skip to main content

Agenda item

Defnyddio tir ar gyfer gweithgaredd saffari beic quad yn ychwanegol at weithgareddau segway, saethu paent (gemau sgarmes) a byw gwyllt presennol.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Aled Ll Evans

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Cofnod:

Defnyddio tir ar gyfer gweithgaredd saffari beic cwad yn ychwanegol at weithgareddau segway, saethu paent (gemau sgarmes) a byw gwyllt presennol.

 

(a)      Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 23 Gorffennaf 2018 er mwyn cynnal ymweliad safle a derbyn gwybodaeth ychwanegol. ‘Roedd rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r safle cyn y cyfarfod.

 

O ran materion mwynderau cyffredinol a phreswyl, nodwyd bod pryderon a leisiwyd am y bwriad yn bennaf yn ymwneud â materion sŵn. Tynnwyd sylw bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol, i’r hyn a nodwyd yn yr adroddiad blaenorol a gyflwynwyd i’r Pwyllgor, yng nghyswllt materion sŵn. Nodwyd bod cryn asesiad o’r materion sŵn a thynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd gan Uned Gwarchod y Cyhoedd, yn cadarnhau nad oedd ganddynt wrthwynebiad i’r bwriad o ran sŵn yn ddarostyngedig i amodau lefel sŵn.

 

Nodwyd er bod y saffari beic cwad yn weithgaredd newydd, ni chredir y byddai’n dwysau defnydd y safle gan na ellir ei gynnal ar yr un adeg a’r defnydd segways oedd eisoes wedi ei ganiatáu.

 

Amlygwyd bod ystyriaeth i’r wybodaeth ychwanegol, a ofynnwyd amdano yn y cyfarfod blaenorol, yn yr adroddiad o dan y pennawd ‘Materion Eraill’ (paragraffau 5.18 - 5.21). Nodwyd bod y Pwyllgor wedi gofyn yn benodol am eglurhad o ran amseroedd agor presennol y safle ac os oeddent yn cyd-fynd ac amodau perthnasol o dan ganiatâd blaenorol. Eglurwyd bod y caniatâd blaenorol (a roddwyd ar apêl) yn golygu agor 5 diwrnod yr wythnos rhwng 9.00am – 5.00pm, sef Dydd Llun, Iau, Gwener, Sadwrn a Sul. Nodwyd bod y cais gerbron yn gofyn am oriau agor o 9.00am – 5.00pm ar gyfer pob diwrnod o’r wythnos, sef cynnydd o 2 ddiwrnod. Nodwyd er bod amodau ar y caniatadau presennol yn cyfyngu oriau agor y safle, roedd yn bosib bod y safle mewn gwirionedd ar agor am 7 diwrnod yr wythnos eisoes. Eglurwyd nad oedd tystiolaeth gadarn o hyn, ond o ddefnydd hysbysebu'r safle ymddangosir bod defnydd 7 diwrnod yr wythnos o’r safle yn bosib ar hyn o bryd.

 

Yn unol â dymuniad y Pwyllgor yn y cyfarfod blaenorol, cadarnhawyd mai un cwyn a dderbyniwyd ynglŷn ag oriau agor presennol y safle, a hynny yn ddiweddar. Roedd y mater yn cael ei ymchwilio gan y gwasanaeth Gorfodaeth. Eglurwyd ni ddylai’r mater yma effeithio ar ystyriaeth o’r cais gerbron.

 

Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Bod 8 llythyr gwrthwynebiad wedi ei dderbyn fel rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus gan gynnwys llythyr oddi wrth y Cyngor Cymuned a oedd yn adlewyrchu barn y gymdogaeth;

·         Bod nifer wedi tynnu ei sylw bod yr ymgeisydd wedi nodi ei fod wedi cysylltu efo’r cymdogion yng nghyswllt y bwriad ond nid oedd wedi cysylltu â hwy;

·         Bod yr ymgeisydd yn nodi yn ei gais nad oedd gweithgareddau presennol ar y safle yn cael eu clywed na’u gweld gan y cymdogion. Gofynnwyd iddo nodi nad oedd hyn yn wir;

·         Pryderon o ran y drefn gorfodaeth;

·         Honnir bod yr atyniad ar agor yn fwy na’r oriau a ganiateir gyda phamffled y busnes yn nodi bod sesiynau saethu paent gyda’r nos rhwng 6.30pm a 9.30pm ar gael;

·         Pryder o ran diogelwch ffyrdd ar y ffordd gul i’r safle gyda phroblemau yn enwedig pan fo bws yn danfon pobl i’r safle;

·         Pryder o ran effaith lefel sŵn yn deillio o’r datblygiad ar fusnesau a chymdogion cyfagos gan y byddai ar brydiau 6 beic cwad am gyfnod o awr ar y tro ar y safle;

·         Bod y defnydd presennol o segways ar y llwybrau ddim yn amharu ar y cymdogion a’i fod yn gofyn ar ran y cymdogion i’r Pwyllgor wrthod y defnydd o feiciau cwad.

 

(c)     Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

          Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·         Ei fod yn bwysig bod yr estyniad i’r maes parcio yn cael ei gwblhau cyn cychwyn y gweithgaredd saffari beic cwad;

·         Bod modd codi amodau cynllunio yn dilyn derbyn caniatâd cynllunio. Pwy oedd yn gallu codi’r amodau a osodir gan y Pwyllgor pe caniateir y cais?

·         Gofynnwyd am ymweliad safle oherwydd pryder am y lefel sŵn a fyddai’n deillio o’r datblygiad. Roedd gwahaniaeth mewn sŵn yn deillio o un beic cwad o gymharu â sŵn yn deillio o 6. Ni dderbyniwyd cadarnhad ar yr ymweliad safle o ran pŵer y beiciau cwad y bwriadai’r ymgeisydd ei ddefnyddio un ai 50cc neu 350cc;

·         Fyddai’n bosib derbyn cadarnhad o ran sefyllfa oriau agor yr atyniad gyda sesiynau gyda’r nos yn cael eu hysbysebu;

·         Pryder o ran oriau agor yr atyniad ac effaith lefel sŵn ar gymdogion. Nid oedd unrhyw sŵn cefndirol ar y safle ar adeg yr ymweliad safle;

·         Diolch i’r aelod lleol am amlygu materion. Fyddai’n bosib derbyn cadarnhad os oedd yr ymgeisydd wedi ymgynghori efo’r cymdogion? Roedd ymgynghori efo cymdogion yn bwysig;

·         Pe derbynnir cwynion o ran sŵn, a fyddai’r gweithgaredd yn cael ei atal ar y safle?

·         Bod yr Arolygydd Cynllunio yn y caniatâd cynllunio gwreiddiol wedi gosod amod o ran oriau agor yr atyniad rhwng 9.00am a 5.00pm ar ddydd Llun, Iau, Gwener, Sadwrn a Sul am reswm i warchod y cymdogion. Fe ddylai’r dyddiau agor aros yn 5 diwrnod yn hytrach na chynyddu i 7 diwrnod yr wythnos;

·         Gan fod y gweithgaredd yn cael ei gynnal ar dir preifat ni fyddai gofyn i’r beiciau cwad dderbyn archwiliad MOT. Dros y blynyddoedd byddai lefel sŵn y beiciau cwad yn cynyddu. Fyddai’n bosib gosod amod pe caniateir y cais bod y beiciau cwad yn derbyn archwiliad MOT?

·         Pryder o ran effaith lefel sŵn ar gymdogion, fyddai’n bosib gosod amod bod y Cyngor yn monitro’r lefel sŵn yn gyfnodol?

 

(ch)   Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion:

·         Pan wneir cais i godi amod cynllunio roedd rhaid i’r ymgeisydd gyfiawnhau pam nad oedd angen yr amod i wneud y bwriad yn dderbyniol. O ran amod sŵn, mi fyddai’n anodd iawn cyfiawnhau pam nad oedd angen yr amod. Byddai ceisiadau i godi amodau yn cael eu penderfynu yn unol â’r drefn;

·         Ar wahân i’r broses cynllunio, roedd yn bosib delio efo cwynion sŵn drwy’r drefn niwsans statudol o dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990. Nid oedd yn bosib cadarnhau pa bŵer fyddai gan y beiciau cwad gan nad oedd yr ymgeisydd wedi eu caffael eto. Roedd yr asesiad sŵn a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd tu hwnt i’r asesiad desg a oedd yn ofynnol ac yn unol â’r canllawiau cenedlaethol, gydag un beic cwad yn cael ei ddefnyddio gan gyfrifo cyfanswm lefel sŵn yn deillio o 6 beic cwad. Pe caniateir y cais, argymhellir gosod amod bod y lefelau sŵn yn unol â’r lefelau sŵn cefndirol a nodwyd yn yr asesiad sŵn;

·         Bod yr archwiliad gorfodaeth o ran oriau agor yr atyniad yn fyw ar hyn o bryd felly ni ellir gwneud sylw o ran y mater hwn;

·         Nid oedd yn ofynnol i’r ymgeisydd ymgynghori efo cymdogion gyda’r math yma o gais;

·         O ran atal y gweithgaredd ar y safle yn dilyn derbyn cwynion sŵn, roedd yn ddibynnol ar natur y sŵn. Ni argymhellwyd cwblhau gwaith ychwanegol o ran lliniaru effaith sŵn, ond pe byddai niwsans statudol fe ellir gosod rhwystr rhwng y ffynhonnell sŵn a’r lleoliad a effeithir;

·         O ran gosod amod bod y beiciau cwad yn derbyn archwiliad MOT, roedd gofynion iechyd a diogelwch ar yr ymgeisydd felly nid oedd rheswm dyblygu wrth osod amod i’r perwyl hwn;

·         Ni ellir rhagdybio y byddai’r effaith sŵn yn wahanol i’r dystiolaeth a ddarparwyd yn yr asesiad sŵn a gyflwynwyd fel rhan o’r cais. Byddai gosod peiriant monitro sŵn yn opsiwn i’w ystyried fel rhan o ymchwiliad gan Uned Gwarchod y Cyhoedd neu’r Uned Gorfodaeth Cynllunio pe derbynnir cwyn.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

Amodau:

1.     Amser

2.     Cydymffurfio gyda chynlluniau

3.     Cynllun rheoli coed

4.     Cyfyngu amseroedd agor

5.     Cyfyngu niferoedd

6.     Cwblhau estyniad parcio

7.    Amod sŵn

Dogfennau ategol: