Agenda item

Adnewyddu caniatâd rhif C08A/0568/24/LL a C09A/0532/24/LL ar gyfer codi 24 tŷ yn cynnwys 12 tŷ fforddiadwy, newidiadau i’r fynedfa bresennol a chreu lonydd stâd (cynllun diwygiedig i’r hyn a gyflwynwyd yn wreiddiol).

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Aeron Maldwyn Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Cofnod:

Adnewyddu caniatâd rhif C08A/0568/24/LL a C09A/0532/24/LL ar gyfer codi 24 tŷ, yn cynnwys 12 tŷ fforddiadwy, newidiadau i’r fynedfa bresennol a chreu lonydd stad (cynllun diwygiedig i’r hyn a gyflwynwyd yn wreiddiol).

 

(a)      Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr 2018 i alluogi gwrthwynebwr i siarad ar y cais ac er mwyn cynnal ymweliad safle. ‘Roedd rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r safle cyn y cyfarfod.

 

Eglurwyd bod y cais gwreiddiol wedi ei ganiatáu gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 14 Rhagfyr 2015. Nodwyd oherwydd bod yr ymgeisydd wedi oedi wrth arwyddo cytundeb cyfreithiol, mabwysiadwyd Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (CDLl) yng Ngorffennaf, 2017 ac o ganlyniad roedd newid yn y sefyllfa bolisi. Roedd y cais wedi ei asesu yn unol â’r polisïau cyfredol.

 

Nodwyd bod y cais ar gyfer 24 tŷ gyda 12 o’r tai yn rhai fforddiadwy. Amlygwyd bod yr angen am dai marchnad agored a thai fforddiadwy wedi ei gadarnhau gan y cyrff perthnasol, a bod y polisïau yn cefnogi hyn, felly ystyriwyd fod y cais yn dderbyniol mewn egwyddor.

 

Tynnwyd sylw bod gwrthwynebiadau wedi eu derbyn gan ddeiliaid cyfagos ar sail colli preifatrwydd, aflonyddwch sŵn a chreu strwythurau gormesol. Eglurwyd bod pellter amrywiol o 23-31 medr rhwng cefnau’r tai presennol a chefnau’r tai bwriadedig a chredir fod y gwagle hwn ynghyd â llystyfiant presennol a dyluniad/lleoliad y tai arfaethedig yn dderbyniol ar sail gwarchod preifatrwydd rhesymol a gor-edrych.

 

Cyfeiriwyd at wrthwynebiadau a dderbyniwyd gan ddeiliaid lleol parthed y cynnydd mewn trafnidiaeth a’r diffyg llwybrau troed, er yn cydnabod y gwrthwynebiadau, nid oedd gan yr Uned Drafnidiaeth unrhyw wrthwynebiad i’r trefniant bwriadedig yn ddarostyngedig ar gynnwys amodau perthnasol. Nodwyd bod y bwriad hefyd yn dderbyniol ar sail paratoi cyfleusterau parcio, teithio a mynediad i’r tai eu hunain ac yn hygyrch ar sail ei leoliad.

 

Nodwyd bod yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd wedi cadarnhau bod maint y llecyn agored ar gyfer y datblygiad yn cydymffurfio gyda gofynion Polisi ISA5 o’r CDLl ynghyd â chydymffurfio gyda gofynion Canllaw Cynllunio Atodol: Datblygiadau Tai a Llecynnau Agored o Werth Adloniadol. Er bod gwrthwynebiadau wedi eu derbyn gan ddeiliaid cyfagos i leoliad y llecyn agored, credir bod ei leoliad yn dderbyniol gan ystyried bod goruchwyliaeth naturiol o’r llecyn gan nifer helaeth o dai o fewn y datblygiad ac ni ellir gwneud defnydd amgen o’r rhan yma o’r safle, gan ystyried y cyfyngiadau adeiladu oherwydd ei agosatrwydd at yr is-orsaf nwy a’r gwaith trin carthion arfaethedig. Ymhelaethwyd pe adleolir y llecyn agored, ni ellir datblygu lleoliad presennol y llecyn agored ar gyfer tai, gan olygu gostyngiad yn y nifer o dai ar y safle, ac y gallai hyn olygu ni fyddai’r datblygiad yn hyfyw.

 

Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Ei fod yn cynrychioli trigolion y 3 tŷ a oedd yn wynebu’r safle;

·         Byddai gor-edrych i erddi’r tai presennol yn deillio o osodiad y tai;

·         Byddai ffenestri tai yn wynebu’r tai presennol gan effeithio’n andwyol ar fwynderau;

·         Bod mynediad i’r tai presennol drwy ffordd breifat gul ac nid oedd lle i droi car;

·         Pryderon mawr am y datblygiad ond gellir eu datrys drwy gydweithio;

·         Byddai cynnydd llif traffig i’r fynedfa.

 

(c)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod y cais wedi ei addasu i gyd-fynd â pholisïau’r CDLl;

·         Bod Cartrefi Cymunedol Gwynedd am ddatblygu’r safle yn amodol bod caniatâd cynllunio mewn lle;

·         Bod y bwriad yn cynnwys 12 tŷ fforddiadwy oherwydd bod rhan o’r safle tu allan i’r ffin, 6 tŷ fforddiadwy oedd yn rhan o’r cais blaenorol;

·         Bod y math o unedau yn cwrdd â’r angen am dai 2-3 ystafell wely;

·         Bod angen clir yn yr ardal am dai fforddiadwy, nid oedd yn bosib diwallu’r angen tu mewn i’r ffin datblygu yn unig;

·         Derbyniwyd gwrthwynebiadau o ran lleoliad y llecyn agored, bwriedir gosod ffens atal dringo 2.3 medr o uchder ynghyd â chlawdd o amgylch ffin y llecyn agored er mwyn sicrhau diogelwch a darparu mesur gwarchod bioamrywiaeth;

·         Er yn cydnabod gwrthwynebiadau trigolion lleol o ran cynnydd mewn traffig ac mai palmant ar un ochr y ffordd y darperir, roedd yr Uned Drafnidiaeth yn fodlon efo’r bwriad.

 

(ch)   Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Bod pobl leol yn gwrthwynebu’r bwriad yn ei ffurf bresennol, gyda’r angen i edrych ar y nifer o dai a lleoliad y llecyn agored;

·         Bod y Datganiad Dyluniad a Mynediad yn edrych fel copi o ddatganiad arall;

·         Bod y llecyn agored wedi ei leoli ger y rheilffordd, er bod yr asiant yn nodi y byddai ffens atal dringo, fe fyddai plant yn darganfod ffordd o fynd drosodd neu o amgylch;

·         Gofynnir i ail-edrych ar osodiad y safle er mwyn cael y llecyn agored wrth ymyl y tai presennol, fel y caniatawyd yn wreiddiol. Ynghyd ag edrych ar leoliad y byngalo ar gyfer yr anabl gan ei fod yn bell o’r ffordd fawr;

·         Bod yr Uned Drafnidiaeth yn gofyn am balmant bob ochr i’r ffordd at y briffordd fel rhan o’r caniatâd gwreiddiol. Roedd palmant ar un ochr o’r ffordd bellach yn dderbyniol i’r Uned Drafnidiaeth, er y byddai cynnydd mewn traffig;

·         Ei fod yn gefnogol i dai ar y safle ond nid yn ei ffurf bresennol;

·         Bod y gwrthwynebiadau wedi eu trafod gyda swyddog o Gartrefi Cymunedol Gwynedd ond nid oedd yn cydweld;

·         Bod y bwriad yn golygu byddai’r ffordd mynediad yn torri mewn i ffordd breifat er mwyn cynnwys 2 dŷ ychwanegol;

·         Bod y llecyn agored ar gyfer y pentref cyfan;

·         Ei fod yn bosib newid gosodiad y safle i gyd-fynd â dymuniadau'r gymuned leol a sicrhau diogelwch plant a oedd yn hynod bwysig;

·         Gofyn i’r Pwyllgor wrthwynebu’r cais oherwydd lleoliad y llecyn agored a lleoliad y byngalo ar gyfer yr anabl.

 

(d)     Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

          Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·         Gofyn am eglurhad pan nad oedd yn bosib adeiladu ar y tir ger yr is-orsaf nwy;

·         Os nad oedd yn ddiogel i adeiladu ar y tir ger yr is-orsaf nwy, sut gellir lleoli’r llecyn agored yno? Materion diogelwch yn ogystal ar y rhan yma o’r safle oherwydd ei fod ger y rheilffordd;

·         Bod nifer o safleoedd a ddatblygwyd ar gyfer tai yn agos at reilffyrdd. Nid oedd yn fater diogelwch sylweddol oherwydd y gellir lliniaru’r risgiau o ran tresmasu ar y rheilffordd;

·         Pe adleolir y llecyn agored, byddai’n golygu colli tir lle gellir adeiladu arno gan leihau’r nifer o dai, gyda risg o golli’r datblygiad oherwydd y gallai fod yn anhyfyw;

·         Wrth gloriannu diogelwch plant a rhagor o dai, bod angen rhoi blaenoriaeth i ddiogelwch plant. Dylid symud y llecyn agored i leoliad diogel yn unol â dymuniad y gymuned a’r aelod lleol;

·         Bod yr elfen tai fforddiadwy i’w groesawu a byddai’r datblygiad yn helpu i ddiogelu ysgolion a’r iaith Gymraeg;

·         Bod y safle yn ddelfrydol i ddiwallu’r angen am dai ond roedd gormod o risg efo gosodiad presennol y safle. Roedd angen pwyso a mesur o ran gostyngiad yn y nifer o dai a’r risg i fywyd;

·         Pryder o ran y fynedfa, pe caniateir y cais, dylid lleihau’r cyflymder uchaf ar y briffordd o 60mya i 30mya.

 

(dd)   Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion:

·         Bod yr ymgeisydd wedi derbyn gwybodaeth gan yr Uned Rheolaeth Adeiladu o ran cyfyngiadau adeiladu ar y tir ger yr is-orsaf nwy;

·         Bod dwy ffens o amgylch yr is-orsaf nwy a oedd yn adeilad a oedd wedi ei ddiogelu. Roedd ffensys tebyg i’r hyn a gynigir gan yr ymgeisydd, wrth ymyl asedau Network Rail;

·         Bod y llecyn agored yn fwy na’r hyn a oedd yn ofynnol, felly roedd opsiwn i gael byffer a ffens yn ychwanegol i’r ffens a gynigir gan yr ymgeisydd;

·         Cae agored oedd y safle yn bresennol, nid oedd unrhyw beth i atal plant rhag chwarae ar y tir ger y rheilffordd.

 

(e)     Cynigwyd gwelliant bod dwy ffens yn cael eu gosod rhwng y llecyn agored a therfyn y safle. Pleidleisiwyd ar y gwelliant, syrthiodd y gwelliant.

 

          Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·         Wedi byw wrth ymyl rheilffordd brysur am 17 mlynedd, nid oedd unrhyw ddigwyddiad o ran diogelwch yn ystod y cyfnod. Gellir lliniaru’r risg o ran tresmasu ar y rheilffordd, collwyd cyfle drwy beidio â chefnogi’r gwelliant;

·         Bod perygl yn ogystal o ran plant yn gwneud drygau e.e. taflu rhywbeth at y trenau;

·         Bod y bwriad yn or-ddatblygiad o’r safle. Ddim yn erbyn yr egwyddor o ddatblygu’r safle ar gyfer tai ond pryderon o ran diogelwch yng nghyswllt yr is-orsaf nwy a’r rheilffordd.

 

(f)      Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion:

·         Bod y sefyllfa o ran diogelwch yn fater o dystiolaeth, gyda’r angen i gloriannu’r risg.  Roedd y newidiadau a grybwyllwyd gan rhai o’r aelodau i osodiad y safle yn newidiadau sylweddol a fyddai’n debycach o olygu gwrthod y cais, byddai angen rhesymau pe bwriedir gwrthod y cais. Dylid sicrhau bod tystiolaeth o ran y risg ynghlwm â lleoliad y llecyn agored gan allai effeithio ar egwyddor y datblygiad;

·         Bod caniatâd blaenorol i ddatblygu tai ar safle’r cais a’i fod yn anodd gweld unrhyw reswm gwrthod heb fod risg i’r Cyngor o ran apêl;

·         Ni dderbyniwyd ymateb gan Reilffordd Eryri a’i fod yn bur debyg nad oedd ganddynt wrthwynebiad i’r bwriad;

·         Pe byddai bwriad gan yr ymgeisydd i newid gosodiad y safle, byddai’r gosodiad wedi ei newid yn dilyn trafodaethau;

·         Bod y nifer o dai i’r hectar yn cwrdd â’r safon, gyda gerddi eang a lle parcio i’r tai. Pryderu pe gwrthodir y cais ar sail or-ddatblygiad.

 

(g)     Pleidleisiwyd ar y cynnig i ganiatáu’r cais, syrthiodd y cynnig.

 

Cynigwyd i wrthod y cais oherwydd bod gosodiad y safle yn anaddas gyda’r llecyn agored yn y lleoliad anghywir oherwydd ei agosatrwydd at yr is-orsaf nwy a’r rheilffordd.

 

Atgoffodd y Rheolwr Cynllunio yr aelodau, pe byddai apêl byddai’r cynigydd a’r eilydd yn cyflwyno’r achos mewn apêl.

 

Mewn ymateb i’r sylw, nododd y cynigydd nad oedd yr holl dystiolaeth yng nghyswllt yr is-orsaf nwy wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor.

 

Eiliwyd y cynnig.

 

Nododd y Rheolwr Cynllunio oherwydd y risg i’r Cyngor o ran apêl, dylid ystyried gohirio’r cais er mwyn cynnal trafodaethau pellach efo Cartrefi Cymunedol Gwynedd. Ymhelaethodd er bod risg o apêl oherwydd diffyg penderfyniad a risg ni fyddai datblygiad tai ar y safle oherwydd methiant i sicrhau grant, fe fyddai’n ddoeth i’r Pwyllgor ohirio’r cais er mwyn cynnal trafodaethau pellach.

 

Cynigwyd i ohirio’r cais er mwyn cynnal trafodaethau pellach. Tynnodd y cynigydd ei gynnig i wrthod y cais yn ôl gan eilio’r cynnig i ohirio.

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais.

Dogfennau ategol: