12 CYNLLUN CYNGOR GWYNEDD 2018/23 PDF 216 KB
Cyflwyno
adroddiad Arweinydd y Cyngor (ynghlwm).
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Cyflwynodd yr
Arweinydd adroddiad yn gwahodd y Cyngor i fabwysiadu Cynllun Cyngor Gwynedd
2017/23.
Diolchwyd i’r
swyddogion am eu holl waith yn paratoi’r adroddiad. Ymddiheurwyd bod cynllun yr Adran Cefnogaeth
Gorfforaethol wedi’i adael allan o’r Cynlluniau Adran trwy amryfusedd. ‘Roedd yr aelodau wedi derbyn copi ar wahân a
byddai’r ddogfen wedi’i hymgorffori yn y fersiwn terfynol o Gynllun y Cyngor
fydd yn cael ei gyhoeddi. Byddai angen
cywiro rhai mân wallau golygyddol hefyd ynghyd ag ychwanegu paragraff yn datgan
bod yr holl faterion yn y cynllun yn cyd-fynd â Strategaeth Ariannol y Cyngor,
er y gallai fod yn amhosib’ gwireddu’r holl flaenoriaethau oherwydd y
cyd-destun ariannol.
Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-
·
Nodwyd bod rhieni wedi derbyn neges destun gan
bennaeth ysgol gynradd ar ôl 9yb ar ddau achlysur yn ddiweddar yn dweud bod yr
ysgol yn cau oherwydd diffyg nwy ac yn gofyn iddynt ddychwelyd i nôl eu
plant. Holwyd pam na allai’r rhieni gael
gwybod am sefyllfaoedd fel hyn ynghynt gan fod yr ysgol yn gwybod am y broblem
nwy cyn 9yb. Atebodd yr Arweinydd mai
mater i’r Llywodraethwyr oedd hyn.
·
Holwyd
a oedd gan Dîm Derwen gynlluniau i ymestyn eu meini prawf i sicrhau bod pob
plentyn ag anableddau yng Ngwynedd yn gallu manteisio ar wasanaeth arbenigol
sy’n cael ei gynnig ganddynt. Nododd yr
Arweinydd y byddai’n cyfeirio’r cwestiwn ymlaen i’r Tîm ac y byddai’r aelod yn
derbyn yr ateb yn uniongyrchol.
·
Holwyd
faint o bwysau mae’r Cyngor yn rhoi i sicrhau cyflenwad digonol o dai ar
rent. Atebodd yr Arweinydd fod mater tai
yn flaenoriaeth sylfaenol ganddo a bod trafodaethau wedi digwydd eisoes gyda
chymdeithasau tai i symud hyn ymhellach.
O adnabod lle mae’r angen a beth ydi’r angen, gellid ymchwilio i sut y
gall y Cyngor gynorthwyo’r cymdeithasau tai ac ‘roedd yn awyddus i weld
adeiladau ar eu traed ac wedi eu gosod.
·
Mewn ymateb i ymholiad, nododd yr Arweinydd nad
rhestr o ddymuniadau’n unig oedd y cynllun a bod yna lawer mwy o fanylder i’w
gael ar y cynlluniau unigol na’r hyn a gynhwyswyd yn y ddogfen. Cynllun gweithredu ydoedd ac ‘roedd yna
ddatblygu ar fanylion. Byddai’n cael ei
ddatblygu’n gyson ac o bosib’ y byddai yna newid cyfeiriad.
·
Holwyd a gysylltwyd â’r Adran Gynllunio ynglŷn
â Blaenoriaeth Gwella 4 – Sicrhau mwy o gyflenwad o dai addas ar gyfer ein
trigolion. Atebodd yr Arweinydd fod y
polisi cynllunio wedi’i drafod fel mater cwbl ar wahân. ‘Roedd materion cynllunio yn effeithio ar
faterion fel hyn, ond nid oedd gan y Cyngor ddewis ond gweithredu o fewn ei
bolisïau. ‘Roedd y cwestiwn cynllunio
wedi codi yn y trafodaethau ar dwf economaidd ac ‘roedd cynllunio yn cyffwrdd â
phopeth. Os oedd polisïau cynllunio’r
Cyngor yn rhy gaeth, ‘roedd lle i adolygu rhain hefyd a gallai’r Pwyllgor
Polisi Cynllunio ar y Cyd edrych arnynt.
·
Mynegwyd
pryder bod polisïau cynllunio lleol yn aml yn cael eu cyfyngu gan bolisïau
cenedlaethol a hynny’n cael ei adlewyrchu ym mhenderfyniadau Arolygwyr
Cynllunio.
· Croesawyd y cynllun peilot ‘Plant ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12
12. CYNLLUN CYNGOR GWYNEDD 2018/23 PDF 216 KB
Cyflwyno
adroddiad Arweinydd y Cyngor (ynghlwm).
Dogfennau ychwanegol: