeth Adeiladu ar sail addasrwydd lleoli’r
llecyn agored yn y safle bwriadedig. Derbyniwyd barn Ymgynghorydd Iechyd a
Diogelwch y Cyngor o ran sicrwydd diogelwch.
Nodwyd bod y cais yn parhau i gynnwys 24 tŷ gyda 12 o’r tai yn rhai fforddiadwy ac amlygwyd bod yr angen am dai wedi ei gadarnhau.
Amlygwyd pryder am y pellteroedd rhwng
y tai, a chyfeiriwyd at ymateb ym mharagraffau
5.9 i 5.11 o’r adroddiad. O safbwynt tai
fforddiadwy, er mai landlord
cofrestredig fydd yn rheoli datblygiad,
bydd angen sicrhau y byddai’r 12
tŷ yn fforddiadwy am byth ac felly angen
amod priodol i hyn. Nodwyd bod y bwriad
yn un anarferol, ond y datblygiad yn cynnwys
cymysgedd addas o dai fydd yn
diwallu'r angen am dai gwahanol yn yr ardal. Ategwyd
bod datblygiad o’r fath yn un i’w
groesau.
Adroddwyd, mewn ymateb i’r prif
bryder, sef lleoliad y llecyn agored, cynhaliwyd trafodaethau pellach
gyda’r ymgeisydd. Ategwyd bod swyddogion wedi ail ymgynghori gyda Rheilffordd Eryri, Wales and West Utilities
(nwy) ynghyd a’r Uned Rheolaeth Adeiladu ac Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch y Cyngor ac roedd yr ymatebion yn
parhau i gadarnhau bod y datblygiad
yn cydymffurfio gyda holl
ofynion y cyrff ac nad oedd ganddynt wrthwynebiad i leoliad y llecyn agored. Ategwyd mai anodd felly fyddai gwrthod y
cais oherwydd bod y dystiolaeth yn groes i hyn. Nodwyd bod apêl
wedi ei gyflwyno gan yr ymgeisydd ar sail
diffyg penderfyniad gan y Pwyllgor, ac felly tynnwyd sylw mai cyfnod byr oedd gan
y Pwyllgor i wneud penderfyniad er mwyn osgoi apêl (hyn yn unol â threfniadau’r Arolygaeth Cynllunio).
Roedd y swyddogion yn parhau i
ystyried bod y bwriad yn dderbyniol o
safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol
perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.
(b) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol
gan yr aelod
lleol (nad oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-
·
Nad oedd yn anghytuno gyda’r egwyddor bod angen tai
ar y safle, ond nid yn ei ffurf bresennol. Lleoliad y llecyn chwarae yn achosi
pryder
·
Yr ymgeisydd wedi cael cyfle i addasu'r cynlluniau
yn unol â sylwadau a phryderon y Pwyllgor ar gymuned leol ond wedi dewis
anwybyddu hyn
·
Bod y llecyn agored wedi ei leoli ger y rheilffordd
ac er bod yr asiant yn nodi y byddai codi ffens atal dringo, byddai plant yn
darganfod ffordd o fynd drosodd neu o amgylch;
·
Bod y llecyn agored gerllaw is-orsaf nwy - y lleoliad yn peryglu diogelwch plant
· Bod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6
Adnewyddu caniatâd rhif C08A/0568/24/LL a C09A/0532/24/LL ar gyfer codi 24
tŷ yn cynnwys 12 tŷ fforddiadwy, newidiadau i’r fynedfa bresennol a
chreu lonydd stâd (cynllun diwygiedig i’r hyn a
gyflwynwyd yn wreiddiol).
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Aeron Maldwyn Jones
Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Adnewyddu
caniatâd rhif C08A/0568/24/LL a C09A/0532/24/LL ar gyfer codi 24 tŷ, yn
cynnwys 12 tŷ fforddiadwy, newidiadau i’r fynedfa bresennol a chreu lonydd
stad (cynllun diwygiedig i’r hyn a gyflwynwyd yn wreiddiol).
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y
cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr 2018 i alluogi
gwrthwynebwr i siarad ar y cais ac er mwyn cynnal ymweliad safle. ‘Roedd rhai
o’r aelodau wedi ymweld â’r safle cyn y cyfarfod.
Eglurwyd bod y cais gwreiddiol wedi ei ganiatáu gan y Pwyllgor yn ei
gyfarfod ar 14 Rhagfyr 2015. Nodwyd oherwydd bod yr ymgeisydd wedi oedi wrth
arwyddo cytundeb cyfreithiol, mabwysiadwyd Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd
Gwynedd a Môn (CDLl) yng Ngorffennaf, 2017 ac o ganlyniad roedd newid yn y
sefyllfa bolisi. Roedd y cais wedi ei asesu yn unol â’r polisïau cyfredol.
Nodwyd bod y cais ar gyfer 24 tŷ gyda 12 o’r tai yn rhai fforddiadwy.
Amlygwyd bod yr angen am dai marchnad agored a thai fforddiadwy wedi ei
gadarnhau gan y cyrff perthnasol, a bod y polisïau yn cefnogi hyn, felly
ystyriwyd fod y cais yn dderbyniol mewn egwyddor.
Tynnwyd sylw bod gwrthwynebiadau wedi eu derbyn gan ddeiliaid cyfagos ar
sail colli preifatrwydd, aflonyddwch sŵn a chreu strwythurau gormesol.
Eglurwyd bod pellter amrywiol o 23-31 medr rhwng cefnau’r tai presennol a chefnau’r
tai bwriadedig a chredir fod y gwagle hwn ynghyd â llystyfiant presennol a
dyluniad/lleoliad y tai arfaethedig yn dderbyniol ar sail gwarchod preifatrwydd
rhesymol a gor-edrych.
Cyfeiriwyd at wrthwynebiadau a dderbyniwyd gan ddeiliaid lleol parthed y
cynnydd mewn trafnidiaeth a’r diffyg llwybrau troed, er yn cydnabod y
gwrthwynebiadau, nid oedd gan yr Uned Drafnidiaeth unrhyw wrthwynebiad i’r
trefniant bwriadedig yn ddarostyngedig ar gynnwys amodau perthnasol. Nodwyd bod
y bwriad hefyd yn dderbyniol ar sail paratoi cyfleusterau parcio, teithio a
mynediad i’r tai eu hunain ac yn hygyrch ar sail ei leoliad.
Nodwyd bod yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd wedi cadarnhau bod maint y
llecyn agored ar gyfer y datblygiad yn cydymffurfio gyda gofynion Polisi ISA5
o’r CDLl ynghyd â chydymffurfio gyda gofynion Canllaw Cynllunio Atodol:
Datblygiadau Tai a Llecynnau Agored o Werth Adloniadol. Er bod gwrthwynebiadau
wedi eu derbyn gan ddeiliaid cyfagos i leoliad y llecyn agored, credir bod ei
leoliad yn dderbyniol gan ystyried bod goruchwyliaeth naturiol o’r llecyn gan
nifer helaeth o dai o fewn y datblygiad ac ni ellir gwneud defnydd amgen o’r
rhan yma o’r safle, gan ystyried y cyfyngiadau adeiladu oherwydd ei agosatrwydd
at yr is-orsaf nwy a’r gwaith trin carthion arfaethedig. Ymhelaethwyd pe
adleolir y llecyn agored, ni ellir datblygu lleoliad presennol y llecyn agored
ar gyfer tai, gan olygu gostyngiad yn y nifer o dai ar y safle, ac y gallai hyn
olygu ni fyddai’r datblygiad yn hyfyw.
Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol
perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.
(b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:- ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5
Adnewyddu caniatâd rhif C08A/0568/24/LL a C09A/0532/24/LL ar gyfer codi 24 tŷ yn cynnwys 12 tŷ fforddiadwy, newidiadau i’r fynedfa bresennol a chreu lonydd stâd (cynllun diwygiedig i’r hyn a gyflwynwyd yn wreiddiol)
AELOD LLEOL:
CYNGHORYDD AERON MALDWYN JONES
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Adnewyddu caniatâd rhif C08A/0568/24/LL a
C09A/0532/24/LL ar gyfer codi 24 tŷ yn cynnwys 12 tŷ fforddiadwy,
newidiadau i’r fynedfa bresennol a chreu lonydd stad (cynllun diwygiedig i’r
hyn a gyflwynwyd yn wreiddiol)
Amlygwyd bod asiant y gwrthwynebwyr wedi ei daro yn
wael ac felly cynigiwyd gohirio y cais. Awgrymwyd hefyd y byddai ymweld â’r
safle yn fuddiol.
PENDERFYNWYD gohirio gan raglennu’r cais ar gyfer Pwyllgor 14.1.19 a threfnu ymweliad safle