Defnyddio tir ar
gyfer gweithgaredd saffari beic quad yn ychwanegol at weithgareddau segway,
saethu paent (gemau sgarmes) a byw gwyllt presennol.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Aled Ll Evans
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Defnyddio tir ar gyfer gweithgaredd saffari beic cwad yn
ychwanegol at weithgareddau segway, saethu paent (gemau sgarmes) a byw gwyllt
presennol.
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais
yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 23 Gorffennaf 2018 er mwyn cynnal
ymweliad safle a derbyn gwybodaeth ychwanegol. ‘Roedd rhai o’r aelodau wedi
ymweld â’r safle cyn y cyfarfod.
O ran materion mwynderau cyffredinol a phreswyl, nodwyd bod pryderon a
leisiwyd am y bwriad yn bennaf yn ymwneud â materion sŵn. Tynnwyd sylw bod
yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol, i’r hyn a nodwyd yn yr adroddiad
blaenorol a gyflwynwyd i’r Pwyllgor, yng nghyswllt materion sŵn. Nodwyd
bod cryn asesiad o’r materion sŵn a thynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol
a dderbyniwyd gan Uned Gwarchod y Cyhoedd, yn cadarnhau nad oedd ganddynt
wrthwynebiad i’r bwriad o ran sŵn yn ddarostyngedig i amodau lefel
sŵn.
Nodwyd er bod y saffari beic cwad yn weithgaredd newydd, ni chredir y byddai’n dwysau defnydd y safle gan na
ellir ei gynnal ar yr un adeg a’r defnydd segways oedd eisoes wedi ei ganiatáu.
Amlygwyd bod ystyriaeth i’r wybodaeth ychwanegol, a ofynnwyd amdano yn y
cyfarfod blaenorol, yn yr adroddiad o dan y pennawd ‘Materion Eraill’
(paragraffau 5.18 - 5.21). Nodwyd bod y Pwyllgor wedi gofyn yn benodol am
eglurhad o ran amseroedd agor presennol y safle ac os oeddent yn cyd-fynd ac
amodau perthnasol o dan ganiatâd blaenorol. Eglurwyd bod y caniatâd blaenorol
(a roddwyd ar apêl) yn golygu agor 5 diwrnod yr wythnos rhwng 9.00am – 5.00pm,
sef Dydd Llun, Iau, Gwener, Sadwrn a Sul. Nodwyd bod y cais gerbron yn gofyn am
oriau agor o 9.00am – 5.00pm ar gyfer pob diwrnod o’r wythnos, sef cynnydd o 2
ddiwrnod. Nodwyd er bod amodau ar y caniatadau presennol yn cyfyngu oriau agor
y safle, roedd yn bosib bod y safle mewn gwirionedd ar agor am 7 diwrnod yr
wythnos eisoes. Eglurwyd nad oedd tystiolaeth gadarn o hyn, ond o ddefnydd
hysbysebu'r safle ymddangosir bod defnydd 7 diwrnod yr wythnos o’r safle yn
bosib ar hyn o bryd.
Yn unol â dymuniad y Pwyllgor yn y cyfarfod blaenorol, cadarnhawyd mai un
cwyn a dderbyniwyd ynglŷn ag oriau agor presennol y safle, a hynny yn
ddiweddar. Roedd y mater yn cael ei ymchwilio gan y gwasanaeth Gorfodaeth.
Eglurwyd ni ddylai’r mater yma effeithio ar ystyriaeth o’r cais gerbron.
Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol
perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.
(b) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn
aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-
·
Bod 8 llythyr gwrthwynebiad
wedi ei dderbyn fel rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus gan gynnwys llythyr oddi
wrth y Cyngor Cymuned a oedd yn adlewyrchu barn y gymdogaeth;
· Bod nifer wedi tynnu ei sylw bod yr ymgeisydd wedi nodi ei fod wedi cysylltu efo’r cymdogion yng nghyswllt y bwriad ond nid oedd wedi cysylltu â hwy; ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5
10 Cais Rhif C18/0385/41/LL Dragon Raiders Activity Park, Gwynfryn Lodge, Criccieth PDF 105 KB
Defnyddio tir ar
gyfer gweithgaredd saffari beic quad yn ychwanegol at weithgareddau segway,
saethu paent (gemau sgarmes) a byw gwyllt presennol
AELOD LLEOL: Cynghorydd Aled Ll Evans
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Defnyddio tir ar gyfer gweithgaredd saffari
beic cwad yn ychwanegol at weithgareddau segway,
saethu paent (gemau sgarmes) a byw gwyllt presennol.
Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd oedd yn cynnwys
awgrym i ohirio'r penderfyniad
(a)
Ymhelaethodd
yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais a nodi bod y safle wedi ei
leoli o fewn coedlan bresennol ar gyrion pentref Llanystumdwy gyda mynediad at
y safle ar hyd ffordd ddi-ddosbarth bresennol. Nodwyd bod gan y safle fynediad
a maes parcio neilltuol. Eglurwyd bod y llecyn wedi ei greu fel man ymgynnull
gyda derbynfa ar gyfer gweithgareddau’r safle ymhellach i mewn i’r goedlan gyda mynediad yn cael ei reoli
tuag at lwybrau parhaol sydd yn arwain trwy’r goedlan at fannau cynnal
gweithgareddau
Ategwyd bod y
bwriad fel ag y cyflwynwyd yn ymwneud a chynnal saffari
beiciau cwad ar hyd llwybrau presennol y safle fel gweithgaredd ychwanegol i’r
hyn a geir yn bresennol. Nodwyd bod y datblygiad arfaethedig yn cynnig,
-
6 person yn defnyddio hyd at 6 beic mewn nifer ar un adeg
-
Beiciau
a ddefnyddir yn faint 350cc a 50cc
-
Cyfyngu
cyflymder y beiciau i 12-15 milltir yr awr
-
UN
gweithgaredd a weithredir ar y llwybrau ar un adeg e.e., dim ond y beiciau a
dim beiciau a segways.
Amlygwyd bod
effaith sŵn, fydd yn deillio o’r defnydd bwriedig,
wedi ei gynnwys fel pryder mewn nifer o lythyrau o wrthwynebiad a dderbyniwyd.
Mewn ymateb ffurfiol i'r ymgynghoriad cyhoeddus roedd gwasanaeth Gwarchod y
Cyhoedd wedi nodi y byddai angen cynnal asesiad sŵn trylwyr mewn perthynas
â’r bwriad cyn penderfynu ar y cais. Cadarnhawyd bod Gwarchod y Cyhoedd wedi
derbyn adroddiad gan yr ymgeisydd a bod casgliadau yr adroddiad hwnnw yn
dderbyniol. Roedd y gwasanaeth yn argymell caniatáu’r datblygiad yn
ddarostyngedig i amodau lefelau sŵn.
O ystyried yr holl
faterion cynllunio perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a
chenedlaethol ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol.
b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr
ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:
·
Ei
fod yn ymateb i ddau brif ffrwd o bryderon - pryderon sŵn a gôr ddatblygu
·
Ei
fod yn berchen y safle ers 16 mlynedd
·
Nad
oedd bwriad ganddo greu gofid i’w gymdogion
·
Ei
fod wedi cyflogi ymgynghorwr sŵn i asesu gweithgareddau'r beiciau cwad a
bod yr arbenigwr hwnnw wedi ymweld â’r cymdogion hynny oedd wedi amlygu pryder,
i gwblhau asesiad sŵn.
·
Yng
nghyd-destun gorddatblygiad, dywedodd nad oedd bwriad
datblygu dim yn ychwanegol ac mai’r llwybrau cyfredol fydd yn cael eu defnyddio
ar gyfer y gweithgareddau newydd
·
Bod
y cwmni yn cyflogi 10 gyda bwriad o gyflogi dau ychwanegol petai’r cais yn cael
ei ganiatáu
·
Bod
dros 6.5 mil o bobl yn ymweld a’r safle yn flynyddol
·
Ei
fod wedi trawsffurfio darn o goedlan flêr yn fusnes lleol llwyddiannus
c) Cynigiwyd a eiliwyd gohirio
y cais er mwyn cynnal ymweliad safle
ch) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau
canlynol gan aelodau:
· Angen ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10